30.8.15

Hanesion hynod Anti Cein

Am gyfnod hir bu Anti Cein, Gellilydan yn gyrru straeon a hanesion o'i milltir sgwâr i Llafar Bro. Dyma ran o bennod a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2004.

Yn hen ysgriflyfr fy niweddar fam cefais yr hen ddywediadau a hanesion hyn, a hithau wedi eu codi o hen gylchgronnau yn yr ugeiniau cynnar. Meddyliais y buasai darllenwyr ‘Llafar Bro’ yn hoffi eu clywed:

“Gofaler am edrych cyn neidio gwrych.”
“Nid oes gŵyl rhag estyn elusen.”
“Pan gysga tristwch, gadawer iddo.”
“Mae aur yng ngenau aur y bore.”
“Hirben pob cyfiawn.”
“Gŵr pwyllog a gela wybodaeth, ond gŵr ffôl a amlyga ffolineb.”


Gwastraff amser ydyw bloeddio ‘Ein Gwlad’, os na wneir rhywbeth drosti.

“Ni wyr ynfydrwydd ei faint.”
“Y geiniog a enillir yw’r geiniog a gynhelir.”
“Glân yr ysguba ysgub newydd.”
 “Gwell yfed gormod o ddŵr oer na rhy ychydig.”
“Mae mellt yn lladd pysgod afon yn aml.”


Mae y dderwen yn cymeryd 200 mlynedd o dyfiant cyn y bydd yn gymwys i’w thorri i wneud defnydd ohoni.

Gall bod dynol fyw tri diwrnod ar ddeg heb fwyd, tri diwrnod heb ddwfr, ond dim ond tri munud heb awyr.

Dywed rhai doctoriaid y cynnwysa berw’r dŵr y tri pheth angenrheidiol i’r corff dynol.

Yn y flwyddyn 1401 cafwyd pla o bryfaid a ddaeth i’r wlad yma gan ddifa dail y coedydd a phob perth, ac hefyd porfa yr anifeiliaid. Doedd neb yn deall o lle daethant, ac yn pendroni sut i’w difa. Cafodd un dyn syniad, ac efe a fwriodd galch ar hyd ei faesydd a hyn a laddodd y pryfaid yn llwyr. Ar ôl peth amser, tyfodd porfa ardderchog, a cafwyd yd a gwenith na welwyd eu tebyg, ac o hynny ymlaen fe aeth calchu tir yn arfer cyffredin yn ein gwlad. (Allan o ysgriflyfr Iolo Morgannwg).

Yn y flwyddyn 1419 cafwyd yn y wlad yma dri diwrnod o wres mawr anioddefol na welwyd erioed o’r blaen yn y wlad hon. Roedd yr haul fel pelen goch. Drwy’r dydd roedd yr adar yn marw ar eu hedfan. Bu farw llawer o bobl ac anifeiliaid y maes. Roedd coed a’r perthi yn crino yn golsyn, y borfa fel lludw, y nentydd a’r afonydd wedi sychu. Hefyd bu farw y pryfaid gleision i gyd yn Ynys Prydain yr adeg yma.


Llun- PW


28.8.15

Stiniog a’r Rhyfel Mawr -newyddion o'r ffrynt

Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ym Mlaenau Ffestiniog, roedd presenoldeb tua 80 o filwyr o adran o'r fyddin wedi tarfu ar dawelwch y bore Sul cyntaf yn Ionawr 1915, wrth iddynt orymdeithio y tu ôl i'r seindorf leol i gapel Dolgarregddu, lle y traddodwyd pregeth iddynt gan y Parchedig Silyn Roberts, a fu'n weinidog ar Gapel Bethel, Tanygrisiau rhwng 1905 a 1913.

Pythefnos yn ddiweddarach cyrhaeddodd catrawd o 250 o filwyr y Blaenau, a threfnwyd cyngerdd ar eu cyfer yn y Neuadd Gyhoeddus. Wedi mwynhau'r arlwy, aeth y gatrawd ymlaen i gyfeiriad Bala a Chorwen.

Tua'r un adeg cyhoeddodd ‘Y Rhedegydd’ lythyr gan Dick, mab y Dr. Vaughan Roberts, a oedd yn gwasanaethu rhywle yn Ffrainc. Disgrifiodd beth oedd wedi ei weld ar y ffrynt (cyfieithiad o’r llythyr Saesneg):

‘…cawsom olwg cyflawn o’r ymosodiad, a gwelsom y bechgyn druan yn syrthio fesul un, a’r rhai oedd yn aros ar ôl a saethwyd…’ 

Cafwyd cadarnhad fod y milwyr yn ysgrifennu adre' yn amlach erbyn hynny, wrth weld y canlynol, dan 'O’r Ffrynt', yng ngholofn newyddion Trawsfynydd yn y papur:

'...parhau i ddod i mewn y mae llythyrau o faes y frwydr, yn wythnosol. Deallwn fod Mr Jones, y Gorsaf-feistr wedi derbyn amryw.'

Cafwyd rhybudd, mewn Saesneg, yn rhifyn 16 Ionawr 1915 i rai oedd wedi gwasanaethu gyda  ‘His Majesty's Forces, Regular and Auxilliary’, ym Meirionnydd a Threfaldwyn i ymaelodi ar unwaith fel aelodau wrth gefn. Roedd y rhain i fod dan ofal y ‘District Commandant’, y Dr. Richard Thomas, Isallt.

Roedd sensoriaeth y Swyddfa Rhyfel wedi sicrhau na fyddai newyddion drwg o’r ffrynt yn cyrraedd adre’, am resymau amlwg.  Ond ar y 23ain o Ionawr 1915, cyhoeddwyd adroddiad, byr iawn, o hanes y clwyfedig cyntaf y rhyfel o'r fro i gyrraedd tudalennau'r ‘Rhedegydd’. Cafwyd gwybodaeth fod Mrs Anne Lloyd, Bryngwyn, Tanygrisiau wedi derbyn llythyr yn ei hysbysu fod ei mab, David, wedi ei glwyfo. 

Cynhaliwyd Eisteddfod y Milwyr yn Llandudno yn ystod mis Ionawr 1915, lle y bu i Alun Mabon Jones, o Riwbryfdir ddod yn fuddugol, allan o bedwar-ar-ddeg, ar gyfansoddi englyn i'r Cadfridog Owen Thomas. Mae naws jingoistaidd ar yr englyn hwn hefyd, fel nifer o gerddi gwladgarol-Brydeinig, frenhinol yr oes honno:

Gŵr hoenus, hawddgar, hynod - yw y doeth
Frigadier hyglod,
Gŵr pur, a geiriau parod,
Mal ei gledd yn loywa' i glod.

Cafwyd hefyd wybodaeth fod Alun Mabon yn aelod o'r 13eg Fataliwn o Gatrawd y Pals Gogledd Cymru, ac yn athro ysgol Sul ar 29 o filwyr. Roedd ymgyrch recriwtio rhai fel Lewis Davies, Y Gloch, yn dangos ei farc yn y Blaenau  wrth weld adroddiad ar y 30 o Ionawr 1915 yn dweud :

 'Yn y Tabernacl yr oedd ein milwyr lleol y Sul diweddaf, a'r Parch Thomas Hughes, B.A., Rhiw yno yn pregethu iddynt, Mae y niferoedd wedi cyrraedd cant a thri.'

Gwelodd darllenwyr ‘Y Rhedegydd’ ddarn o farddoniaeth yn ymwneud â’r Rhyfel Mawr, gan Hedd Wyn, am y tro cyntaf ar 30 Ionawr 1915, dan y testun ‘Tua’r Frwydr’. Roedd y gerdd wedi’i chyflwyno...‘i fechgyn Trawsfynydd, y rhai sydd a’u hwynebau tua maes y gwaed’. Erbyn y cyfnod hwn, roedd cynnydd ym marddoniaeth, gan feirdd, o amrywiol safon, a ymddengys ar dudalennau’r papurau Cymraeg wythnosol. Yn ychwanegol i’r cynnydd mewn barddoniaeth, yr oedd adroddiadau’n cynyddu’n rheolaidd am amryw yn mynd ‘i wasanaethu eu gwlad.'

Yng ngholofn newyddion Trawsfynydd yn ‘Y Rhedegydd’ ar 13 Chwefror 1915 cafwyd hanes cyfarfod cyhoeddus yn neuadd y pentref i hybu recriwtio yno. Lewis Davies, y swyddog recriwtio oedd yn annerch, ond fel y dywedodd y gohebydd lleol, ‘...tipyn yn deneu oedd y cynulliad...’

Yn yr un rhifyn, dywedwyd, dan bennawd ‘Cael Gynau’r Gelyn i’r Blaenau’ yn ieithwedd y cyfnod:

“Mae’n wybyddys fod y Swyddfa Rhyfel yn anrhegu y lleoedd hynny sy’n rhestru mwyaf o filwyr i’r fyddin, â gynau wedi eu dal a’u dwyn oddiar y Germaniaid. Carem wybod lle y saif Ffestiniog arni yn y mater yma. Mae’r ardal wedi gwneyd cystal a’r un ardal trwy y sir, a dylai rhywun gymeryd y gwaith mewn llaw i edrych a oes gennym le i wneyd cais at y Swyddfa Rhyfel am y cyfryw anrheg. Awgrymwn y priodoldeb i’r Cynghorwyr gymeryd hyn o orchwyl mewn llaw.”

Llwyddwyd i sicrhau’r gynnau hynny, a chawsent eu harddangos yn y Parc yn y Blaenau am beth amser.

---------------------------

Ymddangosodd yr uchod yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2015.
Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar y ddolen 'Stiniog a'r Rhyfel Mawr' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

[Pabi gan Lleucu Gwenllian]








26.8.15

Trem yn ôl -Utica

Mae llawer o gysylltiadau wedi bod rhwng Bro Ffestiniog ag Utica yn nhalaith Efrog Newydd. Dyma bennod o'r gyfres Trem yn ôl: erthyglau o lyfr 'Pigion Llafar 1975-1999', yn trafod y cysylltiad.

Enw Capel Utica, Gellilydan.
Cymeraf ddiddordeb mewn hanes lleol a hel achau, ac wrth chwilota yn ddiweddar, deuthum ar draws erthygl o’r ‘Cenhadwr Americanaidd’ am fis Tachwedd 1867, sy’n egluro pam na roed enw Beiblaidd megis Bethel, Salem neu Nasareth ar gapel yr Annibynwyr yng Ngellilydan.

Ei enw wrth gwrs, yw Utica – enw lle yn Efrog Newydd.

Ar y 4ydd o Ebrill 1788, ganwyd Wiliam Jones mewn lle o’r enw Pandy’r Ddwyryd ym Mhlwyf Maentwrog. (Mae’r tŷ o dan Lyn Trawsfynydd erbyn hyn). Enwau ei rieni oedd Rowland ac Ann Jones ac yr oedd yr enwog Lowri Williams, un o sylfaenwyr Methodistiaeth yng Ngorllewin Meirionnydd yn nain iddo.

Magwyd William gan ei rieni yn bur grefyddol, ond tueddai’r mab i fwynhau’r bywyd braf hyd yr eithaf!

Yn y flwyddyn 1824, pan oedd tua 36 mlwydd oed, ymfudodd William Jones i’r America. Ymsefydlodd yng nghymdogaeth Utica, Efrog Newydd a thra yno, daeth o dan ddylanwad y gŵr o’r enw Dr.Everett, a fu’n gefn ac arweinydd iddo, a chafodd droedigaeth grefyddol ac wedi hynny cysegrodd ei fywyd yn llwyr i Gristnogaeth.

Arhosodd yn America am tua 4 blynedd – daeth yn dda ei fyd a dod yn ddyn cefnog iawn.

Pan ddychwelodd i Gymru, ac i blwyf Maentwrog, yr oedd yn berchennog ar dyddyn a thir, a phenderfynodd godi capel ar ei dir a chychwyn achos gyda chymorth ychydig o ‘frodyr sanctaidd’. Ni chymerodd dal am y tir, ac adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1843, ac yn unol a’i ddymuniad, galwyd y lle yn ‘Utica’ i ddangos parch tuag at y lle yn America a gyfrannodd gymaint at ei fywyd crefyddol. Yn ychwanegol, rhoddodd dir ar gyfer claddfa yn gysylltiol a’r capel, a phan fu farw ei ail blentyn, claddodd ef yno.

Capel Utica, Gellilydan. Llun W.Arvon Roberts
Yn y flwyddyn 1843 priododd a Mary Williams, Glanllynforwyn, Ganllwyd a bu iddynt dair merch. Un o’i merched oedd Margaret Jones (Myfanwy Meirion) a fu am flynyddoedd yn genhades gartref yn Llundain a bu’n byw yn Lerpwl, lle bu’n ddiacones yn un o’r eglwysi Annibynnol yno. Claddwyd hithau ym medd y teulu ym Mynwent Utica, ac mae carreg ithfaen fawr sgwâr a railings o’i hamgylch ar y bedd.

Fel mynwent ar gyfer yr Annibynwyr y bwriadwyd Utica fel y dywed yr hanes, ond mae llawer o enwadau eraill wedi cael caniatad i gladdu yno erbyn hyn.

Da yw cael dweud, ar ôl dros gant a hanner o flynyddoedd ers ei sefydlu, fod yr eglwys fach yn parhau i gynnal gwasanaethau. Beth amser yn ôl, ail-gychwynnodd un o famau ieuanc yr eglwys Ysgol Sul ar gyfer plant y cylch, gan nad oedd Ysgol Sul yn y pentref. Cynorthwyir hi gan aelodau hŷn eraill. Teilyngant bob cefnogaeth yn y gwaith, petai dim ond i gofio am droedigaeth William Jones yn yr America flynyddoedd lawer yn ôl, a’i ffydd yn codi’r capel a’r fynwent.

Digon tebyg yw cyflwr moesol a chrefyddol ein cymdeithas heddiw a phwy a wyr nad oedd gweledigaeth William Jones yn 1843 yn bell gyrhaeddol.

Mrs Ella Wyn Jones, Llandecwyn

------------------------------------

Ymddangosodd yr uchod yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 1994, ac wedyn yn y llyfr Pigion. Gallwch ddilyn cyfres Trem yn ôl gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

Hefyd, dilynwch y ddolen 'Utica' isod i weld nifer o erthyglau eraill sy'n cyfeirio at Utica, Efrog Newydd.

24.8.15

Llyfr Taith Nem -Heb Grefft, heb barch

Ail bennod o hanesion Nem Roberts yn crwydro'r Unol Daleithiau.

Yr adeg honno yr oedd llawer o siarad am yr Unol Daleithiau ac yn wir mentrodd amryw o'm cyfoedion dros yr Iwerydd, a theimlwn innau rhyw awydd am fynd yno. Cryfhaodd yr awydd o wythnos i wythnos ac ym mis Mai 1907, ffarweliais a mangre fy mabandod.

Rhyw broffad rhyfedd oedd, y prudd-der o adael fy nheulu a chyfeillion fel pe yn ymladd â'r teimlad o antur. Ond y gwanc teithiol oedd yn ennill a chyrhaeddais Utica, a bum ddigon ffodus i gael gwaith i bacio 'overalls'.

Buan iawn sylweddolais mai gŵr tlawd ydyw'r gŵr sydd heb ddim crefft. Heb grefft, heb barch, ac yn aml heb arian hefyd. Rhaid i'r di-grefft dderbyn unrhyw waith am gyflog isel, ond hawlia'r crefftwr waith, arian a pharch. Gan fy mod heb ddim crefft, rhaid oedd i mi ddibynnu ar arf arall, a'r arf hwnnw oedd beth alwa'r Sais yn 'bluff'. Sylweddolais fod ambell un yn llwyddo gyda dim ond 'bluff', ac eis innau ati i blyfffo hynny allwn. Yn wir, deuais yn feistr ar y gamp honno.

Digon o waith buasai hynny mor effeithiol heddiw, er y dywed rhai mai'r gwahaniaeth mawr rhwng Cymro a Sais ydyw fod y Cymro yn 90% gallu a 10% 'bluff', a'r Sais yn 90% 'bluff', a 10% gallu. Hwyrach bod llawer o wirionedd yn hynny.

Gan mai gwlad ieuanc yn brysur dyfu oedd yr Amerig y pryd hynny yr oedd cyfle i ddysgu crefftau, a theflais fy hunan i ddysgu pob peth allwn. Dysgais waith fel moulder; stripper; tool grinder, mewn melinau cotwm a gwlan, a ffatrioedd typewriters ac arfau, a phob math o waith peirianyddol.

Ond yr oedd un gwendid mawr yn fy nghymeriad, sef yr hen elfen grwydrol. Sawl tro wedi ychydig o amser gydag unrhyw gwmni, gadewais waith a chyflog da er mwyn teithio.

Fy amcan yn dweud hyn ydyw, y teimlaf gall unrhyw chwarelwr o Gymro droi ei law at unrhyw waith ond iddo feddwl am wneud hynny. Hen sylw am chwarelwyr Gogledd Cymru ydyw nad allant droi eu dwylaw at unrhyw waith arall ond gwaith chwarel. Ffug i gyd. Yn ystod yr hanner can mlynedd diwethaf daeth llawer o chwarelwyr i'r Unol Daleithiau ac mae'r helyw ohonynt wedi llwyddo i droi eu dwylaw at arnryw fath o waith. Y cwbl sydd eisiau ydyw ychydig o 'bluff' i gael y trwyn i mewn i gychwyn mewn gwaith.

Yn ystod fy arhosiad yn Utica, dechreuais fel John Aelod Jones 'gysfenu i'r wasg', sef y Drych. Bum yn gwneud hynny o 1909 hyd 1940. Ychydig o ysgol gefais, felly yr oedd llawer i erthygl yn bur gloff, ond gan fy mod yn crwydro cymaint, credaf i'r darllenwyr fwynhau amrywiaeth o newydd-deb yr erthyglau. Ambell dro anfonwn ysgrif weddol ddoeth, a'r tro arall, dipyn o lol, ond cefais arnryw o lythyrau yn diolch amdanynt.

Byddaf yn meddwl weithiau beth ydyw gwir lenyddiaeth, pa un ai gramadeg pur ynte profiad gonest. Yr hyn wnes i oedd ceisio croniclo profiadau gonest.

Gwnes amryw o gyfeillion yn Utica, ac yn eu plith yr oedd Richard T. Edwards. O barchus goffawdwriaeth. Un o gymeriadau disglair ardal Cwmyglo, Arfon. Yr oedd yn ŵr hoffus ac yn bleser bod yn ei gwrnni. Er nad oedd yn fardd fel y cyfryw, arferai roddi llinellau wrth eu gilydd, ac ysgrifennodd benillion i mi ar achlysur fy rnhen blwydd yn 55 oed.

Yr oedd Dick, fel yr arferai pawb ei alw yn llawn o garedigrwydd, a'i bleser mwyaf mewn bywyd oedd gwneud cymwynasau. Yr oedd yn neilltuol o ddiddorol i fod yn ei gwmni, a gwn iddo wneud mwy o les i lawer claf o Gymro na'r meddygon, gyda'i ysbryd llon. Cofiaf yr hwyl mewn cyfarfod o'r Cymry ar Wasgar yn Utica lawer blwyddyn yn ô1, pan ddadganodd ei gyfieithiad personol o 'Hen Ffon fy Nain'. Wedi ennill dair gwaith yn olynol mewn cystadlaethau dangos ei filgwn, penderfynodd peidio cystadlu mwyach er mwyn i eraill gael gyfle. Gwr felly oedd o


.

22.8.15

Peldroed- Cae Clyd

Pumed ran y gyfres am 'hanes y bêldroed yn y Blaenau'.

Pan oedd golwg am gae da i'w gael yng Nghae Clyd, sefydlwyd Pwyllgor Apêl ym Medi 1955 i gael lloches ar gyfer y cefnogwyr yno, ac ystafelloedd newid. (Ar y 14eg o Awst, 1971 yr agorwyd yr ystafelloedd newid yn swyddogol).

Roedd sgerbwd adeilad y stesion fain ar gael, ond roedd angen ei ddatgymalu, ei adnewyddu a'i ail-adeiladu ar ei safle newydd, a'r costau o wneud hynny'n uchel.  Rhaid oedd cychwyn cronfa i godi arian ar gyfer y gwaith, ac wedi cyhoeddi'r apêl, anfonwyd copïau i sawl rhan o'r byd, ac at holl glybiau Cynghrair y Gogledd.

Siomedig oedd nifer yr atebion o dramor, er i ambell gyfraniad sylweddol gael ei dderbyn, megis John Humphreys (Rhedegydd gynt) a gasglodd gyfatebol i £35 mewn doleri mewn Londri yn Washington.  Cafwyd £30 gan Dr Arthur Maddock Jones, Llandudno.  Daeth cyfanswm o £439.11.8 gan 275 o bobl, a'r symiau yn amrywio o dair ceiniog gan weddw leol i £10, Wedi cynnal dawns, raffl ac ati daeth cyfanswm yr arian yn y gronfa i £918.

Bu tri thrysorydd yn cadw'r cyfrifon hyn dros gyfnod y casglu, Ivor LL Thomas, R.E.Davies a J.T.Jones. Yr ysgrifennydd oedd Beryl Jones, ac M.T.Pritchard a benodwyd yn bensaer ar y cynllun o ail-godi'r gysgodfan.  Roedd 64 ar y pwyllgor apêl ar y dechrau, ond fel y dengys y cofnod - "ciliodd llawer."

Mae'n debyg mai yn 1958 y cwblhawyd y gwaith o godi'r lloches, wrth weld nodiadau Ernest o hanes 'Swper Dathlu Lloches Stesion Fain'.  Gwnaed y sylw ar y dechrau mai John Jones Roberts a John Humphreys oedd wedi mynd i'w pocedi i dalu am y swper!  Cafwyd areithiau pwrpasol gan John Humphreys a John J.Robers, a dalodd deyrnged i waith Humphreys. Ategodd Elias Jones mai hwn oedd y pwyllgor gorau fu arno erioed. Ymysg  gweddill o ffyddloniaid y pwyllgor roedd Alwyn Jones, Beryl Jones, Mrs William Owen, John Ellis Edwards, Mrs Andrew Jones, Mrs Lewis Lloyd Jones, Mrs Eluned Jones, Mrs Kitty Williams a llawer mwy.

Ar Bamffled y pwyllgor Apêl cafwyd dau englyn gan R.J.Roberts (Tan'rallt). Dyma un ohonynt:
Elw a mwy, 'rôl treuliau mawr -ddaw o'ch rhan
  Boed eich rhodd yn werthfawr;
O'i anfon cawn lwydd enfawr,
A chawn faes - diolch yn fawr.
Agorwyd maes Cae Clyd yn swyddogol ar Awst 18fed 1956, gyda'r 'cic-off' i'w wneud gan Mrs K.W.Jones-Roberts, gwraig llywydd y clwb.

Llanrwst oedd y gwthwynebwyr ar y diwrnod pwysig hwnnw yn hanes clwb pêl-droed y 'Town Tîm' .  Swyddogion eraill y clwb am 1956-57 oedd: Swyddog Meddygol -Dr D.Whitaker; Cadeirydd - R.G.Richards;  Is-Gadeirydd - Vernon Davies;  Ysgrifennydd - Alwyn Jones; Is-ysgrifennydd - Gwilym Morgan;  Trysorydd - Harry Williams;  Rheolwr-  Orthin Roberts,

Tîm y Blaenau ar y dyddiad hwn oedd Ifan Wyn Jones, Ron James, E.Jones, Tony Roberts, D.W.Thomas, Llew Morris, Wm.Jones, Peter Holmes, R.T.Jones, Frank Eccleson, G.Jones.

Cae Clyd heddiw. Oes cae peldroed mewn lleoliad gwell yng Nghymru dybed? Mae'r stand o'r stesion fain bellach wedi dychwelyd i'w wreiddiau rheilffordd, ar lein bach Ucheldir Cymru. Llun PW


----------------------
Paratowyd y gyfres yn wreiddiol ar gyfer Llafar Bro o 2004 hyd 2007 gan Vivian Parry Williams. 
Ymddangosodd y bennod yma yn rhifyn Ionawr 2005.
Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar ddolen 'Hanes y bêldroed yn y Blaenau', isod neu yn y Cwmwl geiriau ar y dde.

20.8.15

Gwynfyd -gwyfynod

Erthygl arall o'r gyfres am fywyd gwyllt a chrwydro'r fro.

gwalchwyfyn yr helyglys (elephant hawkmoth) -llun PW
Gwyfynod, hwnna 'sgin i. Moths.

Ychydig iawn a wyddwn, yn gyffredinol am y rhain. Ydi, mae lindys rhai yn bwyta dillad! Ac eraill yn taro yn erbyn y ffenast gyda'r nos, ond faint ohonom wyddai bod dwy fil a hanner o wahanol wyfynod i'w cael trwy Ynys Prydain?

Y rhai amlycaf i'w gweld ydi'r ychydig hynny sy'n hedfan yn ystod y dydd; y rhain hefyd yw rhai o'r gwyfynod mwyaf trawiadol, fel gwyfyn y creulys sydd yn ddu a coch. Mae lindys hwn yn amlwg ar ddail a blodau'r creulys yng Ngorffennaf ac Awst, a'i liwiau melyn a du yn rhybuddio adar rhag eu bwyta.

gem gloyw (burnished brass moth) -llun PW
Un arall yw'r ymerawdwr, gwyfyn mawr hynod, gyda phedwar llygad ffug, un ar bob adain, i ddychryn adar. Mae'r gwryw yn hedfan ar wib dros weundir a rhos, yn synhwyro gwyfyn benywaidd o bell gyda'i deimlyddion (antennae) arbennig. Llwyddais am y tro cyntaf i ganfod un oedd yn llonydd am ddigon hir i'w astudio a thynnu ei lun, ger Llyn Conwy ganol Mehefin, roedd y lliwiau a'r patrymau arno yn wych.


Mae gweithwyr gerddi Plas Tan y Bwlch yn cynnal arolwg wythnosol o wyfynod, fel rhan o adroddiad blynyddol ar fywyd gwyllt y plas, a cefais wahoddiad yno i fysnesu a chynorthwyo yn ddiweddar. Defnyddient drap golau uwch-fioled sy'n denu gwyfynod heb eu niweidio, ac ers 1994 cafwyd tua 210 rhywogaeth yno, rhai yn brydferth ond nifer fawr yn dorcalonus o ddi-liw a thebyg i'w gilydd!


gwyfyn bwâu llwydfelyn (buff arches moth) -llun PW
Y bore hwnnw, cafwydd saith rhywogaeth ar hugain, gydag enwau hyfryd fel y fflamysgwydd ac adain bylchog y gollen.

Y diwrnod cyn hynny bu'm am dro ar y llwybr cwrteisi newydd ar lein rheilffordd Cwm Prysor, a rhaid canmol gweithwyr y Parc a'r ffermwyr am ddod i gytundeb a darparu llwybr gwerth chweil. Er bod yr haul yn amlach dan gwmwl y p'nawn hwnnw, eto'i gyd cafwyd tro hyfryd yng nghwmni glöynod byw, gan gynnwys yr iar fach dramor, y bu mewnlifiad mawr ohonynt o'r cyfandir eto eleni; a hefyd, ia, -gwyfynod!

gwyfyn gwyn cleisiog (clouded silver) -llun PW
Yr oedd degau o wahanol flodau yn eu hanterth, yn arbennig y mannau gwlyb a'r llefydd hynny o gyrraedd y defaid. Ar ben Bont Llafar (os dyna ei henw) er enghraifft, pont o bensaerniaeth arbennig, 'roedd giat a chamfa bob ochr, a rhyngddynt, carped o flodau melyn pys y ceirw sy'n fwyd i lindys sawl glöyn a gwyfyn, a meillion coch a gwyn yn wledd i'r llygaid.

'Roedd yr adar mân yn canu o boptu'r lein, a'r gylfinirod fel petaent yn ein dilyn. Rhaid oedd troi 'nol cyn cyrraedd hanner ffordd, ond dyma lwybr sy'n ased i'r fro, a byddai rhywun yn gobeithio y gellid ei ehangu i'r ddau gyfeiriad yn y dyfodol.

-----------------------------------------------------------
Ymddangosodd yr erthygl yn rhifyn Gorffennaf 1996, ond mae'r lluniau uchod i gyd yn fwy diweddar, pob un wedi'i ddenu at olau uwch-fioled yng ngardd y golygydd yn Stiniog.
-----------------------------------------------------------

Awdur cyfres Gwynfyd oedd Paul Williams. Dilynwch y gyfres gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


18.8.15

Mil Harddach Wyt -ail hau a thoriadau

Erthygl arall o golofn arddio Eurwyn Roberts, Meithrinfa Blodau'r Felin. Dyma ddarn a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf 1999.

Yn yr Ardd Lysiau.
 

Os ydych wedi codi'ch tatws cynnar gellir hau eto a rhoi maip rhuddygl, spinach a phys yn eu lle i gael dilyniant eto tan yr Hydref. 

Tynnwch ddail sydd wedi mynd yn felyn ar waelod planhigion tomato ac hefyd torri y blaen-dyfiant pan mae y planhigion wedi cyrraedd pen y canseni neu rhyw chwech neu wyth o setiau o flodau. Cymerwch doriadau o berlysiau fel saets a theim. 

Bydd rhaid hefyd rhoi sylw i goed ffrwythau fel cyraints duon a thorri yr hen frigau sydd wedi ffrwytho i roi lle i rai newydd at y flwyddyn nesaf. 




Yn yr Ardd Flodau. 


Cymerwch doriadau o blanhigion Ceinan (Carnation) a pines, blodau Mihangel (Chrysanthemums) sydd yn biodeuo at y Nadolig hefyd. 


Bwydwch y coed rhosod gyda bwyd pwrpasol i rosod fel Top Rose

Gellir rhannu gwreiddiau blodau'r enfys (Iris) a'u hail blannu. Dylid torri blodau pys pêr yn rheolaidd. Mae yn amser da hefyd, yn enwedig at ddiwedd y mis hwn a mis Awst i gymryd toriadau o blanhigion Myniawyd y Bugail, neu big yr aran (Geraniums) os am gael planhigion da at y flwyddyn nesaf. 


Bydd rhai ohonoch yn mynd i sioeau blodau fydd yn cael eu cynnal ym mis Awst. Efallai y caf weld rhai ohonoch yno, yn enwedig Sioe Sir Feirionnydd yn Harlech [26ain eleni, 2015 -gol]

-----------------------------------------------------
Addaswyd yr uchod ychydig i adlewyrchu'r ffaith ei bod bellach yn fis Awst (ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf 1999).

Lluniau gan PW.

Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar ddolen isod neu yn y Cwmwl geiriau ar y dde.
 



16.8.15

Pobl y Cwm- Y Babell

Dyddiau fu yng Nghwm Cynfal.   Rhan 4 o gyfres atgofion y diweddar Ellen Williams.


Fel yr oedd y flwyddyn 1903 yn cyflymu yn mlaen, roedd y capel newydd [Babell] hefyd yn tyfu ar i fyny. Roedd fy nhad a fy mrawd yn cael y fraint o gario defnyddiau at yr adeilad, ac roedd rhai o'r gweithwyr yn lletya ar aelwyd Bron Goronwy am yr wythnos, felly roeddem ni fel plant yn cael bod yn hyf i fynd o cwmpas y lle i fusnesu. 


Daeth dechrau 1904, ac roedd y capel ar gael ei gwblhau. Trefnwyd fod Cyfarfod Pregethu i fod i'w agor yn gyhoeddus yn mis Mehefin 1904. Mawr fu y son a'r disgwyl a threfnu a pharatoi at amgylchiad pwysig. 

Gwawriodd y dydd penodedig yn hafaidd a chlir ac roedd pobl yn dylifo i Gwm Cynfal y dydd hwnw. Pregethwyd y bregeth cynta gan y Parch Thomas Lloyd, gweinidog Engedi, a'r Emyn cynta a ganwyd yno oedd 'Dyma Babell y Cyfarfod'. Nid wyf yn cofio pwy oedd y pregethwr arall. 


Dyna gau drws yr hen Babell, ac agor drws y Babell newydd. Roeddwn i y pryd hyny wedi mynd trwy chwe o safonau, ac wedi cael tystysgrif am ddweyd y Rhodd Mam. Roedd eisiau rhywun i ofalu an lanhau y Capel, a mam gymerodd y cyfrifoldeb hwnw. Cof da genyf fel y byddwn yn falch o cael mynd gyda hi iw helpu i lanhau y Capel. 

Yn mis Hydref a Tachwedd y flwyddyn hono y torodd y Diwygiad allan yn y De a’r Gogledd. Fe ledaenodd yn gyflym dros Gymru gyfan. Roedd gwr or De a'i enw Evan Roberts a Mrs Jones, gwraig o Egryn yn mynd o cwmpas y wlad dan cyfarwyddiadau yr Ysbryd Glan. Roeddent yn cael arwyddion mewn goleu a thân yn ymddangos iddynt, ac yr oeddynt yn cael rhyw ddylanwad rhyfeddol neillduol ar y Cynulleidfaoedd. Roedd ugeiniau yn rhoddi eu hunain o'r newydd i Iesu Grist bob nos.  


Roedd cyfarfodydd gweddiau bob nos, yn rhyw Capel neu gilydd, a rhai hyny yn llawn. Byddai dau neu dri neu bedwar yn mynd yn mlaen i weddio gyda'i gilydd, a rhai eraill yn canu Emynau mewn cornel arall o'r Capel, a hyn yn mynd ym mlaen am rhai oriau. Byddai llanciau a merched ifanc yn cadw cwrdd gweddi ar ochrau y ffyrdd. Roedd mam yn mynychu y cyfarfodydd yn rheolaidd, ac yn cymeryd rhan ynddynt yn aml.

Nid oedd fy nhad yn berthyn ir capel, a byddai mam yn poeni am hyny, ac yn gweddio am iddo fo cael ei achub. Un bore Sul daeth fy chwaer fach adre or Ysgol Sul, dywedodd wrth fy nhad fod Lewis Richards ei hathraw wedi dysgu iddi yr Emyn 'O fy enaid cod fy ngolwg', a'i hadrodd hi iddo fo i gid. Clywais fy nhad yn dweyd droion ar ol hyny wrth rhai o'i gyfeillion ei brofiad. Fel yr oedd yr Emyn yna wedi ei ddwys-bigo yn ei galon. Aeth fy nhad ir gwaith dranoeth. Roedd o yn methu gweld y dydd yn darfod digon buan, iddo gael dod adre i fynd ir Seiat ir Capel bach i roi ei hun i fyny i Iesu Grist. Derbyniwyd o yn gyflawn aelod a rhai eraill gydag o. Dyna ddiolchgar a llawen oedd fy mam. 

Rwyf yn cofio yn dda am un Cyfarfod Plant yn Peniel, a geneth fach rhyw ddeuddeg oed yn y pulpud yn arwain y canu ac yn gweddio yn neillduol o eneth mor ifanc, heb ddim papur ond o'r frest nes oedd pawb wedi cael eu sobri. Annie Groom oedd ei henw, wedi cael ei magu hefo ei thaid ai nain yn Siop Pen y Bryn. Daeth ei thaid i berthyn i'r Capel yr adeg hono. Roedd ganddo drol a merlen ac yn hel rags ac yn gwerthu potiau a dysglau pridd a phob math o lestri. Byddai Evan Evans yn ddrwg ei hwyl yn aml, ac yn chwipio’r ferlen nes byddai hi yn neidio, a'r llestri yn stymio allan o'r drol yn ddarnau mân ar y llawr. Bu Annie Groom farw cyn cyrhaedd ei phedair-ar-ddeg mlwydd oed, er mawr loes ir hen greaduriaid.

Rwyn cofio Cyfarfod Gweddi rhyfedd iawn yn y Babell un tro, hen greadur yn mynd yn mlaen i cymeryd rhan ir sêt fawr, ac wrth fynd hyd llwybr y capel yn adrodd yr emyn yma a dagrau yn llifo i lawr ei wyneb:

"Blinais, blinais ar y wlad
Lle mae pechu;
Am ddod adre i dy fy Nhad
Rwyn hiraethu."

Ac un arall ar ei liniau yn y Sêt Fawr yn gweddio 
"... I mi goleuni o'r Nef yw Diwygiad, a hwnw yn llewyrchu ar ddynion, nes eu bod yn gweld eu hunain yn y goleu yn bechaduriaid aflan a budr. Truan o ddyn ydwyf fi. Pwy am gwared oddiwrth gorff y farwolaeth hon"

--------------------------



Gallwch ddilyn y gyfres gyfa' trwy glicio ar y ddolen 'Pobl y Cwm' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

14.8.15

Cefnogwyr Bro Ffestiniog yn cwrdd â’u harwr

Daeth cannoedd o gefnogwyr rygbi i gwrdd â’u harwyr mewn digwyddiad arbennig a drefnwyd gan gwmni Olew dros Gymru yng Nghlwb Rygbi Bro Ffestiniog.

Roedd llysgenhadon Olew dros Gymru, yr arwr cicio Dan Biggar, y taclwr o fri Dan Lydiate, y bachwr blaenllaw Ken Owens, a’r cyn chwaraewr rhyngwladol Dafydd Jones yno i ateb cwestiynau a chymdeithasu gyda thrigolion yr ardal.


Roedd y cwmni teuluol wedi trefnu ffair am ddim i’r plant oedd wedi mynychu’r digwyddiad hefyd.
Fel cwmni, mae cysylltiadau agos gydag Olew dros Gymru drwy noddi rhanbarthau’r Sgarlets, Y Gweilch, Y Dreigiau a’r Gleision, a chefnogi chwaraewyr blaenllaw Cymru.
Cyhoeddodd Olew dros Gymru eu bod nhw’n noddi Clwb Rygbi Bro Ffestiniog hefyd.  Fel rhan o’r cynllun, mi fydd y cwmni’n rhoi crysau i’r clwb.


Yn 2014, agorodd Olew dros Gymru safle newydd ym Mlaenau Ffestiniog, dyma’r safle mwyaf hyd yn hyn gyda’r storfa ar gyfer 400,000 litrau o olew.  Y safle hwn oedd y pumed i’r cwmni, a sefydlwyd yn 2010 gan yr entrepreneur Colin Owens.

Fe ddywedodd Colin Owens, Rheolwr-Gyfarwyddwr Olew dros Gymru: “Roeddem ni wrth ein boddau gyda’r nifer o bobl wnaeth fynychu’r digwyddiad.  Ein harwyddair ni fel cwmni yw “Gweithio gyda’r gymuned, er mwyn y gymuned” ac roedd y digwyddiad yma wedi dangos y ffordd yr ydym ni yn rhoi’r gymuned yng nghalon ein gweithredoedd.”

“Hoffwn ni ddiolch i Glwb Rygbi Bro Ffestiniog am adael i ni gynnal y digwyddiad yma yn y clwb ac i gadeirydd y clwb am ei eiriau caredig. Rydyn ni wrth ein bodd bod y digwyddiad wedi bod yn llwyddiannus ac yn gobeithio cynnal digwyddiadau tebyg yn y dyfodol.”

Dywedodd Ken Owens, bachwr Cymru a’r Sgarlets: “Roedd y bechgyn a finne wedi mwynhau’r profiad o gwrdd â chefnogwyr yng Ngogledd Cymru gan nad yw yn rhywbeth rydyn ni’n gallu gwneud yn aml oherwydd amserlen hyfforddi.  Mae Olew dros Gymru yn gwmni arbennig i fod yn rhan ohono, ac fel ni, mae’n nhw’n angerddol am Gymru a rygbi.  Rydyn ni’n gobeithio bod y cefnogwyr wedi mwynhau cymaint a ni ac edrychwn ymlaen i ddychwelyd yn y dyfodol.”

------------------------------
Mae hwn yn ran o erthygl a ymddangosodd gyntaf yn rhifyn Gorffennaf 2015.


12.8.15

Senedd ‘Stiniog

Newyddion gan Y Cyngor Tref, o rifyn Gorffennaf.


Y Cyngor Tref yn brwydro i amddiffyn gwasanaethau lleol!
 
Cafwyd newyddion drwg yn ddiweddar, gyda chyhoeddiad Banc y Nat West fod y cwmni yn mynd i gau eu cangen ym Mlaenau Ffestiniog. Roedd y Cyng. Mandy Williams Davies wedi codi’r mater, gan fynnu fod y Cyngor yn gofyn am gyfarfod gyda’r banc i leisio ein siom a’n pryder am y penderfyniad yma. Fe leisiodd hi siom fod adeilad arall ar y stryd fawr yn cau. Ac ar ben hynny, os oedd mwy a mwy o bobl yn gorfod symud tuag at fancio arlein ac ar y ffôn, meddai, roedd yna berygl y byddai’r posiblrwydd o gael gwasanaeth bancio yn Gymraeg yn diflannu.

Ar ôl trafodaeth, cytunwyd mewn egwyddor i symud cyfrif banc y Cyngor Tref o’r Nat West i’r HSBC, yr unig fanc sy’n dal efo cangen yn Ffestiniog. Gobeithio’n fawr y bydd y banc hwnnw’n glynu at bolisi answyddogol y banciau i gyd, sy’n mynnu fod y banc olaf sydd â changen mewn tref yn ei chadw ar agor wedyn doed a ddelo.

Ydych chi’n bancio efo’r Nat West? Os felly, ydych chi wedi ystyried datgan eich barn yn glir i’r banc hwnnw, a hynny trwy symud eich cyfrif i’r unig fanc fydd yn dal efo cangen yn lleol?

Ond nid gwasanaethau bancio yn unig sydd o dan fygythiad. Ymddangosodd hysbyseb ar y we yn ddiweddar sy’n datgelu fod dyfodol Swyddfa Bost Blaenau Ffestiniog yn y fantol, ynghyd â swyddfa ddidoli’r Post Brenhinol. Mae’r swyddfa bost wedi hysbysebu’r cyfle i redeg swyddfa bost yn y dref, gan gynnwys yr opsiwn o wneud hyn mewn siop arall, yn hytrach nag o’r swyddfa bost bresennol. Petai hyn y digwydd, fe fyddai’r swyddfa ddidoli yn ddigartref ac fe fyddai yna berygl go iawn y byddai’n symud i Borthmadog neu i Lanrwst.
                                                                                   
Petai’r postmon yn methu dosbarthu parsel i chi
wedyn, fe fyddai'n rhaid teithio’n bell i’w nôl o.     
Fe gytunodd y Cyngor i ysgrifennu at y Swyddfa Bost i ofyn am gadarnhad y bydd y Swyddfa Bost a’r Swyddfa Ddidoli yn aros lle maen nhw, ac os oes angen, i lansio deiseb cyhoeddus i ofyn iddyn nhw wneud hyn.

Fferm wynt Llechwedd – newyddion diweddaraf..
Roedd Michael Bewick o gwmni Greaves yn bresennol, i roi adroddiad am gynlluniau’r cwmni. Erbyn hyn, mae Greaves yn gweithio efo cwmni lleol, Northern Welsh Slate, i gynhyrchu llechi ar y safle unwaith eto. Gyda’r holl ddatblygiadau diweddar, y zipwire, y llwybrau beics  a’r Bounce Below, fe ddylai’r cwmni fod mewn sefyllfa i wneud elw dros ei weithgareddau i gyd cyn bo hir, a hynny am y tro cyntaf ers rhyw ddeg mlynedd.

Dywedodd Michael Bewick y byddai cais cynllunio yn mynd i mewn am fferm wynt ar y safle ym mis Medi neu Hydref eleni. Torrwyd nifer y tyrbeiniau i lawr i ddim ond tri, yn sgil pryderon Cyfoeth Naturiol Cymru y byddai rhagor ohonynt yn dinistrio mawn ar y mynydd.

Os caiff y cynllun ei gymeradwyo, mae cwmni Greaves yn bwriadu cyfrannu arian ar gyfer datblygiad economaidd yn yr ardal, meddai, gan gynnwys sefydlu canolfan ymwelwyr am ynni adnewyddol yn y dref.

Rory Francis


10.8.15

Bwrw Golwg- Llythyr o'r America

Cyfres achlysurol yn edrych ‘nôl ar rai o gymeriadau a sefydliadau hanesyddol ein bro. Darn arall gan W. Arvon Roberts, y tro hwn am lythyr a yrrwyd i Stiniog o'r Unol Daleithiau. Ymddangosodd gyntaf yn rhifyn Mehefin 2015.

Fair Haven,
Vermont,
Hydref 31ain, 1854


Fy annwyl Gyfaill,

Wedi hir oedi yr wyf yn cyflawni yr addewid a wnaethum â thi cyn fy ymadawiad o’r hen wlad, sef rhoddi fy hanes o dir y gorllewin pell, os cawn fyw i fyned yno.

Wel, llawer o donau a phrofedigaethau sydd wedi fy nghyfarfod er pan welsom wynebau ein gilydd; byd y cyfnewidiadau ydyw y byd hwn, hen olwyn fawr Rhagluniaeth sydd yn rhoddi aml dro yn dywyll iawn i bawb yn y fro; felly i minnau.

Gobeithio y bydd i’r llinellau hyn dy gael di a’th deulu i gyd yn fyw ac yn iach, pryd yr ydwyf fi yn weddw, a’m bachgen bach yn amddifad mewn gwlad bellenig.

Mae yn debyg mai rhoddi ychydig o fy hanes yn fras ydyw y goreu i mi, er pan diriais i Efrog Newydd. Yr oedd fy mrawd Morris yn ein cyfarfod yn y dref. Aethum i fyny i Utica ymhen tri diwrnod. Yr oedd 1,600 o Ellmyniaid (Dutch) gyda ni yn y ‘Cars Train’. Cafodd Morris waith i mi yn nhref Utica; dolar yn y dydd o gyflog – 4 swllt a 2 geiniog o’ch harian chwi; ond dywedodd Dr. Williams (Cymro) mai gwell oedd i ni fyned i’r wlad y flwyddyn gyntaf, o ran ei bod mor boeth yn y dref; felly aethom wyth milltir i’r wlad. Aethum i weithio i’r ffermwyr o gwmpas. Yr oedd iechyd fy nheulu yn lled dda, a minnau yn cael dolar yn y dydd gyda y gwair. Bum yn saethu ceryg calch ar ol y cynauaf. Yr oedd yn rhyfeddod gan yr Yankees weled saethu yn y rhan hwnnw. Yn y fan honno clywais am ffarm bach yn Waterville, yn ymyl Evan Roberts, saer maen, ac fe ddarfu fy mrawd Morris roi gorchymyn y mi fyned at Edward Jones, a John y mab, i ofyn a ddeuant hwy gyda mi i‘w hedrych, ac os byddent hwy yn barnu ei bod yn werth y pris oedd arni, y gwnai yntau fy helpu i’w chael yn uniongyrchol.

I ffwrdd a mi i’r Sgeular, a dyma E. Jones a John yn ‘pacio’ y ‘garriage’ i ddyfod gyda mi, ac aethom cyn belled a thref Utica. Ond dyma lythyr i mi yn y dref o Vermont, oddiwrth ddyn oedd wedi bod yn yr un fan a mi gyda y gwair, yn dywedyd fod gwaith i mi i’w gael i weithio yn y chwarel, a dolar a hanner yn y dydd o gyflog. Tybiais i yn fy meddwl fod 6 swllt a 3 ceiniog yn well na ffarm, a dywedais wrth Morris, ac E. Jones, a John, hyd yma y deuaf fi, a dim ymhellach; y ffarm i chwi, a dolar a hanner yn y dydd i minnau. Mi aethum i’r ‘Cars Train’ yn y fan, ac yr oeddwn yn Rutlant County, Vermont, yn agos i 200 o filltiroedd, cyn 4 o’r gloch prydnawn. Dechreuais weithio dranoeth, a dyma lle yr ydwyf hyd yr awrhon yn yr un fan.

Cymro o Sir Fon yw perchenog y ffarm, a’r chwarel sydd arni. Aethum i geisio fy nheulu wedi i mi gael tŷ yn Fair Haven. Yr oeddwn yn byw yn y pentref. Ond tua mis Rhagfyr, dechreuodd Gwen fyned yn sâl pan ddaeth y barug oer, a William bach yn lled wael o hyd, ac yn waelach yr aethant; ond y 12fed dydd o Mawrth, dyma angeu wedi dyfod i’r tŷ. O don fawr, na theimlais yr un gymaint erioed! Fe ddywedod yr hen William Ellis dduwiol wrthyf yna fy mod i gael myned i ffwrneisiau poethion cyn myned i angeu. Ai tybed, fy nhgyfaill annwyl, fod yn rhaid i’r Arglwydd fyned a’m gwraig o fy mynwes, a’m bachgen o fy mreichiau, i dynu fy meddwl o’r byd?

... Ond y 12fed dydd o Ebrill, dyma don fawr eto. Ni fedraf adrodd fy nheimladau, pryd y daeth galwad am William bach ar ôl ei fam. O ddiwrnod trwm i mi! Er fod yn y tŷ lawer o bobl, a llawer o ieithoedd, eto nid oedd yno yr un fam i gydymdeimlo â mi yn y tywydd mawr.
Wel, wel, llawer diwrnod du o hiraeth sydd yn myned troswyf yn aml wrth feddwl am Gwen a William. Yr oedd William yn galw ar John bach at ei wely y Sul olaf y bu fyw, ac yn dweyd wrtho am fod yn fachgen da.

Y mae yn rhaid i mi derfynu, cyn dywedyd hanner fy newydd. Yr ydwyf fi a John bach yn lletya gyda’r gŵr a bia y chwarel. Nid oes ganddynt ddim plant. Y mae John yn fawr yn eu golwg. Fy nghyflog ydyw £1.17.6 yn yr wythnos.

Ysgrifena ataf, a dyro hanes Eglwys Bethesda ...

Hyn oddiwrth dy hen gyfaill,

William Job



Chwarel yn Fair Haven, Vermont yn ail hanner y 19eg Ganrif. Llun o gasgliad yr awdur.

--------------------------
Y oedd talaith Vermont yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn debyg iawn i Gymru, gyda’i mynyddoedd uchel, dyffrynnoedd prydferth, doldiroedd ffrwythlon, afonydd rhedegog a’i llynnoedd gloywon. Daeth y Cymry cyntaf yno tua 1851 ac ymsefydlont yn Fair Haven, Sir Rutland. O Ogledd Cymru y deuai’r mwyafrif, gan mai’r diwydiant llechi ac ithfaen a’u tynnodd hwy yno’n bennaf. Pentref bywiog fu Fair Haven, sef prif gyrchfan y rhan fwyaf o’r ymfudwyr Cymreig yn Vermont, gyda’i siopau, banciau, llythyrdy, gwesty a gweithfeydd llaw, chwareli llechi a melinau llifio, ynghyd â thorri llechi a marmor. Yr oedd tua 500 o Gymry’n byw yno yn 1871 a mwy o lawer o Wyddelod a Ffrancwyr.

Ni allaf yn fy myw gael unrhyw wybodaeth am William Job, awdur y llythyr. Oes yna gofnodiad amdano yn hanes yr achos ym Methesda, Manod tybed?

Efallai i ddarllenwyr ‘Llafar Bro’ fod wedi clywed am Rowland Walter (‘Ionoron Glan Dwyryd’, 1817-1884) yng ngholofn fisol ‘Rhod y Rhigymwr’ yn ddiweddar [nifer o gyfeiriadau ato trwy glicio'r ddolen isod hefyd -Gol.].   Ganwyd ef ym Mlaenau Ffestiniog. Yn ŵr ifanc, bu’n gweithio yn chwareli Cwmorthin a Holland. Ymfudodd yntau fel William Job i’r America tua’r un amser, ‘Ionoron’ ym 1852. Pan oedd ef yn cerdded dros y Migneint i’r Bala un tro, daeth y nos yn ddisymwth ac yntau yng nghyffiniau Pen Llechwedd Deiliog, ger Tai Hirion, pan ymosodwyd arno gan ladron. Collodd bob ceiniog goch oedd ganddo. Nodwyd iddo gyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth: ‘Lloffion y Gweithiwr’ (1852) a ‘Caniadau Ionoron’ (1872). Wedi iddo ymsefydlu y yr America bu yntau, fel William Job, yn gweithio yn chwareli Fair Haven. Efallai iddynt gyfarfod â’i gilydd yno!

---------------------------------------------------
Nodyn gan Iwan, golygydd Mehefin: 
Yn CPM Gogledd Cymru, deuthum ar draws cofnod o briodas WIILIAM JOB a GWEN OWEN yn Eglwys Twrog Sant, Maentwrog ym 1839. Mae lle i gredu mai dyma’r William Job a ysgrifennodd y llythyr. Mae cofnod o enedigaeth ‘William Job’ yn Ffestiniog (1844) a ‘John Job’ (1848). Nodir ‘William Job’ fel tad y ddau. Yng nghyfrifiad 1841, roedd William (chwarelwr 30 oed) a’i wraig, Gwen (27 oed) ynghyd â’u merch fach 8 mis oed, Gwen, yn byw yn ‘Glanydŵr’, Ffestiniog.

---------------------------------------------------
Nodyn pellach ar Ionoron Glan Dwyryd, o golofn Stolpia, gan Steffan ab Owain yn rhifyn Gorffennaf:
Y mae cryn sylw wedi bod i Rowland Walter, neu Ionoron Glan Dwyryd, yn ȏl ei enw barddol, yn ddiweddar. Y mae un peth yn cael ei adrodd dro ar ȏl tro amdano yn ei fywgraffiad, sef ef ei fod yn enedigol o Cefnfaes yn y Manod. Nid yw hyn yn gywir, un o Danygrisiau oedd Ionoron yn wreiddiol fel y cofnodir man ei gartref yng nghofrestr bedyddiadau plwyf Ffestiniog.

Yn ȏl J.W.Jones, Y Fainc Sglodion, ganwyd ef ym Mhencefn Pellaf, ac os cofiaf yn iawn, bu chwaer Ionoron yn byw yno mewn cyfnod ddiweddarach. Rwyf yn tybio mai Bob Owen, Croesor sydd wedi nodi yn y Bywgraffiadur Cymreig mai yn y Cefnfaes y ganwyd ef, ond y gwirionedd yw, symud i fyw yno gyda’i rieni pan oedd yn blentyn bach a wnaeth.


8.8.15

Stolpia- Hen Dai ein Bro

Pennod o golofn reolaidd Steffan ab Owain, o rifyn Rhagfyr 1997.

Prin y sylweddolais pan ddechreuais chwilota i hynafiaeth rai o hen anedd-dai ein bro fod cynifer ohonynt gyn hyned a’r unfed ganrif ar bymtheg (sef yr 1500au), ac o bosib’ yn hŷn na hynny ... wel o leiaf mewn enw, beth bynnag.  Fel y crybwyllais o’r blaen, dylid cofio y gall rai o’r tai a ddaliai’r enw gwreiddiol fod wedi cael eu hailwampio cymaint fel nad ydynt yn debyg i adeilad o’r cyfnod uchod mwyach.  Yn ogystal, gallai’r tŷ fod wedi hen ddiflannu bellach ac un arall wedi ei godi yn ei le ... a chario’r hen enw, wrth gwrs.  Yn dilyn, ceir enghreifftiau eraill o’r rhai y deuthum ar eu traws yn fy ymchwiliadau yn Archifdai Dolgellau a Chaernarfon.  Gyda llaw, mae’r dyddiadau a geir ar ddiwedd yr enw wedi eu codi o wahanol ddogfennau:

Kemere Ucha – Cymerau Uchaf (1555),
Kymere Isa – Cymerau Isaf (1574);
Tythyn y Garreg Loid – Y Garreg Lwyd (1575-80) ac eto yn (1591);
Bwlch Yockyn – Bwlch Iocyn (1585);
Havod Spithy – Hafod Ysbyty (1575-80);
Blaen Cynfel – Cwm Cynfal (1580-1590); 
Lach Du – Llech Ddu (1535).

Ceir cyfeiriad diddorol at Gwm Bwy – Cwm Bywydd hefyd yn yr unfed ganrif ar bymtheg ... yn ogystal ag enwau rhai o’r hen deulu a fu’n preswylio yno.  Yn ôl un hanesyn symudodd John Wynn o’r Gesail Gyfarch gerllaw Penmorfa i Ffestiniog yn y flwyddyn 1594 oherwydd ymosodiadau cyson arno gan ei gymydog .... ‘Neighbours from Hell’, onide?  Beth bynnag, aeth i fyw i le o’r enw Cwm Bowydd, sef eiddo a etifeddodd ar ôl ei fam, aeres y stâd.  Gyda llaw, enw ei fam oedd Catherine ferch Evan ap Griffith ap Meredydd ap Gwilym Powys o Gwm Bywydd.  Rwan, onid yw’r uchod yn awgrymu y gall y tŷ ddyddio’n ôl i’r bymthegfed ganrif ... neu’n wir i gyfnod llawer cynt?

Ymhlith y tai eraill sy’n debygol o fod yn dyddio’n ôl i’r cyfnod dan sylw (gan gynnwys rhai nad ydynt gyda ni mwyach) mae hen ffermdy Talyweunydd a dynnwyd i lawr  yn yr 1960au; Cribau sy’n adfeilion; hen amaethdy Rhiwbryfdir a gladdwyd o dan domennydd Chwarel Oakeley ers blynyddoedd; hen dai Glan y Pwll, Sarn y Llwyn, a Maenofferen, a dynnwyd i lawr yn niwedd y ganrif ddiwethaf; hefyd Tan y Manod a ddymchwelwyd gan gyngor cibddall yn yr 1970au. 

Cribau, a Gloddfa Ganol yn y cefndir. Llun PW.
Credaf hefyd yn ôl y dystiolaeth fod Llwyn y Crai, Cae Canol, Bodlosgad, Plas Meini (h.y. yr hen blas), Tyddyn Gwyn (Cwm Cynfal), Y Wenallt ac yn ddiau, amryw o rai eraill, yn dyddio’n ol i’r un cyfnod a’r rhai a enwyd gyntaf. 

Wrth chwilota drwy’r degfennau diddorol hyn deuthum ar draws enwau lleoedd, h.y. yn dyddynnod ac yn diroedd, nad oes gennyf amcan daear ymhle yr oeddynt (neu lle y maent), o bosib. 
Dyma ychydig esiamplau i chi:

Mur y Tŷ Hir (1500);
Bron y Fudda (1522);
Tyddyn Jenkin Lloyd (1539);
Y Waun Wen (1547);
Erw Eryrig (1556);
Bryn y Tŷ Du (1574);
Rhos Bryn Derwas (1587).

--------------------------------

Gallwch ddilyn holl erthyglau Stolpia trwy ddilyn y ddolen isod, neu yn y Cwmwml Geiriau ar y dde.


6.8.15

Ar Wasgar- Melys Gof

Cyfraniad gan y diweddar, liwgar gymeriad, D. Elwyn Jones, Deganwy, i gyfres o erthyglau gan rai oedd wedi gadael Bro Ffestiniog.

Melys Gof

Wrth edrych yn ôl y mae y pleser a’r atgofion i gyd yn dod.  Yn wir mae rhywun yn amal iawn yn cael ei ddal yn synfyfyrio ym mhellter ei feddwl am hyn a fu.  Henaint ydyw, medd rhai; rhyw hen sentiment gwag yw, medd eraill;  mae o yn afiach, meddai carfan arall, i feddwl am y gorffennol o hyd.  Rhywsut mi deimlaf ei fod yn llawer iawn mwy.

Rhan o gymeriad rhywun yw cofio ei wreiddiau, ac er nad wyf wedi byw yn y Blaenau ers degawdau, y mae yn dal yn rhan bwysig ac annatod o’m cymeriad a’m bodolaeth. 
Ar y pryd a chithau yn ddim ond plentyn nid ydych yn sylweddoli pwysigrwydd symlrwydd bore oes, eich magwraeth, eich cymdogion, eich ffrindiau, eich capel, eich ysgol; eich diddordebau yn cynnau, eich cred yn ffurfio, eich cymeriad yn ffurfio. 

Mae magwraeth ‘Stiniog yn rhoi cryfder i chi, hwyrach mai bryntni a chaledi y graig neu’r llechen ydyw, hwyrach mai’r glaw yr ydych yn gorfod ei oddef ydyw, yn arbennig os y’ch magwyd mewn oes cyn dyfod llawer iawn o geir i bobl gyffredin.

Ond mae yna rywbeth yn yr ardal sydd yn unigryw iawn ac sydd yn magu cymeriadau hoffus, egwyddorol a thalentog.  Bum i yn lwcus arbennig i gael pobl dalentog yn fy hyfforddi mewn Ysgol Sul ac Ysgol Sir, mewn Gobeithlu a Chymdeithas Ddrama.  Pobl oedd yn rhoi eu hamser prin ar ôl diwrnod called o waith i ddysgu y sol-ffa i griw o hogia’ a merched, neu i’n tywys drwy rihyrsals drama neu gymhlethdodau y pasiant, neu faes llafur.

Eto, ar y pryd, prin iawn yw gwerthfawrogiad plentyn, - ddim yn sylweddoli yr aberth amser, y dygnwch a’r straen weithiau o geisio rhoi rhyw fath o ymwybyddiaeth mewn criw o blant oedd a’u meddwl ar radio neu deledu neu ffwtbol. 

Ond peth rhyfedd yw cof.

Mi gofiaf hyd heddiw ambell i ddywediad a ddysgais bryd hynny, ambell i gymeriad a’m dysgodd, ambell i natur syml gyfeillgar rhywun llawer hyn na ni, ond oedd yn ein deall ac am roi o’u profiad hwy i’n tywys ar lwybrau troellog bywyd.  Mae yn fy mhoeni i na wnes i ddim diolch iddynt. 

Rhyngddynt fe lwyddasant fagu cymeriad a rhoi gwerthoedd a dangos y ffordd, a dyna’r cwbwl y gall unrhyw un ei wneud, mae i fyny i ni wedyn.

Felly mae magwraeth ‘Stiniog wedi fy ffurfio i er drwg neu er gwaeth, ond gobeithio na wnes i erioed fradychu fy mro enedigol na methu ei hamddiffyn – cofiaf i un wag ddweud wrthyf unwaith ei bod yn rhyfedd nad oedd holl law ‘Stiniog wedi fy ngwneud yn un o’r ‘Wets’ yna.  Glaw yw y ddelwedd ond yr wyf wedi cael y pleser lawer gwaith o dywys dieithriaid i ogoniant Cwm Bowydd yn yr haul ac y maent wedi synnu a rhyfeddu.

Felly, yn llawer iawn rhy hwyr mi dalaf ddiolch i’r holl rai a fu yn gymorth i mi ar ben ffordd, yr holl gymeriadau a fagodd hyder ac awch am wybodaeth ac a sicrhaodd ddyfodol.  All rhywun byth ddiolch digon ac y mae yn rhy hwyr i ddiolch yn berthnasol gan fod llawer wedi mynd at eu gwobr, ond mae’r cof yn eu cadw yn fyw ac y mae y rhelyw anferthol o’r atgofion yn rhai melys. 

Am bopeth a gafwyd, am bopeth a roddwyd heb ofyn am amrhydedd neu fraint, diolch ‘Stiniog i ti a’th gymeriadau gwych.

-----------------------------
Ymddangosodd gyntaf yn rhifyn Mai 1998. Gallwch ddilyn cyfres Ar Wasgar gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


4.8.15

Stiniog a’r Rhyfel Mawr- iawndal a recriwtio

Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y Rhyfel Byd Cyntaf.

Ar 29 Mai 1915, cyhoeddodd Y Rhedegydd restr o wybodaeth ddiddorol parthed budd-daliadau a dalwyd gan y llywodraeth i weddwon a phlant milwyr a laddwyd yn y rhyfel. Yn ychwanegol, cafwyd gwybodaeth am daliadau i glwyfedigion y rhyfel hefyd.
“I'r weddw  - 10s. yr wythnos os o dan 35 mlwydd oed I'r weddw  - 12/6  yr wythnos os dros 35 oedI'r weddw  - 15s. yr wythnos os dros 45 oed
I'r plant:     Tâl wythnosol hyd y byddent yn 16 oed, 5s. yr wythnos i'r plentyn cyntaf; 3/6 i'r ail a 2s i'r plant eraill. Ca gweddw 30 oed a 3 o blant felly 20s yr wythnos.”
Oddi tan yr uchod cynhwysid y canlynol:
“Blwydd-daliadau i deulu milwyr cyffredin yw yr uchod. Rhoddir ychydig yn fwy i weddwon milwyr fo hefyd yn swyddogion - ond yr un fydd y swm i'r plant ag a nodir uchod.

I Filwr a fo wedi ei lwyr analluogi yn y Rhyfel:
I'r Milwr ei hun: 25s. (£1.25c)  yr wythnos.
I'w Blant: 2s 6c. yr wythnos am bob plentyn.
I Filwr a fo wedi ei analluogi mewn rhan:
Cymeradwyir tal wythnosol is na'r uchod, ac yn amrywio yn ol yr amgylchiadau.”

Roedd effeithiau colli cymaint o ddynion lleol i'r fyddin i'w weld wrth ddarllen colofn newyddion Blaenau Ffestiniog yn Y Rhedegydd ar 29 Mai 1915.
“Peth newydd iawn yn Ngorsaf y L.N.Western yw gweled merch ieuanc yn gwasanaethu fel Clerc, ac yn rhoddi tocynau allan. Tebyg yw y byddant yn amlach lawer eto, gan y galw sydd am bob dyn ieuanc i ymrestru.”
Adlewyrchwyd hynny mewn adroddiad arall yn yr un golofn, a ddywedai fod 1,200 yn llai yn gweithio yn chwareli Ffestiniog i'w gymharu â'r rhif yn Awst 1914, a dechrau'r rhyfel. Tacteg newydd gan y swyddogion recriwtio oedd ceisio creu cystadleuaeth rhwng gwahanol strydoedd yn y Blaenau. Dyma ddywed gohebydd Y Rhedegydd ar 5 Mehefin 1915:
“Dywedir fod trigolion sydd yn byw yn Lord Street, lle mae 14 o dai yn ymffrostio yn y ffaith fod 19 o filwyr oddiyno. Pa un yw yr agosaf tybed? Neu, a oes un arall wedi eu rhagori?”
Ddechrau Mehefin 1915, daeth y Parchedig John Williams, yn iwnifform y fyddin, a'i goler gron, i bregethu yng nghapeli Bowydd, Rhiw a Maenofferen, yn y Blaenau. Roedd yno yn ei wisg swyddogol fel Caplan y Fyddin Gymreig. I ychwanegu at yr awyrgylch filitaraidd, fe drefnwyd gorymdaith drwy'r dref tua'r capeli, gyda Seindorf Arian Llan Ffestiniog ar y blaen, a thynnodd John Williams dyrfaoedd mawr ar ei ôl. Pregeth danbaid, rethregol oedd ganddo, fel arfer. Ymysg yr addolwyr yn y capeli gorlawn ar y Sul hwnnw oedd y garfan leol o filwyr. Manteisiodd Williams ar y cyfle i atgoffa'r gynulleidfa o'r angen am fwy o wirfoddolwyr i'r fyddin. "Nid yw Môn wedi hanner deffro, na'r un sir arall, na Chymru ychwaith wedi deffro. Mae popeth gwerthfawr gan Gymro iawn yn y fantol heddiw" meddai'n argyhoeddedig. Ar ddiwedd ei bregeth yng Nghapel Bowydd, cododd y dorf fawr ar ei thraed, a Mr Lewis Jones ar yr organ, i ganu 'Duw gadwo'r Brenin'.   

----------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2015.
Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar y ddolen 'Stiniog a'r Rhyfel Mawr' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

[Pabi gan Lleucu Gwenllian]

2.8.15

Sgotwrs Stiniog- egarych a chogyn

Erthygl o gyfres reolaidd y diweddar Emrys Evans, o 1998. Nid rhywbeth diweddar yn unig ydi hafau gwael!

Unwaith eto dyma ni ymhell i mewn i dymor y brithyll. Tydw'i ddim wedi clywed neb yn rhoi gair o ganmoliaeth i'r tymor yma mwy nag i'r un gawsom ni y flwyddyn ddiwethaf.

Mae hi wedi gwneud un o'r hafau gwlypaf, os nad y gwlypaf, o fewn cof, ac mae'r llynnoedd wedi bod yn llawnion at eu glannau ar hyd yr haf. Fel arfer mae' r llynnoedd yn mynd i lawr yn ystod y tymor, ond mae’r llynnoedd yr ydw i wedi eu gweld yn fwy na llawn, a hynny gydol y misoedd. Maent mor llawn, os nad yn llawnach, ddiwedd y tymor nac ar ei ddechrau.

Er enghraifft roeddwn i wrth Lyn Cwmorthin yn niwedd Awst ac roedd y llyn mor llawn ag y medr o fod a'r ffos o Lyn Conglog a'r un sy’n dod i lawr at Gwmorthin Uchaf yn drochion gwyn.
Felly, ai un o dymhorau coll yw un 1998: a dim da i’w ddweud amdano?  Fe 'achubwyd' (os mai dyna yw’r gair iawn) y tymor diwethaf drwy inni gael diwedd go dda iddo. Yn ystod misoedd Awst a Medi bu y Bongoch yn amlwg ac yn niferus ar rai o'r llynnoedd, beth bynnag, a chafwyd symud ar y pysgod yn dilyn hynny. Tydi'r tywydd ddim wedi bod yn ffafriol i'r Bongoch eleni, ddim hyd ddiwedd yma beth bynnag, ac ychydig iawn ohono yr ydw i wedi’i weld.

Egarych Corff Clust Ysgyfarnog
Un o’r plu yr ydw i wedi gwneud orau hefo hi ym mis Awst yw Egarych Corff Clust Ysgyfarnog, a'i chawio hi yn bluen sych. Mae ei phatrwm fel a ganlyn:
Bach- Maint 12.
Corff- Blewyn ocldi ar glust ysgyfarnog, a rhoi cylchau o weiar aur amdano.
Traed- Gwar coch ceiliog, drwy'r corff
Adain- Pluen frown oddi ar iar goch. Yna rhoi rhagor o draed fel uchod wrth lygad y bach. 

Llun Gareth T. Jones, o lyfr Emrys Evans 'Plu Stiniog' 2009.

Rwy'n credu y dylai hi weithio hefyd yn ystod mis Medi, os ceir rhywfaint o symud ar y pysgod.

Mae y 'cogyn’, y pry' yr ydym yn falch o’i weld yn dod i'r golwg ar ein llynnoedd ym misoedd Mai a Mehefin, yn un pur bwysig ym mhatrwm ein tymor pysgota. Mae y bobl sydd wedi astudio y pryfaid yma yn dweud fod yna 49 o wahanol fathau o’r cogyn yn Ynysoedd Prydain. Y rhai mwyaf cyffredin yn ein llynnoedd ni yn ardal Ffestiniog yw y cogyn coch a’r cogyn brown.

Y mwyaf un o deulu’r cogyn yw y 'cogyn Mai', ond tyda ni ddim yn gweld hwnnw ar ein dyfroedd asidig ni. Mae yn un hynod hardd, ac mae yna lawer ohono i'w weld ar lynnoedd mawrion Iwerddon ac i lawr ar yr afonydd calch yn Ne Lloegr. Clywais ddweud fod yna ryw ychydig o'r 'cogyn Mai' i'w gael yn Llyn Tegid, y Bala, ond doeddwn i ddim wedi cael unrhyw gadarnhad o hynny, tan yn ddiweddar iawn.

Yn niwedd mis Gorffennaf diwethaf daeth cyfaill i'r ty ataf. Roedd o wedi bod yn gweithio yn Llangywer, yr ochr arall i Lyn Tegid i'r Bala, ac wedi taro ar y 'cogyn Mai', a dal un ohonynt.
Buom yn edrych llyfr John Goddard ac yn ei gymharu a'r llun sydd ynddo, a doedd dim amheuaeth mai’r cogyn Mai ydoedd. Roeddwn i'n falch iawn o gael cadarnhad fod y cogyn yma i’w gael mor agos atom, ac o gael gweld enghraifft ohono drosof fy hun.
----------

Rhan o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Medi 1998 yw'r uchod, efo mân-newidiadau am ei bod yn ymddangos ar y we yn gynharach yn y tymor. Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar y ddolen 'Sgotwrs Stiniog' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.