Pennod arall yng nghyfres Steffan ab Owain
Wel, mi gawsom ychydig o rew ac eira ym mis Ionawr, ond diolch i’r drefn nid oedd dim byd tebyg i’r hyn a gawsom yn ystod gaeafau 1962-63 ac 1981-82. Yn ôl yr arbenigwyr ar y tywydd, er nad oedd gaeaf 1963 gyda chymaint o eira ag un 1947 roedd yn un o’r rhai oeraf a brofwyd yn y wlad ers 1740, ac yn ambell le aeth y tymheredd cyn ised a -20 °C. Sut bynnag, dywed eraill bod gaeaf 1929 wedi bod yn oerach a’r tymheredd wedi gostwng i -22 °C a bod yr eira yn rhewi arnoch fel y disgynnai o’r wybren.
Yn 1963 roeddwn yn gweithio yn Ffatri Metcalfe yng Nglan-y-pwll ac yn ffodus mai’n Rhiwbryfdir yr oeddwn yn byw ar y pryd, ac felly, nid oedd llawer o waith cerdded trwy’r eira o’m cartref i’m gwaith. Cofier, roedd hi wedi dechrau bwrw eira ar 22 o Ragfyr 1962 a pharhaodd yr oerni hyd at yr wythnos gyntaf ym mis Mawrth. Rhewodd y ffynhonnau, yr afonydd, y llynnoedd fel ei bod yn anodd cael dŵr ar gyfer anifeiliaid y ffermydd a llawer iawn o gartrefi’r wlad. Yn wir, rhewodd y môr, hyd yn oed, mewn sawl lle, fel ei bod yn anodd iawn i bysgotwyr hwylio eu cychod.
Stryd yr Eglwys dan eira trwm, ond pa flwyddyn oedd hi? |
Yma yn y Blaenau roedd y chwareli yn cael trafferth cael dŵr i’r peiriannau gan fod y peipiau wedi rhewi’n gorn, ac yn ôl un o hen chwarelwyr Llechwedd nid oedd yn cofio gaeaf mor oer yn ei fywyd, a bu’n ddadl rhyngddo ef ag un o’i gydweithwyr parthed yr oerni. Dywedodd y cyntaf nad oedd wedi gweld ei ddannedd gosod yn rhewi yn nŵr y gwydr erioed o’r blaen a bod hynny yn profi ei osodiad! Roedd tramwyo’r ffyrdd yn waith peryglus a chynghorid pobl i beidio a mentro gyrru cerbydau tros Fwlch Gorddinan (Y Crimea). Hen stori oedd cwyn y Parchedig Cledwyn Parry, Capel Ebeneser (W), sef bod y palmentydd a’r ffordd gerllaw’r capel yn llithrig ac nad oedd y cyngor yn clirio’r eira.
Yn ddiau, y mae mwy ohonoch yn cofio gaeaf 1981/82. Dechreuodd fwrw eira i ddechrau ar y noson cyn Nadolig 1981. Yna, ar y 7 Ionawr bu wrthi yn ddi-baid am 36 awr mewn llawer o ardaloedd yng Ngwynedd. Roeddwn yn fyfyriwr yng Ngholeg Harlech ar y pryd a chael a chael oedd hi i gyrraedd adref heb fynd yn sownd yn yr eira. Syrthiodd y tymheredd yn is nag 20 gradd C a bu’n lluwchio’n drwm fel ei fod mor ddwfn a 15 troedfedd ar dir uchel, ac yn wir, ar lawr gwlad hefyd, fel rhannau o Benrhyn Llŷn. Roedd papur Daily Post gyda phennawd Saesneg a llun o’r awyr–‘Nid yr Alpau ond Blaenau Ffestiniog’.
Dyma lun arall o’r Daily Post gydag eira i fyny ar Fwlch Gorddinan. Credir mai gaeaf 1982 y tynnwyd hwn. Wel, o leiaf cyrhaeddodd y car i fyny at y bwlch. Aflwyddiannus a fu amryw a fentrodd drwy’r rhew a’r eira tros y blynyddoedd.
Er ei bod yn bosib’ inni gael eira mawr yn ystod y mis hwn hefyd, rwyf fel y gweddill ohonoch yn ddiau, yn gobeithio mai tyneru a wnaiff y tywydd a chawn wanwyn hyfryd a haf hirfelyn i’w ddilyn.
- - - - - - - - - -
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2024
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon