26.8.14

Rhod y Rhigymwr - Awdl 1934- Ogof Arthur

Rhan o golofn Rhod y Rhigymwr, gan Iwan Morgan, o rifyn Gorffennaf 2014:

Bedwar ugain mlynedd i eleni, cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghastell Nedd. Dan
feirniadaeth J.T.Job, T. Gwynn Jones a J.J.Williams, dyfarnwyd y gadair am Awdl i ‘Ogof Arthur’ - i’r sawl oedd yn dwyn y ffugenw ‘Prydydd yr Aran.’  Un o hogia ‘Stiniog a safodd ar ei draed, a addysgwyd yn lleol ac yng Ngholeg Diwynyddol y Bala, ac a wasanaethodd gyda’r Methodistiaid Calfinaidd ym Môn a Sir Gaernarfon. Bu’n Archdderwydd Cymru o 1957-59. Cyfeirio’r ydw i at y Parchedig William Morris (1889-1979). Cyhoeddodd sawl cyfrol o gerddi gan gynnwys ‘Clychau Gwynedd’ (1946) a golygwyd casgliad o’i gerddi gan ei ferch, Glennys Roberts - cyfrol yn dwyn y teitl ‘Canu Oes’ ym 1981.

Ym marn Alan Llwyd, yn ei gyfrol ‘Blynyddoedd y Locustiaid’ - a’r bennod ‘Yr Awdl a’r Canu Caeth 1930-1936, dyma awdl ‘arbennig o dda’.  ‘Er y gellid gwella’r mynegiant yma a thraw,’ yn ôl T. Gwynn Jones, ‘cadwyd rhith a lledrith y chwedl wreiddiol ynddi, a lluniwyd yr awdl â gofal a chynildeb y meistri mwyaf ar Gerdd Dafod.’ Clodforwyd William Morris hefyd am ei ‘iaith lân, ei gynghanedd gywir a diymdrech’ a’i feddwl syml a dirodres.’  ‘Awdl storïol yw hi,’ meddai Alan Llwyd,  ‘ac mae’n amlygu’r gallu sydd gan y gynghanedd i adrodd stori yn gelfydd a dramatig. Mae’r gynghanedd yn ystwyth-hyblyg drwy’r awdl, ond dan ddisgyblaeth dynn ar yr un pryd.

Mae’r awdl yn agor gyda darlun o fugail yn cerdded hyd strydoedd y Bala. Fe dafla’r agoriad yma ni’n syth i ganol y stori, a hynny ‘heb unrhyw ragymadrodd gwastrafflyd a diangen’:

‘Mewn ffair rhodiai’r ystrydoedd,
Bywiog lanc a bugail oedd.
Yn ei law ffon gollen lwyd
Ar dir ei fro a dorrwyd –
Irwydd lechweddau’r Aran,
Nef iddo ef oedd y fan.’

Darlunir ffair y Bala ganddo mewn Cymraeg storïol a graenus:

‘Sŵn cyson dynion a da
Hyd heolydd y Bala,
Gwŷr â’u mawl i gwrw a medd,
Hen wŷr yn llawn anwiredd,
A mân siarad a dadwrdd
Uwchben pob masnach a bwrdd ...’


Ceir yn yr awdl hefyd gwpledi epigramatig rhagorol fel hwn:

‘Oered uwch ei dynged oedd
Sêr dinifer y nefoedd.’


Er mai adrodd stori’n gelfydd a dramatig oedd nod pennaf William Morris wrth lunio awdl ‘Ogof Arthur,’ mae ynddi hefyd, yn ôl Alan Llwyd, ‘ymosodiad ar fateroldeb a difaterwch y Cymry.’  Os ydy ‘Cyfansoddiadau Castell Nedd (1934)’ neu’r gyfrol ‘Awdlau Cadeiriol Detholedig 1926-1950’ o fewn eich cyrraedd, ewch ati’n ddi-oed i ddarllen yr awdl. Os nad ydynt, ewch i holi Elin yn Siop Lyfrau’r Hen Bost. Rwy’n siŵr y gall hi eich helpu.


[Celf gan Lleucu Gwenllian Williams]


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon