9.6.16

O Lech i Lwyn -Cynefin i'w warchod

Yn rhifyn Mehefin 1998, Gruff Ellis, Ysbyty Ifan oedd y colofnydd Natur gwadd.  
Bu’n ysgrifennu colofn rheolaidd yn yr Odyn am flynyddoedd, dan yr enw Gwerinwr, a chyhoeddi llyfr ‘YMA MAE ‘NGHALON’ am fywyd gwyllt ei filltir sgwar (sy’n cynnwys y Migneint).  Bu farw Gruff eleni.

          CYNEFIN
Rhoddwyd i bawb ei wreiddyn – yn hen bridd
    Maethlon bro ei gychwyn,
Cael iaith a chof maith, mae hyn
Yn wyrth ein bod a’n perthyn.
Ia, Norman Closs Parry biau’r englyn; naturiaethwr o reddf yw Closs, ac fel finnau yn ymbleseru ym mywyd gwyllt ei ardal.

‘Rwyf yn cofio pan briodais, fel pob glaslanc ffôl, inni dreulio y bedair i bum mlynedd gyntaf ym Mhantllwyd, a gweithio yn y Blaenau i adeiladydd am fwy na hynny o amser.  Yn ôl i’m cynefin i ‘Sbyty aethom wrth gwrs, a chael gwaith yno; ond ymhen ychydig flynyddoedd dod yn ôl i weithio i Bwerdai Maentwrog a Ffestiniog.  Felly mae ‘Stiniog a’i phobol yn agos iawn at fy nghalon byth ers hynny.

Gweithio llawer a’r lethrau’r Moelwyn, a dianc am oriau weithiau i chwilio am y peth yma ac arall.  Canfod nyth mwyalchen y mynydd, sydd yn un o’n mewnfudwyr yn y gwanwyn.  Clywed clochdar unigryw y frân goesgoch o gwmpas unigedd Cwm Orthin, oedd yn aderyn gweddol ddiarth i mi yn Ysbyty Ifan wrth gwrs.  Canfod sypiau o deim gwyllt yng nghilfachau’r creigiau ar y Moelwyn; mae gen i lun sleid o deim wedi ei dynnu o flaen y brif fynedfa i Bwerdy Tanygrisiau.  Rhyfedd fel mae rhywun yn gallu hel atgofion yn tydi?

Gweithio (i fod!) uwchben Talsarnau yng nghyffiniau Nant Pasgian, a dianc eto i fyny am lynnoedd yr Eiddew a dod ar draws corn y carw (y ‘stag’s horn club moss’).  Rhyw stwnan o gwmpas hen borfeydd oedd heb deimlo’r aradr yn rhwygo’u croen erioed, a dotio at foiled y mynydd (Viola lutea) felen hardd, sydd i’w chael hefyd ar gyrion y Migneint hyd ochr y Serw.

Migwyn -mwsoglau'r gors. Llun: Paul W

Mae’r Migneint yn un o’m hoff barthau, a byddaf yn treulio cryn dipyn o amser y gaeaf a’r haf yn crwydro yma ac acw. 
Y gors rugog enfawr, sydd yn gwahanu fy nau fyd os leciwch chi.  Bydd rhywun yn cael llonyddwch i’r enaid mewn mannau diarffordd fel hyn, a natur o’m cwmpas o hyd yn datgelu ei drysorau.
Patrymau a rhithmau’r rhod, - a ninnau
       Yng nghanol rhyfeddod,
Dryswch byw, eiddilwch bod
Hen arfaeth dan hen orfod.
Mae prysurdeb y gwanwyn o’n cwmpas ymhobman, a thymor y magu yn ei anterth, yr adar i gyd yn “cario cig i’r côr cegau”.  Rhai yn goroesi ac eraill yn colli’r dydd ynte.  Mae pawb am wn i wedi cyrraedd bellach; y wenoliaid a’r gwcw, a’r wennol ddu yn olaf fel arfer, a'r gyntaf i adael.  Heb glywed y troellwr mawr eto, ond dal mewn gobaith.  Pibydd y dorlan, (neu Wil y dŵr gan hogia ‘Stiniog) yn wislo rownd Llyn Conwy, a braf i’w weld yn ôl pob gwanwyn.

Y boda dinwen yma hefyd a’r gwalch bach i’w weld o bryd i’w gilydd.  Gwydd dalcen wen yn nythu yn y Gamallt, ac un ar Lyn Conwy, ‘rwyf  bron yn sicr.  Mae’r corn carw i’w ganfod yma hefyd, ond yn haws ei ganfod ar y Gylchedd, sydd i gyfeiriad yr Arenig fach.  Mae’r tri math i’w gael yno.

Caineirian bach. Llun: Paul W
Ambell blanhigyn prin ac anodd ei weld er chwilio’n ddyfal yn y migwyn a’r grug fel y gaineirian fechan (lesser twayblade).

Dyna ystyr y Migneint wrth gwrs, o’r gair migwyn – mwsog Sphagnum y tardd.  Hwn wrth gwrs yn “antiseptic” yn cael ei ddefnyddio ar achollion yn y rhyfel byd cyntaf.  Heddiw, mewn basgedi crog i gadw’r lleithder yng ngwraidd y blodau.

Mae’r gwanwyn ychydig yn hwyrach yma nac i lawer gwlad, ac heb weld “Gogoniant Duw mewn rhosyn gwyllt” eto; y friallen wedi darfod, clychau’r gog yn eu gogoniant, a llawer o flodau’r haf eto i ddod.  Doedd dim rhyfedd i Eifion Wyn gael ei ddal yn “nrysni’r blodau”.  Mae’r un wefr i’w chael o wanwyn i wanwyn, a'r un prydferthwch yn ein cymoedd, a hir y pery hi felly, fel y caiff ein hwyrion a’n hwyresau brofi o’r un wefr a brofo’ ni.


Oes, mae gennym etifeddiaeth fendigedig, a chynefin i’w warchod i’n plant a phlant ein plant.
Cariad, ymluniad wrth le, hen brethyn
I hen barthau, rhywle
A’n deil o waun i dyle
Yn rhwym yn llinynnau’r we.
Gwerinwr
------------------------------------------

Gallwch ddilyn y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon