20.8.15

Gwynfyd -gwyfynod

Erthygl arall o'r gyfres am fywyd gwyllt a chrwydro'r fro.

gwalchwyfyn yr helyglys (elephant hawkmoth) -llun PW
Gwyfynod, hwnna 'sgin i. Moths.

Ychydig iawn a wyddwn, yn gyffredinol am y rhain. Ydi, mae lindys rhai yn bwyta dillad! Ac eraill yn taro yn erbyn y ffenast gyda'r nos, ond faint ohonom wyddai bod dwy fil a hanner o wahanol wyfynod i'w cael trwy Ynys Prydain?

Y rhai amlycaf i'w gweld ydi'r ychydig hynny sy'n hedfan yn ystod y dydd; y rhain hefyd yw rhai o'r gwyfynod mwyaf trawiadol, fel gwyfyn y creulys sydd yn ddu a coch. Mae lindys hwn yn amlwg ar ddail a blodau'r creulys yng Ngorffennaf ac Awst, a'i liwiau melyn a du yn rhybuddio adar rhag eu bwyta.

gem gloyw (burnished brass moth) -llun PW
Un arall yw'r ymerawdwr, gwyfyn mawr hynod, gyda phedwar llygad ffug, un ar bob adain, i ddychryn adar. Mae'r gwryw yn hedfan ar wib dros weundir a rhos, yn synhwyro gwyfyn benywaidd o bell gyda'i deimlyddion (antennae) arbennig. Llwyddais am y tro cyntaf i ganfod un oedd yn llonydd am ddigon hir i'w astudio a thynnu ei lun, ger Llyn Conwy ganol Mehefin, roedd y lliwiau a'r patrymau arno yn wych.


Mae gweithwyr gerddi Plas Tan y Bwlch yn cynnal arolwg wythnosol o wyfynod, fel rhan o adroddiad blynyddol ar fywyd gwyllt y plas, a cefais wahoddiad yno i fysnesu a chynorthwyo yn ddiweddar. Defnyddient drap golau uwch-fioled sy'n denu gwyfynod heb eu niweidio, ac ers 1994 cafwyd tua 210 rhywogaeth yno, rhai yn brydferth ond nifer fawr yn dorcalonus o ddi-liw a thebyg i'w gilydd!


gwyfyn bwâu llwydfelyn (buff arches moth) -llun PW
Y bore hwnnw, cafwydd saith rhywogaeth ar hugain, gydag enwau hyfryd fel y fflamysgwydd ac adain bylchog y gollen.

Y diwrnod cyn hynny bu'm am dro ar y llwybr cwrteisi newydd ar lein rheilffordd Cwm Prysor, a rhaid canmol gweithwyr y Parc a'r ffermwyr am ddod i gytundeb a darparu llwybr gwerth chweil. Er bod yr haul yn amlach dan gwmwl y p'nawn hwnnw, eto'i gyd cafwyd tro hyfryd yng nghwmni glöynod byw, gan gynnwys yr iar fach dramor, y bu mewnlifiad mawr ohonynt o'r cyfandir eto eleni; a hefyd, ia, -gwyfynod!

gwyfyn gwyn cleisiog (clouded silver) -llun PW
Yr oedd degau o wahanol flodau yn eu hanterth, yn arbennig y mannau gwlyb a'r llefydd hynny o gyrraedd y defaid. Ar ben Bont Llafar (os dyna ei henw) er enghraifft, pont o bensaerniaeth arbennig, 'roedd giat a chamfa bob ochr, a rhyngddynt, carped o flodau melyn pys y ceirw sy'n fwyd i lindys sawl glöyn a gwyfyn, a meillion coch a gwyn yn wledd i'r llygaid.

'Roedd yr adar mân yn canu o boptu'r lein, a'r gylfinirod fel petaent yn ein dilyn. Rhaid oedd troi 'nol cyn cyrraedd hanner ffordd, ond dyma lwybr sy'n ased i'r fro, a byddai rhywun yn gobeithio y gellid ei ehangu i'r ddau gyfeiriad yn y dyfodol.

-----------------------------------------------------------
Ymddangosodd yr erthygl yn rhifyn Gorffennaf 1996, ond mae'r lluniau uchod i gyd yn fwy diweddar, pob un wedi'i ddenu at olau uwch-fioled yng ngardd y golygydd yn Stiniog.
-----------------------------------------------------------

Awdur cyfres Gwynfyd oedd Paul Williams. Dilynwch y gyfres gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon