28.10.12

Nofio

Blas ar erthygl reolaidd John Norman, TROEDIO'N  ÔL.
Cewch ei weld yn llawn yn rhifyn Hydref. Bydd hwnnw yn y siopau tan ganol Tachwedd felly brysiwch i'w brynu. Mae 40 ceiniog yn fargen anhygoel, am y fath gyfoeth o erthyglau. newyddion, a lluniau.



Yn rhifyn mis Medi soniais am wlychu yn yr afon wrth hel ein pêl-droed o’r dŵr oer. Ond yn yr haf byddem yn gwlychu’n wirfoddol wrth nofio yn y pyllau a geid yn yr afon. Gweithgaredd cwbl naturiol oedd nofio er mai caledi ein tywydd mynyddig oedd yn penderfynu pa mor amal yr oeddem yn mynd i nofio! Dyddiau tesog a ninnau’n rhedeg yn rhydd trwy’r glaswellt hir ar lan yr afon sy’n goglais y cof.


Gan fod y rhan helaeth o’r afon yn wyllt a chreigiog roedd y pyllau lle medrid nofio yn brin ac roedd enwau arbennig i’r rhain.  


Llyn Plant Stesion oedd enw’r llyn a fynychai plant o’r tai ger yr orsaf lein. 

O dan bont y llan roedd Llyn y Bont a rhaid oedd datblygu sgil o fedru nofio ar ein cefnau i gynnal y dewraf ohonom o dan y bwa i’r dwfn yr ochr draw. Roedd edmygedd merched y llan ag eraill wrth iddynt fod uwch ein pennau ar y bont yn gwylio yn rhoi hwb sylweddol i’r fenter! 

Llyn dwfn a thywyll oedd Llyn Tro’r Ysgwrn a guddiai dan goed isel ar droad yn yr afon.  Nofwyr profiadol yn unig a nofiai yma gan ei fod wedi cymryd un bywyd, o leiaf, yn ei orffennol du. Dywedir i Hedd Wyn eistedd uwchben y llyn yma gan edrych yn syn i’r dyfroedd dwfn. 

Nid oedd fawr o le i nofio yn Llyn Pandy. Roedd yn agos i’r cerrig llamu a groesai’r afon a lle byddai Sarn Helen gynt yn rhydio’r dŵr.  

 Llyn Capel Cwm oedd y man pellaf i fyny’r afon i ni fentro.

25.10.12

Stolpia Hydref

Dyma flas o erthygl boblogaidd Steffan ab Owain, o rifyn Hydref:

Glaw Stiniog!


 Nid oes dwywaith amdani hi ein bod ni wedi cael ein gweddill a’n gwala o law ‘Stiniog yn ystod y  misoedd diwethaf  ‘ma. Efallai  bod gennych  rhyw led-gof  inni gael tywydd teg ym mis Mawrth eleni, ond prin bod angen imi eich atgoffa mai ychydig iawn o dywydd heulog a welsom ers hynny .

Beth bynnag, erbyn i’r rhifyn hwn ymddangos  o’r wasg bydd mis Medi wedi dod ac wedi mynd, ac er ein bod yn rhyw hanner disgwyl cael ‘sgrympia’ Gwyl Grog’  yn ystod y mis hwn, y mae hi wedi bod yn ddigon sgrympiog drwyddo  .Y newid yn hinsawdd y byd,efallai. Gyda llaw, cawodydd trymion sydyn yn parhau am ychydig yw ‘sgrympiau’ a gawn ogylch  gŵyl y Grog,  sef Medi 25. 

  Ond beth am y dywediad ‘glaw Stiniog ? O beth gasglaf  y mae’r dywediad yn bodoli ers   1886, o leiaf, yn y ffurf canlynol a welir ym mhapur newydd Baner ac Amserau Cymru am Dachwedd y flwyddyn hon :

Agoriad Clwb Torïaidd- Prydnawn ddydd  Gwener diweddaf, cyd-ymgynullodd blaenoriaid y blaid Dorïaidd yn sir Feirionnydd, i ganol gwlaw mawr Ffestiniog, i agor eu Clwb Torïaidd sydd wedi ei sefydlu yn y Gors New Market Square ….
 Erbyn y flwyddyn ganlynol,  ceir y sylwadau hyn yn yr un papur :
Gwlaw Ffestiniog – llawer o sôn a siarad sydd am wlaw Ffestiniog, ac nad oes un man tebyg iddo am dywydd gwlyb. Dywedai Mr.E.P. Jones, U.H. y dydd o’r blaen ein bod wedi cael yn ystod y flwyddyn ddiweddaf 196 o ddyddiau teg, a 169 yn wlyb; ac felly, nad oedd ond 27 o wahaniaeth rhyngddynt a bod yn gyfartal.

   Fel y gwelwch roedd E.P.Jones  a fu’n preswylio yng Nghefn y Maes, Manod ac wedyn ym Mhlas Blaenddol, Llan Ffestiniog yn cadw manylion am y tywydd am flynyddoedd. Byddaf yn rhyfeddu wrth glywed yr arbenigwyr tywydd yn cyfeirio at  y flwyddyn  1914  fel yr un pan ddechreuwyd cofnodi’r  tywydd ym Mhrydain. Wrth gwrs, cyfeirio at gofnodion y gorsafoedd meteoroleg a sefydlwyd gan y weinyddiaeth y maent a’r rhai sy’n rhoi darlun o dywydd Prydain gyfan,  ac nid  o un man arbennig.

Pa fodd bynnag, y mae cofnodion lleol yn llawer mwy diddorol yn fy marn i. Dyma un cyfeiriad arall at law Ffestiniog o bapur Baner ac Amserau Cymru, Hydref 10,1896.:-
Gwlaw ! Gwlaw! -Nid oes yr un dydd ers mis, o leiaf, nad ydym wedi cael ein mwydo gan wlaw, a hwnnw yn wlaw mawr, fel gwlaw Ffestiniog. Nid yw yn ddiogel myned allan heb rhyw ddarpariaeth i ochel y gwlaw. Cwynir yn dost gan y mân ffermwyr sydd ag ychydig ŷd ar y mynyddoedd, ei fod wedi pydru ac yn ddiwerth i ddyn ac anifail a’u gweddi yw, O ! na byddai’n haf o hyd.

Yn ddiau, dyna yw  gweddi llawer ohonom ninnau hefyd, a phwy a ŵyr, efallai y cawn ni dywydd teg yn ystod yr wythnosau nesaf a chyn i’r gaeaf  ddod ar ein gwarthaf. Gyda llaw, yn ‘Y Genedl Gymreig’ am y flwyddyn 1898 cyfeirir at ein glaw fel ‘Glaw ‘Stiniog. Tybed a ydych chi wedi gweld cyfeiriad ato cyn y dyddiadau uchod ?

22.10.12

Cyfnewidfa Glynllifon



Anfonaf y llun a’r darn hwn o’r papur newydd ... dwi’n meddwl mai o’r Cymro y daw tua chanol y 1950au ond os ydi rhywun yn gwybod yn amgenach gadwch i mi wybod ... Mae’r gyfnewidfa ffôn yn stryd Glynllifonyn rhan o hanes Stiniog a chyda datblygiad technoleg diflannodd ond mae’r adeilad yn dal yno ac yn gartref bellach. 

Os oes gan rywun beth o hanes y gyfnewidfa beth am ei rannu gyda darllenwyr Llafar Bro ac ysgrifennwch at y Golygydd.
-Eurwyn Jones, Blackpool (gynt o Ddrws y Coed, Bowydd).
 




"Ar y blaen gwelir Miss Pearl Jones, Maentwrog a Mrs Betty Morris, Rhiwbryfdir: tu ôl mae Mrs J.A.Jones, arolygydd y Gyfnewidfa, a Miss Phyllis Morgan, Lord Street. Daeth Mrs Jones a Mrs Morris i’r Gyfnewidfa tua’r un amser, wyth mlynedd yn ôl, a chafodd y ddwy brofiad helaeth yng nghyfnewidfa Bae Colwyn. Y mae Miss Pearl Jones wrth ei gwaith ers pum mlynedd a Miss Phyllis Morgan yma ers blwyddyn a hanner."
 

20.10.12

MEIBION PRYSOR YN Y FFINDIR



Dyddiadur  Phil Mostert
Darn o'r erthygl sy'n ymddangos yn rhifyn Hydref:
 
SADWRN - Teithio i Faes Awyr Manceinion, teithio drwy Amsterdam a chyrraedd Helsinki a theithio ymlaen i Forssa.  

Ymarfer yn ystod y daith
SUL - Cyngerdd yn  Somero,  yng nghwmni’r côr meibion lleol a Maija Parko, pianydd broffesiynol.  Cawl eog blasus iawn ar y diwedd. 
LLUN - Canmol mawr yn y papur lleol i gyngerdd Nos Sul, yn enwedig y canu gwladgarol.  Dau gyngerdd yn yr Ysgol Uwchradd heddiw.                                                  Y disgyblion yn ymateb yn dda a rhai yn ymholgar ar y diwedd. 
Cyfle i ymlacio a phrofi  barbeciw a sauna yn westeion i Gôr Forssa.  Wel, dyma beth oedd  cymdeithasu go iawn.  Manteisiodd bron bob aelod i brofi’r sauna chwilboeth cyn trochi yn y llyn [nifer dda yn noethlymun] ond nid oes gennym luniau i’w cyhoeddi!  Cydganu wedyn i gyfeiliant piano accordian.  Noson i’w chofio!
MAWRTH -  Bws i’r Ganolfan Amaeth yn y pnawn.  Roedd cyfle i’r amaethwyr yn ein plith holi am gynnyrch lleol a holi a oedd yma farchnad arall am eu cig oen!    Cyflwynwyd plac llechen yma, wedi ei gwneud gan Dewi Williams a mawr fu’r gwerthfawrogiad ohoni.                      
Cyngerdd min nos yn yr Eglwys Lutheraidd.   Rhannu’r llwyfan efo Côr Forssa.  Y côr ar ei orau.  Clod mawr i Iwan Morus Lewis ein hunawdydd 18 oed, i Olwen Jones a Kevin Lewis ac i Iona Mair. 
MERCHER– Symud ymlaen i Helsinki a phrofi’r atyniadau.  Cawsom gyfle i ganu Finlandia ger cofgolofn Sibelius.  Bu amryw yn ymweld â’r farchnad ddifyr ger y cei, ac aeth rhai ar y cwch  ar draws i Ynys Suomenlinna . Mymryn yn ddrud oedd y bwyd a’r ddiod yn y brif ddinas, felly roedd pawb yn weddol  gymedrol! 
Iwan yr arweinydd, a Iona'r gyfeilyddes
IAU-  Cyrraedd adref - a’r côr wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd, ac wedi llwyddo i fod yn llysgenhadon  teilwng iawn i Gymru.

10.10.12

Plygu heno!

Cofiwch am y noson blygu heno.
6.30 yn neuadd y WI.

  
Croeso i bawb!

7.10.12

Tamaid i aros pryd

Cofiwch am y noson blygu Nos Fercher. Bydd Llafar Bro trwy'r drysau ac yn y siopau o Ddydd Iau.

Dyma ambell damaid i aros pryd: 

Gwifren Sip Llechwedd



Mae’r cwmni Tree World wedi gofyn caniatâd i osod pedair gwifren sip -zip wire- yn Llechwedd ar lefel uchel ac mae’n ymddangos fod cefnogaeth iddynt o bob cwr. 
gwifren sip yng Nghernyw

Aiff y gwifrau hyn ac ymwelwyr ar daith o gwmpas y chwarel a bydd tua 2 gilomedr a hanner o wifren. Yn ychwanegol bydd tua 9 swydd yn cael eu creu ar y dechrau ac os bydd y fentr yn llwyddiannus bydd 25 yn cael eu cyflogi o fewn tair blynedd. 



Gair o Rybudd

Pam bod y Pwyllgor Amddiffyn yn eich cynghori i beidio llenwi’r holiadur hwn
Mae’r ateb i ambell gwestiwn yn gwbwl amlwg, wrth gwrs, ond mae rhai o'r lleill yn dwyllodrus o gamarweiniol am nad ydyn nhw’n gwneud yn berffaith glir bod yn rhaid i’r Ysbyty golli pob gwely cyn y bydd y gwasanaethau ‘newydd’ hyn yn cael eu datblygu
Mae’r Pwyllgor Amddiffyn wedi cysylltu efo Opinion Research Services nid yn unig i fynegi anfodlonrwydd ond hefyd i awgrymu ffordd fwy gonest o gael barn pobol leol, a hynny trwy eirio’r cwestiynau mewn dull gwahanol, megis –
Ydych chi’n cytuno neu anghytuno efo argymhellion BIPBC:-
(i)         i gau Ysbyty Coffa Blaenau Ffestiniog a symud y gwelyau i gyd i Ysbyty Alltwen?
(ii)        i wneud i ffwrdd â’r Uned Mân Anafiadau?
(iii)       i gael gwared â’r Uned Pelydr X o Ganolfan Iechyd Blaenau Ffestiniog?
(iv)       i droi safle’r Ysbyty yn ganolfan a fydd yn darparu gwasanaethau cymunedol a  gwasanaethau gofal cychwynnol?
Mae un peth yn  siŵr, fe gaen nhw ddarlun tipyn cliriach wedyn o beth yw dymuniadau pobol yr ardal. Yn y cyfamser, rydym wedi dweud wrth  Opinion Research Services, yn ogystal ag wrth Weinidog Iechyd y llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd a swyddogion y Bwrdd Iechyd ym Mangor, na fyddwn ni’n llenwi’r Holiadur Ymgynghoriad, am y rhesymau a nodwyd uchod, ac y byddwn ni’n cynghori pobol y cylch hefyd i wneud yr un peth. 

Newyddion Hwyr
 I'r rhai ohonoch sydd ar Gweplyfr/Facebook, ewch draw i  dudalen perchnogion newydd Neuadd y Farchnad: http://www.facebook.com/pages/Market-Hall/369824126426357

Saesneg ydi prif iaith y tudalennau, ond mae'n werth tynnu eich sylw at gynlluniau'r perchnogion ar gyfer yr adeilad pwysig yma yn ein cymuned. Pob lwc iddynt.
Llyfryn Steffan ap Owain