8.8.15

Stolpia- Hen Dai ein Bro

Pennod o golofn reolaidd Steffan ab Owain, o rifyn Rhagfyr 1997.

Prin y sylweddolais pan ddechreuais chwilota i hynafiaeth rai o hen anedd-dai ein bro fod cynifer ohonynt gyn hyned a’r unfed ganrif ar bymtheg (sef yr 1500au), ac o bosib’ yn hŷn na hynny ... wel o leiaf mewn enw, beth bynnag.  Fel y crybwyllais o’r blaen, dylid cofio y gall rai o’r tai a ddaliai’r enw gwreiddiol fod wedi cael eu hailwampio cymaint fel nad ydynt yn debyg i adeilad o’r cyfnod uchod mwyach.  Yn ogystal, gallai’r tŷ fod wedi hen ddiflannu bellach ac un arall wedi ei godi yn ei le ... a chario’r hen enw, wrth gwrs.  Yn dilyn, ceir enghreifftiau eraill o’r rhai y deuthum ar eu traws yn fy ymchwiliadau yn Archifdai Dolgellau a Chaernarfon.  Gyda llaw, mae’r dyddiadau a geir ar ddiwedd yr enw wedi eu codi o wahanol ddogfennau:

Kemere Ucha – Cymerau Uchaf (1555),
Kymere Isa – Cymerau Isaf (1574);
Tythyn y Garreg Loid – Y Garreg Lwyd (1575-80) ac eto yn (1591);
Bwlch Yockyn – Bwlch Iocyn (1585);
Havod Spithy – Hafod Ysbyty (1575-80);
Blaen Cynfel – Cwm Cynfal (1580-1590); 
Lach Du – Llech Ddu (1535).

Ceir cyfeiriad diddorol at Gwm Bwy – Cwm Bywydd hefyd yn yr unfed ganrif ar bymtheg ... yn ogystal ag enwau rhai o’r hen deulu a fu’n preswylio yno.  Yn ôl un hanesyn symudodd John Wynn o’r Gesail Gyfarch gerllaw Penmorfa i Ffestiniog yn y flwyddyn 1594 oherwydd ymosodiadau cyson arno gan ei gymydog .... ‘Neighbours from Hell’, onide?  Beth bynnag, aeth i fyw i le o’r enw Cwm Bowydd, sef eiddo a etifeddodd ar ôl ei fam, aeres y stâd.  Gyda llaw, enw ei fam oedd Catherine ferch Evan ap Griffith ap Meredydd ap Gwilym Powys o Gwm Bywydd.  Rwan, onid yw’r uchod yn awgrymu y gall y tŷ ddyddio’n ôl i’r bymthegfed ganrif ... neu’n wir i gyfnod llawer cynt?

Ymhlith y tai eraill sy’n debygol o fod yn dyddio’n ôl i’r cyfnod dan sylw (gan gynnwys rhai nad ydynt gyda ni mwyach) mae hen ffermdy Talyweunydd a dynnwyd i lawr  yn yr 1960au; Cribau sy’n adfeilion; hen amaethdy Rhiwbryfdir a gladdwyd o dan domennydd Chwarel Oakeley ers blynyddoedd; hen dai Glan y Pwll, Sarn y Llwyn, a Maenofferen, a dynnwyd i lawr yn niwedd y ganrif ddiwethaf; hefyd Tan y Manod a ddymchwelwyd gan gyngor cibddall yn yr 1970au. 

Cribau, a Gloddfa Ganol yn y cefndir. Llun PW.
Credaf hefyd yn ôl y dystiolaeth fod Llwyn y Crai, Cae Canol, Bodlosgad, Plas Meini (h.y. yr hen blas), Tyddyn Gwyn (Cwm Cynfal), Y Wenallt ac yn ddiau, amryw o rai eraill, yn dyddio’n ol i’r un cyfnod a’r rhai a enwyd gyntaf. 

Wrth chwilota drwy’r degfennau diddorol hyn deuthum ar draws enwau lleoedd, h.y. yn dyddynnod ac yn diroedd, nad oes gennyf amcan daear ymhle yr oeddynt (neu lle y maent), o bosib. 
Dyma ychydig esiamplau i chi:

Mur y Tŷ Hir (1500);
Bron y Fudda (1522);
Tyddyn Jenkin Lloyd (1539);
Y Waun Wen (1547);
Erw Eryrig (1556);
Bryn y Tŷ Du (1574);
Rhos Bryn Derwas (1587).

--------------------------------

Gallwch ddilyn holl erthyglau Stolpia trwy ddilyn y ddolen isod, neu yn y Cwmwml Geiriau ar y dde.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon