31.3.13

Y Cymdeithasau

Pigion o rifyn Mawrth 2013.

Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog:



Gŵr gwadd diweddar oedd Vivian Parry Williams a’i destun “Y stori tu ôl i’r trysor”. 

Dechreuodd drwy nodi fod llawer i stori ynghlwm a celfi a chreiriau sydd wedi dod i lawr drwy’r oesoedd oddi wrth nain neu daid rhywun. Pedwar o’r creiriau hyn oedd cefndir ei sgwrs ac fe ddefnyddiodd sleidiau i egluro ei neges.
 
Cloch Ysgol Rhiwbach. Llun VPW
Gwelsom lun o chwarelwyr Rhiwbach a dynnwyd yn 1938.  Clywsom lawer am Rhiwbach a dangoswyd nifer o sleidiau o adfeilion y chwarel a’r pentref. Yn y cyswllt hwn dangosodd Vivian gloch fach a ddefnyddiwyd gan Kate Hughes o Danygrisiau yn yr ysgol yno lle yr oedd yn brifathrawes. Agorwyd yr ysgol yn 1908 a daeth i ben yn 1913 ac yn y cyfnod yma arferai Kate Hughes deithio yr holl ffordd dros y mynydd i
Rhiwbach ym mhob tywydd a dangoswyd llun ohoni yn dychwelyd yn ôl i’r Blaenau ar gar gwyllt ynghanol y chwarelwyr oedd yn mynd adre o’u gwaith.

Yr oedd digonedd o sylwadau ar y diwedd yn dyst fod y gynulleidfa wedi
gwerthfawrogi y noson. Talwyd y diolchiadau ffurfiol gan Eifion Jackson. 



Y FAINC ‘SGLODION.

I gychwyn ar ail ran o’n rhaglen 2012/13  treuliwyd amser difyr yn gwrando ar Bethan Wyn Jones yn darlithio  ar Lên Gwerin Llysiau Llesol,  a thrwy hefyd ddefnyddio sgrin i ddangos lluniau'r planhigion roedd y sgwrs yn rhoi’r syniad fod rhywun yn mynd am dro a hithau yn egluro eu defnydd meddygol gan gychwyn efo ‘Bysedd y Cŵn’ neu fysedd cochion;  cleci coch, gwniadur Mair. 
 
Bysedd y cwn. Llun PW.
Fel ag i wneud efo rhinwedd pob planhigyn does neb yn gwybod pryd y daeth dyn - nag anifail chwaith - i synhwyro at be mae hyn yn dda neu’r llall yn wenwynig.  Fe gofiwn yn dda pan yn blant o gael ein rhybuddio i beidio â rhoi blodyn bysedd y cŵn yn ein ceg - ond roedd y rhai hyn  yn dweud fod y planhigyn yma yn dda at ‘guriad y galon’. 


Hyn yn fyr i ddatgan ein bod wedi bwrw orig o werth yn ei chwmni.   


 

27.3.13

O'r ysgolion cynradd



Ychydig o newyddion o rai o ysgolion cynradd y fro, o rifyn Mawrth.

MAENOFFEREN
Ras Trawsgwlad ‘Dal i Fynd’ Meirionnydd  – Bu 30 o ddisgyblion o Blynyddoedd 3-6 yn cymryd rhan yn y ras trawsgwlad yn Coed y Brenin.  Llongyfarchiadau i bawb am berfformiad gwych ar y noson.

Ail-Gylchu – Bu Blwyddyn 3 ar ymweliad â’r Ganolfan Ail Gylchu fel rhan o’u gwaith Gwyddoniaeth.  Diolch yn fawr iawn i’r staff am agor y ganolfan ac am y croeso cynnes.

Ras Crempog – Diolch i bawb a gefnogodd y Ras Crempog.  Cafwyd llawer o hwyl yn y rasus a paned a crempog i ddilyn.  Llwyddwyd i godi £350 tuag at gostau trip Blwyddyn 5 a 6 i Plas Menai.  Diolch i gwmni Aldi am eu haelioni yn cyfrannu gwobrau ar gyfer y rasus.

Diogelwch y Ffordd Blwyddyn 1 – Dros yr wythnosau diwethaf bu disgyblion Blwyddyn 1 yn dilyn rhaglen wythnosol er mwyn hybu diogelwch ar y ffordd.  Cyflwynwyd tystysgrif iddynt am gymeryd rhan pan ddaeth y cynllun i ben.


YSGOL BRO HEDD WYN
Bu cyrn gystadlu yn Eisteddfod Llawrplwy’ a llongyfarchiadau i bawb fu’n llwyddiannus ar y llwyfan ac yn y cystadleuthau a baratowyd yn yr ysgol.  Pe na bai diwrnod o Eisteddfod yn flinedig i’r disgyblion chwarae teg iddynt fe ddaeth llawer iawn ohonynt at ei gilydd eto ar fore’r Sul canlynol er mwyn cynnal y gwasanaeth yng Nghapel Moreia. 

Bu nifer fawr o blant yn cystadlu yng nghystadleuaeth Traws Gwlad Dal i Fynd yng Nghoed y Brenin hefyd.

YSGOL EDMWND PRYS
Llongyfarchiadau i'r Parti Unsain am ddod yn gyntaf yn yr Eisteddfod
Cylch yn Ysgol y Moelwyn ddydd Sadwrn Mawrth 2il.

Cynhaliwyd te bach Cymreig yn Neuadd yr ysgol ar Ddydd Gwyl Dewi. Bu'r
plant yn brysur yn coginio bisgedi ac amrywiaeth o gacennau ar gyfer y
dathliad. Bu'r plant hefyd yn perfformio ambell i gan yn ystod y prynhawn.
Rhoddwyd gwahoddiad i'r holl rieni, ffrindiau a phobl y gymuned i'r Te.
Roedd yr arian yn mynd tuag at Apel  Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd
Meirrionnydd 2014 - Gellilydan a Maentwrog.

TANYGRISIAU

Ar Chwefror 20fed aeth plant Bl. 3 a 4 ar daith gerdded i fyny i Gwmorthin fel rhan o’u gwaith ysgol. Mwynhaodd pawb yn fawr er gwaetha’r tywydd oer!
Ar Fawrth 1 cymerodd holl blant yr ysgol ran mewn cyngerdd yn y neuadd i ddathlu
Dydd Gwyl Dewi a phawb yn gwneud eu gwaith yn rhagorol. Yna cafwyd gwledd amser cinio yn y ffreutur.
Cafwyd calyniadau da iawn yn Eisteddfod Cylch yr Urdd a gynhaliwyd yn Ysgol
y Moelwyn dydd Sadwrn, 2il o Fawrth.  Fe ddaeth y Cor yn 2il gyda'r Parti
Unsain yn 3ydd a'r Parti Llefaru hefyd yn 3ydd.