21.9.13

Stolpia a phrisia'

Rhan o erthygl Steffan ab Owain yn rhifyn Medi.
Prynwch gopi er mwyn darllen y gweddill, ac i gael yr hanes am ymwelydd o Batagonia.

Cofiwch, dim ond 40 ceiniog y mis ydi Llafar Bro, ac mae'r cyfarfod blynyddol yr wythnos d'wytha wedi dewis peidio codi'r pris y flwyddyn nesa' eto. Mae'n sicr ymysg y papurau bro rhataf trwy Gymru gyfan. Os nad Y rhataf!

Faint ydych chi'n dalu am eich papur dyddiol? 50c? 70c? Y dydd. Mae 40c y mis yn fargen anhygoel tydi! Beth am annog eich cymdogion a'ch ffrindiau a'ch teulu i brynu Llafar Bro!

Mae'r tanysgrifiad trwy'r post yn aros yr un faint hefyd.
Dim ond £14 y flwyddyn ym Mhrydain; £25 i gyfandir Ewrop; a £32 i weddill y byd.
Gallwch dalu unrhywbeth rhwng £20-£50 y flwyddyn am gylchgrawn ffasiwn neu arddio ac ati, a'r rheiny'n ddim byd ond hysbysebion!
Byddai tanysgrifiad blwyddyn i Llafar Bro yn anrheg Nadolig ardderchog i'ch anwyliaid. Mae'r manylion i gyd ar ein tudalen 'Llafar Bro trwy'r post'.






Taith y Pererin
Tybed faint ohonoch chi sydd yn cofio’r ddrama lwyddiannus a lwyfannwyd gan y dramodydd a’r nofelydd John Ellis Williams, sef Taith y Pererin o waith John Bunyan? Y mae hanes y ddrama hon wedi ei chroniclo yn ddifyr yn ei gyfrol  Inc yn fy Ngwaed (1963) lle dywed “Rhoddwyd y perfformiadau cyntaf o’r ddrama ym Mlaenau Ffestiniog nos Iau cyn y Groglith, nos Wener y Groglith, a nos Sadwrn y Pasg 1934... Roedd hi mor boblogaidd yn yr ardal fel y bu’n rhaid cynnal naw o berfformiadau yn y Blaenau”. 

Actorion amatur oedd yn y ddrama i bob pwrpas a cheir llun ohonynt yn y gyfrol a nodwyd uchod. Pa fodd bynnag, deuthum ar draws y llun canlynol mewn llyfr Saesneg ‘North Wales Today’ ac ynddo cyfeiria at un o’r actorion a weithiai yn y chwarel. Tybed pwy all ddweud wrthym pwy oedd yr actiwr glandeg hwn sydd yn gwenu ar y camera ac yn dal ei gŷn a’i forthwyl?


15.9.13

Y Golofn Werdd

llun PW

Darn o erthygl gan Lowri Gwenllian Roberts,
un o sylfaenwyr Clwb Natur y Blaenau

 -darllenwch y cyfan yn Llafar Bro Medi.





Mae bod yn rhan o ddechrau'r Clwb Natur wedi bod yn brofiad anhygoel i mi. 
Fe ddysgom lawer ar ein dyddiau allan yn cynnal arolwg mamaliaid bychan yng Nghoed Cymerau gyda Ceri Morris, ymweliad â’r Seaquarium yn y Rhyl a cherdded Nordig efo Catrin……yng nglaw mawr Blaenau! Mae gymaint o brofiadau does ddim posib rhestru pob un ohonynt! 


Ond mae rhai eraill dal yn glir yn fy ngof fel ymweliad i warchodfa natur Gwaith Powdwr ym Mhenrhyndeudraeth gyda Rhydian Morris. Mae rheswm pam rwyf yn cofio'r profiad hwn. Aethom i gyd at lyn bach ar y safle. Yn fan hyn roddem yn chwilota yn y dŵr am bryfetach, mamaliaid bach a llawer, llawer mwy. Wedyn aeth un hogyn bach dros yr argae ac fe aeth pawb ar ei ôl. Roeddem i gyd yn hapus braf yn chwilota. Yn sydyn neidias pan glywson ni sgrech a splish splash yn y dŵr -fedrwch chi ddychmygu- roedd yr hogyn wedi trio dal llyffant ac wedi disgyn i mewn i’r dŵr rhewllyd! Nawr rydych yn gweld pam ei fod mor glir yn fy meddwl.

Profiad anhygoel arall cafodd Saskia a finna oedd bod ar y teledu ar raglen RhyfeddOD, S4C. 
Roeddwn yn dangos beth fedrwch chi ei ffeindio o gwmpas yr ardd, fel malwod, morgrug a lindys. 

Roeddwn wrth fy modd yno yn gwneud ffrindiau newydd ac yn dysgu llawer am natur. Ond mae yn siom nad yw’r clwb natur yn parhau. Hoffwn ddiolch i bawb am y profiadau melys!



5.9.13

Gorau arf, arf dysg

Awydd dysgu crefft newydd neu ddilyn diddordeb newydd? Neu'n gwybod am deulu di-Gymraeg sydd angen hwb ac anogaeth i ddysgu iaith y gymuned?

Meddwl am newid eich gyrfa efallai?

Beth am gofrestru ar un o gyrsiau Cymdeithas Addysg y Gweithwyr Coleg Harlech, neu dynnu sylw teulu, ffrindiau, a chymdogion at y cyfoeth o gyfleoedd sydd ar gael?

Dyma restr o'r cyrsiau lleol sy'n cychwyn y mis hwn neu'n fuan.



Dyma ddolen at wefan CAG Coleg Harlech.

GORAU ARF, ARF DYSG. Ewch amdani!