2.3.13

Troedio'n ol: y twll!

Dyma ddarn o erthygl John Norman, o rifyn Chwefror 2013. Mae rhai copiau o LLAFAR BRO ar gael yn y siopau o hyd, i chi gael mwynhau'r erthygl yn llawn.



Wrth deithio adref penderfynais fynd yn araf trwy bentref Traws ac fe lifodd yr atgofion yn ôl. Gwelais ddau beth sy’n siwr o dynnu gair eto. Yn gyntaf, hen bont y Llan sy’n dal ein hanes. Yn ail, Bryn y Gofeb ar y gorwel. 

Ond y tro yma yr ysgol a gymerodd fy sylw gyda’i muriau cerrig yn dal gobeithion plant heddiw ac atgofion ei chyn-ddisgyblion. Yn ein dyddiau ni nid oedd y safle’n un mor agored gan y safai Capel Ebenezer a Thŷ’r Capel o’i blaen. Heddiw, a’r Capel wedi ei ddymchwel, mae’r ysgol i’w gweld yn glir trwy fynediad llydan. Ond mae’r iardau sy’n amgylchu’r adeilad yn union fel yr oeddynt ac yn amlwg mewn cyflwr da. 
Mae’r iard gyffredin tu allan i’r brif fynedfa wedi ei marcio ar gyfer chwarae pêl rwyd. I’r dde roedd iard y bechgyn yn codi’n serth tu ôl i gefnau tai Fronwynion at doiledau’r bechgyn ar y pen pellaf ond erbyn heddiw nid yw yn greigiog fel cynt ac mae wedi ei marcio’n dwt ar gyfer gwahanol gemau. 
Yma, byddem yn chwarae ein fersiwn ni o bêl rwyd gan anelu i daflu’r bêl i ddwylo’r gôlgeidwad. Gem digon peryglus ar dir mor greigiog. Ar y ochr arall safai’r ystafell gwaith coed a iard y merched, a thu cefn i honno safai toiledai’r merched, gefn yn gefn â rhai’r bechgyn. Doedd moethusrwydd mewn tai bach ddim yn bod yn y pedwar degau!

Rhwng y ddwy iard yma, cuddiai iard fechan unigryw wedi ei hamgylchu gan waliau uchel. Dyma ‘Y Twll’, lle byddem ni’r bechgyn yn cael llonydd a chysgod i chwarae marblis, i daro concyrs a thaflu cardiau. Roedd angen sgiliau medrus bys a bawd i chwarae marblis a’r farblen y byddai pawb yn ei chwechynu oedd y ‘Tommy Twenty’ fawr, liwgar, oedd yn feistr corn bob amser ar y marblis llai. 


Byddai pob gweithgaredd yn darfod a distewi pan oedd ‘Ffeit!’ yn cychwyn, a dyna, mae’n debyg, oedd prif atyniad y Twll. Yn aml, yn ystod amser chwarae neu awr ginio clywid gwaedd ‘Ffeit! Ffeit!’ a merched a bechgyn yn tyrru at y Twll i wylio.   


Ydi, mae plant yn dangos parodrwydd yn ifanc iawn i godi dwrn a tharo’n ôl ac, yn hynny o beth, roedd y ‘Twll’ yn ein dyddiau ni yn ‘feicrocosm’ o’r byd yr ydym yn rhan ohono heddiw. 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon