28.2.24

Ffrae iaith HSBC

Trist iawn fu’r dadlau diweddar am y Gymraeg â banc HSBC. Mae’r banc hwnnw bellach, fel sy’n hysbys i lawer, wedi penderfynu cau eu gwasanaeth ffôn Cymraeg. 

Yr unig ffordd o allu ymwneud efo ‘banc lleol y byd’ yn Gymraeg bellach yw drwy gael rhywun i’ch ffonio’n ôl – mewn tridiau. Fel pe bai gan bobl y moethusrwydd o allu aros tridiau i siarad efo rhywun am faterion ariannol sydd yn aml agen eu datrys yn syth! Mae’n haws mynd i Borthmadog, ar y bws, yn y glaw, mewn corwynt.

Pan symudais i’r Blaenau ddeng mlynedd yn ôl, un o’r pethau cyntaf a wnes i oedd ceisio agor cyfrif yn y gangen o fanc HSBC a fodolai yn y dref ar y pryd. Ond na! Gwrthodwyd gadael imi wneud hynny. Doedd y banc ddim yn derbyn cwsmeriaid newydd. Cofiaf ofyn ar y pryd “Pam? Eisiau cau’r banc ydach chi?” ac fe wadwyd hynny’n gryf. Ond mewn rhai blynyddoedd, dyna’n wir a ddigwyddodd. Fe gaewyd y banc yn llwyr. 

Pam sôn am hyn? Wel, fe aeth y llinell ffôn Gymraeg rwy’n credu yr un ffordd â’r gangen leol o’r banc HSBC a oedd yma ar un adeg – cyfyngu ar yr hyn a allai wneud, ac wedyn ei gau, gan roi’r cyfiawnhad nad oedd llawer yn ei ddefnyddio. 

I wneud pethau’n waeth, mae HSBC ers peth amser bellach yn codi tâl ar fentrau cymunedol bychain, fel Llafar Bro, am gael cyfrifon gyda nhw, a hyn mewn dyddiau o brysur bwyso ariannol. 

Pryd mewn difrif calon y cawn ni fel cenedl fanc cenedlaethol fel yr ydym yn ei haeddu? Mae sawl banc cynhenid gan Wlad y Basg, er enghraifft, gwlad sydd tua’r un faint â Chymru. Mae gan hyd yn oed Andora, gwlad fechan iawn, llai na Meirionnydd, efo poblogaeth o 79 mil, fwy nag un banc ei hun. 

Llun o gyfrif trydar Banc Cambria, sy'n gobeithio creu banc cymunedol i Gymru, ond yn methu cael cefnogaeth y diwydiant

Y mae’n hwyr glas i’r Llywodraeth yng Nghaerdydd roi’i gorau ar lusgo ei thraed a sefydlu banc cymunedol fel yr addawsai wneud - banc sy’n gwasanaethu ein gwlad a’n cymunedau, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. Fel gwlad a chenedl, nid ydym yn haeddu dim llai na hynny.

Chwi ddarllenwyr Llafar Bro – ac yn enwedig chi sy’n rhedeg busnesau yn yr ardal – beth am gysylltu efo’ch straeon o ddiffyg gwasanaethau bancio yn yr ardal, ac yn arbennig diffyg gwasanaethau bancio trwy gyfrwng y Gymraeg?
GLJ.
- - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2024



22.2.24

Stolpia- Tywydd Gaeafol (II)

Pennod arall yng nghyfres Steffan ab Owain

Ar wahân i ryw ychydig nosweithiau o rew, tywydd gwlyb a gwyntog a gawsom gan fwyaf ym mis Rhagfyr gydag un storm ar ôl y llall. Yn wir, bu sawl diwrnod yn ddigon tyner er nad oedd yn heulog. Tybed sut fath o dywydd a gawn yn ystod 2024? Amser a ddengys, ynte?

Soniwyd eisoes am rai o’r gaeafau caled a gafwyd yma yn ein bro a rhannau eraill o Gymru gynt yn y rhifyn diwethaf. Y tro hwn, rwyf am daflu golwg sydyn ar rai o’r gaeafau oer a ddioddefodd ein teidiau a’n hen deidiau yn ystod yr ugeinfed ganrif. 

Yn ôl yr ystadegau roedd gaeaf 1917, 1929 ac 1933 yn rhai pur ddrwg a chollwyd llawer o ddefaid mynydd trwy’r wlad yn dilyn yr oerfel mawr. Cafwyd cnwd iawn o eira yn y Blaenau a’r cyffiniau ym mis Chwefror a Mawrth 1937, hefyd. Ymdrechodd cwmni Crosville i gludo teithwyr ar y bws i Drawsfynydd ac i Eisteddfod Llawrplwy ym mis Chwefror, ond aflwyddiannus y bu oherwydd yr eira ar y ffyrdd. 

Bu’n ‘smit’ yn y chwareli, h.y. rhwystrwyd hwy rhag gweithio o achos y tywydd oerllyd, a methodd trên GWR a chyrraedd Stesion Grêt yn y Blaenau. Cafwyd eira trwm yn ystod wythnosau cyntaf mis Mawrth yn ogystal, digon i atal pobl rhag mynychu’r oedfaon yn y capeli, hefyd.

Diolch i Gareth, Ysgrifennydd ein Cymdeithas Hanes am y llun hwn yn dangos sut yr oedd hi yn ein tref y flwyddyn honno:

Cofnodwyd hefyd i’r ardal gael eira a rhew caled yn ystod gaeaf 1940, ond un 1947 a gofiai y to hŷn amdano am flynyddoedd wedyn. Dywedir iddo ddechrau gydag oerwynt o’r gogledd ar y 15fed o Ionawr a dilynwyd hwnnw gan eira ar 21 Ionawr. Bu’n bwrw eira yn drwm o’r diwrnod hwn ymlaen ac am ddyddiau wedyn mewn sawl ardal fel bod trwch yr eira yn 5 troedfedd yn amryw o leoedd, a lluwchfeydd oddeutu 20 troedfedd o ddyfnder ar y bryniau a’r mynyddoedd. 

Parhaodd y tywydd oer a disgynnodd yr eira yn ysbeidiol tan 15 Mawrth, a chan ei bod ond dwy flynedd er diwedd yr ail Ryfel Byd roedd hi’n fain am fwyd i lawer teulu gan fod yr holl wlad dan eira mawr ac roedd bron yn amhosibl i rai deithio i nôl neges o’r siopau. 

Bu Chwarel Oakeley, chwarel fwyaf yr ardal, ar gau o 13 Chwefror hyd at 18 Mawrth, a degau o weithwyr allan o waith. 

Rhew mawr yn Chwarel Oakeley 1947

Rhewodd mor ddrwg yn y Lefel Galed fel bod pibonwy a darnau o rew yn dal yng nghanol y lefel tan ddyddiau cyntaf mis Mehefin. 

Roedd rhew oddeutu 5 modfedd o drwch yng ngwaelod Trwnc y K, a chafwyd peth mor isel a lloriau tanddaearol yr L a’r M.

- - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2024

20.2.24

Y Dref Werdd- Gerddi Cymunedol

I’r rhai ohonoch sydd heb fod i erddi Maes y Plas, beth am fynd yno am dro? Gardd farchnad gymunedol yw hi yn y Manod, lle mae digon o fwrlwm i’w gael. Mae yna dwnnel polithîn a llawer o lysiau yn tyfu yno’n barod. Gan fod yr ardd yn fawr, mae'n brosiect ymarferol iawn. 


Os hoffech chi gymryd rhan yn y prosiect cyffrous hwn i ddysgu sgiliau garddio newydd, bod allan yn yr awyr iach, cadw’n heini, gwneud ffrindiau, neu os hoffech chi ddim ond gweld beth sy'n digwydd yna cysylltwch!

Rydym yn cynnal diwrnodau gwirfoddoli wythnosol ar ddydd Iau rhwng 10yb a 4yh i bobl sydd wir eisiau cymryd rhan.

Mae 'Safle Antur' yn werddon gudd ger Llechwedd, ar y ffordd allan (neu i fewn) i’r Blaenau. Roedd yn jyngl wedi gordyfu cyn i ni ymyrryd, yn llawn dop o rywogaethau anfrodorol ac ymledol fel Rhododendron ponticum, llysiau'r dial, a Buddleia


Mae'r safle hwn wedi cael llawer o sylw i’w chael i’r cyflwr y mae ynddi nawr. Yn wir, mae’r llecyn wedi troi yn fan cymunedol bendigedig mewn ardal goetir wedi'i hadfer. Er mwyn gwella bioamrywiaeth ar y safle ac annog mwy o fywyd gwyllt brodorol, rydym wedi creu cynefinoedd gwahanol megis pwll bywyd gwyllt, ac wedi plannu coed brodorol ychwanegol. 


I annog pobl i fynd allan i fyd natur rydym ni wedi creu llwybr natur ac adeiladu tŷ crwn hygyrch a ddefnyddir ar gyfer rhai o’n sesiynau lles a’n gweithgareddau gyda’r project ‘Dod Nôl at Dy Goed’.

Dyma rai lluniau 'cynt ac wedyn' i ddangos yn iawn faint o waith a wnaed ar y lleoliad yma! 

Dechreuwyd y syniad ar gyfer gardd gymunedol Hafan Deg ymhell yn ôl yn 2015.  Canfuwyd darn o dir segur a oedd wedi gordyfu ac yn denu sbwriel fel lleoliad a ellid ei droi yn fan gwyrdd cymunedol posibl. Gyda chefnogaeth ac anogaeth trigolion lleol a chymdeithasau tai, trawsnewidiwyd y llecyn i’r ardd fywiog a llwyddiannus y mae hi ar hyn o bryd. Yn allweddol i lwyddiant yr ardd yw'r gwirfoddolwyr lleol sy’n gofalu amdani ac yn tyfu’r bwyd yno. Mae sôn arbennig am Brian, prif arddwr wedi ymddeol. Mae'n treulio'r rhan fwyaf o'i amser yn plannu, chwynnu, tyfu eginblanhigion ac yn gyffredinol yn cadw llygad barcud ar y lle! Mae'n cael cefnogaeth gan Damian sy'n helpu gyda'r gwaith o dorri gwair a thocio. 

Mae trigolion y stad yn mwynhau dod at ei gilydd yn yr ardd, a phob hydref maent yn rhannu ffrwythau a llysiau’r cynhaeaf.
- - - - - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2024


17.2.24

Yr Hawl i Gartref


Ym mis Tachwedd, ymwelodd trelar ‘Deddf Eiddo’ Cymdeithas yr Iaith â’r fro, gan basio drwy storm fawr ar Fwlch y Gorddinan ar ei ffordd yma. Roedd y trelar yn teithio drwy Gymru i gynhadledd Deddf Eiddo’r Gymdeithas yng Nghaerdydd gan ymweld â chymunedau gwahanol ar hyd y ffordd. 

 


Galwyd yng nghaffi Antur Stiniog, lle clywed am ddatblygiad tai dan arweiniad y gymuned gyda Ceri a Gwenlli o Gwmni Bro. Aed wedyn i’r Pengwern, lle cafwyd cyflwyniad difyr gan Sel Williams am y fenter gymunedol hynod lwyddiannus hon, ac am swyddogaeth anhepgor mentrau cymunedol yn y frwydr i gadw’n cymunedau, a’r Gymraeg, rhag edwino ymhellach. Eglurwyd fod mentrau cymunedol yn gweithredu fel rhyw fath o ffordd ganol rhwng cyfalafiaeth reibus ar un llaw, ac ideoleg fwy sosialaidd o ganoli pethau yn nwylo’r wladwriaeth ar y llall. Mae hefyd yn fwy triw i’r traddodiad a’r ysbryd Cymreig o gydweithio cymunedol, ac yn ateb unigryw Cymreig felly i lawer o broblemau cymdeithas.

Cynhaliwyd y gynhadledd i wyntyllu syniadau ynghylch sut i fynd i’r afael â’r problemau tai niferus sy’n tanseilio hyfywedd cymunedau Cymru. Ymysg y problemau hyn mae ail dai lluosog, tai gwag, diffyg tai cymdeithasol, prinder tai fforddiadwy, tai yn cael eu prynu gan ddieithriad a’u troi yn llety gwyliau er mwyn hel arian, a datblygiadau anferthol a di-angen o dai newydd wedi eu gyrru gan y gred gyfeiliornus fod yn rhaid codi mwy a mwy o dai, waeth beth fo’r angen lleol, i hybu’r economi. Ac ar yr un pryd (ac efallai oherwydd hyn i gyd) mae digartrefedd ar gynnydd. 

Un o’r siaradwyr yn y gynhadledd dai oedd ein Haelod o’r Senedd, Mabon ap Gwynfor. Meddai yntau am y sefyllfa dai: 

“Os oedd yn argyfwng ddwy flynedd yn ôl, mae’n gatastroffi erbyn hyn.” 

Soniodd hefyd am ymweliad o’i eiddo â Fiena, ble buwyd yn datblygu tai cymdeithasol ers 1923. Mae llawer o’r tai cymdeithasol hyn yn gymunedau bychain yn eu hawl eu hunain, gyda thramiau yn pasio’n gyson, ac yn cynnwys mannau gofal iechyd a llefydd gofal plant. Mae Mabon o’r farn y dylai Cymru fod yn gweithredu o fewn  fframwaith tai digonol y Cenhedloedd Unedig, a bod angen pasio deddf sy’n ei gwneud hi’n rheidrwydd darparu tai addas. Soniodd siaradwr arall am y sefyllfa yn Nenmarc, lle mae tai wedi eu codi yn benodol ar gyfer pobl ifanc. 

Meddai Mabon eto:

“Dydy’r farchnad rydd ddim yn gweithio yn ein cymunedau ni a dydy’r farchnad rydd ddim yn gweithio dros Gymru. Dyna pam bod angen ymyrraeth.”
Mae Mabon yn un o’r rhai sy’n galw am Ddeddf Eiddo fel y bu Cymdeithas yr Iaith yn galw amdani ers degawdau, ac am ddileu deddfwriaeth Cynllunio Gwlad a Thref a luniwyd gan San Steffan, sy’n trin tai mewn cyd-destun economaidd yn hytrach nag fel angen cymdeithasol i ddarparu cartref.
Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi sylw i rai o argymhellion y gynhadledd! 

Gwych yw cyhoeddi y bydd Rali Fawr Nid yw Cymru ar Werth yn dod yma i Stiniog ar Fai y 4ydd ar Ŵyl Ryngwladol y Gweithwyr:

“Dyma'r cyfle ola am flynyddoedd i sicrhau deddfwriaeth! Dyma hefyd flwyddyn cyhoeddi Adroddiad Comisiwn Cymunedau Cymraeg. Pwyswch am gynnwys cynigion Deddf Eiddo i reoli'r farchnad dai a rhoi grym i'n cymunedau.”

- - - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2024

Erthyglau am sefyllfa dai Bro Ffestiniog 

 

15.2.24

Senedd ‘Stiniog- Stwlan a llinellau Melyn

Newyddion o Gyngor Tref Ffestiniog

Daeth mwy o newyddion da ar ddiwedd 2023 wrth i aelod newydd arall ymuno â’r Cyngor. Golygai hyn fod chwe chynghorydd newydd wedi ymuno dros y misoedd diwethaf.  Dyma restr y wardiau a’u cynghorydd ar hyn o bryd:

Bowydd a Rhiw (5 sedd)
Rory Francis, Morwenna Pugh, Troy Maclean, Peter Alan Jones a David Meirion Jones.
Tanygrisiau (1 sedd)
Dafydd Dafis.
Conglywal (2 sedd)
Mark Thomas ac Alun Jones.
Diffwys a Maenofferen (5 sedd)
Eifiona Davies (Is-Gadeirydd), Gareth Glyn Davies, Dewi Prysor Williams, Geoffrey Watson Jones, 1 x GWAG.
Cynfal / Teigl (3 sedd)
Linda Ann Jones, Marc Lloyd Griffiths (Cadeirydd), 1 x GWAG.
O edrych yn fanwl ar y rhestr fe sylweddolwch fod bylchau’n parhau i fod.  Pa well amser na  blwyddyn newydd i wneud rhywbeth newydd? Oes gennych ryw addewid blwyddyn newydd i geisio gwneud gwahaniaeth bach, er lles, yn lleol?  Pam ddim ystyried gweithredu ar bwyllgor Cyngor y Dref?  Os oes diddordeb gennych neu am ymholiadau, yna cysylltwch â’r Clerc am fwy o fanylion.

CYFARFOD CYFFREDINOL
Yn rhan ‘Cyfranogiad y Cyhoedd’ yr agenda, daeth John Armstrong o gwmni Engie i egluro am y gwaith sydd ar fin cychwyn ym Mhwerdy Ffestiniog yn Nhanygrisiau.  Ail hanner y prosiect o newid y tyrbinau ydyw mewn gwirionedd.  Mae pedwar tyrbin yno, a newidiwyd dau ohonynt eisoes.  Wrth wneud hyn bydd gwaith ail-wampio a diweddaru peirianwaith ymylol yn digwydd hefyd.  

Nid oes disgwyl unrhyw anawsterau i ardal Tanygrisiau na’r dref, oni bai am ambell i lori fawr.  Diolchwyd iddo am ei bresenoldeb a’i eglurhad.  Cafodd y Cyngor wedyn gyfle i’w holi fynta am y safle.  Yn dilyn ymholiad gan Y Cyng. Rory Francis. Dywedodd John fod y broblem baw ci ar hyd yr argae i weld wedi ei sortio ar hyn o bryd a bod cerddwyr y cŵn yn glanhau ar eu holau.  Os byddai hyn yn parhau, yna byddai ddim bygythiad i’r llwybr cerdded, meddai.  Holodd Y Cyng. Dafydd Dafis wedyn pryd fyddai’r hen lwybr tu cefn i’r orsaf yn ail-agor a pham fod Argae Stwlan yn edrych fel bod y gwaith wedi ei adael ar ei hanner.  Dywedodd y byddai’n ceisio cael mwy o wybodaeth i’r Cyngor ynglŷn â’r llwybr a bod y gwaith o baentio’r argae yn un tymhorol, ac ar bris. Cytundeb blynyddol sydd fel arfer meddai, rhwng yr orsaf a chwmni preifat. Byddai’r gwaith wedyn yn ddibynnol ar y tywydd a phryd oedd y pres yn dod i ben. Pan roedd y pres yn darfod, yna dyna hi am y flwyddyn honno.

Derbyniwyd llythyr gan Iwan ap Trefor, Rheolwr Traffig a Phrosiectau Cyngor Gwynedd.  Roedd yn ymateb i gwynion gan y Cyngor Tref am y dryswch a grëwyd gan linellau melyn dwbwl yn Nolrhedyn.  Roeddent wedi achosi trafferthion i bobol leol gan fod y cyfyngiadau parcio yn aneglur.  Eglurodd Iwan yn ei lythyr fod y broses o newid unrhyw gyfyngiadau parcio yn broses hir, yn bennaf oherwydd y camau cyfreithiol sy’n ofynnol arnynt fel gwasanaeth, ond roedd am i’r Cyngor gael gwybod, o leiaf fod y broses honno wedi cychwyn.

Daeth cais am arian gan Glwb Nofio PBP (Porthmadog, Blaenau, Pwllheli).  Cytunwyd yn unfrydol fod y Clwb Nofio o fudd mawr i rai o bobl ifanc y dref a chytunwyd i gyfrannu 33% o’r ffigwr gofynnol, gan ddisgwyl i Port a Pwllheli gyfrannu’r 66% arall.

Derbyniwyd llythyr gan Sion Bryn, o’r Gwasanaeth Ieuenctid, yn mynegi ei bryder nad oedd plant Llan  eisiau mynychu’r Clwb Ieuenctid yno.  Cafwyd fan gemau yno, a daeth hanner dwsin o blant iddo’r tro cyntaf, ond neb yr wythnos wedyn.  Dywedodd eu bod am fynd â’r Clwb o’r Llan i’r Blaenau am y tro a cheisio eto yn Llan rhywdro eto.  Derbyniodd y Cyngor hyn, ond gyda phwyslais na ddylent anghofio am Llan yn y dyfodol.  Mae’r Gwasanaeth Ieuenctid bellach wedi trefnu noson ychwanegol yn y Ganolfan pob nos Fercher.

Ym Mhwyllgor Mwynderau, derbyniwyd adroddiad gan Terry Tuffrey am ei ymweliad, fel llysgennad ‘Stiniog, i Batagonia.  Mae’n debyg i Terry gael croeso cynnes allan yn y Wladfa a chael profiad bythgofiadwy.

Trafodwyd wedyn am y gwaith cynnal a chadw sydd ar y gweill, gyda nifer o bethau i edrych ymlaen atynt o amgylch yr ardal yn 2024.  Gobeithir cael lle parcio bach a meinciau i’r cyhoedd gael mwynhau’r Berllan yn Nhan y Manod, ac mae cynlluniau i gael gwell adnoddau chwarae i’r plant yn y Parc ac i blannu blodau ac ati yno.  Dwi’n ddigon hen bellach i gofio bwrlwm y Parc flynyddoedd yn ôl.  Roedd garddwr/gofalwr llawn amser bryd hynny ac roedd y lle o hyd yn werth ei weld.  Blodau lliwgar a phobman yn daclus.  Sŵn taro peli tenis yn yr haf a phob cwrt yn brysur gyda’r awyr yn llawn lleisiau plant yn gweiddi a chwerthin.  Mae’n le arbennig pan mae’r haul yn tywynnu ac mae’n debyg bod y Cyngor (gobeithio) yn ara’ deg, am weithio at gael y gorau o’r lle unwaith eto.

Cadarnhawyd fod tir Pen-y-Bryn, Cae Baltic, Rhiwbryfdir wedi ei werthu. Aeth y pres tuag at gostau’r Berllan yn Nhan y Manod.  Dywedodd Y Cyng. Peter Jones y dylai’r pres wedi aros yn Rhiw gan mai pres pobol Rhiw ydoedd.  Cytunodd Y Cyng. Marc Lloyd Griffiths gyda’r safbwynt ac y dylai’r Cyngor flaenoriaethu unrhyw geisiadau am arian gan y Cyngor i ardal Rhiwbryfdir yn y dyfodol.  

Penderfynwyd gwerthu ‘Ben Banc’, fel ei gelwir, am fod wal gerrig sych fawr arni gyda chwymp serth i lawr at gefn yr hen Ysbyty yr ochr arall iddi.  Roedd y cyfrifoldeb am ei chynnal a chadw yn ormod.
Dymunodd y Cadeirydd, Y Cyng. Morwenna Pugh ar y noson, Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb cyn cau’r cyfarfod.

David Jones. (Fy safbwynt i yn unig).
- - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2024


8.2.24

John Cowper Powys ym Mlaenau Ffestiniog

Ym mis Mehefin 2023, aeth trigain mlynedd heibio ers marwolaeth un o awduron pwysicaf yr iaith Saesneg a hynny yn yr Ysbyty Goffa yn y Blaenau. 

Penderfynais ail ddarllen ei nofel fawr a maith, Owen Glendower, yn ystod yr haf y llynedd ac mae bellach yn fis Ionawr a dw i’n dal i’w darllen. 

Clamp of nofel ond anodd yw darllen ac mae’n fwy o ffantasi na nofel hanesyddol! 

 

Nofelydd ac athronydd oedd John Cowper Powys (8 Hydref 1872 - 17 Mehefin 1963). Clerigwr oedd ei dad, Charles Francis Powys ac roedd ei fam yn perthyn i'r bardd Saesneg William Cowper, ble cafodd John Cowper ei enw canol. Fe’i ganed yn 1872, yr hynaf mewn teulu o 11 o blant ac roedd dau o'i frodyr, Llewelyn a Theodore, hefyd yn awduron. Roedd yn gymeriad digon bisâr a rhyfedd ei arferion ond i’r Blaenau y daeth i fyw ar ddiwedd ei fywyd.

Yn awdur A Glastonbury Romance (1932) a Porius (1951), nofelydd, bardd, athronydd, cyfieithydd Rabelais a Dostoevsky, roedd John Powys yn un o ffigyrau llenyddol rhyfeddaf ei gyfnod. Roedd darllenwyr yn aml yn gweld bod ei waith yn annealladwy i raddau helaeth, ond eto yn rhyfedd o gymhellol. Nid oedd ganddo ei hun unrhyw amheuaeth o'i statws ac roedd yn synnu nad oedd wedi ennill Gwobr Nobel am lenyddiaeth! Credai fod meirw'r canrifoedd diwethaf wedi cyfathrebu ag ef a'i fod wedi profi'r digwyddiadau a ddisgrifiwyd yn ei nofelau hanesyddol. Mewn llythyr at ffrind yn y 1950au dywedodd ei fod yn 'wirioneddol ofnus o feddwl amdanaf fy hun neu wynebu fy hun' a bod ei nofelau yn ymdrechion i ddianc o'i bersonoliaeth ei hun i rai ei gymeriadau. A gwir gredai ei fod  wedi medru treiddio meddwl Glyndŵr ei hun a bod geiriau  y’i mynegir gan Glyndŵr yn y nofel yn hanesyddol gywir! 

Priododd Margaret Lyon yn 1896, ond nid oeddent yn hapus ac yn y 1920au yn yr Unol Daleithiau cyfarfu â Phyllis Playter, ei gariad a'i awen am weddill ei oes. Americanes oedd Phyllis yn hanu o Kansas City a ysgrifennodd Powys ei weithiau gorau dan rym ei beirniadaeth!

O 1935 roeddent yn byw yng Nghorwen, lle gallai fodloni ei hyfrydwch cyfriniol gydol oes yn y tirwedd y mae’n ei ddisgrifio fel obsesiwn yn Owen Glendower, a cherdded y bryniau. Bu farw Margaret ei wraig yn 1947 a'i unig blentyn, Littleton, yn 1954. Ym 1955 symudodd John a Phyllis o Gorwen i dŷ bach, 1 Waterloo, Tanymanod, yn y Blaenau, ‘yn uchel ym mynyddoedd Eryri’ fel yr hoffai ddweud. 

Ar ôl cyrraedd Waterloo roedd John yn byw yn bennaf ar wyau amrwd a dwy botel o laeth y dydd. Cyfansoddodd amryw o weithiau byr wrth fyw yn y Blaenau ac ystyrir y rhain fel ffantasïau rhyfedd. Tyfodd yn raddol wannach, rhoi'r gorau i ysgrifennu a bu farw'n dawel yn yr Ysbyty Goffa, yn 90 oed. Cafodd ei amlosgi a gwasgarwyd ei ludw yn y môr yn Chesil Beach yn Dorset.

Bu Phyllis Playter yn gymar i John am dros ddeugain mlynedd ac yn dilyn ei farwolaeth yn 1963 parhaodd i fyw yn eu tŷ bach yn Waterloo gan gynnig lletygarwch cynnes i'r ysgolheigion niferus a darllenwyr ymroddedig o'i waith a ddaeth i'w gweld yno ac i weld cartref olaf yr awdur. 

Cyflawnodd John ei waith gorau yng nghwmni Phyllis ac roedd hithau yn hollol ymroddedig i’w ysbrydoli a’i gynnal. Bu farw Mawrth 10fed, 1982, yn 89 mlwydd oed.

Tybed oes rhywrai yn Stiniog yn dal i’w gofio, neu yn cofio Phyllis Playter ac hwyrach efo ambell i stori? Cysylltwch …
Tecwyn Vaughan Jones
- - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2024