Simon Chandler yn cyflwyno ei nofel newydd -darn o rifyn Mehefin 2025
Er bod y stori hon wedi’i hadrodd o’r blaen yn y papur bro penigamp hwn, gwiw ei hailadrodd, rydw i’n credu, a hithau’n wyrth. Sut all tref yng Nghymru droi bywyd Sais anoleuedig ben i waered o fewn hanner awr a’i drawsffurfio’n Gymro yn ei galon?
Wn i ddim. Ond, wrth gwrs, nid yw Blaenau Ffestiniog yn unrhyw dref, ond yn hytrach yn un hudol. Oni bai am ymweliad â cheudyllau llechi Llechwedd un prynhawn bron i chwarter canrif yn ôl, fyddwn i byth wedi dysgu Cymraeg nac ysgrifennu nofel mewn unrhyw iaith. Yn anad dim, fyddwn i byth wedi darganfod pwy ydw i go iawn. Y Blaenau sy’n gyfrifol am hynny oll, a llawer mwy. Y Blaenau a phobl arbennig ei bro sydd wedi trawsnewid fy hunaniaeth ac ehangu fy ngolwg ar y byd, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i dalu teyrnged yn enwedig i Llinos Griffin, Steffan ab Owain, Vivian Parry Williams, ac Iwan Morgan am eu cymorth anhepgor a’u hysbrydoliaeth lwyr.
Ar ôl cael fy nghyfareddu yn yr hen weithfeydd gan recordiadau sain tanddaearol a oedd yn llawn straeon am chwarelwyr diwylliedig y bedwaredd ganrif ar bymtheg, eu bywydau, eu diwylliant ac (wrth gwrs) eu hiaith, cefais fy ysgogi’n syth i ysgrifennu nofel am hynt a helynt chwarelwr ifanc o Fro Ffestiniog sy’n symud i Berlin yn y 1920au hwyr, a’r nofel honno, Hiraeth Neifion, a gafodd ei chyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch ym mis Mai.
Pam Berlin? Wel, roedd hi’n glir i mi yn 2001 na fyddai gen i obaith mul o ysgrifennu nofel ddilys nac argyhoeddiadol wedi’i gosod yng Nghymru gyda chymeriadau Cymreig. Roeddwn i’n llawer rhy anwybodus. Ond, er nad oeddwn i’n gallu siarad gair o Gymraeg ar y pryd, roeddwn i’n siaradwr Almaeneg yn barod, a finnau’n meddwl tybed a fyddai’n gyfuniad difyr i briodi Cymru â’r Almaen.Yn fy nofel gyntaf, Llygad Dieithryn, fe ddaeth Almaenes i Flaenau Ffestiniog a syrthio mewn cariad â hi. Yn Hiraeth Neifion, fodd bynnag, mae hogyn lleol yn mynd â’r dref gydag ef i’r Almaen. Nofel am Gymro oddi cartref yw hi felly, ond mae’r Blaenau’r un mor bwysig yn yr ail nofel ag yr oedd hi yn yr un gyntaf, er bod y rhan fwyaf o’i golygfeydd wedi’u gosod yn Berlin.
A chofiwch na fyddai’r nofel yn bodoli oni bai am y dref, o ystyried mai’r dref a roddodd enedigaeth iddi. Ond mae llwyfan Hiraeth Neifion yn llawer ehangach oherwydd bod hanes tair gwlad (yn hytrach na dwy) sydd wrth ei gwraidd: sef Cymru, yr Almaen a’r Unol Daleithiau.
Nid oedd gen i unrhyw glem yn 2001 sut y gallai prif gymeriad y nofel, Ifan (y labrwr ifanc o Dalywaenydd), gyrraedd Berlin, na pha beth y byddai’n ei wneud yno ar ôl iddo gyrraedd. Hefyd, roedd Blaenau Ffestiniog wedi gwneud argraff fawr arnaf o’r eiliad gyntaf, ac roeddwn i’n gwybod na fyddai Ifan wedi gadael y dref dan amgylchiadau arferol. Na fyddai: byddai wedi bod angen rhywbeth eithriadol i’w wthio allan, a pherthynas afiach gyda’i dad oedd hwnnw.
Ar ôl ychydig, daeth yn glir i mi mai pianydd dawnus oedd Ifan: un oedd yn arfer cyfeilio i gantorion mewn eisteddfodau lleol, ond a oedd wedi cael ei swyno gan glywed jazz ar y radio. Mae gynnon ni i gyd ein breuddwydion, ac roedd gan Ifan (fel ei hanner brawd, Ieuan, sy’n aros yn Nhalywaenydd yn y nofel ar ôl i Ifan adael) freuddwyd i ddod yn bianydd jazz, er nad oedd hynny’n ymddangos o fewn ei gyrraedd ar y pryd.
Ta waeth, ar ôl i Ifan gael ei orfodi i ffoi tua diwedd 1926, mae’n penderfynu mentro’i lwc yn Llundain. Yn hynny o beth, er i mi gael fy swyno gan Chwarel Llechwedd a’r holl gysyniad o eisteddfodau lleol yn y caban, natur ddiwylliedig y chwarelwyr a’u cymuned glòs, roedd hi’n amlwg o’r cychwyn cyntaf (hyd yn oed i dwrist di-glem fel yr roeddwn i yn 2001) i fywydau’r chwarelwyr fod yn rhai caled a pheryglus. Felly, doeddwn i ddim am ramanteiddio’u bywydau nhw na gwadu’r posibiliad y gallai cyfle i ddianc fod wedi apelio at rai.
Beth bynnag, ar ôl sbel yn gweithio yng nghegin y Kit-Kat Club yn yr Haymarket (ger Piccadilly Circus yng nghanol Llundain), dyma’r rheolwr yn sylwi ar ddoniau cerddorol Ifan ac yn ei ddyrchafu’n bianydd band preswyl y clwb. Wedyn, mae’r hogyn yn lwcus hefyd i gael hogi’i grefft gan ddysgu oddi wrth lwyth o gerddorion Americanaidd du a oedd wedi croesi'r Iwerydd er mwyn cael eu cyflogi i chwarae yn y gwestai mawrion fel y Savoy. Yn y pen draw, mae Ifan yn cael ei ddarganfod gan gymeriad eponymaidd y nofel, yr Almaenwr, Neifion, sy’n ei wahodd i gael clyweliad gyda’i fand jazz yn Berlin: band sy’n gyfuniad o gerddorion du a gwyn, Americanaidd ac Ewropeaidd.
Yn Berlin, mae Ifan yn syrthio mewn cariad â chantores y band, ond mae eu perthynas nhw (yn ogystal â natur hil gymysg y band) yn dân ar groen un o swyddogion ifainc yr SS. A fydd cysgod hir yr Ail Ryfel Byd yn llwyddo i chwalu eu dyfodol disglair? Dyna'r cwestiwn mawr. Ond, er mwyn darganfod yr ateb, bydd yn rhaid i chi ddarllen y nofel, mae gen i ofn!
Er bod Ifan gannoedd o filltiroedd i ffwrdd o dref ei febyd, mae Stiniog yn ei feddyliau ac yn ei galon trwy’r amser. Nid yw’n colli’i hunaniaeth nac yn anghofio’i wreiddiau. Trwy gydol y nofel, mae’n sôn wrth sawl un am ei gariad tuag at y Gymraeg a’i diwylliant, ac am ei hoffter o’i fro a’i phobl. Yn wir, mae’r ddihareb ‘Gorau Cymro, Cymro oddi cartref’ yn gwbl addas ar ei gyfer.
Mae cael cyhoeddi Hiraeth Neifion o’r diwedd yn freuddwyd wedi’i gwireddu ac, wrth gwrs, Blaenau Ffestiniog yw’r unig le yn y byd y gellid ei lansio. Hoffwn ddiolch o galon i Elin Angharad am ganiatáu i ni gynnal y lansiad yn Siop Lyfrau’r Hen Bost [hanes i ddilyn, gol.]
Byddai’n golygu cymaint i mi petaech chi’n ystyried cefnogi’r digwyddiad, prynu copi o’r nofel a’i darllen.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon