Ymddangosodd gwpled Sion Gwyndaf efo'r brif bennawd ers y cychwyn cyntaf hyd heddiw:
Ieuanc a hen ddarlleno
O leufer brwd 'Lafar Bro'.
'Bathodyn' cyntaf Llafar Bro
Dafydd Roberts oedd wedi'i gynllunio.
Rhifyn Medi 2017
![]() | ||
Roedd yn noson gymdeithasol braf gyda thipyn o dynnu coes, a hwyl i'w gael. O fanno, fe rennid y papur i'r dosbarthwyr lleol ac i siopau'r fro, ac ymhellach.
Ers haf 2019, efo argraffu'r rhifynnau lliw, daeth yr angen i ni blygu pob rhifyn i ben, ac er bod hiraeth am y cwmni hwyliog, mae'n llawer llai o waith i'n gwirfoddolwyr ni bellach.
Cofiwch chi, mae digonedd o gyfleoedd i wirfoddoli os ydych chi awydd cyfrannu at waith Llafar Bro; cysylltwch!
PIGION LLAFAR:
Cyhoeddodd Cymdeithas Llafar Bro lyfr 'Pigion Llafar 1975-1999' er
mwyn dathlu'r milflwyddiant, gyda Mrs Elizabeth Jones yn arwain tîm o
olygyddion.
Os ydych yn hoffi'r gyfres Trem yn ôl ar y wefan -ewch i chwilio am gopi o'r llyfr. Bron i gant o dudalennau am £3 yn unig!
CASGLIAD LLAWN Y LLYFRGELL:
Cofiwch bod modd gweld ol-rifynnau o Llafar Bro yn llyfrgell y
Blaenau.
O'r rhifyn cyntaf un maen nhw wedi eu rhwymo'n daclus ac wedi
eu cadw at ddefnydd trigolion Bro Ffestiniog a thu hwnt.
Gallwch ddilyn colofnwyr presennol a hen rai; chwilio am eich enw ymysg y cyfarchion, neu am eich llun yn y carnifal, a llawer, llawer mwy!
GWEFAN
A dyma ni, wedi rhyw-fath o ddal i fyny efo'r dechnoleg, a chreu gwefan er mwyn atgynhyrchu rhai o gyfresi ac erthyglau difyr y papur, a hynny o'r archif yn ogystal ag o rifynnau diweddar.
Mae'r wefan, a thudalen Gweplyfr (neu Facebook) Llafar Bro wedi profi'n boblogaidd, ac ers 2012 mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi ychwanegu'r wefan i Archif Gwefannau y deyrnas gyfunol, er mwyn gwarchod y cynnwys am byth. Cewch mwy o fanylion yma.
Erthygl 'Blwyddyn gyntaf Llafar Bro' o rifyn 500, Rhagfyr 2020.
Cofiwch, tydi atgynhyrchu erthyglau a cholofnau ar y wefan hon, ddim yn arwydd bod Cymdeithas Llafar Bro yn cytuno gydag unrhyw farn a leisir gan yr awduron gwreiddiol.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon