26.8.15

Trem yn ôl -Utica

Mae llawer o gysylltiadau wedi bod rhwng Bro Ffestiniog ag Utica yn nhalaith Efrog Newydd. Dyma bennod o'r gyfres Trem yn ôl: erthyglau o lyfr 'Pigion Llafar 1975-1999', yn trafod y cysylltiad.

Enw Capel Utica, Gellilydan.
Cymeraf ddiddordeb mewn hanes lleol a hel achau, ac wrth chwilota yn ddiweddar, deuthum ar draws erthygl o’r ‘Cenhadwr Americanaidd’ am fis Tachwedd 1867, sy’n egluro pam na roed enw Beiblaidd megis Bethel, Salem neu Nasareth ar gapel yr Annibynwyr yng Ngellilydan.

Ei enw wrth gwrs, yw Utica – enw lle yn Efrog Newydd.

Ar y 4ydd o Ebrill 1788, ganwyd Wiliam Jones mewn lle o’r enw Pandy’r Ddwyryd ym Mhlwyf Maentwrog. (Mae’r tŷ o dan Lyn Trawsfynydd erbyn hyn). Enwau ei rieni oedd Rowland ac Ann Jones ac yr oedd yr enwog Lowri Williams, un o sylfaenwyr Methodistiaeth yng Ngorllewin Meirionnydd yn nain iddo.

Magwyd William gan ei rieni yn bur grefyddol, ond tueddai’r mab i fwynhau’r bywyd braf hyd yr eithaf!

Yn y flwyddyn 1824, pan oedd tua 36 mlwydd oed, ymfudodd William Jones i’r America. Ymsefydlodd yng nghymdogaeth Utica, Efrog Newydd a thra yno, daeth o dan ddylanwad y gŵr o’r enw Dr.Everett, a fu’n gefn ac arweinydd iddo, a chafodd droedigaeth grefyddol ac wedi hynny cysegrodd ei fywyd yn llwyr i Gristnogaeth.

Arhosodd yn America am tua 4 blynedd – daeth yn dda ei fyd a dod yn ddyn cefnog iawn.

Pan ddychwelodd i Gymru, ac i blwyf Maentwrog, yr oedd yn berchennog ar dyddyn a thir, a phenderfynodd godi capel ar ei dir a chychwyn achos gyda chymorth ychydig o ‘frodyr sanctaidd’. Ni chymerodd dal am y tir, ac adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1843, ac yn unol a’i ddymuniad, galwyd y lle yn ‘Utica’ i ddangos parch tuag at y lle yn America a gyfrannodd gymaint at ei fywyd crefyddol. Yn ychwanegol, rhoddodd dir ar gyfer claddfa yn gysylltiol a’r capel, a phan fu farw ei ail blentyn, claddodd ef yno.

Capel Utica, Gellilydan. Llun W.Arvon Roberts
Yn y flwyddyn 1843 priododd a Mary Williams, Glanllynforwyn, Ganllwyd a bu iddynt dair merch. Un o’i merched oedd Margaret Jones (Myfanwy Meirion) a fu am flynyddoedd yn genhades gartref yn Llundain a bu’n byw yn Lerpwl, lle bu’n ddiacones yn un o’r eglwysi Annibynnol yno. Claddwyd hithau ym medd y teulu ym Mynwent Utica, ac mae carreg ithfaen fawr sgwâr a railings o’i hamgylch ar y bedd.

Fel mynwent ar gyfer yr Annibynwyr y bwriadwyd Utica fel y dywed yr hanes, ond mae llawer o enwadau eraill wedi cael caniatad i gladdu yno erbyn hyn.

Da yw cael dweud, ar ôl dros gant a hanner o flynyddoedd ers ei sefydlu, fod yr eglwys fach yn parhau i gynnal gwasanaethau. Beth amser yn ôl, ail-gychwynnodd un o famau ieuanc yr eglwys Ysgol Sul ar gyfer plant y cylch, gan nad oedd Ysgol Sul yn y pentref. Cynorthwyir hi gan aelodau hŷn eraill. Teilyngant bob cefnogaeth yn y gwaith, petai dim ond i gofio am droedigaeth William Jones yn yr America flynyddoedd lawer yn ôl, a’i ffydd yn codi’r capel a’r fynwent.

Digon tebyg yw cyflwr moesol a chrefyddol ein cymdeithas heddiw a phwy a wyr nad oedd gweledigaeth William Jones yn 1843 yn bell gyrhaeddol.

Mrs Ella Wyn Jones, Llandecwyn

------------------------------------

Ymddangosodd yr uchod yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 1994, ac wedyn yn y llyfr Pigion. Gallwch ddilyn cyfres Trem yn ôl gyda'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

Hefyd, dilynwch y ddolen 'Utica' isod i weld nifer o erthyglau eraill sy'n cyfeirio at Utica, Efrog Newydd.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon