16.12.13

Awdur y flwyddyn

Erthygl gan Lleucu Williams, o'r Blaenau, yn son am ei phrofiadau hi fel awdur y flwyddyn yn Ysgol y Moelwyn.

Hi oedd y cyntaf i ennill y wobr, yn noson wobrwyo Ysgol y Moelwyn, ym mis Tachwedd 2012. Gwahoddwyd hi'n ol i noson wobrwyo 2013, er mwyn cyflwyno'r wobr i Cadi Dafydd.

Llongyfarchiadau i'r ddwy. Daliwch ati i sgwennu, a chofiwch am Llafar Bro  eto yn y dyfodol!

Lleucu, Miss Eds, a Cadi

-----   -----   -----
GWELL HWYR NA HWYRACH!

Wrth ymddeol –rhy fuan o lawer- y llynedd o’i swydd fel Pennaeth yr Adran Gymraeg yn Ysgol y Moelwyn, mi adawodd Miss Gwen Edwards bres i’r ysgol, i gynnal gwobr flynyddol i awdur ifanc y flwyddyn, sef gwobr Miss Eds.
Flwyddyn yn ôl, fi gafodd y fraint o ennill y wobr newydd, am y tro cyntaf, yn noson wobrwyo’r ysgol, ac roedd yn braf cael derbyn y wobr gan Miss Eds, oedd wedi dychwelyd i’r ysgol am y noson. Er nad wyf wedi dewis Cymraeg na Saesneg fel pynciau lefel A, mae gen’ i ddiddordeb mewn ysgrifennu creadigol, ac yn ddarllenwraig frwd. Mi fues yn ddigon lwcus i gael fy newis i gynrychioli Ysgol y Moelwyn ar gwrs ysgrifennu yng Nghanolfan Tŷ Newydd tra ym mlwyddyn 10, a mwynhau’r profiad yn fawr iawn.
Pwrpas Gwobr Miss Eds yw cynnig profiad neu gyfleon i awduron ifanc ddatblygu eu crefft, trwy fynychu cwrs neu weithio efo awdur profiadol. Fe wnes i ddefnyddio fy ngwobr i weithio efo Bethan Gwanas, sef fy hoff awdur Cymreig (o bell ffordd!).
Yn ystod y flwyddyn ddwytha, dwi wedi bod mewn cysylltiad efo hi - roedd hi’n gosod testun ar gyfer y darnau: portread; ysgrif; a stori fer.  Roeddwn i wedyn yn gyrru’r gwaith ati fesul un trwy e-bost (yn hwyr, hanner yr amser!), ac roedd hi’n gyrru ei barn ar sut i’w wella’n ôl ata’i.
Fe wnes i gwrdd â hi dros goffi yng nghaffi T.H.Roberts, Dolgellau yn fuan yn y flwyddyn, er mwyn trafod rhai o’r darnau, ac mae hi’r un mor ddoniol go iawn ac mae hi yn ei llyfra’!
Roedd Bethan Gwanas yn garedig iawn ynglŷn â’r gwaith oeddwn wedi cyflwyno, ac mi fu Miss Eds ei hun yn hael ei chanmoliaeth hefyd wrth yrru cerdyn ataf yn ystod yr haf. Roedd o’n brofiad gwych i mi allu gweithio efo awdures go iawn - dwi wedi cael blas arni rŵan a dwi isio cario ‘mlaen i ‘sgwennu; beryg na fyswn i dal wrthi fel arall. Dwi wedi cael ordors ganddi i sgwennu rhywbeth ar gyfer eisteddfodau hefyd -a dwi ar ei hôl hi efo hynny hefyd! Mae hi'n son yn rheolaidd ar ei blog ac yn ei cholofn yn Yr Herald, ei bod hi dan bwysau deadlines o hyd, felly mae’n rhaid bod rhywfaint o bwysau’n fuddiol i awdur!
Mae’r wobr yn un flynyddol, a cefais i’r pleser o ddychwelyd i’r ysgol i gyflwyno Gwobr Awdur y Flwyddyn eleni i Cadi Dafydd. Dwi’n gobeithio bydd Cadi’n mwynhau ei hun cymaint a fi, a phob lwc iddi!
Un amod yn unig roddodd yr Ysgol a Mr Dewi Lake arna’i wrth ennill, sef fy mod yn rhoi pwt yn Llafar Bro am y profiad, ac yn ôl fy arferiad, mae o braidd yn hwyr!

13.12.13

Llwyddiannau Ysgol y Moelwyn

Pen Bandits y Bandio
Er nad yw pawb yn cytuno efo'r dull o fesur llwyddiant ysgolion uwchradd yng Nghymru, hoffai Llafar Bro  longyfarch Ysgol y Moelwyn -yn dîm rheoli, athrawon, staff a disgyblion- ar ddod i frig y tabl bandio diweddaraf.

Rydym ni bobl Bro Ffestiniog yn gwybod ers nifer o flynyddoedd ei bod hi'n ysgol ragorol, ac yn ymfalchio ym mhob llwyddiant a ddaw i'w rhan, ond o, roedd yn wych clywed, gwylio a darllen yn y newyddion am safle'r Ysgol fel yr orau trwy Gymru gyfan. A meddyliwch: cafodd bawb arall glywed, gweld a darllen am lwyddiant Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog, hefyd!

Diolch am ddod a newyddion da a rhinweddau ein milltir sgwar ni i sylw'r byd!


Dyma ddarnau o golofn reolaidd Ysgol y Moelwyn: gallwch ddarllen y newyddion yn llawn yn rhifyn Rhagfyr.

Gwthio'r cwch i'r dwr..


Bu rhai o’r disgyblion yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth caiacio yn ddiweddar. 
Gruff Dafydd a gipiodd y wobr gyntaf i fechgyn blynyddoedd 10 ac 11; daeth Erin Jones yn ail yn ei ras i enethod blynyddoedd 7, 8 a 9; a Hannah Williams yn 4ydd yn ei rhagras hi. 

Anfonaf Angel

Enillydd gwobr Cerddor y Moelwyn eleni oedd Tomos Griffiths o flwyddyn 7 am ganu Anfonaf Angel gan Robat Arwyn, efo Osian Burrough (canu) a Jordan Evans (harmonica) yn gydradd ail, a Shani Roberts (canu) ac Elin Roberts (telyn) yn gydradd drydydd.




Noson Wobrwyo


Braf oedd gweld y neuadd yn orlawn ddiwedd Tachwedd, gyda disgyblion, rhieni, cyn-ddisgyblion a chyfeillion yr ysgol. Mae’r noson yn gyfle i ddathlu llwyddiannau ein disgyblion. 
                                                  Dim ond rhai o enillwyr y noson.
Eleni oedd yr ail dro i ni gyflwyno Gwobr Miss Eds i Awdur y Flwyddyn hefyd. Bydd yr enillydd Cadi Dafydd yn cael cyfle i dderbyn hyfforddiant pellach fel awdures a dymunwn yn dda iddi.

Yn y blogiad nesa, cawn erthygl gan enillydd cyntaf Gwobr Miss Eds.


Roedd Llafar Bro yno ar y noson hefyd, ac roedd yn hyfryd nid yn unig i weld y bobl ifanc yn casglu eu tystysgrifau (a'u tocynnau siopa), yn canu a pherfformio, ond roedd yn wych gweld yr ysgol a'r llywodraethwyr a chyfeillion yr ysgol yn cydnabod ymdrech a llwyddiant y disgyblion.

Llongyfarchiadau gwresog i bawb.

10.12.13

Coch yr aeron ar y celyn

Erthygl gan un o'n golygyddion ni, Tecwyn Vaughan Jones, ar un o arferion hynafol y Nadolig, sef dod a phlanhigion bytholwyrdd i'r yn ystod y gaeaf.

Celyn. Llun PW



 Ystyriai ein hynafiaid fod rhywbeth arbennig yn perthyn i blanhigion oeddynt nid yn unig yn cadw’u dail dros y gaeaf ond hefyd yn dwyn ffrwyth, pan fo byd natur yn gyffredinol wedi hen fynd i gysgu.

Fe’u hystyrid fel symbolau o fywyd tragwyddol a dethlir eu hynodrwydd trwy ddyfeisio pob math o ddefodau i geisio ffrwyno arbenigrwydd y planhigion er mwyn budd bywyd pob dydd. Maent yn symbol o lwc a hapusrwydd ac yn sicr credid fod eu presenoldeb yn bendithio’r tŷ. 

Gyda dyfodiad Cristnogaeth condemniodd yr Eglwys gynnar y fath ofergoeledd a phaganiaeth … ond roedd hen ddefodau wedi eu gwreiddio’n ddwfn ac yn y diwedd bu raid i’r Eglwys dderbyn eu presenoldeb ond iddynt gael rhoi ystyr Cristnogol i’r defodau cysylltiedig.

Ystyrid hi’n weithred anlwcus iawn i ddod a’r planhigion hyn i’r tŷ cyn noswyl Nadolig … ddaw dim da i’r tŷ na’r teulu pe gwneid hyn.  Yn draddodiadol roedd yr Ŵyl Nadolig neu’r Gwyliau fel y’i gelwid yn parhau am ddeuddeng niwrnod a rhaid, yn ddefodol felly, ddifa’r bythwyrdd ar 6ed o Ionawr  yn ddi-ffael neu unwaith eto ddod ac anlwc ar y tŷ. 

Sut i’w difa? … yn ôl rhai dylid eu gadael i wywo a phydru tu allan i’r tŷ ac eraill rhaid oedd eu llosgi a chadw’r lludw dros y flwyddyn i ddod. Faint sy’n arfer yr hen ddefod yma erbyn heddiw a faint sy’n temtio ffawd trwy addurno yn rhy gynnar a thynnu’r addurn i lawr cyn y 6ed ?