Byddai newyddion am filwyr 'ar goll' yn gadael ansicrwydd mawr ymysg teuluoedd. Tra byddai gobaith yn aros gartref mai wedi eu cymryd yn garcharorion fyddai hanes rhai, yr oedd y gobaith yn lleihau wrth i'r wythnosau a misoedd fynd heibio heb gael newyddion da. Dyna ddaeth i ran teulu o'r ardal ddiwedd 1916.
(Diolch i Nita Thomas am y llun) |
Daeth gwybodaeth hefyd mai mab y bardd lleol, Bryfdir, y Preifat W.Emyr Jones oedd yn fuddugol mewn cystadleuaeth lenyddol a gynhaliwyd i dorri ar unffurfiaeth bywyd mewn Rest Camp yn Ffrainc. Enillodd y Preifat Jones ar gyfansoddi traethawd byr ar 'The social and commercial advantages of opening the Dardanelles.'
Dyma'r cyfnod y dechreuwyd rhedeg trên gweithwyr o'r Blaenau i Ddolgarrog, i weithio yn y gwaith alwminiwm yno. Roedd y gohebydd yn gresynu yn y sefyllfa ar y pryd, oherwydd mai rhedeg trenau i'r dref hon fyddai'n arferol cyn y rhyfel, meddai, yn hiraethus am y dyddiau hynny,
Gresyn na fyddai modd dod a rhyw ddiwydiant i gadw yn fyw ardal boblog fel Blaenau Ffestiniog, yr hon ardal a ddyrchafwyd hyd y nef mewn breintiau addysgol a chrefyddol, ac mae ei mynyddoedd yn hawlio sylw pob gwlad yn eu cyfoeth o lechfaen...Prysured dyddiau gwell i ni, a diwydiannau newyddion i roddi bywyd eto yn y fro lengar.Er y pryderon am effeithiau'r Rhyfel Mawr ar gymdeithasau'r ardal, ac i nifer o ddigwyddiadau a arferid eu cynnal gael eu dileu ar dechrau’r helyntion, roedd ambell eisteddfod yn dal i gael eu cynnal yn y fro. Penodwyd Hedd Wyn yn un o feirniaid Eisteddfod Nadolig y Blaenau y flwyddyn honno, ffaith a gydnabyddwyd gan ohebydd Y Rhedegydd gyda’r geiriau ‘Well done yn wir!’
Yn yr un rhifyn o’r papur hwnnw, ar 23 Rhagfyr 1916, cyhoeddwyd hysbyseb ynglŷn â’r rheol am gau’r llenni blackouts ar ffenestri tai yn y dref. Dan bennawd amlwg Screening the Lights, ychwanegwyd:
"In order to have an uniform rule to announce the Statutory Time each evening for screening of Lights in this District, a short blast with the Fire Alarm will be given 2 hours after sunset (Sundays Excluded)"Mewn cyfarfod o'r Cyngor Dinesig fis Rhagfyr 1916, penderfynwyd cychwyn Cronfa Dewrion Ffestiniog. Erbyn hyn, fel y gwelid, yr oedd awyrgylch jingoistaidd misoedd cyntaf y rhyfel wedi newid i un oedd yn cydnabod realiti'r sefyllfa, wrth i'r milwyr gael eu lladd wrth y miloedd ar y ffrynt, a nifer fawr o fechgyn 'Stiniog a'r cyffiniau yn eu mysg. Dyma ddywedwyd wrth sefydlu'r gronfa:
"...Meiddiwn ddweyd hefyd nad oes blwyf wedi gwneyd ei ran yn well na Ffestiniog yn y rhyfel bresennol. Yr ydym oll fel plwyfolion wedi aberthu ein cyfran deg mewn aberth a dioddef caledi a chanlyniadau alaethus y Rhyfel. Mae maes y frwydr hefyd mewn gwahanol rannau o'r byd wedi ei gysegru a gwaed ein meibion ieuainc goreu, ac y mae bylchau yn nheuluoedd y plwyf yn dwyn tystiolaeth ddistaw ond hyawdl i'r aberth a brofwyd. Yn awr, y ddyledswydd odidocaf adewir i ninau gyflawni yw gwneuthur coffadwriaeth ein dewrion yn fendigedig, nid yn unig i'r oes bresenol, eithr i'r oesau sydd eto i ddyfod."
Y bwriad ar y pryd oedd codi cofeb mewn man cyhoeddus ar gofgolofn yn ddibynnol ar swm y Gronfa. Ychwanegwyd fod 'bonheddwyr lleol', pwy bynnag oeddynt, wedi addo cyfrannu tuag at y gronfa. Aeth y gohebydd ymlaen yn athronyddol...
"Cyfnod o golli yw amser y Rhyfel wedi bod i ninau, ond disgwyliwn ennill llawer drwyddi, ac uwchlaw popeth enillion i'n dewrion y parch ac anrhydedd a deilyngant. Derbynir pob rhodd gan y Trysorydd neu un o'r Swyddogion."Tybed beth a ddywedai'r cynghorwyr rheiny, ac eraill a fu'n ddiwyd godi arian tuag at gael cofeb haeddiannol i'r bechgyn a aberthwyd - yr Ysbyty Coffa a godwyd er cof amdanynt - petaent wedi rhagweld y diffyg parch i'r aberth hwnnw gan aelodau'r Bwrdd Iechyd a fu'n gyfrifol o gau'r ysbyty ymhen llai na chanrif?
I gyfleu'r eilunaddoli a fodolai ymysg dosbarth gweithiol yr ardal hon tuag at David Lloyd George, cyhoeddwyd copi o lythyr a anfonwyd iddo gan Hugh Thomas, ysgrifennydd Ciniawdy 'B', Chwarel Maenofferen. Gwelir y llythyr yn rhifyn olaf Y Rhedegydd am 1916, ar y 23ain o Ragfyr.
Llythyr o ddymuniadau gorau aelodau'r tŷ bwyta iddo. Roedd y geiriau'n adlewyrchu meddylfryd chwarelwyr 'Stiniog ar y pryd, a'u hedmygedd o'r prif-weinidog newydd.
'Dringasoch bob cam o'r ffordd, nes cyrhaedd o honnoch uchaf yr ysgol, a chawsoch eich hunan yn teithio yn y cerbyd agosaf i'r Brenin...'--------------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2016.
Dilynwch gyfres Stiniog a'r Rhyfel Mawr efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon