6.8.15

Ar Wasgar- Melys Gof

Cyfraniad gan y diweddar, liwgar gymeriad, D. Elwyn Jones, Deganwy, i gyfres o erthyglau gan rai oedd wedi gadael Bro Ffestiniog.

Melys Gof

Wrth edrych yn ôl y mae y pleser a’r atgofion i gyd yn dod.  Yn wir mae rhywun yn amal iawn yn cael ei ddal yn synfyfyrio ym mhellter ei feddwl am hyn a fu.  Henaint ydyw, medd rhai; rhyw hen sentiment gwag yw, medd eraill;  mae o yn afiach, meddai carfan arall, i feddwl am y gorffennol o hyd.  Rhywsut mi deimlaf ei fod yn llawer iawn mwy.

Rhan o gymeriad rhywun yw cofio ei wreiddiau, ac er nad wyf wedi byw yn y Blaenau ers degawdau, y mae yn dal yn rhan bwysig ac annatod o’m cymeriad a’m bodolaeth. 
Ar y pryd a chithau yn ddim ond plentyn nid ydych yn sylweddoli pwysigrwydd symlrwydd bore oes, eich magwraeth, eich cymdogion, eich ffrindiau, eich capel, eich ysgol; eich diddordebau yn cynnau, eich cred yn ffurfio, eich cymeriad yn ffurfio. 

Mae magwraeth ‘Stiniog yn rhoi cryfder i chi, hwyrach mai bryntni a chaledi y graig neu’r llechen ydyw, hwyrach mai’r glaw yr ydych yn gorfod ei oddef ydyw, yn arbennig os y’ch magwyd mewn oes cyn dyfod llawer iawn o geir i bobl gyffredin.

Ond mae yna rywbeth yn yr ardal sydd yn unigryw iawn ac sydd yn magu cymeriadau hoffus, egwyddorol a thalentog.  Bum i yn lwcus arbennig i gael pobl dalentog yn fy hyfforddi mewn Ysgol Sul ac Ysgol Sir, mewn Gobeithlu a Chymdeithas Ddrama.  Pobl oedd yn rhoi eu hamser prin ar ôl diwrnod called o waith i ddysgu y sol-ffa i griw o hogia’ a merched, neu i’n tywys drwy rihyrsals drama neu gymhlethdodau y pasiant, neu faes llafur.

Eto, ar y pryd, prin iawn yw gwerthfawrogiad plentyn, - ddim yn sylweddoli yr aberth amser, y dygnwch a’r straen weithiau o geisio rhoi rhyw fath o ymwybyddiaeth mewn criw o blant oedd a’u meddwl ar radio neu deledu neu ffwtbol. 

Ond peth rhyfedd yw cof.

Mi gofiaf hyd heddiw ambell i ddywediad a ddysgais bryd hynny, ambell i gymeriad a’m dysgodd, ambell i natur syml gyfeillgar rhywun llawer hyn na ni, ond oedd yn ein deall ac am roi o’u profiad hwy i’n tywys ar lwybrau troellog bywyd.  Mae yn fy mhoeni i na wnes i ddim diolch iddynt. 

Rhyngddynt fe lwyddasant fagu cymeriad a rhoi gwerthoedd a dangos y ffordd, a dyna’r cwbwl y gall unrhyw un ei wneud, mae i fyny i ni wedyn.

Felly mae magwraeth ‘Stiniog wedi fy ffurfio i er drwg neu er gwaeth, ond gobeithio na wnes i erioed fradychu fy mro enedigol na methu ei hamddiffyn – cofiaf i un wag ddweud wrthyf unwaith ei bod yn rhyfedd nad oedd holl law ‘Stiniog wedi fy ngwneud yn un o’r ‘Wets’ yna.  Glaw yw y ddelwedd ond yr wyf wedi cael y pleser lawer gwaith o dywys dieithriaid i ogoniant Cwm Bowydd yn yr haul ac y maent wedi synnu a rhyfeddu.

Felly, yn llawer iawn rhy hwyr mi dalaf ddiolch i’r holl rai a fu yn gymorth i mi ar ben ffordd, yr holl gymeriadau a fagodd hyder ac awch am wybodaeth ac a sicrhaodd ddyfodol.  All rhywun byth ddiolch digon ac y mae yn rhy hwyr i ddiolch yn berthnasol gan fod llawer wedi mynd at eu gwobr, ond mae’r cof yn eu cadw yn fyw ac y mae y rhelyw anferthol o’r atgofion yn rhai melys. 

Am bopeth a gafwyd, am bopeth a roddwyd heb ofyn am amrhydedd neu fraint, diolch ‘Stiniog i ti a’th gymeriadau gwych.

-----------------------------
Ymddangosodd gyntaf yn rhifyn Mai 1998. Gallwch ddilyn cyfres Ar Wasgar gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon