12.5.24

Stolpia- Yr Ardal ar Hen Ffilmiau

Ffilmiwyd beth wmbredd o leoedd a phobl a digwyddiadau yn ein hardal tros y blynyddoedd. Crybwyllais yn Rhamant Bro (2022) bod T.E. Griffiths, sef perchennog Park Cinema yn ei ddyddiau cynnar, yn arloeswr gyda ffilmio amryw o ddigwyddiadau lleol, megis cymanfaoedd y gwahanol enwadau, ac agoriad yr Ysbyty Coffa yn 1927. Ffilmiwyd cannoedd o bobl a berthynai i gymdeithasau amrywiol y cyfnod yn gorymdeithio trwy’r dref yn y riliau hyn ganddo. Cofier mai ffilmiau du a gwyn a rhai mud oedd y rhain, ond er hynny yn gronicl pwysig o hanes ein bro.

Fel y gŵyr y mwyafrif ohonoch, y ffilm gyntaf yn yr iaith Gymraeg oedd ‘Y Chwarelwr’ (1935) o waith Syr Ifan ab Owen Edwards a John Ellis Williams, a fu’n brifathro ar Ysgol Glan-y-pwll. Er mai ffilm ddrama ydyw, ceir sawl golygfa ac amryw o ddelweddau o’r cyfnod nad ydynt yn bodoli bellach. Cawsom weld y ffilm rai blynyddoedd yn ôl yng Ngwesty’r Frenhines (Y Queens) gyda’r rhan olaf ohoni wedi ei diweddaru gan Gwmni Da, Caernarfon, gydag actorion cyfoes yn chwarae rhan y chwarelwyr a’u teuluoedd. 

Golygfa o'r ffilm efo gweithwyr Chwarel yr Oakeley ar y Trwnc Mawr

Ffilm arall gyda lluniau da o orchwylion amrywiol y chwarelwyr a golygfeydd ysblennydd o Chwarel Lord, a’r Erial (rhaff awyr) yn rhan uchaf Chwarel Llechwedd yw The Roof Over Your Head (1937). Yn ddiau, daw hon ag atgofion lu i amryw ohonom a fu’n gweithio yno flynyddoedd yn ôl.

Gwnaed nifer o ffilmiau ym Mhrydain a sawl gwlad arall gan gwmni Walt Disney yn yr 1950au. 

Ffilmiwyd People and Places -Wales yn 1958, yn ogystal â’r un yn yr Alban. Ceir amryw o olygfeydd wedi eu tynnu yng ngogledd Cymru, gan gynnwys Chwareli Oakeley a Llechwedd. Heddiw ceir cerbyd pwrpasol yno ar gyfer cludo ymwelwyr i grombil y chwarel i ryfeddu ar waith yr hen feinars, y creigwyr a’r llafurwyr.

Llun o’r ffilm yn dangos y gweithwyr yn cerdded i lawr i’r ‘Twll’, sef y gwaith tanddaearol yn Llechwedd

Os ewch chi ar y we ac ar chwiliadur Google, Yahoo, neu un o’r llaill, a rhoi enwau’r ffilmiau i mewn ynddynt, cewch eu gweld am ddim ar Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru neu ar YouTube.
- - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2024




Rhod y Rhigymwr- Pandy'r Ddwyryd

Rhan o golofn reolaidd Iwan Morgan a ymddangosodd yn rhifyn Mawrth 2024

Do, fe fu’r gaea’ dwytha ‘ma eto’n un hir, ac fe dreuliais innau ran helaeth iawn ohono’n eistedd yn fy nghadair yn y stafell fyw neu’n y gadair o flaen fy nghyfrifiadur. Wrth edrych ar luniau ar y sgrîn ohona i’n cerdded yn fy milltir sgwâr chwe blynedd yn ôl, dyma benderfynu fod yn rhaid i mi ddechrau symud eto. Daeth i gof y teithiau pleserus a meddwl pa mor llesol i’r corff a’r meddwl fyddai ceisio ail-gydio’n rhai o’r teithiau hynny ... ond ar raddfa dipyn llai, gan mod i wedi hen groesi oed yr addewid bellach.

Mynd â’r car i fyny drwy’r Atomfa fydda i rwan. Parcio islaw Craig Gyfynys, yna cerdded i fyny’r ffordd dar am y brif argae. Yn ymyl yr argae yma, roedd Pandy’r Ddwyryd. Fel sawl tŷ annedd yn yr ardal yma, aeth hwn dan ddŵr llyn pan godwyd pedair argae i gyflenwi Pwerdy Maentwrog rhwng 1924 a 1928.

Safle dybiedig Pandy'r Ddwyryd

Yno, ym 1755 y sefydlwyd ‘Achos yr Wyth Enaid’. Dyma achos cynta’r Methodistiaid ym Meirionnydd. Fe’i sefydlwyd gan wraig hynod iawn o’r enw Lowri William, a ddaeth yma o Bandy Chwilog ym mhlwyf Llanarmon, Eifionydd gyda’i gŵr, John Prichard. 

Lowri a John a chwech arall oedd yr ‘Wyth Enaid’ gwreiddiol. Datblygodd yr addolwyr wedi hynny a chael eu hadnabod fel ‘Teulu Arch Noa’. Aelodau’r teulu hwnnw ynghyd â Lowri a John oedd Edward Roberts y gwehydd a Jane, ei wraig; Robert Roberts, brawd Edward a Gwen, ei wraig; John Humphreys, Gwylan ac Ann ei ferch; Gwladus Jones, nith Lowri William; Griffith Ellis, Penyrallt, gerllaw Harlech; Jane Thomas, Ogoflochrwyn, Llanfrothen; Martha, gwraig dilledydd o Ffestiniog; Margaret Ellis, Ty’n y Pant, Llandecwyn ac Elisabeth, Tyddyn Siôn Wyn, Talsarnau. Mewn cyfnod pryd yr erlidiwyd y Methodistiaid, mae’n debyg i’r crefyddwyr cynnar yma deimlo’n gwbl ddiogel yn addoli mewn lle anghyfanedd ac anghysbell fel Pandy’r Ddwyryd. 

Bu farw Lowri William yn Ionawr 1778, a’i chladdu yn Eglwys Maentwrog ar 27 Ionawr. Roedd hi’n 74 oed. Dridiau’n ddiweddarach, claddwyd John Pritchard ei gŵr. Roedd o’n 78 oed. 

Yn y tawelwch uwchlaw lle mae safle tybiedig Pandy’r Ddwyryd yn nyfroedd Llyn Trawsfynydd, fe fum i’n ceisio dychmygu’r angerdd fu ar yr aelwyd yno yn nyddiau Teulu Arch Noa. Mae’r hynodrwydd hwnnw bellach wedi hen ddiflannu i ddŵr y llyn:

Hen seiniau’r brwd ‘Hosanna’ - ar aelwyd
Lowri William yma;
Yn y llyn hwn, colli wna
Rhyfeddod y crefydda.

Adloniant, Diwylliant, Cyfeillgarwch

Braf oedd cael croesawu Renan Mollo o Douar ha Frankiz  -ymgyrch annibyniaeth Llydaw- i noson Caban, cyfres nosweithiau Yes Cymru Bro Ffestiniog, ar nos Wener olaf Chwefror. Eglurodd Renan -trwy gyfieithu celfydd Delyth- ychydig am eu sefyllfa yno a bod ymdrechion Cymru yn ysbrydoliaeth iddyn nhw. Cyfnewidwyd baneri ar y noson i nodi dymuniadau gorau’r ddwy ochr dros ddyheadau’r ddwy genedl.


Yn y gyfres, rydym wedi cael sgyrsiau arbennig iawn gan archdderwydd, prifardd, awduron, ac ymgyrchwyr o fri, ond efallai mae sgwrs Chwefror ddaeth agosaf at gyfleu yr hyn mae criw Yes Cymru Bro Stiniog yn geisio’i hyrwyddo, sef y gall cymunedau Cymru weithredu dros eu hunain yn llwyddiannus ac yn gynaliadwy, a hynny yn ei dro yn dangos fod Cymru’n ddigon mawr, yn ddigon cyfoethog, ac yn ddigon galluog i lywodraethu’n hunain yn llawer gwell na chiwed difrifol San Steffan!

Soniodd Meleri Davies, Cwm Prysor gynt, am ei milltir sgwâr a’i magwraeth, a’i gwaith ar gynlluniau datblygu cymunedol Dyffryn Ogwen, a phlethu’n deimladwy ei hangerdd at gynefin a chenedl. Diolch Mel.

Cafwyd gwledd o ganu gan Gareth Bonello ar y noson, yn diddanu efo rhai o ganeuon ei albwm ddiweddaraf, Galargan, sydd wedi cael clod rhyngwladol (a nifer o’r caneuon o gasgliadau amhrisiadwy Merêd) ond hefyd yn plesio pawb efo rhai o’i hen ‘hits’ hyfryd fel ‘Dawel Ddisgyn’. Mae Gareth -sy’n canu dan yr enw Gentle Good- yn ddewin ar y gitâr, a nododd nifer yn ystod y noson ei bod yn ymddangos fod dau neu dri offerynwr wrthi pan oedd o’n canu! 

Diolch eto i staff Tŷ Coffi Antur Stiniog ac i Glyn Lasarus am gyfieithu ar y pryd i’r di-Gymraeg.


Fel bob tro, cafodd y siaradwyr a’r canwr wrandawiad astud ac ymateb gwych gan gynulleidfa Stiniog. 

- - - - - - - - - - - 

Addasiad o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Mawrth 2024

Hanes Rygbi Bro- 1992-93 a 1993-94

Hanes Clwb Rygbi Bro Ffestiniog o ddyddiadur Gwynne Williams  

Awst 1992
Ennill Plât 7 bob-ochr Harlech.

Chwefror 1993
13eg Bro II v Caergybi Bryan Davies (c) Cerdyn Coch: 6 wythnos, cwffio. 20fed Taith Bro i’r Alban- Holy Cross 17  Bro 27;  Lymm v Bro Ennill. 

Ebrill
Gêm Derfynol Cwpan Percy Howells yn Bro, Ardal Gwynedd v Ardal Castell Nedd, £0.50 Rob Atherton/Capten buddugol Gwilym James /Eilydd Glyn Jarrett. 

1992/1993
Gêm Derfynol Gwynedd- Nant Conwy v Bro- Colli. Chwaraewr Gorau -Rhys Prysor Williams. Cinio Blynyddol Rhiw Goch: Chwaraewr y Flwyddyn- Haydn Williams; Chwaraewr Mwyaf Addawol- Neil Ellis; Chwaraewr y Flwyddyn II- Tony Crampton; Chwaraewr Mwyaf Addawol II- Dylan Jones (Ffatri); Clwbddyn- Robin Davies; Cael Dave Nicol o Awstralia yn chwarae i Bro.
Pwyllgor Blynyddol (30 presennol). Aelodaeth– 77 (38 chwaraewr) £496.50/ Trysorydd– Taliadau yn fwy na derbyniadau o £ 8,005.58 /Clwb 200  £770 / Cymdeithas 30 £2K / Gŵyl Ynni £1K /Teithiau Moelwyn £2K. Llywydd- Gwilym Price. Ethol 1993/94  Cadeirydd- Merfyn C Williams; Trysorydd- Robin Davies; Ysg RO;     Aelodaeth Caradog; Tŷ- Glyn; Gwasg- Gwynne; Cae- Mike Osman; Gemau- Tony Coleman; Ieu Michael; Tîm 1af Rob A / 2ail Alun / Hyff Peter Jones Is Hyff Tony Coleman. Eraill Kevin Griffiths / Arwyn Humphries / John Jones / Keith (Brenin) / Danny  
Tîm 1af: Capten- Rob Atherton
Ch 25    E 12    C 13. Bro curo Llangoed 125–0!
2ail Dîm: capten- Ken Roberts
Ch 17    E 7    C 10
Ysg Gemau Michael Jones (14 Blwyddyn) / Ieuenctid Dan 14 4ydd Cynghrair Ch 7/ E 3 /    C4

Mehefin
Pwyllgor. Cyf Ethol Dick, Jon, Martin Hughges, Tex Woolway. Hyff Peter– Wedi cwblhau’r cwrs, cael ei asesu yn y tymor – 7 Tîm yn Adran 1 1993/94. Taith Awstralia – Mynegwyd pryder ynglŷn â’r daith – sef y pris – Gwahodd i Ed ddod i’r pwyllgor nesaf

Gorffennaf
Pwyllgor. Gŵyl y Ddraig- llwyddiant /Crysau– Mike Phillips yn barod i noddi set o grysau tîm 1af. Golchwr gwydrau i gael ei roi yn y gegin. Twrch daear yn broblem fawr, Dick yn gwneud ymholiadau.

Hydref
Bae Colwyn II v Bro: Kevin Humphrys (5wythnos -cwffio)

Rhagfyr
Cwmtileri 5 v Bro 13. Gêm Bro v Bro vets o dan y goleuadau.
Wedi curo Abergele 45 - 0, Bala 10 - 6, a Cwmtileri 13 - 5.

Ionawr 1994
8fed- Cwpan Whitbread  4ydd Rownd: Bro 18 Trefil  0. Tîm: Danny McCormick / Keith Williams / Geraint Roberts / Ken Roberts / Alwyn Ellis / Dave Nicol / Marc Atherton / Kevin Humphries / Hayden Williams / Dick James / Dylan Jones / Dylan Thomas / Glyn Jarrett / Rhys Prysor / Gwilym James (Capten ) Eilydd Tony Crampton / Neil Ellis / David Jones / Alun Jones / Meurig Williams /MarkThomas. Scorwyr:Danny 2 gic + trosiad / Gwilym 2 gais. 10fed- Pwyllgor. 19 Debenturon – 2 Spar – Cymdeithas 30 – Llall ?/Clwb - £25K wedi ei wario.

Chwefror
Pwyllgor. Llifoleuadau– Eisiau eu hadnewyddu (Pete Scott). Llywydd Wil Price– Noddi’r bêl am gêm Glyncoch. Teis a Blasers y Clwb– Costio £4 a £54 y pen. Cae– M Osman i drwsio’r ffens o amgylch y cae. Trysorydd- £9.8K gan Fwrdd Datblygu Cymru Wledig. 

Mawrth.
12fed Rownd Go Gyn Derfynol Cwpan Prysg Whitbread: Bro 12 v Glyncoch 16. Tîm: Danny / Ken R / Mark A / Geraint R / Keith W / Dave Nicol / Rob A ( C ) /Dick J / HaydenW / Kevin H / David James / Dylan J / Rhys Prysor / Glyn Jarrett / Gwilym James. Eilyddion: Neil E / Alwyn Ellis / Dylan T / Dafydd J / Alun J / Meurig W
5ed Tyn Lon Daihatsu Adran 1af /1af yn y gynghrair Bro II (Alun Jones Capt). Llywydd- Wil Price (o 1987 i 1994).

Rhaglen gêm gwpan. Llun- Paul W

Ebrill
Taith i Awstralia (chweched taith dramor y clwb). Trefnwyr Elfed Roberts a Dafydd Jones. Trefnydd ochr Awstralia Gwynfor James a Morgan Price. 5ed Drumoine Redsocks v Bro; 7fed Coffs Harbour Sappers v Bro; 11eg East Brisbane v Bro; 14eg Nerang v Bro.
Chwaraewr y Flwyddyn- Gwilym James; Chwaraewr y Flwyddyn II- Tony Crampton; Chwaraewr Mwyaf Addawol- Dylan Jones; Chwaraewr Mwyaf Addawol II- Gerallt Jones ; Chwaraewr Mwyaf Ymroddgar- Dylan Jones; Cais y Flwyddyn- Kevin Humphreys; Clwbddyn- Tony Coleman.

Mai
Cyfarfod Blynyddol: Trysorydd– Derbyn yn fwy na taliadau: £26,610. Aelodaeth- £768.00. Ethol Llyw- Gwilym / Cad Merfyn / Trys Robin / Ysg Richard O Williams / Aelodaeth Cradog/ Ysg Gemau Tony Coleman / Gwasg Gwynne Williams / Cadeirydd Tŷ Glyn Crampton / Gofalwyr y Cae Mike Osman a Gwynne Williams/Capt 1af Rob Atherton / Capt 2ail  Alun Jones / Hyfforddwr Peter Jones Is hyfforddwr Tony Coleman / Swyddog Ieuenctid  Michael Jones/ Eraill Griffo /Arwyn Humphreys / John Jones / Keith Roberts / Danny McCormick. Ian Williams wedi chwarae i dîm dan 21 gogledd Cymru.
- - - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn rhifyn Mawrth 2024

 

Sgarff Fwyaf Cymru!

GISDA yn cymryd rhan yn Her Sgarff Fwyaf Cymru 2024

Yn ddiweddar mae tîm GISDA Blaenau Ffestiniog wedi bod yn rhan o Her Sgarff Fwyaf Cymru a drefnwyd gan Voices from Care Cymru (VFCC). 



Mae cannoedd o bobl o bob rhan o Gymru a thu hwnt wedi rhoi eu hamser i greu sgwariau i’r sgarff. Ar y diwedd mi fydd cyfanswm o 7,983 o sgwariau, un i gynrychioli pob plentyn a pherson ifanc sydd mewn gofal yng Nghymru. Pan fydd y sgarff wedi’i gorffen mae VFCC yn bwriadu ei lapio o amgylch y Senedd yng Nghaerdydd er mwyn codi ymwybyddiaeth am eu gwaith pwysig.

Ond pam sgarff? Mae’n symbol o gynhesrwydd, cael eich cofleidio a bod yn rhan o rywbeth mwy. 

 

Mae pob un sgwâr ar y sgarff yn unigryw, fel mae profiad pob unigolyn sydd yng ngofal awdurdodau lleol Cymru ar hyn o bryd yn unigryw. 

 

Mae GISDA yn falch iawn o gefnogi’r ymgyrch bwysig hon, ac hefyd eisau estyn diolch i gymuned Blaenau Ffestiniog a’r Gorlan am eu cefnogaeth. 

 

Gweler y lluniau i weld canlyniad eu gwaith caled!
- - - - - - - - 

Ymddangosodd yn rhifyn Mawrth 2024


Yr Aelwyd

Erthygl o rifyn Mawrth 2024

Mae cwmni Antur Stiniog wedi llwyddo i brynu hen Aelwyd yr Urdd, ac erbyn hyn mae’r cynlluniau yn barod a’r adeiladwyr hefyd yn barod i ddechrau ar eu gwaith. Pan fydd yr Aelwyd yn barod, bydd yma gyfle gwych i bobol ifanc y fro gael gofod ddelfrydol i greu Hwb gwych reit yng nghanol y dref – canolfan fydd yn cynnig pob math o weithgareddau i’n ieuenctid. 


 

Hefyd, yn ystod yr amser y bydd yr adeiladwyr yn gweithio ar yr Aelwyd, mi fydd Cwmni Bro Ffestiniog yn trefnu llawer o weithgaredd diddorol trwy gydol y flwyddyn sydd yn dod – cyfleon difyr i'r ieuenctid gael cymryd rhan yn eu cymuned, eu cymdeithas a'u diwylliant, er mwyn iddyn nhw greu cymuned gref a bywiog, a dysgu crefftau wrth wneud hynny. Rhan bwysig o hyn fydd clybiau ieuenctid fel Clwb Clinc yn Cell, Clwb Cic yn y Clwb Rygbi a Cell, a chriw ieuenctid GISDA, a gallu cydweithio gyda phawb – yn enwedig Ysgol y Moelwyn, sydd wastad yn barod i gydweithio trwy fynd â’r plant efo ni i weld hanes y fro, a’r henebion sydd yma yn yr ardal, trwy fenter Cynefin a Chymuned, ac hefyd i farddoni a chreu celf a mwy.  

Creu, creu, creu! Yn ogystal â chelf a cherddi gan blant yr ysgol, mae digon o adnoddau yn y dre i’r plant gael syniadau, megis baneri, murluniau a graffiti dychmygus, creu pamffledi, crysau-T, bathodynnau a mwy. Bydd yr ieuenctid yn dysgu sut i drefnu gigs gan fandiau yr ardal, ac hefyd yn helpu trefnu Gŵyl Car Gwyllt a dod yn ran bwysig o’r ŵyl, a mwy, fel bod yr ieuenctid yn dod yn rhan neilltuol o’r gymuned ac yn teimlo fel eu bod hwythau yn ran bwysig o’u tref, yn ieuenctid positif efo balchder yn eu bro – ac hefyd yn rhan o Gymru a’r dyfodol.

Tra bo’r Aelwyd yn cael ei adeiladu, byddwn yn mynd a'r ieuenctid am dro i ddysgu am hanes ein bro, gan weld henebion yr ardal, â mynd i weld archaeolegwyr yn cloddio, a chael helpu'r archeolegwyr hefyd. Yn ogystal, mi fyddwn yn mynd â'r criw ifanc i weld sut mae'r systemau hydro lleol yn gweithio, diolch i fenter GwyrddNi, sut y mae ailgylchu yn cael ei ddefnyddio, a llawer, llawer mwy. 

Mae llu o bethau yn barod ar gyfer y plant, o Chwarel Rhiwbach a’r dramffordd yn ôl i’r dref, Sarn Helen, Bryn y Castell lle fu’r Celtiaid yn creu haearn allan o fawn (bog-iron), y tir tu allan i faes Tomen y Mur, Castelli Cymreig, Llys Castell Prysor, Ranges Trawsfynydd, meini hirion, carneddi a siambrau claddu, a bryngaerau ardal Harlech a Dyffryn Ardudwy. Yn ogystal, yn ystod yr wythnos nesaf, mi fydd plant yr ysgol yn cael mynd i weld yr Aelwyd, iddyn nhw gael gweld y potensial sydd yno. Byddwn ni wedyn yn gofyn iddyn nhw sgwennu cerddi a chreu celf a fydd yn dweud be fath o weithgaredd fyddan nhw’n licio ei weld yn yr Aelwyd. 

Bydd yr Aelwyd yn cynnig pob math o weithgareddau i’r ieuenctid lleol, a syniadau yr ieuenctid fydd y cwbl. Yr ieuenctid fydd yn llywio’r project. Creu celf a barddoniaeth, graffiti clyfar a murluniau, cynnal nosweithiau fel stand-yp, actio, sgetshis, creu ffilmiau byr, cerddoriaeth, meic-agored i’r ieuenctid ddod i’r llwyfan efo’u offerynnau, neu gomedi a ballu, trefnu noson Stomp, neu drefnu Beirdd v Rapwyr. Bydd lle i arluniau y bobl ifanc ar y waliau a’r to, neu ar y tu allan. Bydd lle i chwarae pool, darts, tenis bwrdd, dysgu recordio caneuon, dysgu creu miwsig gyda meddalwedd stiwdio, dysgu DJ'io, rapio, a dysgu offerynnau cerddorol. Bydd digon o le yno i bractisio yn un o’r stafelloedd. Mi ddaw yr ieuenctid at ei gilydd i greu caneuon gyda help ei gilydd, ac erbyn hynny bydd PA ar gael i’r bandiau hyfforddi neu berfformio i’w ffrindiau.

Gyda’r stafell uwchben bydd byrddau isel a cwshins ac ati, lle mae gallu tshilio i siarad neu sgwennu, darllen neu wneud celf, ffotograffiaeth, rhannu miwsig, neu chwarae gemau bwrdd, a siarad a casglu syniadau, creu posteri a sgwennu cerddi, sgriptio a hyd yn oed dechrau nofel! Gyda chamerâu a stiwdio olygu bydd yr ieuenctid yn gallu gwneud ffilmiau byr – tua 10 munud yr un. 

O dan yr ystafell uchel, mae stafell tech (stiwdio miwsig, stiwdio golygu ffilmiau a.y.b.), a stafell arall ble bydd caffi cŵl – a’r ieuenctid fydd yn rhedeg y caffi hwnnw, yr ieuenctid fydd yn rheoli. Bydd y caffi efo vibe cool a chilled, fel yn y stafell uwchben. Fan hyn gewch chi greu mwy o syniadau efo’ch gilydd. Syniad arall ydi rhoi sgrîn, neu ddau neu dri teledu ar y walia, er mwyn i’r ieuenctid wylio DVDs, gemau pêl-droed a rygbi rhyngwladol – a llawer mwy. Caiff yr ieuenctid ddylunio posteri, crysau-T a bathodynnau, a dysgu i ddefnyddio peiriannau celf. 

Mae cymaint o weithgaredd yn aros yr ieuenctid. Rydym yn gobeithio bydd y plant yn deall sut i ymateb i broblemau’r byd, o’r hinsawdd i’r rhyfeloedd a’r cwmnïau mawr yn codi biliynau o arian tra bod bwyd a nwy yn rhy ddrud i bobl fel ni. Rydan ni’n gobeithio y bydd yr ieuenctid yn tyfu i fod yn bobol ifanc cydwybodol, gan obeithio y byddan nhw’n trio gwneud rhywbeth am y problemau hyn. 

Mae mentrau gwych yn Stiniog, sydd yn gwneud pethau gwirioneddol dda. Bydd gweld be mae’r mentrau hyn yn wneud yn siŵr o agor llygaid yr ieuenctid. Tybed mae ein ieuenctid ni fydd yn achub ein ardal, ein cymuned, Cymru a’r Gymraeg, a’r byd? Gyda hyn, rydym am helpu’r plant i greu deisebau os oes rhywbeth yn eu poeni, a sut i’w gyrru nhw i’r gwleidyddion (a cofiwch y cewch bleidleisio o oed 16 i fyny). 

Bydd ‘Yr Aelwyd’ yn hwb llawn creadigaeth, dychymyg a syniadau, ac yn lle cŵl i’r ieuenctid ei ddefnyddio. Lle i greu, lle i drefnu, a lle i tshilio, heb rywun yn dweud wrthyn nhw be i wneud. Gaiff yr ieuenctid reoli, yn creu eu rheolau eu hunain. Yr ieuenctid fydd ‘in charge’!
Dewi Prysor



2.5.24

Cornel Gerddorol- Cyfraniad Arbennig

Ers 2008, mae mis Chwefror wastad wedi golygu un peth o fewn y calendr cerddorol, sef Gwobrau’r Selar. Yn wir, rhwng 2014-2020, cynhaliwyd Noson Wobrwyo’r Selar yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, sef cyfle i ddathlu y flwyddyn a fu yng ngherddoriaeth Cymru ar ffurf gŵyl fechan. 

Bellach, mae ffurf y gwobrau wedi newid, wrth i’r enillwyr gael eu cyhoeddi ar donfeddi Radio Cymru yn ystod wythnos benodol yn mis Chwefror. Ers 2015, mae un gwobr yn cael ei gyflwyno i unigolyn o fewn y sîn sydd wedi gwneud ‘Cyfraniad Arbennig’ ac mae cyn enillwyr y wobr hon yn cynnwys Geraint Jarman, Tecwyn Ifan, Gruff Rhys a’r llynedd, y gyflwynwraig, Lisa Gwilym.

Ar raglen wythnosol Rhys Mwyn, fe ddaeth Gai Toms i mewn i’r stiwdio ym Mangor am sgwrs, ond nid sgwrs arferol mohono, wrth i’r cyflwynydd/archeolegydd adnabyddus gyhoeddi mai Gai fyddai deilydd y Wobr Cyfraniad Arbennig yng Ngwobrau’r Selar. 

Roedd ei ymateb yn un o gryn sioc, gan ddweud “Cyfraniad Arbennig? Dwi’m yn teimlo mod i’n ddigon hen i dderbyn y fath wobr, ond wow....diolch i griw’r Selar am yr anrhydedd” cyn mynd ymlaen i ddiolch i griw Anweledig yn enwedig, gan ddweud “na fyddai o’n nunlla, hebddyn nhw”. Fe orfennodd Gai drwy ddyfynnu llinell o un o glasuron Datblygu, Maes-E (enillwyr cyntaf y wobr hon): “Ma gwobra’, heb y barnu na’r cystadlu ynde...dwi’m yn or-hoff o wobra’, does ‘na neb yn well na’i gilydd rili nagoes. Ond ma cydnabyddiaeth dal yn neis.” 

Yn wahanol i weddill y gwobrau, ble mae’r cyhoedd yn pleidleisio i greu rhestr fer ac yna dewis enillydd – Tîm Golygyddol Y Selar sy’n dewis enillydd y wobr Cyfraniad Arbennig yn flynyddol, ac mae’r enillydd bob amser yn rhywun y mae nhw’n teimlo sydd wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i gerddoriaeth Gymraeg yng Nghymru a thu hwnt, ac sy’n parhau i wneud hynny.

Mae pawb sy’n nabod Gai yn gwybod pa mor ddiymhongar ydi o – ac felly dydi o ddim yn syndod i ni drigolion ‘Stiniog fod Gai yn ffitio’r meini hynny ac felly’n hollol deilwng o’r wobr hon. Dyweddodd Rhys Mwyn “does na ddim cwestiwn dy fod di’n un o’r artistiaid a chyfansoddwyr yna...mae gen ti’r repetoire sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol” – mae geiriau fel yna gan rhywun fel Rhys Mwyn (sydd mae’n deg i’w alw yn dipyn o awdurdod ar gerddoriaeth o Gymru yn seiliedig ar ei yrfa fo o fewn y maes) yn adrodd cyfrolau o lwyr haeddiant Gai yn fy marn i.

Does dim angen rhestru yr hyn mae Gai Toms wedi ei gyflawni yn gerddorol ers y 90au cynnar, mae pawb o’r ardal hon yn cofio gigs hynod o gofiadwy Anweledig a’r 7 albwm gwych y mae wedi ei ryddhau wedyn unai o dan yr enw Mim Twm Llai neu ers 2008, o dan ei enw ei hun. Mae dawn Gai i greu gweithiau cysyniadol megis Rhwng Y Llygru A’r Glasu (yr albwm gyntaf o dan yr enw Gai Toms a’r albwm Gymraeg gyntaf i ddefnyddio sain llwyth o offerynnau wedi eu creu o sbwriel), Bethel (albwm ddwbl a recordiwyd hen Gapel Bethel, Tanygrisiau a drowyd mewn i stiwdio Gai) neu pwy all anghofio’r albwm a’r daith theatrau epig, Orig – sef albwm yn seiliedig ar fywyd y reslwr enwog, Orig Williams. 

Yn ôl Uwch Olygydd Y Selar, Owain Schiavone, roedd Gai Toms yn ddewis amlwg ar gyfer derbyn y wobr Cyfraniad Arbennig. “O ystyried y criteria bras rydym wedi gosod ar gyfer y wobr hon, does dim amheuaeth fod Gai Toms yn haeddiannol iawn o’r gydnabyddiaeth. Ers dros dri degawd bellach mae Gai yn o gerddorion amlycaf Cymru. Gyda’i ffrindiau gorau, fe ddatblygodd Anweledig, i fod yn fand mwyaf y sin Gymraeg ar ddiwedd y 90au, ond mae’n deg dweud mai ar ôl hynny y daeth gwaith mwyaf arwyddocaol Gai i’r amlwg. Dwi’n grediniol ei fod yn un o ganwyr-gyfansoddwyr pwysicaf ei genhedlaeth yn yr iaith Gymraeg, os nad y pwysicaf oll. Yr hyn sy’n taro rhywun ydy ei ddewrder cerddorol, a’i barodrwydd i arbrofi a mentro. Mae rhai o’i recordiau hir yn arloesol yn y Gymraeg yn enwedig efallai Rhwng y Llygru a’r Glasu ac Orig – does neb wedi creu rhywbeth tebyg i’r rhain yn y Gymraeg. Bydd llawer o’i ganeuon yn glasuron mewn blynyddoedd i ddod, ond mae ei gerddoriaeth yn fwy na dim ond caneuon – mae’n sylwebaeth graff ar wleidyddiaeth, cymuned, hanes, yr amgylchedd a’r byd.”

Llongyfarchiadau mawr i Gai a mawr yw’r diolch am ei gyfraniad i fyd cerddoriaeth Gymreig!
- - - - - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2024

 

Telyn Trawsfynydd

Telyn Deires am y tro cyntaf erioed yn Neuadd Trawsfynydd 

Pe bawn i’n gofyn ichi beth yw offeryn cenedlaethol y Cymry, mae’n debyg y basech yn enwi y delyn.
Mae’n bwysig inni felly warchod y traddodiad hwnnw. Mae'r rhan fwyaf o delynorion gwych yr ardal hon yn chwarae telynau pedal wrth gwrs, rydan ni’n meddwl am bobl fel Dylan Rowlands, Llan Ffestiniog, sydd wedi hybu canu’r delyn yn wych iawn dros y blynyddoedd diwethaf. 

Ond cafwyd noson unigryw a hanesyddol yn Neuadd Trawsfynydd yn ddiweddar pan oedd y grŵp gwerin Hen Fegin o ardal Maldwyn yn perfformio yn y Neuadd, gyda merch ifanc dalentog iawn, Cadi Glwys Davies yn cyflwyno alawon ar y delyn deires, maint llawn (Enillydd Cenedlaethol yn yr Ŵyl Gerdd Dant ddiwethaf) 

Gallech glywed pin yn disgyn wrth iddi drin y tannau mor gelfydd. Ac mae sŵn y delyn deires yn eithaf unigryw. I nifer o’r gynulleidfa hwn oedd uchafbwynt y noson hwyliog hon. Yn sicr roedd pawb yn mwynhau a gwerthfawrogi swyn y delyn gan y ferch ifanc. Roedd ei mwynhad amlwg hi o’r cyfle yma i ddiddanu cynulleidfa Trawsfynydd yn ysbrydoledig. Nid yn unig hynny ond cawsom flas o’i dawn yn clocsio yn ogystal! Y mae Cadi yn wyres i’r gôl-geidwad enwog y mae nifer ohonoch yn ei gofio, sef Dai Davies. Mae’n siŵr y byddai yn hynod falch iawn ohoni.

Cafwyd gwrandawiad ardderchog hefyd i grŵp nad oedd llawer yn gwybod amdano sef Hen Fegin.
Pedwar o ddynion a Cadi Glwys, yn canu a chyfeilio ar amryw o offerynnau gwerin. Roeddynt yn
cyflwyno amrywiaeth o ganeuon, gwreiddiol a thraddodiadol, rhai caneuon yn ddigyfeiliant a oedd yn
ymdebygu yn eu harmonïau i ganeuon Plygain. Neu, o bosib yn debyg i sain y grwp gwerin Plethyn.
Doedd hynny ddim yn syndod wrth gwrs gan fod dau o hen grwp Plethyn yn y grwp newydd hwn, sef
Roy Griffiths a John (Jac) Gittins. Y ddau arall oedd Rhys Jones, y ffidlwr, sydd yn nai i Idris Jones (neu Ken Rownd a Rownd fel yr adnabyddir i lawer) sy’n ffidlwr o fri hefyd a Bryn Davies ar yr acordion, sy’n digwydd bod yn dad i Cadi Glwys Davies!

Mae’n braf cael hybu grwpiau newydd fel hyn, tydi Hen Fegin ddim yn cael llawer o sylw ar y radio
a theledu hyd yma, ond yn amlwg yn grwp o safon. TrawsNewid oedd yn gyfrifol am y trefnu a braf
oedd cael paned a chacen (cynnyrch cartref!) ar y canol, y cacenni wedi eu cyfrannu gan bump o ferched caredig y fro. Hyfryd dros ben!! 

Roedd hon yn noson hyfryd a chartrefol, a hanesyddol hefyd; roedd y rhai a ddaeth i’r noson wedi cael boddhad mawr, nifer o gefnogwyr di-Gymraeg yn bresennol hefyd, sy’n hynod bwysig i gymhathu’r bobl ddŵad i’r gymuned. Efallai fod y noson yn haeddu cynulleidfa helaethech ac mae’r rhai oedd yn methu dod wedi cael colled – ddim dwywaith am hynny. Ond yn sicr roedd y rhai a fynychodd yn mynd i gofio am y noson hon am amser hir iawn.

- - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2024