Rhan o erthygl Iwan Morgan, o rifyn Ebrill 2016.
Fel y gŵyr fy nghydnabod, mae barddoniaeth a cherddoriaeth wedi bod yn agos at fy nghalon erioed, a chwestiwn nifer o rai y bum yn siarad â nhw’n ystod y mis dwytha – y rhai ddarllenodd ‘
Rod y Rhigymwr’ Mawrth a’r rhai a welais ym mherfformiadau
Opra Cymru oedd - tybed a allai rhai o’m hynafiaid fod wedi ymddiddori’n yr un pethau?
Gwyddwn ers tro byd fod y bardd a’r emynydd Henry Lloyd – ‘Ap Hefin’ (1870-1946) yn perthyn o ochr fy mam. Roedd ei daid, Robert Owen (1806-50) yn frawd i’m hen, hen daid, William Owen (1792-1869). Ef, wrth gwrs oedd awdur yr emyn dirwestol a ganwyd dros y blynyddoedd mewn tafarnau a meysydd rygbi, yn ogystal â mewn cymanfaoedd canu – ‘
I bob un sy’n ffyddlon dan ei faner Ef’ – ac yn cael ei forio ar dôn enwog Caradog Roberts, ‘
Rachie’. Credaf mai ymhyfrydu mewn barddoniaeth ac nid cerddoriaeth a wnaeth Ap Hefin.
Clywais fy nhad yn sôn wrthyf rywdro bod John Owen – ‘Ap Glaslyn’ (1857-1934) yn berthynas bell i’w fam, oedd yn hannu o Nantmor a Beddgelert. Yn ôl y diweddar Huw Williams yn ‘
Y Casglwr’, ystyrid ‘yr Ap’, fel y cyfeiria ato, yn ‘
un oedd yn adnabyddus yn ei ddydd fel prydydd, llenor, datganwr, areithiwr, cyfansoddwr, efengylwr, dirwestwr a dramodydd, gan ddisgleirio ym mhob maes y bu’n llafurio ynddo.’
Roedd o’n dipyn o foi yn ôl y disgrifiad hwnnw! Ymddengys ei fod, o ochr ei dad, hefyd yn gefnder i’r bardd o’r Blaenau -‘Bryfdir’ (1867-1947).
Lluniodd ‘yr Ap’ sawl cân – yn cynnwys y geiriau a’r gerddoriaeth. Roedd y rhain yn bur enwog yn eu dydd – caneuon fel ‘
Tros ein Gwlad’, ‘
Fechgyn Cymru’ ac ‘
A welwch chi fi’. Yr un sy’n fwya cyfarwydd ohonyn nhw i gyd, mae’n debyg, ydy ‘
I Godi’r Hen Wlad yn ei Hôl.’
Pan oeddwn i’n fyfyriwr yn y Drindod, Caerfyrddin, ddeugain a phump o flynyddoedd yn ôl, tasg oedd yn rhaid i mi ei chyflawni oedd, ‘traethawd ymchwil’ ar un o’r beirdd y cynhwysid eu gwaith yng nghyfrol yr Athro Bedwyr Lewis Jones – ‘
Blodeugerdd o’r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg’.
Yno deuthum ar draws ‘
Bugeiles yr Wyddfa’ gan John Jones – ‘Eos Bradwen’ (1831-99). Gwyddwn i hwnnw gael ei eni’n fy mro innau – yn ardal Corris, plwy’ Talyllyn. Doedd dim amdani felly ond ymchwilio i’w fywyd a’i waith.
Roeddwn wedi clywed fod ‘yr Eos’ yn gerddor yn ogystal â bardd. Roedd ‘Aled a Reg’ wedi recordio cân o’i eiddo – ‘
Chwifio’r Cadach Gwyn’ ar ddisg feinyl ‘45’ tua diwedd y 60au. Gan mod i’n canu dipyn i gyfeiliant fy gitâr yr adeg honno, euthum ati i lunio alaw ar eiriau ‘
Bugeiles yr Wyddfa’, er i mi glywed bod llawer o ganu ar un y cyfansoddwr ei hun wedi bod yn ystod dyddiau a fu. Ymhen rhai blynyddoedd, fe’i haddasais ar gyfer Parti Meibion Dyfi i ddechrau, ac yna Feibion Prysor. Mae i’w chlywed ar dâp sain a recordiwyd gennym yn nechrau’r 1990au – gyda llun o ferch ifanc ddel o Gwm Prysor (Manon yr Hendre) ar y clawr:
Mi gwrddais i gynt â morwynig
Wrth odre yr Wyddfa wen,
Un ysgafn ei throed fel yr ewig
A’i gwallt fel y nos am ei phen;
Ei grudd oedd fel y rhosyn,
Un hardd a gwên ei gwawr
Yn canu cân, a’i defaid mân
O’r Wyddfa’n dod i lawr:
“Eryri fynyddig i mi,
Bro dawel y delyn yw,
Lle mae’r defaid a’r ŵyn
Yn y mwsog a’r brwyn,
A’m cân innau’n esgyn i fyny,
A’r garreg yn ateb i fyny
O’r lle mae’r eryrod yn byw.”
Flynyddoedd wedi cyflwyno’r traethawd ymchwil i’m tiwtor, y diweddar annwyl Carwyn James, bu i mi sylweddoli mai i dyddyn fy hen, hen, hen daid, Evan Williams, Cwmeiddaw (1789-1851) yr aethai’r ‘Eos’ yn llaw ei dad i’r ‘Ysgol Sabothol’.
Wrth bori ar lein drwy swp o hen bapurau Cymreig y diwrnod o’r blaen, cefais fodd i fyw. Gwyddwn mai William ac Elizabeth Jones oedd enwau tad a mam ‘yr Eos’, ond nodwyd mai ei daid – tad ei fam, oedd gŵr o’r enw ‘Richard Evan, Maesybwlch’. O ddeall hynny, gwyddwn mai gwraig hwnnw oedd Ann Thomas – merch Thomas Robert (1734-95) a Sarah Prys (1736-1818), Llwyn Dôl Ithel, Talyllyn. Roedd Ann, nain ‘yr Eos’ felly’n chwaer i’m hen, hen, hen nain, Lowri Dafydd, Dolydd Cae, Talyllyn (1761-1844). Roeddwn o’r un llinach â’r ‘Eos’ felly, oedd yn gyfyrder i ‘Nain Dre’ Ap Hefin ac i Richard Owen, Bronygog, Corris (1842-1909) – fy hen daid innau!
Aeth yr Eos ymlaen i wneud enw iddo’i hun fel bardd a cherddor. Bu’n gorfeistr Cadeirlan Llanelwy o 1863 hyd 1878, ac enillodd yn yr Eisteddfod Genedlaethol sawl tro am gyfansoddi ‘cantawdau’ – gan lunio’r libreto a’r gerddoriaeth. Ym Mhrifwyl Llandudno (1864) yr enillodd am ei gantawd ‘
Y Mab Afradlon’, ac mae’n debyg i’w gantawd ‘
Owain Glyn Dŵr’ ddod yn un tra enwog yn ei dydd:
Wele seren y Brython yn fflamio,
Wele faner y nefoedd, yn awr,
Dros gyfiawnder a rhyddid yn chwifio,
Drwy dywyllwch y nos, wele wawr!
Wele faner y Ddraig yn cyhwfan
Fel yn arwydd i gedyrn y gad
Fod y gelyn ar faes y gyflafan
Yn cyhoeddi dialedd a brad.
Tybed a oes copi o’r gantawd hon ar gael i Gwmni Opra Cymru ei hystyried rhyw dro!
----------------------------------------
Gallwch ddilyn y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.