29.4.17

Stolpia - Dywediadau ein bro

Pennod arall o gyfres reolaidd Steffan ab Owain.

Ar ôl darllen y golofn ddifyr Geiriau Coll*, euthum ati hi i nodi ychydig o eiriau a dywediadau lleol sy’n gysylltiedig â bodau llên gwerin, mytholeg a hanesion llafar ein gwlad. Efallai y gall rhai o’r darllenwyr ychwanegu tipyn atynt. Beth bynnag, dyma nhw:

Andras:
Mae  rhai ysgolheigion  yn olrhain  y gair hwn yn ôl i enw un o hen dduwiau’r Celtiaid, sef Andraste. Sut bynnag, yn ôl y geiriadur, tardda’r gair o an /gras neu anras, ac enw arall am y diafol neu’r gŵr drwg ydyw. Rywdro yn ei hanes, newidwyd un llythyren ynddo ar lafar a thueddir i’w ynganu fel andros, bellach. Efallai eich bod wedi clywed rhai’n dweud - ‘Mae fel yr andros heddiw’, neu ‘Wel yr andros fawr, be’ sy’ wedi digwydd?’  ‘Y mae hwn yn andros o anodd’ a.y.y.b.

Piod gan Lleucu Gwenllian. Dilynwch hi ar Instagram:  lleucu_illustration

Bo lol:
Ychydig iawn o bobl wyf yn ei glywed yn dweud yr enw hwn heddiw. Ei ystyr, yn ôl y geiriaduron, yw bwgan, bwci bo, y gŵr drwg. Am ryw reswm, nid yw’r geiriadur yn cyfeirio ato fel rhyw fod annaearol du a thywyll chwaith er mai fel hyn y defnyddir ef yn y cyffelybiaethau canlynol.

Clywais fy mam yn dweud sawl tro - ‘Mae hi cyn ddued â’r bo lól draw am y Moelwyn na’. Byddai ambell un yn dweud hefyd ei bod ‘fel y bolol o dywyll’ am rywle tywyll dros ben.
Dyma hen rigwm amdano:

     Bo lól ,bo lól
     A thwll yn ei fol

     Digon o le i geffyl a throl.

Bwgan:
Fel rheol, enw ar ysbryd drwg neu fwci bo yw, ynte? Ond ar adegau, defnyddir  y gair am rywbeth sy’n tarfu cynllun neu  amcanion rhywun. E.e. ‘Hwn ydi’r bwgan neu mi fuasai’r peth yn  gweithio’n iawn.’ Clywir  y lluosog iddo’n cael ei ddweud o dro i dro  mewn ambell gyfarfod  hefyd, h.y. pan fydd rhywun yn ‘taflu dŵr oer’ ar ryw gynllun arfaethedig oherwydd ei fod yn rhagweld rhyw broblem fawr neu gostau aruthrol yn sicr o ddeillio ohono. “O, y mae hwn yn ‘codi bwganod’ eto.” Idiom arall, er nad yn gyfarwydd iawn i mi, yw fersiwn arall o ‘rhych na gwellt’, sef gwneud synnwyr o rywbeth, megis  ‘Mi fethais i a gwneud na rhawn na bwgan o’i bregeth o’.

Coblyn:
Clywir y gair coblyn, a thro arall coblynedig, fel rhan o’n sgwrs, oni wneir? Er enghraifft, ‘Myn coblyn i’ neu efallai - ‘Beth goblyn y mae hwn yn ei wneud?’ Weithiau, dywedwn am rywun prysur ‘Ei fod wrthi hi fel y coblyn’, ac ar dywydd rhewllyd ‘Mae hi’n goblynedig o oer heddiw’. Ar adegau, clywir un yn dweud  am blant anystyriol a di-wrando: ‘Be mae’r coblynnod drwg wedi bod yn ei wneud rŵan?’ Dywediad arall gyda’r un elfen ynddo, ond yn  anaml iawn ei ddefnydd  yn ein hardal bellach, yw ‘Ar gefn ei goblyn’. Dyma a glywid gan ein teidiau a’n neiniau pan fyddai un yn anniddig neu’n ystyfnig ac yn gwrthod cyd-dynnu.

Gyda llaw, un o ystyron y gair coblyn yn wreiddiol yw ‘tylwythyn teg y mwynfeydd’,  ‘cnociwr’,  neu un o’r ‘meinars bach’ a fyddai’n cloddio yn ein mwynfeydd gynt ac yn arwain y mwynwyr at wythïen gyfoethog drwy eu dyfal gnocio. Tybed os  mai oherwydd y trwst diddiwedd a wneid ganddynt  y cyffelybir criw o blant swnllyd â nhw.

Gwrach:
Oes,y mae sawl dywediad gennym gydag enw yr hen wrach ynddo, hefyd. Er enghraifft, ceir yr ymadrodd ‘Breuddwyd gwrach’ neu ‘Breuddwyd gwrach wrth ei hewyllys’  am yr  ‘wishful thinking’ yn Saesneg, oni cheir?

Un arall sy’n weddol adnabyddus  i  amryw o’r to hŷn yw  ‘coel gwrach’. Ymadrodd llafar am  ofergoel yw hwn. e.e. ‘Rhyw goel gwrach yw credu bod sathru ar falwen ddu yn tynnu glaw, ynte?’ Rhywbeth yn debyg yw’r dywediad ‘chwedl gwrach’, sef ‘stori chwech’ fel dywed eraill. Ystyr y ddau ddywediad  yw stori heb ddim sylwedd iddi hi o gwbl. Mae gennyf gof o glywed  un o’r Blaenau un tro yn  disgrifio cegiad o ddannedd mawr blêr rhyw ddynes  fel ‘dannedd gwrach’. Dwn  i ddim os clywsoch chi am ddywediad tebyg?
------------------------------------------------

*Geiriau Coll

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2005.
Dilynwch gyfres Stolpia efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl geiriau ar y dde.



25.4.17

Sgotwrs Stiniog -Y Cogyn


Erthygl arall o gyfres reolaidd y diweddar Emrys Evans; y tro hwn yn edrych ymlaen at fis Mai.

Mawrth oerllyd a gwyntog
Ac Ebrill cawodog,
Ill dau a wnant rhyngddynt
Fai teg a godidog
’.

Dyna, yn ôl darogan yr hen bennill yma, sut mae hi i fod ym mis Mai, - sef, ‘teg a godidog’.  Gobeithio ei fod yn dweud y gwir, neu ei fod yn o agos ati.   Cawn weld faint o goel a fedrwn ni ei roi ar hen bennill o’r math yma.


Y COGYN

'Mae ymddangosiad y cogyn ar wyneb ein llynnoedd yn fwy na rhyw ddigwyddiad ym mlwyddyn y pysgotwr.  Mae yn achlysur arbennig ym Myd Natur, ac yng nghalendr y genweiriwr.

Fel yna, gan ychwanegu ryw ychydig ato, - ond fod J.W. Hills yn ei ddweud yn yr iaith fain - y mynegodd yr hyn a deimlai ynglŷn â’r cogyn. Yr afonydd calch yn ne Lloegr oedd mewn golwg ganddo ef,  a’r mwyaf o’r cogynnod, sef, cogyn Mai - nad ydym ni yn ei weld yn yr ardal yma.  Ond mae yr hyn a ddywedir gan J.W. Hills, rwy’n credu, yr un mor wir am ein llynnoedd mynyddig ni yn ardal ‘Stiniog, ag yw am yr afonydd araf eu rhediad sydd ar lawr gwlad yn Ne Lloegr.  Fel y mae’r cogyn Mai yn bwysig i’r genweirwyr yno, felly mae’r cogyn coch yr un mor bwysig i ninnau yma. 

Y cogyn coch yw’r un sydd i’w weld amlaf, ac sydd yn fwyaf niferus ar ein dyfroedd ni, ac mae hi’n mynd yn fis Mai arno’n dod i’r golwg.  Mae yna gogyn arall i’w weld ar ein dyfroedd, sef y cogyn brown, y gellir yn hawdd ei gamgymryd am y cogyn coch.  Nid yw mor gyffredin â’r un coch, na chwaith mor niferus, ac mae’n dod i’r golwg fel arfer ychydig o flaen y coch, sef yn rhan olaf mis Ebrill.  Fe’i gwelir yn aml ar Lyn y Morwynion.

Y ffordd i wahaniaethu rhwng y ddau fath yw edrych ar y ddwy adain fach sydd yng nghesail y ddwy adain fawr.  Prin y gellir gweld yr adain fach yn erbyn yr adain fawr yn y cogyn brown.  Ond mae dwy adain fach y cogyn coch yn oleuach eu lliw ac i’w gweld yn eithaf amlwg yn erbyn ei adain fawr.  Onid yw ymddangosiad y cogyn ‘yn achlysur arbennig .. yng nghalendr y genweiriwr?’

Hyd at fis Mai, a siarad yn gyffredinol, ychydig o bryfaid a welir o gwmpas ac ar ein llynnoedd.  Ambell i bry cerrig, dyweder, y pry bach du, Wil piser hir, - fel mae pobl Penrhyn Llŷn yn galw yr ‘Hawthorn Fly’,’ a brych y gro (efallai).  Tydi hi fawr ryfedd, felly, fod yna edrych ymlaen gan y genweirwyr at weld y cogyn yn dod i’r golwg ar wyneb y dŵr, gan ei fordwyo’n hyderus.

Ac onid yw gweld y cogyn, neu glywed gan gyd-enweiriwr fod y ‘cogyn’ allan, yn codi hyder, yn rhoi mwy o awch ar y pysgota, yn peri fod rhywun yn pysgota’n fanylach a chyda mwy o obaith?
Dim ond  y cogyn, boed yn goch neu yn frown, sy’n medru creu y teimlad yma mewn pysgotwr.

Wedi’r disgwyl hir am ddechrau’r tymor pysgota; wedi gweld mis Mawrth, ac efallai ran dda os nad y cyfan o fis Ebrill, heb fedru mynd allan hefo’r enwair, yn llithro o’i afael heb fawr ddim i ddangos andanynt.  Yna, mis Mai yn dod, a’r cogyn yn ymddangos!!  A chyda’r ‘achlysur arbennig’ yma, daw y teimlad cynyddol fod y tymor pysgota bellach wedi dechrau o ddifrif.

Blwyddyn neu ddwy yn ôl rhoddais batrwm ‘Cogyn Dafydd Dafis Penffridd’ yn y golofn sgotwrs, a’r tymor diwethaf cawiais ef o’r newydd a’i roi ar fy mlaen-llinyn.

Wn i ddim pryd y cafodd ei bysgota ddiwethaf.  Yn sicr mae hynny flynyddoedd yn ôl erbyn hyn.  Gwnaeth ychydig o bnawniau gweddol braf ym mis Mai a gwelwyd rywfaint o’r cogyn coch ar y dŵr, a daeth ‘Cogyn Penffridd’ (fel y’i gelwid y rhan amlaf), a sawl ‘sgodyn i’r gawell.

Rhoddodd gweld un o hen ‘Blu Stiniog’ - yn arbennig felly un o batrymau plu Dafydd Dafis - yn gweithio unwaith eto wedi’r holl flynyddoedd - rhyw bleser a gwefr neilltuol i mi.

NIMFF Y COGYN COCH

Pan eis i i’m dyddiadur pysgota i edrych pa blu a oedd wedi bod yn eu dal yn ystod mis Mai dros rai o’r blynyddoedd diwethaf er mwyn cael pluen i’w chynnig yn y golofn, yr oedd un bluen yn cael ei henwi yn weddol gyson.  A honno oedd ‘Nimff y Cogyn Coch’.  Er mai y ‘Nimff Coch-Frown’ y byddaf yn galw’r bluen y rhan amlaf.  Ond wedi ei llunio a’i chawio, y mae y bluen i geisio dynwared nimff y cogyn coch, fel mae hwnnw cyn iddo godi i wyneb y dŵr a throi yn gogyn. 

Nymff coch-frown.*
 Byddaf yn eithaf hoff o chwilio hyd lannau’r llynnoedd i weld beth sydd yno; codi carreg ar ôl carreg i weld a oes rhyw nimff neu’i gilydd yn llechu oddi tanynt yn y mân gilfachau.

Wrth wneud hyn dros amser, ac ymgynghori â rhai llyfrau sydd gennyf, dois i fedru gwahaniaethu rhwng rhai ohonynt.  Er enghraifft, medru gwahaniaethu rhwng nimff pry cerrig a nimffiau y cogyn coch a brown.  Wedi penderfynu pa rai oedd y nimffiau coch a brown, mynd ati wedyn i geisio cawio pluen a fuasai,
gobeithio, yn twyllo’r pysgodyn i dybio mai nimff go iawn ydoedd, a mynd amdano.

Wedi rhywfaint o arbrofi, dyma’r patrwm a luniais yn y diwedd:

Bach –     Maint 12.  Y math a elwir yn sproat
Eda Gawio –   Coch
Cynffon –     4 neu 5 oddi ar heislen gwar-coch ceiliog
Corff –     Ychydig mwy na hanner ôl y corff wedi’i wneud o heislen gwar-coch-ceiliog, - o liw canolig.  Dwy ochr yr heislen wedi eu torri o fewn rhyw chwarter modfedd i goes yr heislen.  Gweddill y corff o wlân cochddu. Rhoi cylchau o weiar gopr am y corff.  Gellir rhoi to dros y rhan gochddu o’r corff o ran o bluen cynffon ceiliog ffesant
Traed -     Rhyw ddau dro o heislen gwar-coch-ceiliog o liw canolig

Yn gynnar ym mis Mai, pan yw’r cogyn coch yn dechrau dod i’r golwg ar y dŵr, rhoir y Nimff Coch-frown ar y blaen-llinyn, - un ai yn bluen flaen neu yn bluen ganol.

Ers blwyddyn neu ddwy erbyn hyn mae y nimff yma wedi denu aml i bysgodyn i’r gawell, ac mae bellach yn un o’m dewis blu i ym mis Mai.  Tydi hi ddim yn llawer i edrych arni fel pluen, ond mae yn gwneud yr hyn y bwriadwyd iddi’i wneud!!
-----------------------------------------



*Llun (Gareth Jones) wedi'i sganio o lyfr 'Plu Stiniog' Emrys Evans.
 
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2006. Gallwch ddilyn cyfres Sgotwrs Stiniog efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


21.4.17

Y Saer yn Serennu'n y Selar

Erthygl gan Rhydian Morgan ar lwyddiant un o sêr pop y fro.

'Nôl ar Nos Sadwrn 18fed Chwefror, cynhaliwyd un o’r nosweithiau mwyaf yng ngherddoriaeth Cymru sef Gwobrau’r Selar* yn Aberystwyth.  Fe sefydlwyd y cylchgrawn yn ôl yn 2004 a dechreuodd y Gwobrau yn 2008 o fewn cloriau’r cylchgrawn. Gan ein bod ni yn meddu ar sîn gerddorol mor gyfoethog yng Nghymru, fe dyfodd y Gwobrau ac yn 2013, fe benderfynodd Owain Schiavone a’r criw gynnal ‘Noson Wobrwyo’r Selar’ ac mi brofodd hi fod yn noson fythgofiadwy!

Llun- gwefan Y Selar*

Oherwydd hyn, fe dyfodd y noson i  fod yn rhan annatod o’r calendr cerddorol yng Nghymru ac mae hi bellach yn cael ei gosod ar yr un lefel â digwyddiadau eraill fel Gŵyl Rhif 6 a Maes B o ran faint o edrych ymlaen sydd ymysg ffyddloniaid y sîn.

Mae Gwborau’r Selar bellach wedi ymgartrefu yn Undeb y Myfyrwyr, Prifysgol Aberystwyth ac roedd y noson yn llwyddiant ysgubol unwaith eto wrth i dros 1000 o bobl lenwi’r Undeb i ddathlu llwyddiannau’r Sîn Roc Gymraeg dros y flwyddyn diwethaf. Enillwyr mawr y noson oedd y band o ardal Caernarfon, Y Bandana, sydd bellach wedi chwalu ar ôl perfformio am y tro olaf yng Nghaernarfon y llynedd.

Llun- gwefan Y Selar*
Ond, yn bwysicach i ni drigolion ardal Llafar Bro, fe wnaeth y saer coed a’r cyn-bêl-droediwr o Lan Ffestiniog, Yws Gwynedd ennill dwy wobr ar y noson, sef yr ‘Artist Unigol Gorau’ (gan gwblhau’r hat-trick yn y broses) a’r ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau’(am yr 2il flwyddyn yn olynol) ar gyfer y gân, Sgrîn – mi oedd hon yn llwyr haeddu’r wobr ac mi fyswn i’n argymell unrhyw un sydd heb weld y fideo eto i chwilio amdano ar YouTube!

Dwi’n nabod Yws ers pan o’n i yn blentyn. Mi ddechreuodd ei yrfa cerddorol ar ddiwedd y 90au mewn band o’r enw Yr Anhygoel gydag Eilir, fy mrawd a dwi’n cofio yn glir hyd heddiw y noson pan gynhaliwyd rhyw fath o lansiad o’i sengl gynta nhw, Parti yn dy ben a minnau’n rhyw 9 mlwydd oed yn gwerthu copiau ar y drws efo Mici Plwm.

Bob tro dwi’n gweld Yws yn perfformio, boed yn  fyw neu ar y teledu, dwi wastad yn llawn balchder am yr hyn y mae o wedi ei gyflawni. Dwi am ddyfynnu llinell o’r hyn a sgwennwyd am y noson wobrwyo yn rhifyn diweddara’r Selar sydd yn profi pa mor boblogaidd ydi Yws, Ifan, Ems a Rich o fewn y Sîn Gymreig:
“Mae artist yn amlwg yn gwneud rhwybeth yn iawn os ydy o’n gallu cael blwyddyn dawel, ond dal ennill dwy wobr Gwobrau’r Selar”
Er y flwyddyn dawel, dwi’n rhagweld y byddwn yn ymweld â hanes y noson yma unwaith eto yr adeg yma flwyddyn nesaf gan fod ail albwm Yws a’r hogia wedi cael ei lansio mewn gig yn Theatr Bryn Terfel, Pontio Bangor ar Ebrill 7fed.

Llongyfachiada Yws a phob lwc ar gyfer yr holl bethau fydd yn digwydd ynghlwm a’r albwm newydd yn 2017.
--------------------------------------------

*Dolen at wefan Y Selar

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2017.
Addaswyd i adlewyrchu'r dyddiadau cyhoeddi.


18.4.17

Cynefinoedd anghysbell ein bro

Un o ddarlithoedd diweddar Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog oedd “Cynefinoedd anghysbell ein bro- Uwchafon a phen uchaf Cwm Cynfal” gan Vivian Parry Williams. Dyma flas o'r noson gan Robin Davies.

Soniodd Vivian am rai o dyddynod y Migneint, a hanes y bobl oedd yn byw yno, a bydd yn traddodi ail ran yr hanes yn rhaglen 2017-18 y Gymdeithas.

Rhaeadr y Cwm -Llun VPW

Canolbwyntiodd ar bedwar adeilad sydd bellach i gyd yn adfeilion. Y cyntaf oedd Ffynnon Eidda neu Tŷ Newydd y Mynydd ac fe ddefnyddiodd gyfrifiadau y bedwaredd ganrif ar bymtheg i ddangos pwy oedd yn byw yno. Tafarn oedd yr adeilad, yn cael ei adnabod fel ‘Tafarn y Porthmyn’ a sefydlwyd yn agos iawn i leoliad y ffynnon bresennol lle ysgrifennwyd ar ei charreg “Yf a bydd ddiolchgar”. Arferai anifeiliaid fel gwartheg y porthmyn yfed o'i dŵr fel y gwnai’r bobl. Cafodd sawl plentyn ei ddwyn i fyny yno ac yr oedd Vivian yn cwestiynu lle cawsant eu haddysg.

Ffynnon Eidda -Llun VPW


Yr ail adeilad oedd Felin Chwarel y Foelgron, yn agosach at Llyn Dubach y Bont. Defnyddiwyd y felin fel man ar gyfer cyfarfodydd a chlywsom am bobl oedd yn teithio yno o gyn belled â'r Blaenau i gymryd rhan mewn eisteddfodau a chyfarfodydd eraill. Yn ogystal, fe gynhaliwyd yr Ysgol Sul yno a tybiodd Vivian hwyrach mae yno cafodd plant Ffynnon Eidda eu haddysg.

 Y trydydd lle oedd Glan Dubach ble roedd un o enwogion yr ardal yn byw sef Gutun Ebrill, a symudodd i Batagonia yn 1872. Y pedwerydd o'r adeiladau oedd fferm Bronyfoel, a leolwyd yn is i lawr na Rhaeadr y Cwm. Hon oedd y fferm fwyaf ym mhlwy Maentwrog a gwelsom ar un o sleidiau Vivian fanylion o'r ocsiwn lle gwerthwyd hi ar ddiwedd y 19eg ganrif. Mae adfeilion yr hen fferm i'w gweld yno o hyd.

Bronyfoel -Llun VPW

Bu nifer o sylwadau ar y diwedd ac rwy’n siwr fydd pawb yn edrych ymlaen i gael yr ail ran o'r ddarlith. Talwyd y diolchiadau swyddogol gan Peter Jones gan ddweud ei fod wedi crwydro Cwm Cynfal o'r blaen ond y tro nesaf bydd yn gwybod mwy am yr adfeilion sydd heb enw i'w hadnabod ar y map.
--------------------------------------

Addaswyd o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2017.
Dilynwch hynt y Gymdeithas Hanes efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


15.4.17

Y Brythoniaid a'r Bro Bach

Mae wedi bod yn gyfnod prysur iawn  i'n timau ieuenctid gyda nifer o gemau'n cael eu chwarae er gwaethaf y tywydd ac ymdrechion Storm Doris i ddifetha'r caeau.

Cafwyd nifer o uchafbwyntiau hefyd gyda’r hyfforddwyr yn hapus iawn efo datblygiad y timau.  Y tîm dan 12 yn sefyll allan gyda sawl buddugoliaeth syfrdanol yn erbyn timau da a threfnus. 

Dywedodd Sion Arwel yr hyfforddwr, ar ôl curo Dolgellau 59 - 7,
"Gêm wych yn erbyn tîm sydd wastad yn gystadleuol yn ein herbyn. Hapus iawn o weld 6 chwaraewr gwahanol yn cael cais, ac roeddwn yn hapus iawn hefyd efo'r amddiffyn. Doedd neb eisiau methu tacl a neb am adael i Ddolgellau sgorio".  
Mewn 'Gŵyl Rygbi' fach yn Nolgellau llwyddodd y tîm dan 12 i guro'r Trallwng o 20 - 5, Y Drenewydd o  5 - 0 a chael gêm gyfartal ddi-sgôr efo'r Bala.

Bu perfformiadau gwych gan y timau eraill hefyd, gyda’r tîm dan 14 yn perfformio’n dda mewn colled anffodus o 39 - 10 yn Nolgellau, tra dangosodd y tîm dan 10 bod dyfodol disglair o'u blaenau wrth iddynt ddechrau cyd-chwarae'n dda.  Mi wnaeth Sion Roberts, eu hyfforddwr enwi Abdullah, Gwendolyn a Charlie fel Chwaraewyr y Mis a hwythau newydd ddechrau gyda’r tîm.

Paul Spruce hefyd yn hapus gyda'r tîmau dan 8 a dan 7 yn dilyn perffomiaidau eithaf ym Methesda, ac er iddynt golli, nhw oedd y mwyaf mwdlyd yno!  Cafodd Erin a Llion gais yr un a llongyfarchiadau i Beca ar ennill ei chap cyntaf.

Llun Alwyn Jones
Uchafbwynt y mis heb os, oedd y diwrnod agored/diwrnod noddwyr a gynhaliwyd yn Nolawel gyda chyfle i’r clwb ddiolch am gefnogaeth yr ardal a'r noddwyr.  Roedd Côr y Brythoniaid yn canu yno a chafodd y plant sesiwn hyfforddi ar y cae cyn gêm y tîm cyntaf a’r siawns i greu twnel wrth groesawu timau Bro a’r Bala i’r cae cyn y gêm, mi wnaeth bawb fwynhau y profiad yma. Cafwyd diwrnod cofiadwy iawn hefyd ar y trip a drefnwyd i weld tîm Cymru dan 20 yn erbyn Iwerddon ar Barc Eirias, Bae Colwyn ganol mis Mawrth. Cewch fwy o hanes y tro nesa.
-----------------------------------------



Addaswyd o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Mawrth 2017.

12.4.17

Bwrw Golwg -O Faentwrog i Minnesota


Cyfres achlysurol yn edrych ‘nôl ar rai o gymeriadau a sefydliadau hanesyddol ein bro. Y tro hwn, erthygl gan W. Arvon Roberts.

O FAENTWROG I MINNESOTA
Gwlad o lynnoedd, deng mil ohonynt, ac afonydd a choedwigoedd mawrion, gyda’r gaeaf yn eithriadol o galed tra bo’r haf yn eithriadol o boeth oedd Minnesota. Deuai’r Cymry yno o ddinas Utica, Efrog Newydd, gwladfeydd Ohio, a Chymru hefyd. Adeiladont gabanau coed bychan. Yr oedd yn fywyd caled ac yng ngaeaf 1857 bu i rhai farw o achos yr oerni mawr. Pan basiodd llywodraeth Abraham Lincoln ddeddf yn 1862 yn cynnig 160 o erwau i unrhyw wladychwr didwyll, daeth llawer ar ruthr i Minnesota, Kansas a thu hwnt.

Yno, 4000 o filltiroedd o dir eu hen wlad, y diwallwyd newyn cenedlaethau o werinwyr Cymreig am feddiannu tir. Ond yn yr un flwyddyn, ymfydodd y llwyth Sioux oherwydd iddynt golli eu heldir ac ymosodont ar wladychwyr heddychol Minnesota  (yr unig sefydliad Cymreig a fu mewn traferthion â’r Indiaid Cochion), lladdwyd cannoedd o wŷr, gwragedd a phlant, nifer ohonynt yn Gymry Cymraeg.

Yr oedd y boblogaeth Gymreig yno yn 1871 yn 1,500. Adeiladodd y Cymry 23 o gapeli yn y dalaith: 14 gan y Methodistiaid Calfinaidd, 8 gan yr Annibynwyr, ac 1 gan y Wesleaid yn South Bend. Bu’r dalaith yn amlwg am ei masnach ffwr cyn y gweithfeydd torri coed a thyfu grawn, ac ar ôl y Rhyfel Cartref adeiladwyd nifer o reilffyrdd cyfleus ar gyfer teithwyr a masnachwyr.

Un a dreuliodd rhan o’i oes yn Minnesota oedd Nicholas Jones, a anwyd yn Nhy’n yr Ynys, Maentwrog – gerllaw cartref Morgan Llwyd o Wynedd, awdur enwog ‘Y Tri Aderyn’. Enw ei dad oedd Evan Jones, a fu farw’n sydyn yng Nghapel Peniel, Llan Ffestiniog. Yr oedd newydd eistedd wrth ymyl drws y capel, ar ôl rhoi ei het o’i law, rhoddodd ei ben i lawr ar ochr y sêt  a bu farw, ar y Sul, Chwefror 27, 1838.

Cerdyn Post o gasgliad W. Arvon Roberts
Yr oedd Nicholas Jones yn un o 16 o blant. Bu yr hynaf ohonynt yn byw ym Mhenmachno (yr oedd yn tynnu at ei gant oed yn 1899) ac wedi bod yn bostmon o’r Llan i’r Betws am dros ddeugain mlynedd; a’r ieuengaf o’r plant, Richard N. Jones yn byw yn Minneapolis, Minnesota. Y mae dros 10,000 o drigolion y ddinas honno heddiw o dras Cymreig. Yr oedd Nicholas Jones yn dad i dri o blant. Tua’r flwyddyn 1838, priododd Margaret Ellis oedd ar y pryd yn aros gyda nain i Owen Evans, Minneapolis (gynt o Dolfanog, Talyllyn, Meirion), yn caeau Clwchion, ger Capel Eden, Trawsfynydd.

Ymfudodd Nicholas Jones a’i briod i’r America yn 1841. Wedi bod yn Efrog Newydd, Pensylfania ac yna Utica, symodont i Cambria, Wisconsin, lle bu’n cydfasnachu ac un o’r enw Van Dusen ar raddfa fawr. Yn ôl ei gofiannydd yr oedd “ganddo y ddawn i wneud a gwario arian”. Ar ôl hynny bu’n arwerthwr poblogaidd am sbel,  “a gogleisiai ei ddeiliaid gan ei ddigrifwch, nes gwneud iddynt brynu heb yn wybod iddynt eu hunain”.

Tra bu’n byw yn Minneapolis bu’n gloff, o ganlyniad i’r cryd cymalau. Bu farw mewn ysbyty ar ôl bod dan ofal nyrs brofedig yn Minneapolis, Mai 23, 1899, yn 87 mlwydd oed. Claddwyd ef wrth ochr ei briod yn Cambria, Wisconsin. Gwasanaethwyd gan y Parch. Owen Evans, Mineapolis (gynt o Ddolffannog, Talyllyn), mab y Parchedig Humphrey Evans, Ystradgwyn.
------------------------------------------------

Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2017.
Dilynwch gyfres Bwrw Golwg efo'r ddolen isod neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.