31.3.13

Y Cymdeithasau

Pigion o rifyn Mawrth 2013.

Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog:



Gŵr gwadd diweddar oedd Vivian Parry Williams a’i destun “Y stori tu ôl i’r trysor”. 

Dechreuodd drwy nodi fod llawer i stori ynghlwm a celfi a chreiriau sydd wedi dod i lawr drwy’r oesoedd oddi wrth nain neu daid rhywun. Pedwar o’r creiriau hyn oedd cefndir ei sgwrs ac fe ddefnyddiodd sleidiau i egluro ei neges.
 
Cloch Ysgol Rhiwbach. Llun VPW
Gwelsom lun o chwarelwyr Rhiwbach a dynnwyd yn 1938.  Clywsom lawer am Rhiwbach a dangoswyd nifer o sleidiau o adfeilion y chwarel a’r pentref. Yn y cyswllt hwn dangosodd Vivian gloch fach a ddefnyddiwyd gan Kate Hughes o Danygrisiau yn yr ysgol yno lle yr oedd yn brifathrawes. Agorwyd yr ysgol yn 1908 a daeth i ben yn 1913 ac yn y cyfnod yma arferai Kate Hughes deithio yr holl ffordd dros y mynydd i
Rhiwbach ym mhob tywydd a dangoswyd llun ohoni yn dychwelyd yn ôl i’r Blaenau ar gar gwyllt ynghanol y chwarelwyr oedd yn mynd adre o’u gwaith.

Yr oedd digonedd o sylwadau ar y diwedd yn dyst fod y gynulleidfa wedi
gwerthfawrogi y noson. Talwyd y diolchiadau ffurfiol gan Eifion Jackson. 



Y FAINC ‘SGLODION.

I gychwyn ar ail ran o’n rhaglen 2012/13  treuliwyd amser difyr yn gwrando ar Bethan Wyn Jones yn darlithio  ar Lên Gwerin Llysiau Llesol,  a thrwy hefyd ddefnyddio sgrin i ddangos lluniau'r planhigion roedd y sgwrs yn rhoi’r syniad fod rhywun yn mynd am dro a hithau yn egluro eu defnydd meddygol gan gychwyn efo ‘Bysedd y Cŵn’ neu fysedd cochion;  cleci coch, gwniadur Mair. 
 
Bysedd y cwn. Llun PW.
Fel ag i wneud efo rhinwedd pob planhigyn does neb yn gwybod pryd y daeth dyn - nag anifail chwaith - i synhwyro at be mae hyn yn dda neu’r llall yn wenwynig.  Fe gofiwn yn dda pan yn blant o gael ein rhybuddio i beidio â rhoi blodyn bysedd y cŵn yn ein ceg - ond roedd y rhai hyn  yn dweud fod y planhigyn yma yn dda at ‘guriad y galon’. 


Hyn yn fyr i ddatgan ein bod wedi bwrw orig o werth yn ei chwmni.   


 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon