28.6.16

Dilyw!

Dwy erthygl fer a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifynnau Mai a Mehefin 1998.

PWY SY'N COFIO'R DIGWYDDIAD HWN?

Dyma hanes Jane a Robert John Williams, Foelas, Llan Ffestiniog o ddigwyddiad yn y 1920au. Torrodd cwmwl gan arllwys llifogydd dychrynllyd o law o tua bont y lein ac i lawr Stryd yr Haul. Roedd Jane a Robert John yn byw yn y tŷ agosaf i'r Y.M, a'i lefel yn is na'r ffordd, a hwy oedd y cyntaf i ddioddef effaith y cenlli. Meddai Jane,
"Daeth i mewn drwy ddrws y ffrynt, drwy'r pantri bach, ac allan drwy ddrws y cefn ac i lawr yr ardd. Roedd yn ddychryn o brofiad. Dymchwelodd top y cwpwrdd gwydr, gan ddisgyn yn daclus i ganol y dŵr. Yn rhyfedd, un peth yn unig a dorrodd, sef doli fach sydd gennym o hyd." 

Cariodd y diweddar R.O. Wynne, oedd yn byw yn ymyl, y plant i ddiogelwch Tecwyn View ac yno y buont yn cysgu noson y digwyddiad. Oes rhywun yn cofio'r digwyddiad a'r ddyddiad yn fwy manwl? Dywed Jane fod Tomi Jones, tad Sylvia, wedi cychwyn 'sgwennu'r hanes.


DILYW

Diolch i Jane a Robert John am yr hanes difyr o’r cwmwl yn torri uchwben croesffordd Bont Lein y Llan. Cofiaf y digwyddiad fel ddoe, ond nid wyf yn cofio y dyddiad. Credaf mai tua diwedd Mai neu Fehefin 1930-1931 ydoedd.

Dyma amser mynd a defaid i’r mynydd dros yr haf a hefyd amser torri mawn er mwyn ei gynaeafu dros yr haf. Cychwynodd fy nhad a finnau ben bore (y diwrnod arbennig yma) yn y drol, a’r hen Polly y gaseg gyda digon o fwyd am y diwrnod, a chelfi torri mawn yn y cefn. Rhyw filltir o Bont yr Afon Gam hyd ffordd y Bala mae’r toriannau mawn gyferbyn a’r hen chwarel Foel Llechwedd Gwyn. Hen chwarel asglodi, lle arferai Davies Berma a’i Gwmni gadw eu carafanau a hen gelfi, i gadw’r ffyrdd mewn trefn.

Clymu yr hen gaseg a digon o fwyd dan ei thrwyn i’w chadw'n llonydd a diddig, tra roedd fy nhad a finnau yn torri mawn. Roedd yn tynnu at hanner dydd a minnau yn cael cinio ‘Siot’. Mam wedi gwneud tyniad er mwyn inni gael tamaid bach ysgafn i’w fwyta.

Dyma’r storm yn dechrau, y gwlaw yn llifo, a’r mellt yn gwibio ac yn rhedeg ar hyd yr hen bibellau haearn oedd yn dal yr hen gaseg gyda’i ffrwyn a bron yn wallgof gan ofn. Wedi i’r gwlaw beidio, a’r storm arafu, bu rhaid cychwyn am adref yn gynt nag arfer. Roedd ôl glaw ar hyd y ffordd i lawr i’r Llan, roedd y dŵr fel afon, ac ar wastad yr orsaf yng ngwaelod allt Llys Owain wrth nesu at y groesffordd ger ‘Bont Lein’ gwelsom hollt mawr ar draws y ffordd lle roedd y cwmwl wedi torri.

Roedd yr hen gaseg yn strancio ac yn gwrthod mynd dros yr hollt yn y ffordd, er i fy nhad fynd o’r drol, roedd at ei benagliniau yn y dŵr a thrio ei orau i dynnu Polly gyda’i ffrwyn. Y diwedd fu i un o olwynion y drol fynd i’r hollt a’i throi ar ei hochr a finnau yn y drol.

Bu rhaid dadfachu yr hen gaseg er mwyn ei thawelu. Profiad bythgofiadwy.

Oes gan unrhyw un arall ryw hanes o’r digwyddiad yma?
Laura Davies (Ty’n Ffridd gynt).

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon