Ym Mlaenau Ffestiniog, roedd presenoldeb tua 80 o filwyr o adran o'r fyddin wedi tarfu ar dawelwch y bore Sul cyntaf yn Ionawr 1915, wrth iddynt orymdeithio y tu ôl i'r seindorf leol i gapel Dolgarregddu, lle y traddodwyd pregeth iddynt gan y Parchedig Silyn Roberts, a fu'n weinidog ar Gapel Bethel, Tanygrisiau rhwng 1905 a 1913.
Pythefnos yn ddiweddarach cyrhaeddodd catrawd o 250 o filwyr y Blaenau, a threfnwyd cyngerdd ar eu cyfer yn y Neuadd Gyhoeddus. Wedi mwynhau'r arlwy, aeth y gatrawd ymlaen i gyfeiriad Bala a Chorwen.
Tua'r un adeg cyhoeddodd ‘Y Rhedegydd’ lythyr gan Dick, mab y Dr. Vaughan Roberts, a oedd yn gwasanaethu rhywle yn Ffrainc. Disgrifiodd beth oedd wedi ei weld ar y ffrynt (cyfieithiad o’r llythyr Saesneg):
‘…cawsom olwg cyflawn o’r ymosodiad, a gwelsom y bechgyn druan yn syrthio fesul un, a’r rhai oedd yn aros ar ôl a saethwyd…’
Cafwyd cadarnhad fod y milwyr yn ysgrifennu adre' yn amlach erbyn hynny, wrth weld y canlynol, dan 'O’r Ffrynt', yng ngholofn newyddion Trawsfynydd yn y papur:
'...parhau i ddod i mewn y mae llythyrau o faes y frwydr, yn wythnosol. Deallwn fod Mr Jones, y Gorsaf-feistr wedi derbyn amryw.'
Cafwyd rhybudd, mewn Saesneg, yn rhifyn 16 Ionawr 1915 i rai oedd wedi gwasanaethu gyda ‘His Majesty's Forces, Regular and Auxilliary’, ym Meirionnydd a Threfaldwyn i ymaelodi ar unwaith fel aelodau wrth gefn. Roedd y rhain i fod dan ofal y ‘District Commandant’, y Dr. Richard Thomas, Isallt.
Roedd sensoriaeth y Swyddfa Rhyfel wedi sicrhau na fyddai newyddion drwg o’r ffrynt yn cyrraedd adre’, am resymau amlwg. Ond ar y 23ain o Ionawr 1915, cyhoeddwyd adroddiad, byr iawn, o hanes y clwyfedig cyntaf y rhyfel o'r fro i gyrraedd tudalennau'r ‘Rhedegydd’. Cafwyd gwybodaeth fod Mrs Anne Lloyd, Bryngwyn, Tanygrisiau wedi derbyn llythyr yn ei hysbysu fod ei mab, David, wedi ei glwyfo.
Cynhaliwyd Eisteddfod y Milwyr yn Llandudno yn ystod mis Ionawr 1915, lle y bu i Alun Mabon Jones, o Riwbryfdir ddod yn fuddugol, allan o bedwar-ar-ddeg, ar gyfansoddi englyn i'r Cadfridog Owen Thomas. Mae naws jingoistaidd ar yr englyn hwn hefyd, fel nifer o gerddi gwladgarol-Brydeinig, frenhinol yr oes honno:
Gŵr hoenus, hawddgar, hynod - yw y doeth
Frigadier hyglod,
Gŵr pur, a geiriau parod,
Mal ei gledd yn loywa' i glod.
Cafwyd hefyd wybodaeth fod Alun Mabon yn aelod o'r 13eg Fataliwn o Gatrawd y Pals Gogledd Cymru, ac yn athro ysgol Sul ar 29 o filwyr. Roedd ymgyrch recriwtio rhai fel Lewis Davies, Y Gloch, yn dangos ei farc yn y Blaenau wrth weld adroddiad ar y 30 o Ionawr 1915 yn dweud :
'Yn y Tabernacl yr oedd ein milwyr lleol y Sul diweddaf, a'r Parch Thomas Hughes, B.A., Rhiw yno yn pregethu iddynt, Mae y niferoedd wedi cyrraedd cant a thri.'
Gwelodd darllenwyr ‘Y Rhedegydd’ ddarn o farddoniaeth yn ymwneud â’r Rhyfel Mawr, gan Hedd Wyn, am y tro cyntaf ar 30 Ionawr 1915, dan y testun ‘Tua’r Frwydr’. Roedd y gerdd wedi’i chyflwyno...‘i fechgyn Trawsfynydd, y rhai sydd a’u hwynebau tua maes y gwaed’. Erbyn y cyfnod hwn, roedd cynnydd ym marddoniaeth, gan feirdd, o amrywiol safon, a ymddengys ar dudalennau’r papurau Cymraeg wythnosol. Yn ychwanegol i’r cynnydd mewn barddoniaeth, yr oedd adroddiadau’n cynyddu’n rheolaidd am amryw yn mynd ‘i wasanaethu eu gwlad.'
Yng ngholofn newyddion Trawsfynydd yn ‘Y Rhedegydd’ ar 13 Chwefror 1915 cafwyd hanes cyfarfod cyhoeddus yn neuadd y pentref i hybu recriwtio yno. Lewis Davies, y swyddog recriwtio oedd yn annerch, ond fel y dywedodd y gohebydd lleol, ‘...tipyn yn deneu oedd y cynulliad...’
Yn yr un rhifyn, dywedwyd, dan bennawd ‘Cael Gynau’r Gelyn i’r Blaenau’ yn ieithwedd y cyfnod:
“Mae’n wybyddys fod y Swyddfa Rhyfel yn anrhegu y lleoedd hynny sy’n rhestru mwyaf o filwyr i’r fyddin, â gynau wedi eu dal a’u dwyn oddiar y Germaniaid. Carem wybod lle y saif Ffestiniog arni yn y mater yma. Mae’r ardal wedi gwneyd cystal a’r un ardal trwy y sir, a dylai rhywun gymeryd y gwaith mewn llaw i edrych a oes gennym le i wneyd cais at y Swyddfa Rhyfel am y cyfryw anrheg. Awgrymwn y priodoldeb i’r Cynghorwyr gymeryd hyn o orchwyl mewn llaw.”
Llwyddwyd i sicrhau’r gynnau hynny, a chawsent eu harddangos yn y Parc yn y Blaenau am beth amser.
---------------------------
Ymddangosodd yr uchod yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2015.
Gallwch ddilyn y gyfres i gyd trwy glicio ar y ddolen 'Stiniog a'r Rhyfel Mawr' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
[Pabi gan Lleucu Gwenllian]
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon