29.1.17

Rhod y Rhigymwr -Y Blygain

Mae blwyddyn wedi diflannu i rywle ers i mi roi hanes ‘Y Blygain’ i chi’r darllenwyr. Mae honno bellach wedi dechrau gwreiddio’n ein hardal ni, diolch i ddycnwch Pegi Lloyd Williams. Cynhaliwyd yr ail ar ‘Sul Cynta’r Adfent’ eto yn 2016.

Flwyddyn yn ôl, cyfeiriais at y garol ‘Dim lle yn y llety’ gan Bryfdir, ac a osodwyd ar gerddoriaeth Owen Huws Davies. Diolch i un o erthyglau difyr fy nghyfaill a’m cyd-golofnydd Steffan ab Owain yn ei gyfres ‘Stolpia’, cyfeiriwyd at fardd a charolwr arall, sef William Jones, Corris ... a gododd dŷ o gerrig y gloddfa gyfagos yn y Rhiw a’i alw’n ‘Gwaliau Gleision’. Gwyddwn fod gan y gŵr hwnnw, fel Eos Bradwen, Ap Hefin ac Ap Glaslyn (y manylais arnyn nhw yn Rhod Ebrill 2016), gysylltiad teuluol â mi.

Tynnodd Steffan fy sylw at ysgrif gan Glan Barlwyd, Tanygrisiau yn y gyfres ‘Beirdd Answyddogol Cymru’ yn ‘CYMRU’ [O. M. Edwards] ... Cyfrol XXX1X (1910). Nodir yno i William Jones gael ei eni yn agos i Bwllheli, a’i adael yn amddifad wedi i’w dad gael ei ladd yn ‘Pont Rhos Goch’, lle’r oedd yn oruchwyliwr. Cymerwyd y William ifanc gan frawd ei fam i fyw i Gorris, lle magwyd ef i alwedigaeth chwarelwr. Evan Williams (1788-1851), Llainygroes, Corris Uchaf oedd yr ewyrthr hwnnw – fy hen, hen, hen daid o ochr fy mam. Un o gyffiniau’r Groeslon, Caernarfon oedd Evan Williams, a ddaeth i lawr i Gorris tua diwedd cyfnod Rhyfeloedd Napoleon, ac a briododd Elisabeth Evans, Pandy Abercorris ym 1818.

Credir i William Jones, ei briod, Jane a’u pedwar plentyn symud o Gorris i’r Blaenau tua diwedd y 1850au. Disgrifir ef gan fy hen daid, Richard Owen, Bronygog, Corris (1842-1909) yn un o’i ysgrifau i’r papur lleol ‘Y Negesydd’ (Awst 1907) fel ‘gŵr tal, tenau ... a oedd yn gweithio yn Chwarel Cwmtylian (Corris Uchaf) yn amser Rhyfel y Crimea ... yn ddifeinydd lled wych; yn siaradwr ymresymiadol ei arddull ac yn fardd ...’

Cyhoeddodd gyfrol o ‘Emynau ... a gyfansoddwyd wedi gwrandaw ar bregethau yn Rehoboth, Corris ym 1853’. Cynhwysir rhai o’r rhain yn ysgrif Glan Barlwyd, ynghyd â’r carolau plygain canlynol, sy’n unol ag arddull carolwyr y cyfnod. Dywed yr ysgrifwr iddo eu derbyn gan fab y bardd, Richard Jones, a fu, yn ôl fy hen daid, ‘yn dra adnabyddus mewn gwahanol gylchoedd byd ac eglwys’ yn ardal y Blaenau yn niwedd y 19eg ganrif a dechrau’r ganrif ddwytha.

Dyma flas o awen yr hen garolwr:

CAROL PLYGAIN (ar fesur ‘Difyrrwch Gwŷr Caernarfon’)

Daeth borau glân Nadolig ŵyl,
Do heddyw, annwyl yw,
A bore cofio’r bore mawr,
Daeth gwawr i ddynol ryw;
O eni’r Iesu, Ceidwad cu,
Ef haedda’i foli’n fawr,
A ddaeth i wisgo natur dyn
Yn addfwyn yma’n awr.

Rhyfeddod pob rhyfeddod faith
Oedd taith ein Iesu gwiw,
Pan fu yng ngwlad Judea draw
Cadd boen a braw a briw;
Efe oedd Dduw a dyn yn dod,
Rhyfeddod ydoedd fawr,
Mor isel yno dan y ne’
Heb le i roi ben i lawr.

Mae’n frenin heddyw, llawn o hedd
Ar orsedd nefoedd wen,
Uwchlaw i allu’r ddaear hon
A choron ar ei ben;
Mae’n llywodraethwr bery byth
A dilyth ar ei sedd,
Ac Ef fydd farnwr dynol ryw
‘Rôl codi’n fyw o’i fedd.

A dyma un arall ar fesur yr hen alawTrymder’:

O henffych fore wiwlon wedd,
Caed hedd i’r byd,
Trwy eni Iesu, aer y nef,
Daeth Ef mewn pryd;
Bu sôn amdano’n fore iawn
Gan hen broffwydi mawr eu dawn,
Do, bedair mil a phedair llawn,
Y sôn a fu;
Aeth heibio ddegau’n ddiau, do,
O genedlaethau, rhown ar go,
Cyn geni hwn yng Nghanan fro,
Gwlad hyfryd gu.

O fewn i furiau Bethlem dre
Rhoes gyntaf dro,
Tra byddo haul, tra bro a bryn,
Am hyn bydd co;
Ac yno ‘mhreseb gwael yr ych
Y ganwyd ef, ein Prynwr gwych,
Ei le oedd wael, a hardd ei ddrych
Ym more’i oes;
Ni cha’dd ond gw’radwydd mawr o hyd
Tra bu yn teithio yn y byd,
Ac amharch ga’dd i’w oes i gyd,
O’i grud i’w groes.

Diddorol ydy llinell 7 ym mhennill cynta’r garol uchod ... ‘Do, bedair mil a phedair lawn.’ Cofiaf fod yna hen Feibl bychan yn fy nghartref pan oeddwn yn fychan yn nodi’r flwyddyn ‘4004 Cyn Crist’ fel ‘blwyddyn creu’r byd’. Tybed a fu i rai ohonoch chi’r darllenwyr ddod ar draws y ffaith honno?

Er i mi fod yn chwilio ym mynwent Eglwys Dewi Sant, y Blaenau, rydw i wedi methu â dod o hyd i fedd William Jones hyd yma. Gwn o edrych ar gyfrifiadau iddo gael ei fedyddio ym mhlwy’ Llangybi oddeutu 1813 ac mae Glan Barlwyd yn nodi ymhle mae’i fedd, ac yn dyfynnu englyn coffa ei gyfaill, Meurig Elen, sydd arni:

William mewn bedd orwedda, - i olud
Nef eilwaith cyfoda;
Ei awen fyw ni wywa
Na’i gu iaith deg goeth a da.

Ymddengys, eto yn ôl Glan Barlwyd, mai brawd William Jones oedd postfeistr cyntaf Blaenau Ffestiniog, sef, Robert Jones y Rhiw, neu ‘RJ Rhiw’ fel yr adwaenid ef.
--------------------------------------------

Erthygl gan Iwan Morgan. Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2016

22.1.17

‘Stiniog â’r Rhyfel Mawr -Cofio ac Aros

Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf.

Byddai newyddion am filwyr 'ar goll' yn gadael ansicrwydd mawr ymysg teuluoedd. Tra byddai gobaith yn aros gartref mai wedi eu cymryd yn garcharorion fyddai hanes rhai, yr oedd y gobaith yn lleihau wrth i'r wythnosau a misoedd fynd heibio heb gael newyddion da. Dyna ddaeth i ran teulu o'r ardal ddiwedd 1916.

(Diolch i Nita Thomas am y llun)
Yn rhifyn 16 Rhagfyr 1916 o'r Rhedegydd cyhoeddwyd llun o'r Lefftenant Griffith Davies, Cae'r Ffridd, Tanygrisiau, ynghyd ag adroddiad byr amdano. Roedd llythyr wedi cyrraedd i'w rieni gan y Swyddfa Ryfel yn cadarnhau nad oedd gobaith bellach fod eu mab yn dal yn fyw, ac yntau ar goll ers 15 mis. (Daeth gwybodaeth yn ddiweddarach i Lefftenant Griffith, o'r 12fed Fataliwn o'r Gatrawd Gymreig, golli ei fywyd ym mrwydr Loos, Ffrainc ar 2 Hydref 1915.)    

Daeth gwybodaeth hefyd mai mab y bardd lleol, Bryfdir, y Preifat W.Emyr Jones oedd yn fuddugol mewn cystadleuaeth lenyddol a gynhaliwyd i dorri ar unffurfiaeth bywyd mewn Rest Camp yn Ffrainc. Enillodd y Preifat Jones ar gyfansoddi traethawd byr ar 'The social and commercial advantages of opening the Dardanelles.'

Dyma'r cyfnod y dechreuwyd rhedeg trên gweithwyr o'r Blaenau i Ddolgarrog, i weithio yn y gwaith alwminiwm yno. Roedd y gohebydd yn gresynu yn y sefyllfa ar y pryd, oherwydd mai rhedeg trenau i'r dref hon fyddai'n arferol cyn y rhyfel, meddai, yn hiraethus am y dyddiau hynny,
Gresyn na fyddai modd dod a rhyw ddiwydiant i gadw yn fyw ardal boblog fel Blaenau Ffestiniog, yr hon ardal a ddyrchafwyd hyd y nef mewn breintiau addysgol a chrefyddol, ac mae ei mynyddoedd yn hawlio sylw pob gwlad yn eu cyfoeth o lechfaen...Prysured dyddiau gwell i ni, a diwydiannau newyddion i roddi bywyd eto yn y fro lengar.
Er y pryderon am effeithiau'r Rhyfel Mawr ar gymdeithasau'r ardal, ac i nifer o ddigwyddiadau a arferid eu cynnal gael eu dileu ar dechrau’r helyntion, roedd ambell eisteddfod yn dal i gael eu cynnal yn y fro. Penodwyd Hedd Wyn yn un o feirniaid Eisteddfod Nadolig y Blaenau y flwyddyn honno, ffaith a gydnabyddwyd gan ohebydd Y Rhedegydd gyda’r geiriau ‘Well done yn wir!

Yn yr un rhifyn o’r papur hwnnw, ar 23 Rhagfyr 1916, cyhoeddwyd hysbyseb ynglŷn â’r rheol am gau’r llenni blackouts ar ffenestri tai yn y dref. Dan bennawd amlwg Screening the Lights, ychwanegwyd:
"In order to have an uniform rule to announce the Statutory Time each evening for screening of Lights in this District, a short blast with the Fire Alarm will be given 2 hours after sunset (Sundays Excluded)"
Mewn cyfarfod o'r Cyngor Dinesig fis Rhagfyr 1916, penderfynwyd cychwyn Cronfa Dewrion Ffestiniog. Erbyn hyn, fel y gwelid, yr oedd awyrgylch jingoistaidd misoedd cyntaf y rhyfel wedi newid i un oedd yn cydnabod realiti'r sefyllfa, wrth i'r milwyr gael eu lladd wrth y miloedd ar y ffrynt, a nifer fawr o fechgyn 'Stiniog a'r cyffiniau yn eu mysg. Dyma ddywedwyd wrth sefydlu'r gronfa:
"...Meiddiwn ddweyd hefyd nad oes blwyf wedi gwneyd ei ran yn well na Ffestiniog yn y rhyfel bresennol. Yr ydym oll fel plwyfolion wedi aberthu ein cyfran deg mewn aberth a dioddef caledi a chanlyniadau alaethus y Rhyfel. Mae maes y frwydr hefyd mewn gwahanol rannau o'r byd wedi ei gysegru a gwaed ein meibion ieuainc goreu, ac y mae bylchau yn nheuluoedd y plwyf yn dwyn tystiolaeth ddistaw ond hyawdl i'r aberth a brofwyd. Yn awr, y ddyledswydd odidocaf adewir i ninau gyflawni yw gwneuthur coffadwriaeth ein dewrion yn fendigedig, nid yn unig i'r oes bresenol, eithr i'r oesau sydd eto i ddyfod."

Y bwriad ar y pryd oedd codi cofeb mewn man cyhoeddus ar gofgolofn yn ddibynnol ar swm y Gronfa. Ychwanegwyd fod 'bonheddwyr lleol', pwy bynnag oeddynt, wedi addo cyfrannu tuag at y gronfa. Aeth y gohebydd ymlaen yn athronyddol...
"Cyfnod o golli yw amser y Rhyfel wedi bod i ninau, ond disgwyliwn ennill llawer drwyddi, ac uwchlaw popeth enillion i'n dewrion y parch ac anrhydedd a deilyngant. Derbynir pob rhodd gan y Trysorydd neu un o'r Swyddogion."
Tybed beth a ddywedai'r cynghorwyr rheiny, ac eraill a fu'n ddiwyd godi arian tuag at gael cofeb haeddiannol i'r bechgyn a aberthwyd - yr Ysbyty Coffa a godwyd er cof amdanynt - petaent wedi rhagweld y diffyg parch i'r aberth hwnnw gan aelodau'r Bwrdd Iechyd a fu'n gyfrifol o gau'r ysbyty ymhen llai na chanrif?

I gyfleu'r eilunaddoli a fodolai ymysg dosbarth gweithiol yr ardal hon tuag at David Lloyd George, cyhoeddwyd copi o lythyr a anfonwyd iddo gan Hugh Thomas, ysgrifennydd Ciniawdy 'B', Chwarel Maenofferen. Gwelir y llythyr yn rhifyn olaf Y Rhedegydd am 1916, ar y 23ain o Ragfyr.

Llythyr o ddymuniadau gorau aelodau'r tŷ bwyta iddo. Roedd y geiriau'n adlewyrchu meddylfryd chwarelwyr 'Stiniog ar y pryd, a'u hedmygedd o'r prif-weinidog newydd.
'Dringasoch bob cam o'r ffordd, nes cyrhaedd o honnoch uchaf yr ysgol, a chawsoch eich hunan yn teithio yn y cerbyd agosaf i'r Brenin...'
--------------------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2016.                      
Dilynwch gyfres Stiniog a'r Rhyfel Mawr efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


15.1.17

Dadorchuddio cofeb i Gwyn

Ar brynhawn Sadwrn ym mis Tachwedd, daeth nifer dda o bobol yr ardal ynghyd i weld dadorchuddio carreg goffa i’r diweddar Gwyn Thomas ar wal Tŷ Capel Carmel, sef  lle y cafodd Gwyn ei eni.



Mae’r diolch am drefnu’r digwyddiad yn mynd i griw gweithgar Papur y Gymuned yn Nhanygrisiau ac yn arbennig i Gwilym Price a fu’n gyfrifol am gymaint o’r trefniadau.

Oherwydd y tywydd anwadal, bu’n rhaid cynnal rhan arweiniol y dathliadau yn y capel ei hun, efo Ceinwen Humphreys yn llywio’r gweithgareddau yn ei dull deheuig ei hun.

Ar gais y trefnwyr, traddododd Geraint V. Jones air o deyrnged i’w hen gyfaill. Roedd y goflech, meddai yn cael ei gosod ar y tŷ: 
‘... yn deyrnged weledol i ysgolhaig disglair, llenor o’r radd  flaenaf a bardd oedd â gweledigaeth unigryw iawn ar fywyd. Dyma’r dyn a allai sgwrsio’n wybodus un funud am yr Hengerdd a’r Mabinogi, am Forgan Llwyd o Gynfal ac Ellis Wyn o’r Las Ynys, ac yna droi i sôn yr un mor wybodus am bêldroed a chriced a chwaraeon o bob math.’ 
Ac ni ddylid anghofio chwaith, meddai Geraint,  ddiddordeb Gwyn yn ffilmiau cowbois Hollywood yr oes o’r blaen pan fyddai rheini yn cael eu dangos yn y Forum ac yn y Park Cinema ers talwm!
‘Yr un dyn yn union oedd Gwyn Thomas yr ysgolhaig â’r Gwyn Tom oedd yn ymhyfrydu cymaint yn ei blentyndod a’i wreiddiau, yma yn Nhanygrisiau ac yn y Blaenau.’
I ddilyn, daeth Jennifer, gweddw Gwyn, ymlaen i dalu gair o ddiolch i bobol Tanygrisiau ar ran y teulu.

Yna, i ddiweddu’r cyfarfod, caed datganiad diddorol a chaboledig gan gôr plant Ysgol Tanygrisiau o un o gerddi Gwyn, sef ‘Pethau Rhyfedd’.

Aeth pawb allan wedyn i fod yn dystion i seremoni dadorchuddio’r goflech gan Jennifer ac yno, yn gwmni i’w mam, roedd Rhodri ei mab, Heledd ei merch a Brychan, Iolo ac Ynyr yr wyrion. Yn anffodus, ni allai Ceredig, ei mab arall, fod yn bresennol oherwydd galwadau eraill, gryn bellter i ffwrdd yn Llundain, y diwrnod hwnnw.

Gwahoddwyd pawb wedyn i festri’r capel i fwynhau gwledd wirioneddol o frechdanau a chacennau o bob math, wedi ei pharatoi gan chwiorydd  Carmel.

Er gwaetha’r tywydd, bu’r digwyddiad yn  un i’w gofio a’i werthfawrogi.

[Cynlluniwyd y goflech gan Richard Thomas ac arni fe welir llun tylluan, sef hoff aderyn Gwyn, ac eirlys, neu dlws yr eira, ei hoff flodyn.]
----------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2016. Cafwyd yr isod wedyn yn rhifyn Ionawr:

Annwyl Olygydd,
Ar b’nawn o Dachwedd, o dan y ‘Cymylau Gwynion’ disgwyliadwy yn ’Stiniog a Tanygrisia’, anrhydedd oedd medru bod yn bresennol yn Capel Carmel, ynghŷd â theulu Gwyn, llawer o hen ffrindiau a’r gymuned, yn y seremoni i ddadorchuddio'r Plac Coffa i Gwyn Thomas ar ei fan geni.
 

Ni ddylai yr achlysur yma fynd heibio heb roi sylw i berfformiad rhagorol Côr Plant Ysgol Tanygrisia’ yn y seremoni. Rwy'n siŵr y byddai fy niweddar fodryb, Catherine McShane, ‘Delfryn ', cyn-brifathrawes Ysgol Tanygrisia' ac aelod gydol oes o Carmel, wedi bod yn falch iawn o’r cyfle i wrando ar berfformiad hyfryd y Côr yn canu 'Pethau Rhyfedd', un o gerddi Gwyn Tom ei hun ...... heb anghofio am dipyn bach o help iddynt gan Wenna Francis Jones wrth gwrs! Heb amheuaeth mi ddylai hon fod yn 'No.1' yn reit fuan! 

 Hefyd, diolch i S4C am ail-redeg yr eitem i ddadorchuddio'r Plac Coffa ar y rhaglen ‘Heno’ ac ar ‘Dal Ati’ i gynnwys tamad o’r plant yn canu.

Len Roberts 

(gynt o 106 Wuns Rôd, ‘Hope Villa’ ac ‘Eifion Stores’, heb anghofio chwaith yr hen ‘Le Biliards ar Bont Cwins’!
 

10.1.17

Cystadleuaeth logo Gŵyl Cerdd Dant Blaenau Ffestiniog a`r Fro 2018!

Manylion cystadleuaeth a ymddangosodd yn rhifyn Rhagfyr 2016.
Brysiwch! Dim ond deuddydd sydd ar ôl i gael eich syniadau i mewn...

 ** mae'r dyddiad wedi'i ymestyn i'r 23ain**

Mae’r pwyllgor gwaith yn trefnu cystadleuaeth i ddewis logo swyddogol ar gyfer yr ŵyl. Dyma`r canllawiau:

•    Dylai’r logo gyfleu neges am yr ŵyl a`r ardal leol.

•    Awgrymir y dylai logo fod yn syml ac yn cynnwys llinellau clir.

•    Dyddiad cau ydy: dydd Iau 12 Ionawr 2017.

•    Ceir gwobr ar gyfer yr ymgais fuddugol.

•    Dylid anfon pob ymgais i sylw: Annette Morris, Ysgol y Moelwyn

(ebost: sw[AT]moelwyn.gwynedd.sch.uk)
neu Ysgol y Moelwyn, Ffordd Wynne, Blaenau Ffestiniog LL41 3DW.

Edrychwn ymlaen at dderbyn  ceisiadau cyffrous!


-----------------------------

Dyma logos gwyliau 2016 a 2017 er mwyn rhoi syniad o'r hyn sydd ei angen.


6.1.17

Stolpia -Bwyd Chwarel 2

Pennod arall o gyfres reolaidd Steffan ab Owain; ail ran ei drafodaeth am ginio gwaith.

Bwyd y Chwarelwr

Os cofiwch, soniais* am rai o’r pethau a ddefnyddid gynt gan ein chwarelwyr i gludo eu bwyd i’r gwaith.  Y mae’n amlwg o ddarllen ambell beth am yr hen drefn o gario ymborth i’r chwarel ei fod yn amrywio o gyfnod i gyfnod, ac o bosib, o ardal i ardal, hefyd.  Beth bynnag, dyma hanesyn a godais o golofn Glan Rhyddallt, sef Atgof a Chofnod a ymddangosai yn yr Herald Cymraeg yn ystod y tridegau.

Llun -Paul W
Cofiaf am y cyfnod y byddai’r brechdanau yn cael eu lapio mewn papur, neu gadach lliain gwyn.  Ceiliog y byddwn ni yn Chwarel Dinorwig yn galw pecyn o frechdanau fel hyn ... Mae’n anodd dweud paham y gelwir ef yn geiliog, ond gwelaf fod hen air tebyg iddo a arferid am lapio rhywbeth i fyny, sef ceilio, ... Clywais rai o goliers Pennsilfania yn ei alw’n Tomi a chredaf mai dyna yw yn Neheudir Cymru, hefyd.

Yn ôl Casgliad o Dermau Chwarel R. Emrys Jones a ymddangosodd ym Mwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd 1962, golyga hefyd:
Paced o fwyd yn barod i’w roi yn nhun bwyd y chwarelwr (Ffraethineb) y chwarelwr, mae’n debyg - ceiliog i ginio.

Bum yn meddwl, tybed ai oherwydd tebygrwydd y pecyn i ben a phig ceiliog oedd yn wreiddiol?  Dim ond dyfalu ydwyf.  Beth bynnag, a oes un ohonoch wedi clywed rhai’n defnyddio’r enw hwn am becyn bwyd yn ‘Stiniog?

Bwyd y Baricswyr

Gwell imi grybwyll hefyd fel y byddai’r mwyafrif o’r hen faricswyr yn cario’u bwyd i’r chwarel.  Y drefn fel rheol ganddynt hwy oedd defnyddio math o obennydd o liain gwyn a elwid waled neu walat a fyddai’n cynnwys bwyd am o leiaf dridiau, neu wythnos gyfan gan amlaf.  Cerid hi dros yr ysgwydd ac er cael cydbwysedd yr oedd un hanner ar y frest a’r llall ar y cefn.

Yn hanes cynnar y Parchedig Robert Llugwy Owen MA; PhD (1836-1906) sonnir amdano yn cerdded pob bore Llun o Fetws y Coed dros Fwlch y Gorddinen i’r Gloddfa Ganol gyda’i dorth ar ei gefn, a llond ei bocedi o lyfrau er mwyn eu darllen yn y barics dros yr wythnos waith.  Efallai y caf sôn am yr hen chwarelwyr a’r baricsod rywdro eto.  Y mae hanes yr hen weithwyr yn baricsio yn y gwahanol chwareli a’n tref yn bur ddiddorol.

Tun Bwyd y Chwarelwyr

llun, gyda diolch o wefan CASGLIAD y WERIN**
Yn ddiamau, dyma’r cludydd bwyd y mae’r mwyafrif ohonom yn gybyddus ag ef, ynte?

Pan oeddwn i’n gweithio yn y chwarel byddai llawer o’r hen do gyda’r tuniau hen ffasiwn, sef y rhai ag un pen yn hanner crwn a’r pen arall yn hirsgwar,

h.y. yr un siâp a’r dorth a ddefnyddid yn gyffredinol y pryd hwnnw.




Erbyn yr 1960au, os nad cynt, defnyddid tuniau Oxo gan amryw ohonom ni’r criw ifanc, a chofiaf un tro pan gefais godwm ar y llwybr gwaith wrth fynd adref a gwasgu’r tun bob siap ... ond diolch i’r drefn nid oeddwn i ddim gwaeth ac roedd y bwyd wedi ei fwyta!

Rai blynyddoedd yn ôl deuthum ar draws englyn o waith Glan Tecwyn i’r tun bwyd.  Dyma fo:


Tun Bwyd y Chwarelwr
Hyglodus ymborth gludwr - heb ei ail
Yw tun bwyd y gweithiwr;
Gwpwrdd del, diogel dwr,
Lle i fara llafurwr.
--------------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2005.

* Rhan gynta'r drafodaeth
** Gwefan Casgliad y Werin