Megan Elin, Gweithiwr Prosiect Addysgol
Cychwynais hefo'r Dref Werdd yn gweithio rhan amser yn Chwefror 2022 yn gynorthwyydd amgylcheddol hefo Meg Thorman, ein gweithiwr prosiect amgylcheddol. Mi wnes i ddysgu lot yn fy mlwyddyn gyntaf a mwynheais fy hun hyd yn oed mwy!
Yn fy wythnos gyntaf ddysgais am Rododendrons, ag ers gweithio hefo nhw dwi’n cael trafferth i beidio'u gweld ym mhobman dwi’n mynd.
Diolch i ariannu gan y gronfa gymunedol loteri genedlaethol mae wedi bod yn bosib i fi weithio gyda'r Dref Werdd a dwi bellach yn weithiwr prosiect addysgol ers blwyddyn, ac yn hapus iawn yn fy rôl newydd hefyd! Mae fy rôl Newydd wedi bod yn hyblyg iawn, a dwi wedi gallu arbrofi a chynllunio rhaglen o ryw fath hefo ysgolion cynradd yn yr ardal leol.
Hyd at hyn mae pum ysgol wedi cytuno i weithio hefo fi. Rydw i efo disgyblion blwyddyn 3 o bob ysgol bob hanner tymor am flwyddyn, ac mae pob sesiwn yn cynnwys ffocws gwahanol o fewn yr amgylchedd ag y byd rydym yn byw ynddo.
Dwi’n gobeithio bydd y sesiynau yma yn rhoi'r wybodaeth a’r rhyddid i’r plant ymateb ei hunain ar sut rydym yn gofalu a pharchu’r blaned hon.
Rydw i hefyd yn cymryd rhan mewn sesiynau Dod Nôl At Dy Goed - dwi wrth fy modd efo’r sesiynau yma, ac wedi helpu trefnu rhai o’r sesiynau casglu sbwriel. Mae gen i dudalen ar Facebook, ‘Casglu a Chysylltu’ sydd yn cynnwys lluniau ‘cyn ac wedyn’ a gwybodaeth am ein digwyddiadau yn yr ardal leol.Y nifer gorau rydan ni wedi’u cael hyd yn hyn yw 27 o wirfoddolwyr o bob math o lefydd gwahanol fel Llwybrau Llesiant, Gisda a phob man arall!
Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan hyd yn hyn, ag mi fydd yna mwy yn dod fyny blwyddyn yma!
- - - - - - -
Erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Chwefror 2024
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon