25.3.13

Mewn angof...?


Erthygl gan Vivian Parry Williams, yn rhifyn Mawrth 2013.

 
Mewn angof ni chant fod?

Yn fy meddiant y mae copi o raglen achlysur agoriad swyddogol yr Ysbyty Coffa leol, neu i roddi’r enw llawn a gyhoeddwyd ar y dudalen flaen, ‘Ysbyty Coffa Dewrion Ffestiniog a’r Cylch’.  A hithau’n gyfnod tyngedfennol i ddyfodol yr ysbyty, gyda phwyllgor detholedig, nid etholedig, yn cynrychioli Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi gwneud y penderfyniad gwarthus o’i chau, amserol efallai fyddai cynnwys detholiad byr o gynnwys rhaglen yr agoriad swyddogol hwnnw, 11 o Fehefin 1927.  Yn y geiriau agoriadol cawn flas o’r ymdeimlad o falchder bro gyfan yn yr ysbyty, a’r angerdd wrth gofio am y cannoedd o fechgyn ifainc a gollodd eu bywydau yn y rhyfel.

‘Ar derfyn y Rhyfel Mawr penderfynwyd yn nosbarth Ffestiniog a’r Cylch, fel mewn gwahanol ardaloedd drwy’r wlad, goffhau aberth drud y rhai gwympasant yn y rhyfel. Yr oedd yn amlwg fod barn gyhoeddus gref yn yr ardal o blaid cael cofeb ddefnyddiol. Ystyriwyd y mater dro ar ol tro gan y Cyngor Dinesig, a derbyniwyd amryw awgrymiadau. Ond pan roddwyd y mater i bleidlais yr ardalwyr, cafwyd mwyafrif mawr dros gael Ysbyty.’

Ac wedi trafod manylion  perthnasol i adeiladu’r ysbyty, gan gynnwys  enwau y rhai gweithgar hynny a fu yn ymwneud â’r ymgyrch i’w chodi, cawn yr wybodaeth canlynol: ...’a phenderfynwyd gwneud cais am rodd at Gymdeithas y Groes Goch. Atebodd y gymdeithas honno’r cais gyda rhodd amodol o £5000...Bu cwmniau a swyddogion chwareli, chwarelwyr, gweithwyr eraill a’u cyflogwyr, a’r cyhoedd yn gyffredinol yn hael yn eu cefnogaeth.’

Aiff yr adroddiad ymlaen i ychwanegu enwau’r caredigion eraill a fu’n hael eu rhoddion a’u hymroddiad tuag at gyrraedd y nod o weld y freuddwyd yn cael ei gwireddu. Ond diweddglo’r ysgrif sydd yn ysgwyd cydwybod dyn, ac yn ein hatgoffa unwaith yn rhagor o ddiffyg parch y garfan dideimlad a ddaeth i’r penderfyniad i gau Ysbyty Coffa Ffestiniog. Dyma’r geiriau iasol hynny:

‘Prif amcan yr Ysbyty yw coffhau aberth y gwroniaid roisant eu hunain er ein mwyn; a gwneuthur hynny trwy ddarpar, hyd y mae’n bosibl, bod moddion diweddaraf a gwasanaeth llawfeddygol ynghyd a gofal priodol am y claf a’r anafus...Ar wahan i’w ddefnyddioldeb a gydnabyddir gan bawb, pery’r Ysbyty yn lle cysegredig i galon pob un werthfawroga yr aberth mawr a goffeir, ac yn arbennig i’r perthynasau y cedwir eu rhai annwyl yma mewn bythol gof...’

            ---------------------------------------
Ar gyfer ambell un o’r llechwraidd, euog rai fu’n gyfrifol am y penderfyniad i gau Ysbyty Coffa Ffestiniog, na allent ddarllen Cymraeg, dyma dorri rheol pendant cyfansoddiad y papur bro hwn, a chynnwys cyfieithiad Saesneg o ychydig eiriau o’r uchod:

The object of the Hospital is primarily to perpetuate the memory of our heroes who gave themselves for us...the Memorial Hospital will retain a sentimental value that shall endear it to all hearts who appreciate the great sacrifice it commemorates, and especially to the relatives whose dear ones are kept in lasting and loving memory...






No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon