12.4.17

Bwrw Golwg -O Faentwrog i Minnesota


Cyfres achlysurol yn edrych ‘nôl ar rai o gymeriadau a sefydliadau hanesyddol ein bro. Y tro hwn, erthygl gan W. Arvon Roberts.

O FAENTWROG I MINNESOTA
Gwlad o lynnoedd, deng mil ohonynt, ac afonydd a choedwigoedd mawrion, gyda’r gaeaf yn eithriadol o galed tra bo’r haf yn eithriadol o boeth oedd Minnesota. Deuai’r Cymry yno o ddinas Utica, Efrog Newydd, gwladfeydd Ohio, a Chymru hefyd. Adeiladont gabanau coed bychan. Yr oedd yn fywyd caled ac yng ngaeaf 1857 bu i rhai farw o achos yr oerni mawr. Pan basiodd llywodraeth Abraham Lincoln ddeddf yn 1862 yn cynnig 160 o erwau i unrhyw wladychwr didwyll, daeth llawer ar ruthr i Minnesota, Kansas a thu hwnt.

Yno, 4000 o filltiroedd o dir eu hen wlad, y diwallwyd newyn cenedlaethau o werinwyr Cymreig am feddiannu tir. Ond yn yr un flwyddyn, ymfydodd y llwyth Sioux oherwydd iddynt golli eu heldir ac ymosodont ar wladychwyr heddychol Minnesota  (yr unig sefydliad Cymreig a fu mewn traferthion â’r Indiaid Cochion), lladdwyd cannoedd o wŷr, gwragedd a phlant, nifer ohonynt yn Gymry Cymraeg.

Yr oedd y boblogaeth Gymreig yno yn 1871 yn 1,500. Adeiladodd y Cymry 23 o gapeli yn y dalaith: 14 gan y Methodistiaid Calfinaidd, 8 gan yr Annibynwyr, ac 1 gan y Wesleaid yn South Bend. Bu’r dalaith yn amlwg am ei masnach ffwr cyn y gweithfeydd torri coed a thyfu grawn, ac ar ôl y Rhyfel Cartref adeiladwyd nifer o reilffyrdd cyfleus ar gyfer teithwyr a masnachwyr.

Un a dreuliodd rhan o’i oes yn Minnesota oedd Nicholas Jones, a anwyd yn Nhy’n yr Ynys, Maentwrog – gerllaw cartref Morgan Llwyd o Wynedd, awdur enwog ‘Y Tri Aderyn’. Enw ei dad oedd Evan Jones, a fu farw’n sydyn yng Nghapel Peniel, Llan Ffestiniog. Yr oedd newydd eistedd wrth ymyl drws y capel, ar ôl rhoi ei het o’i law, rhoddodd ei ben i lawr ar ochr y sêt  a bu farw, ar y Sul, Chwefror 27, 1838.

Cerdyn Post o gasgliad W. Arvon Roberts
Yr oedd Nicholas Jones yn un o 16 o blant. Bu yr hynaf ohonynt yn byw ym Mhenmachno (yr oedd yn tynnu at ei gant oed yn 1899) ac wedi bod yn bostmon o’r Llan i’r Betws am dros ddeugain mlynedd; a’r ieuengaf o’r plant, Richard N. Jones yn byw yn Minneapolis, Minnesota. Y mae dros 10,000 o drigolion y ddinas honno heddiw o dras Cymreig. Yr oedd Nicholas Jones yn dad i dri o blant. Tua’r flwyddyn 1838, priododd Margaret Ellis oedd ar y pryd yn aros gyda nain i Owen Evans, Minneapolis (gynt o Dolfanog, Talyllyn, Meirion), yn caeau Clwchion, ger Capel Eden, Trawsfynydd.

Ymfudodd Nicholas Jones a’i briod i’r America yn 1841. Wedi bod yn Efrog Newydd, Pensylfania ac yna Utica, symodont i Cambria, Wisconsin, lle bu’n cydfasnachu ac un o’r enw Van Dusen ar raddfa fawr. Yn ôl ei gofiannydd yr oedd “ganddo y ddawn i wneud a gwario arian”. Ar ôl hynny bu’n arwerthwr poblogaidd am sbel,  “a gogleisiai ei ddeiliaid gan ei ddigrifwch, nes gwneud iddynt brynu heb yn wybod iddynt eu hunain”.

Tra bu’n byw yn Minneapolis bu’n gloff, o ganlyniad i’r cryd cymalau. Bu farw mewn ysbyty ar ôl bod dan ofal nyrs brofedig yn Minneapolis, Mai 23, 1899, yn 87 mlwydd oed. Claddwyd ef wrth ochr ei briod yn Cambria, Wisconsin. Gwasanaethwyd gan y Parch. Owen Evans, Mineapolis (gynt o Ddolffannog, Talyllyn), mab y Parchedig Humphrey Evans, Ystradgwyn.
------------------------------------------------

Cyhoeddwyd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2017.
Dilynwch gyfres Bwrw Golwg efo'r ddolen isod neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.




No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon