27.4.13

Croeso i Stiniog!



Daeth cannoedd o blant Meirionnydd a thu hwnt i Flaenau Ffestiniog heddiw i gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd 2014.




Byddai wedi bod yn hawdd iawn i'r Urdd yn ganolog ac yn y sir, i wthio pob gweithgaredd a hyrwyddo i'r Bala, felly diolch i'r cyfeillion doeth welodd y fantais o ddod i dref fwyaf Meirionnydd i gynnal gorymdaith a jambori.

Mae cynffon yr orymdaith dal ar dir Ysgol y Moelwyn ar ben yr allt... Llun yma ac uchod PW

A llwyddianus iawn oedd y diwrnod hefyd. Daeth yr haul allan i groesawu pawb i'r dref, ac er fod y gwynt braidd yn fain, roedd y croeso yn gynnes iawn.

Dechreuodd yr orymdaith yn Ysgol y Moelwyn, a cherdded i lawr Ffordd Wynne, Ffordd Tywyn, i Stryd yr Eglwys a'r Stryd Fawr i Sgwar Diffwys. Roedd cryn bellter rhwng y blaen a'r gynffon, gyda'r ysgolion, adrannau ac aelwydydd wedi addurno baneri i ddod efo nhw.

Y criw Batala yn arwain yr hwyl. Llun PW

Cafwyd adloniant ardderchog yng nghanol y dref, dan arweiniad profiadol criw Stwnsh S4C, a chanu gan Swnami, Y Cledrau, ac enillwyr Can i Gymru eleni, Jesop a'r Sgweiri. Cafwyd hwyl a chanu a dawnsio yn y gynulleidfa dan ofal Dilwyn; roedd ysgolion cynradd Meirionnydd i gyd wedi bod wrthi'n dysgu caneuon ar gyfer yr achlusur.

Rhai o faneri Stiniog. Llun PW
Roedd y miri'n parhau trwy'r dydd yn yr hen Go-op, oedd wedi'i droi'n Lolfa Lên, gyda chwedlau, rapio, darlleniadau a chanu.


Gobeithio bod rhai o'r cannoedd o rieni ac athrawon wedi gwario punt neu ddwy yn y Stryd Fawr cyn ei throi hi am eu milltiroedd sgwar eu hunain!

Dyma edrych ymlaen am fwy yn y dyfodol.


25.4.13

Stolpia -enwogion

Dyma ran o golofn Stolpia, o rifyn Ebrill 2013

llun- PW



Enwogion dieithr yn ein plith
    Heb os nac onibai,y mae ardal y Blaenau a Llan Ffestiniog wedi bod yn ddihangfa  i amryw o ddieithriaid enwog tros y blynyddoedd. 

Ar wahan i’r rhai o’r Cymry enwog a fu’n aros yn ein plith yn ystod bwrlwm y diwydiant llechi yn y 19 ganrif, megis rhai fel Richard Owen Jones ‘Glaslyn’ (1831-1909) a fu’n lletya yn Gwyndy, Rhiwbryfdir, y Parchedig Owen Wynne Jones ‘Glasynys’ (1828-1870) a fu’n lletya yn ffermdy Tyn y Ddôl, Tanygrisiau, ‘Isaac Eurfin Benjamin a’i gefnder Thomas Cynfelyn Benjamin, dau fardd o fri a fu’n lletya yn Wrysgan Fawr , Tanygrisiau. Un arall oedd y Parchedig John Hughes ‘Glanystwyth’, gweinidog poblogaidd gyda’r Wesleyaid, bardd  da, a  bu’n  olygydd  y cylchgronnau canlynol yn ei dro  -Y Winllan, Y Gwyliedydd a’r Eurgrawn.Wrth gwrs, bu amryw o rai eraill, ac efallai y caf sôn amdanynt  rhyw dro eto.

Ymsefydlodd rhai mwy bohemaidd a Saesneg eu hiaith yn yr ardal yn ystod yr 20fed ganrif. Un ohonynt oedd Augustus John yr arlunydd enwog. Bu ef yn preswylio am ysbaid yn Llwyn Ithel , sef y byngalo coed a tho sinc  a safai ger Glan yr afon ddu a’r hen waith mein gynt.

Ceir darlun o’i waith yn edrych draw am y Ffridd a hen dwnnel bach y Rheilffordd Gul. Clywais rhai’n dweud hefyd bod yr arch-sbiwr George Blake a ddihangodd o garchar Wormwood Scrubs yn 1966 a chael lloches gan y Rwsiaid wedi bod yn aros am ychydig yng Nghelli Wiog.

Y mae’n ffaith hefyd bod y cyfansoddwr  Syr George Bantock wedi bod yn aros yng Nghoed y Bleiddiau (Tŷ Hovenden) ger gorsaf Tan-y-Bwlch. O beth ddeallaf, taenwyd llwch marwol Syr George ar lethrau’r Moelwyn.

Wrth gwrs, mynnai rhai bod William Joyce ‘Lord Haw Haw’ a fu’n ceisio brawychu pobl Prydain efo’i fygythiadau Germany Calling ar y radio yn ystod yr ail ryfel byd  wedi bod yn aros yno yn ystod y cyfnod cyn i’r rhyfel dorri allan. Pa fodd bynnag,dywed eraill mai chwedl gwrach yw hyn. Tybed a ŵyr un ohonoch yn well ? ( I’w Barhau )

23.4.13

Prysur, prysur, prysur...

Llwyth o bethau ymlaen yn Stiniog yr wythnos hon:


Nos Iau -  
'Blaguro' yn CELL. Hanes tatŵs.




















Nos Wener a Dydd Sadwrn-

'Llên y Llechi'



Dydd Sadwrn-
Gwyl Gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd.
Gorymdaith o Ysgol y Moelwyn am 11.00 a gweithgareddau lu yn y dref.



Dydd Sadwrn-
'Blodyn'
Cyfarfod dan ofal y Theatr Genedlaethol i drefnu cynhyrchiad dramatig newydd yn Stiniog, wedi'i seilio ar chwedl Blodeuwedd.

11.4.13

Rhifyn Ebrill 2013

Allan rwan!


Pennod ola'r 'Sbyty;
Newyddion;
Erthyglau;
Lluniau;
a llawer iawn mwy!