Pennod arall yng nghyfres Steffan ab Owain
Ar wahân i ryw ychydig nosweithiau o rew, tywydd gwlyb a gwyntog a gawsom gan fwyaf ym mis Rhagfyr gydag un storm ar ôl y llall. Yn wir, bu sawl diwrnod yn ddigon tyner er nad oedd yn heulog. Tybed sut fath o dywydd a gawn yn ystod 2024? Amser a ddengys, ynte?
Soniwyd eisoes am rai o’r gaeafau caled a gafwyd yma yn ein bro a rhannau eraill o Gymru gynt yn y rhifyn diwethaf. Y tro hwn, rwyf am daflu golwg sydyn ar rai o’r gaeafau oer a ddioddefodd ein teidiau a’n hen deidiau yn ystod yr ugeinfed ganrif.
Yn ôl yr ystadegau roedd gaeaf 1917, 1929 ac 1933 yn rhai pur ddrwg a chollwyd llawer o ddefaid mynydd trwy’r wlad yn dilyn yr oerfel mawr. Cafwyd cnwd iawn o eira yn y Blaenau a’r cyffiniau ym mis Chwefror a Mawrth 1937, hefyd. Ymdrechodd cwmni Crosville i gludo teithwyr ar y bws i Drawsfynydd ac i Eisteddfod Llawrplwy ym mis Chwefror, ond aflwyddiannus y bu oherwydd yr eira ar y ffyrdd.
Bu’n ‘smit’ yn y chwareli, h.y. rhwystrwyd hwy rhag gweithio o achos y tywydd oerllyd, a methodd trên GWR a chyrraedd Stesion Grêt yn y Blaenau. Cafwyd eira trwm yn ystod wythnosau cyntaf mis Mawrth yn ogystal, digon i atal pobl rhag mynychu’r oedfaon yn y capeli, hefyd.
Diolch i Gareth, Ysgrifennydd ein Cymdeithas Hanes am y llun hwn yn dangos sut yr oedd hi yn ein tref y flwyddyn honno:
Cofnodwyd hefyd i’r ardal gael eira a rhew caled yn ystod gaeaf 1940, ond un 1947 a gofiai y to hŷn amdano am flynyddoedd wedyn. Dywedir iddo ddechrau gydag oerwynt o’r gogledd ar y 15fed o Ionawr a dilynwyd hwnnw gan eira ar 21 Ionawr. Bu’n bwrw eira yn drwm o’r diwrnod hwn ymlaen ac am ddyddiau wedyn mewn sawl ardal fel bod trwch yr eira yn 5 troedfedd yn amryw o leoedd, a lluwchfeydd oddeutu 20 troedfedd o ddyfnder ar y bryniau a’r mynyddoedd.
Parhaodd y tywydd oer a disgynnodd yr eira yn ysbeidiol tan 15 Mawrth, a chan ei bod ond dwy flynedd er diwedd yr ail Ryfel Byd roedd hi’n fain am fwyd i lawer teulu gan fod yr holl wlad dan eira mawr ac roedd bron yn amhosibl i rai deithio i nôl neges o’r siopau.
Bu Chwarel Oakeley, chwarel fwyaf yr ardal, ar gau o 13 Chwefror hyd at 18 Mawrth, a degau o weithwyr allan o waith.
Rhew mawr yn Chwarel Oakeley 1947 |
Rhewodd mor ddrwg yn y Lefel Galed fel bod pibonwy a darnau o rew yn dal yng nghanol y lefel tan ddyddiau cyntaf mis Mehefin.
Roedd rhew oddeutu 5 modfedd o drwch yng ngwaelod Trwnc y K, a chafwyd peth mor isel a lloriau tanddaearol yr L a’r M.
- - - - - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2024
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon