29.1.17

Rhod y Rhigymwr -Y Blygain

Mae blwyddyn wedi diflannu i rywle ers i mi roi hanes ‘Y Blygain’ i chi’r darllenwyr. Mae honno bellach wedi dechrau gwreiddio’n ein hardal ni, diolch i ddycnwch Pegi Lloyd Williams. Cynhaliwyd yr ail ar ‘Sul Cynta’r Adfent’ eto yn 2016.

Flwyddyn yn ôl, cyfeiriais at y garol ‘Dim lle yn y llety’ gan Bryfdir, ac a osodwyd ar gerddoriaeth Owen Huws Davies. Diolch i un o erthyglau difyr fy nghyfaill a’m cyd-golofnydd Steffan ab Owain yn ei gyfres ‘Stolpia’, cyfeiriwyd at fardd a charolwr arall, sef William Jones, Corris ... a gododd dŷ o gerrig y gloddfa gyfagos yn y Rhiw a’i alw’n ‘Gwaliau Gleision’. Gwyddwn fod gan y gŵr hwnnw, fel Eos Bradwen, Ap Hefin ac Ap Glaslyn (y manylais arnyn nhw yn Rhod Ebrill 2016), gysylltiad teuluol â mi.

Tynnodd Steffan fy sylw at ysgrif gan Glan Barlwyd, Tanygrisiau yn y gyfres ‘Beirdd Answyddogol Cymru’ yn ‘CYMRU’ [O. M. Edwards] ... Cyfrol XXX1X (1910). Nodir yno i William Jones gael ei eni yn agos i Bwllheli, a’i adael yn amddifad wedi i’w dad gael ei ladd yn ‘Pont Rhos Goch’, lle’r oedd yn oruchwyliwr. Cymerwyd y William ifanc gan frawd ei fam i fyw i Gorris, lle magwyd ef i alwedigaeth chwarelwr. Evan Williams (1788-1851), Llainygroes, Corris Uchaf oedd yr ewyrthr hwnnw – fy hen, hen, hen daid o ochr fy mam. Un o gyffiniau’r Groeslon, Caernarfon oedd Evan Williams, a ddaeth i lawr i Gorris tua diwedd cyfnod Rhyfeloedd Napoleon, ac a briododd Elisabeth Evans, Pandy Abercorris ym 1818.

Credir i William Jones, ei briod, Jane a’u pedwar plentyn symud o Gorris i’r Blaenau tua diwedd y 1850au. Disgrifir ef gan fy hen daid, Richard Owen, Bronygog, Corris (1842-1909) yn un o’i ysgrifau i’r papur lleol ‘Y Negesydd’ (Awst 1907) fel ‘gŵr tal, tenau ... a oedd yn gweithio yn Chwarel Cwmtylian (Corris Uchaf) yn amser Rhyfel y Crimea ... yn ddifeinydd lled wych; yn siaradwr ymresymiadol ei arddull ac yn fardd ...’

Cyhoeddodd gyfrol o ‘Emynau ... a gyfansoddwyd wedi gwrandaw ar bregethau yn Rehoboth, Corris ym 1853’. Cynhwysir rhai o’r rhain yn ysgrif Glan Barlwyd, ynghyd â’r carolau plygain canlynol, sy’n unol ag arddull carolwyr y cyfnod. Dywed yr ysgrifwr iddo eu derbyn gan fab y bardd, Richard Jones, a fu, yn ôl fy hen daid, ‘yn dra adnabyddus mewn gwahanol gylchoedd byd ac eglwys’ yn ardal y Blaenau yn niwedd y 19eg ganrif a dechrau’r ganrif ddwytha.

Dyma flas o awen yr hen garolwr:

CAROL PLYGAIN (ar fesur ‘Difyrrwch Gwŷr Caernarfon’)

Daeth borau glân Nadolig ŵyl,
Do heddyw, annwyl yw,
A bore cofio’r bore mawr,
Daeth gwawr i ddynol ryw;
O eni’r Iesu, Ceidwad cu,
Ef haedda’i foli’n fawr,
A ddaeth i wisgo natur dyn
Yn addfwyn yma’n awr.

Rhyfeddod pob rhyfeddod faith
Oedd taith ein Iesu gwiw,
Pan fu yng ngwlad Judea draw
Cadd boen a braw a briw;
Efe oedd Dduw a dyn yn dod,
Rhyfeddod ydoedd fawr,
Mor isel yno dan y ne’
Heb le i roi ben i lawr.

Mae’n frenin heddyw, llawn o hedd
Ar orsedd nefoedd wen,
Uwchlaw i allu’r ddaear hon
A choron ar ei ben;
Mae’n llywodraethwr bery byth
A dilyth ar ei sedd,
Ac Ef fydd farnwr dynol ryw
‘Rôl codi’n fyw o’i fedd.

A dyma un arall ar fesur yr hen alawTrymder’:

O henffych fore wiwlon wedd,
Caed hedd i’r byd,
Trwy eni Iesu, aer y nef,
Daeth Ef mewn pryd;
Bu sôn amdano’n fore iawn
Gan hen broffwydi mawr eu dawn,
Do, bedair mil a phedair llawn,
Y sôn a fu;
Aeth heibio ddegau’n ddiau, do,
O genedlaethau, rhown ar go,
Cyn geni hwn yng Nghanan fro,
Gwlad hyfryd gu.

O fewn i furiau Bethlem dre
Rhoes gyntaf dro,
Tra byddo haul, tra bro a bryn,
Am hyn bydd co;
Ac yno ‘mhreseb gwael yr ych
Y ganwyd ef, ein Prynwr gwych,
Ei le oedd wael, a hardd ei ddrych
Ym more’i oes;
Ni cha’dd ond gw’radwydd mawr o hyd
Tra bu yn teithio yn y byd,
Ac amharch ga’dd i’w oes i gyd,
O’i grud i’w groes.

Diddorol ydy llinell 7 ym mhennill cynta’r garol uchod ... ‘Do, bedair mil a phedair lawn.’ Cofiaf fod yna hen Feibl bychan yn fy nghartref pan oeddwn yn fychan yn nodi’r flwyddyn ‘4004 Cyn Crist’ fel ‘blwyddyn creu’r byd’. Tybed a fu i rai ohonoch chi’r darllenwyr ddod ar draws y ffaith honno?

Er i mi fod yn chwilio ym mynwent Eglwys Dewi Sant, y Blaenau, rydw i wedi methu â dod o hyd i fedd William Jones hyd yma. Gwn o edrych ar gyfrifiadau iddo gael ei fedyddio ym mhlwy’ Llangybi oddeutu 1813 ac mae Glan Barlwyd yn nodi ymhle mae’i fedd, ac yn dyfynnu englyn coffa ei gyfaill, Meurig Elen, sydd arni:

William mewn bedd orwedda, - i olud
Nef eilwaith cyfoda;
Ei awen fyw ni wywa
Na’i gu iaith deg goeth a da.

Ymddengys, eto yn ôl Glan Barlwyd, mai brawd William Jones oedd postfeistr cyntaf Blaenau Ffestiniog, sef, Robert Jones y Rhiw, neu ‘RJ Rhiw’ fel yr adwaenid ef.
--------------------------------------------

Erthygl gan Iwan Morgan. Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2016

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon