26.8.14

Rhod y Rhigymwr - Awdl 1934- Ogof Arthur

Rhan o golofn Rhod y Rhigymwr, gan Iwan Morgan, o rifyn Gorffennaf 2014:

Bedwar ugain mlynedd i eleni, cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghastell Nedd. Dan
feirniadaeth J.T.Job, T. Gwynn Jones a J.J.Williams, dyfarnwyd y gadair am Awdl i ‘Ogof Arthur’ - i’r sawl oedd yn dwyn y ffugenw ‘Prydydd yr Aran.’  Un o hogia ‘Stiniog a safodd ar ei draed, a addysgwyd yn lleol ac yng Ngholeg Diwynyddol y Bala, ac a wasanaethodd gyda’r Methodistiaid Calfinaidd ym Môn a Sir Gaernarfon. Bu’n Archdderwydd Cymru o 1957-59. Cyfeirio’r ydw i at y Parchedig William Morris (1889-1979). Cyhoeddodd sawl cyfrol o gerddi gan gynnwys ‘Clychau Gwynedd’ (1946) a golygwyd casgliad o’i gerddi gan ei ferch, Glennys Roberts - cyfrol yn dwyn y teitl ‘Canu Oes’ ym 1981.

Ym marn Alan Llwyd, yn ei gyfrol ‘Blynyddoedd y Locustiaid’ - a’r bennod ‘Yr Awdl a’r Canu Caeth 1930-1936, dyma awdl ‘arbennig o dda’.  ‘Er y gellid gwella’r mynegiant yma a thraw,’ yn ôl T. Gwynn Jones, ‘cadwyd rhith a lledrith y chwedl wreiddiol ynddi, a lluniwyd yr awdl â gofal a chynildeb y meistri mwyaf ar Gerdd Dafod.’ Clodforwyd William Morris hefyd am ei ‘iaith lân, ei gynghanedd gywir a diymdrech’ a’i feddwl syml a dirodres.’  ‘Awdl storïol yw hi,’ meddai Alan Llwyd,  ‘ac mae’n amlygu’r gallu sydd gan y gynghanedd i adrodd stori yn gelfydd a dramatig. Mae’r gynghanedd yn ystwyth-hyblyg drwy’r awdl, ond dan ddisgyblaeth dynn ar yr un pryd.

Mae’r awdl yn agor gyda darlun o fugail yn cerdded hyd strydoedd y Bala. Fe dafla’r agoriad yma ni’n syth i ganol y stori, a hynny ‘heb unrhyw ragymadrodd gwastrafflyd a diangen’:

‘Mewn ffair rhodiai’r ystrydoedd,
Bywiog lanc a bugail oedd.
Yn ei law ffon gollen lwyd
Ar dir ei fro a dorrwyd –
Irwydd lechweddau’r Aran,
Nef iddo ef oedd y fan.’

Darlunir ffair y Bala ganddo mewn Cymraeg storïol a graenus:

‘Sŵn cyson dynion a da
Hyd heolydd y Bala,
Gwŷr â’u mawl i gwrw a medd,
Hen wŷr yn llawn anwiredd,
A mân siarad a dadwrdd
Uwchben pob masnach a bwrdd ...’


Ceir yn yr awdl hefyd gwpledi epigramatig rhagorol fel hwn:

‘Oered uwch ei dynged oedd
Sêr dinifer y nefoedd.’


Er mai adrodd stori’n gelfydd a dramatig oedd nod pennaf William Morris wrth lunio awdl ‘Ogof Arthur,’ mae ynddi hefyd, yn ôl Alan Llwyd, ‘ymosodiad ar fateroldeb a difaterwch y Cymry.’  Os ydy ‘Cyfansoddiadau Castell Nedd (1934)’ neu’r gyfrol ‘Awdlau Cadeiriol Detholedig 1926-1950’ o fewn eich cyrraedd, ewch ati’n ddi-oed i ddarllen yr awdl. Os nad ydynt, ewch i holi Elin yn Siop Lyfrau’r Hen Bost. Rwy’n siŵr y gall hi eich helpu.


[Celf gan Lleucu Gwenllian Williams]


19.8.14

Bwrw Golwg- yr heddychwr Richard Roberts

Darn a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf 2014.

Bwrw Golwg: Cyfres achlysurol yn edrych ‘nôl ar rai o gymeriadau a sefydliadau hanesyddol ein bro.
Celf- Lleucu Gwenllian Williams

A ninnau’n nodi cychwyn y Rhyfel Mawr eleni, mae’n briodol hefyd ein bod yn cofio am ymgyrchydd o ‘Stiniog, ddaeth yn gymeriad dylanwadol iawn yn y mudiad heddwch.




Mae Cymdeithas y Cymod yng Nghymru yn rhan o fudiad heddwch rhyngwladol mae ei haelodau'n gwrthod rhyfel a thrais, ac sy'n credu mewn grym cariad i greu cyfiawnder a chymuned drwy ddilyn ffordd o fyw di-drais.


Dyma sut maen nhw’n disgrifio’r cymeriad hwnnw.





Ganed Richard Roberts ym Mlaenau Ffestiniog ar 31 Mai 1874. Roedd ei dad, David Roberts, yn weinidog gyda'r Hen Gorff a bu'n chwarelwr cyn cael ei ordeinio. Yn y Blaenau y cafodd Richard ei addysg gynnar, a dywedodd 'Mi gefais y gansen yn fynych am siarad Cymraeg yn ystod oriau ysgol, ond methodd y gansen â'm dysgu i beidio â siarad Cymraeg, dim ond fy ngwneud yn benderfynol o beidio â chael fy nal wrthi eto.' Wedi tair blynedd yn yr ysgol uwchradd, cafodd ysgoloriaeth i fynd i'r Liverpool Institute, ac ym 1890 cafodd ysgoloriaeth bellach i fynd i Goleg y Brifysgol Aberystwyth, ac oddi yno i Goleg y Bala, gyda Thomas Charles Edwards yn brifathro arno. Wedi graddio, aeth yn weinidog i Dreharris, ac fel un a gredai yn yr efengyl gymdeithasol, aeth ati i wleidydda, gan sefydlu cangen o'r Blaid Lafur Annibynnol (ILP) yn yr ardal, a chynnal cyfarfodydd yn yr awyr agored fel y gwnaethai gyda'i genhadu crefyddol. Ar ôl symud i Lundain, bu'n weinidog yn eglwys genhadol Saesneg Westbourne Grove, ond oherwydd ei heddychiaeth, gorfodwyd ef i adael, a daeth yn weinidog Capel Cymraeg Willesden Green, lle y cyfarfu â'i wraig, Anne Thomas, a bu'r ddau yn fawr eu gofal dros y nifer fawr o fechgyn a merched ifanc o Gymru a ddaethai i'r ddinas i weithio.
Cafodd ei benodi yn Ysgrifennydd Cyffredinol llawn-amser cyntaf Cymdeithas y Cymod (rhan o’r International Fellowship of Reconciliation, IFOR) yn 1915. Am flynyddoedd cyn hynny bu'n weithgar gyda Mudiad Gristnogol y Myfyrwyr, ac fel un a oedd yn frwd dros yr Ysgol Sul, amlinellodd gynllun uchelgeisiol i'w diwygio mewn llyfr a gyhoeddwyd ym 1909. Dilynwyd y gyfrol honno gan naw llyfr arall. Aeth i'r Unol Daleithiau ym 1916 ar ran IFOR i sefydlu cangen yno, a'r flwyddyn ddilynol derbyniodd wahoddiad i fod yn weinidog eglwys annibynnol enwog yn Efrog Newydd, gan ddod ar unwaith yn un o arweinwyr Cymdeithas y Cymod yn yr Amerig, ac yn aelod dylanwadol o fwrdd golygyddol ei chylchgrawn, World Tomorrow. Buasai wedi hoffi dychwelyd i Gymru, ond ni chafodd gyfle, ac ar ôl 1921, ymgartrefodd yng Nghanada, lle y daeth yn adnabyddus fel pregethwr, darlledwr, awdur a darlithydd academaidd poblogaidd iawn. Pan fu farw ar Ebrill 10 1945, danfonwyd ei lwch i Gymru i’w gwasgaru ar ochrau creigiog Pared y Cefn Hir.
(Addasiad yw’r uchod, oddi ar y wefan:  www.cymdeithasycymod.org.uk -lle galwch ddysgu mwy am eu gwaith ac ymaelodi.)

8.8.14

Dathlu penblwydd Antur Stiniog

Darn o erthygl ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf 2014:

Ers sefydlu Antur Stiniog fel Menter Cymdeithasol yn 2007, dim ond ers 2 flynedd, Gorffennaf 2012, mae'r cwmni wedi bod yn masnachu, ac erbyn hyn yn cyflogi 19 o drigolion lleol trwy ei amryw weithgareddau.


Yn ôl adroddiad diweddar gan Gyngor Gwynedd mae'r Cwmni bellach yn cyfrannu yn agos i £900,000  i'r economi leol yn flynyddol, ac mae gwariant y pen defnyddwyr y llwybrau beic yn lleol oddeutu £17. Yn dilyn adroddiad yn 2007 dim ond 25c y pen oedd ymwelwyr yn gwario yn 'Stiniog. Yn amlwg mae hyn yn newyddion calonogol ond rydym fel gweithwyr a bwrdd o gyfarwyddwyr yn gwbl ymwybodol bod llawer iawn o waith i’w wneud i sicrhau bod y dref a'i thrigolion yn cael budd o'n gweithgareddau.

Llun- PW

Mae'r cwmni bellach yn rhedeg Canolfan Feicio lawr-allt Llechwedd, gan gynnwys y caffi yno; hefyd Y Siop ynghanol y dref; ac ers Mehefin yr 2il wedi ennill cytundeb  i redeg a datblygu cyfleusterau yn yr hen glwb Cymdeithasol ar lan Llyn Trawsfynydd.

Rhaid cofio mai Menter Cymdeithasol nid-er-elw ydi'r cwmni ac er yn cyflogi 19 o bobl, criw gweithgar ac ymroddgar o wirfoddolwyr lleol sydd yn gyfrifol am ddatblygu a rheoi'r weledigaeth;
Y cam nesaf ydi cynnal ein gweithgareddau a'r swyddi sydd wedi eu creu. Rydym wedi rhoi cais i fewn i Gyngor Chwaraeon Cymru i ddatblygu Llwybr Llyn Tanygrisiau a cawn ateb ym mis Awst os ydym wedi bod yn llwyddiannus. Rydym hefyd mewn trafodaethau efo Network Rail a'r NDA am ddyfodol y lein rhwng Blaenau Ffestiniog a Thrawsfynydd. Mae'n rhaid cael atebolrwydd am ddyfodol y lein yma sydd yn wastraff adnodd llwyr ar hyn o bryd.




Megis dechrau mae taith Antur Stiniog ac mae angen inni gyd gydweithio fel unigolion, asiantaethau a busnesau i sicrhau bod yr ardal a’r gymuned leol yn wirioneddol elwa o'n gweithgareddau.
Mae hi'n mynd i gymryd llawer mwy 'na llwybrau beics i adfywio'r ardal anhygoel 'ma. Da' ni'n gwbl grediniol mai dim ond drwy gweithio mewn partneriaeth byddwn yn llwyddo.



 Os oes gennych unrhyw syniad neu eisiau gwybod mwy am ein gweithgareddau, neu eisiau cyfrannu yna dewch draw am banad i'r Siop yng nghanol y Stryd Fawr, neu ffoniwch 01766 832 214 neu Ceri.c@anturstiniog.com.  Antur Stiniog, Uned 1 a 2, Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog, LL41 3ES