25.2.17

Trem yn ôl -Tŷ Canol

Erthygl gan Pegi Lloyd Williams.

Daeth i’m meddwl sôn tipyn am Tŷ Canol, Summerhill, yn dilyn rhaglen S4C ‘Ar Faes y Gad’ pryd roedd Owain Tudur Jones yn olrhain hanes rhai o beldroedwyr oedd wedi chwarae i Gymru cyn y Rhyfel Mawr 1914-1918.  Fe ddaeth yr amser iddynt hwythau fel bechgyn eraill y wlad a’r deyrnas ‘roi eu gorau’ i’r brenin a’u gwlad a derbyn pa beth bynnag fydda’r canlyniadau.

Roedd y cynhyrchydd am i Owain grybwyll rhywfaint o hanes ei deulu ei hun, sef ei ddau hen-hen daid, un o Stiniog a’r llall o Abergynolwyn, a’i hen-hen ewythr eto o Abergynolwyn.  Yn y cyswllt hwn gwelwyd Owain yng nghwmni ei daid Geraint Vaughan Jones yn cael ei dywys at ddau fedd, sef ei gyn-gyn daid a’i gyn-gyn ewythr. Bu i John Jones ei hen-hen daid yn Stiniog gael ei glwyfo’n ddrwg yn ei goes a’i anfon gartref cyn diwedd y gyflafan.

Llun -Owain Tudur Jones/S4C; o wefan Y Cymro. (Byddwn yn falch i gywiro'r manylion hawlfraint -cysylltwch)
Yng nghyfarfod Tachwedd rhoddodd Geraint sgwrs i Gymdeithas Hanes Bro Ffestiniog yn cyffwrdd ar hanes ei daid John Jones, fu am gyfnod maith yn cario glo a nwyddau efo ceffyl a throl.  Llaweroedd o blant y cyfnod yn cofio’r drol a’r ddau geffyl – Bess a Prince.  Roedd wedi priodi â Margaret Ellen (Margiad Elin) ac felly y down at dipyn o hanes Evan a Gwen Roberts yn symud yma o Benmachno tua 1870.

Buont yn byw yn ‘Bootie Alley’ sef rhesdai sydd dros y ffordd i’r Co-oparet (Swyddfa GISDA heddiw) a Siop Kate Pritchard (Cadi Pritch).  Yma y ganwyd yr unig ddau blentyn i oroesi – sef Margiad Elin (Margaret Ellen) a Evan John – y plant bach eraill i gyd wedi eu claddu ym Mynwent Eglwys Sant Tudcul, Penmachno.  Bu iddynt symud ymhen ychydig i fyw i Tŷ Canol, yn union du ôl i Bryn Awel.  Roedd rhywfaint o dir yn mynd efo Tŷ Canol gan fyddai gan Taid rhyw ychydig o wartheg, ac roed Nain yn gwneud rhyw geiniog neu ddwy yn gwerthu wyau.  Byddai’n gwybod i’r dim sut i wneud ‘cownt’ y wyau, a’r pres er nad oedd wedi derbyn addysg i ysgrifennu na darllen.  Ei thad oedd Sion Ifan, clochydd olaf Eglwys Sant Enclydwyn, Penmachno cyn iddi losgi i’r llawr, a chlochydd cyntaf Eglwys Sant Tudcul – yn ddwyieithog ac yn darllen ac ysgrifennu – y ddau beth oedd yn ofynnol (os yn bosibl) gan yr Eglwys os am fynd i mewn am y swydd ‘Clochydd’.

Un o Ysbyty Ifan oedd Evan Roberts – yn frawd i dad y cerddor a’r cyfansoddwr T. Osborne Roberts 1879-1948, a briododd ymhen amser â Leila Meganne y mezzo-soprano fyd enwog, ac fel un o’r ‘Sbyty, y tir oedd ei gariad cyntaf.

Y cofnod cynta’ sydd gen i am Tŷ Canol ydi 1809, ond yn sicr roedd yn bod cyn hynny.  Bu teulu’n dwyn yr enw Tyson yn byw yna ar wahanol gyfnodau, a hefyd mae’r enw Elizabeth Brymer yn ymddangos.  Byddai Evan a Gwen a’r plant Margiad Elin a Evan John wedi ymgartrefu yno tua’r 80au cynnar.

Mae Maldwyn Lewis yn ei lyfr atgofion ‘WIR YR’ yn sôn am yr ardal gan iddo gael ei fagu yn Richmond Terrace, ac er na fûm yn byw yn y cylch yna mae ei storiau yn cyd-fynd â’r rhai a glywais am blant oes gynharach yr ardal fach yna.  Byddai rhywun yn gwrando hyd syrffed ar hen storiau’r dyddiau cynt, ond erbyn heddiw yn edifar na fyddem wedi gwrando mwy.  Fe glywais sôn am Plas-yn-Dre, ac wrth gwrs am y Cocoa House ar y stryd fawr cyn cyrraedd yr Eglwys – yr hen Lyfrgell Gyhoeddus y dre’ cyn dyddiau’r British Legion.  Byddai Taid yn dod â Jane Alice fy mam i lawr yn ei law ar nos Sadwrn i gael powliad o bwdin reis yn y Cocoa House (fel roeddem ninnau’n yn ein hieuenctid yn edrych ymlaen am ‘Ice&Port’ yn siop Taddei’s.)

Gweithio yn chwarel Diffwys a chymryd gofal o’r tyddyn bu Taid nes gorfod rhoi gorau i’r chwarel oblegid yr ‘hen gryd cymala’ – a bwrw iddi gystal â medrai efo’r tyddyn.  Roedd yn licio tynnu ar ei getyn, a cherdded at y giat am fygyn cyn troi mewn, ac ar un noson braf fe welodd dair (neu bedair ydw i ddim yn siwr) ‘cannwyll corff’ – yn mynd i fyny’r llwybr at y chwarel (mae ‘gweld’ arwyddion damweiniau’n beth dieithr iawn erbyn hyn), ac fe wyddai bod yna gymaint â hynny o ddynion ar eu ffordd i’r chwarel i weithio nos i ‘dynnu petha peryg’ o dan y ddaear.  Dim ffôn symudol na dim y dyddiau hynny i geisio eu rhwystro – ac erbyn y bora roedd y dref a phawb yn gwybod am y trychineb.

Mae gen i lythyr sgwennodd Taid at Jane Alice sy’n darllen
‘Annwyl Ferch .... diolch am dy lythyr a’r papur chweugian .... Margiad Elin yn deud ei bod am sgwennu i ti’n fuan ... bydd y fuwch ola’n mynd wsnos yma – yr ocsiwn dydd Llun, asgwrn ein cefn ers blynyddoedd.  Dy fam bron a thorri ei chalon.  Y doman (lechi) wedi cyrraedd cae gwaelod.’  
Yn anffodus does dim dyddiad ar y llythyr, ond tybiaf y byddai hyn tua jest cyn dechrau’r Rhyfel Mawr 1914-1918.    
--------------------------------------------


Ymddangosodd yn rhifyn Ionawr 2017, efo addewid am fwy i ddilyn.

22.2.17

Stolpia -Cadair Eisteddfod eto

Rhan o golofn reolaidd Steffan ab Owain.

Derbyniais nodyn oddi wrth Geraint V Jones beth amser yn ȏl parthed cadair eisteddfod a welsai Elfyn ei fab ymysg deunydd ail law yng Nghricieth.


Holodd a oedd gennyf ryw gofnod neu bwt o’i hanes. Wel, dyma beth fedrais ei ganfod ar ȏl chwilota tipyn-

Cadair Eisteddfod Gadeiriol Annibynwyr y cylch yw hon a gynhaliwyd Nadolig 1930. Byddid yn cynnal nifer o eisteddfodau ogylch y Nadolig yn y blynyddoedd a fu.

Beth bynnag, yn ȏl y rheolau roedd y gystadleuaeth am y gadair hon yn gofyn am ddarnau o farddoniaeth heb fod tros 100 llinell o hyd a cheid dewis i gyfansoddi naill ai telyneg ar y testun ‘Llech Ronwy’, neu soned ar y testun ‘Llyn y Morwynion’ neu gywydd ar y testun ‘Blodeuwedd’.

Roedd y gadair yn werth £3.3.0. (sef £3.15c yn arian heddiw).

Y bardd buddugol oedd Richard Alun Jones (Ap Alun Mabon), Rhiwbryfdir, ac yn ȏl y beirniaid roedd y bardd ifanc yn haeddu canmoliaeth uchel am ei waith.

Credaf mai ar y soned ‘Llyn Morwynion’ y bu’n fuddugol gan iddi gael ei chyhoeddi yn ei gyfrol Gwrid y Machlud tua 10 mlynedd yn ddiweddarach. Cynhaliwyd seremoni y cadeirio dan ofal y Parch. James Jones a chyfarchwyd y buddugwr gan nifer o feirdd y fro.


----------------------------------------------

Ymddangosodd yn rhifyn Ionawr 2017. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


19.2.17

'Stiniog a'r Rhyfel Mawr -gorfodaeth a cholledion

Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf.
           
Er mai newyddion drwg am golli milwyr ar feysydd y gad oedd yn llenwi tudalennau'r papurau newyddion y cyfnod, yr oedd heintiau megis y ffliw yn achosi trafferthion i ddarllenwyr y papurau hefyd. Fel yr adroddwyd yn yr Herald Cymraeg ar 6 Ionawr 1917, yr oedd anhwylderau blin eraill bron bob amser yn dilyn ymosodiad o'r ffliw.

Ond roedd materion eraill yn poeni trigolion yr ardal yn ychwanegol. Oherwydd i'r Swyddfa Ryfel ddechrau gorfodi gwŷr priod i ymrestru â'r lluoedd arfog, roedd perchenogion a swyddogion y chwareli lleol yn pryderu am ddyfodol y chwareli bychain. Nid oedd y diwydiant yn angenrheidiol ar gyfer galwadau'r Swyddfa Ryfel, yng ngolwg yr awdurdodau.

Llun- Mrs Lisa Lloyd, Yr Wyddgrug

Ni chafwyd lawer o sôn am Lewis Davies, Y Gloch, y cyn-swyddog recriwtio, ers i orfodaeth filwrol ddod i rym flwyddyn ynghynt. Ond cyhoeddwyd llongyfarchiadau’r Rhedegydd iddo yn rhifyn 20 Ionawr 1917. Roedd Davies wedi ei benodi’n Gynrychiolydd Milwrol dros Feirionnydd. A daeth mwy o ganmoliaeth iddo ar dudalennau’r papur yr wythnos ddilynol. Fe’i dyrchafwyd yn 1st Lieutenant gan yr awdurdodau milwrol. Mewn gorfoledd amlwg, meddai’r gohebydd
‘Bydd o hyn allan yn gwisgo gwisg filwrol, ac mewn swydd uchel ac anrhydeddus dan y Goron. Da gennym ei longyfarch, a dymunwn ei lwydd eto yn y dyfodol. Bydd i’w adnabod bellach fel Lietuenant Davies.’
Yn yr un rhifyn, daeth newyddion i law fod William Jones Penny wedi cyrraedd adref am ychydig o seibiant o’r ffosydd. Dyma’r dyn oedd i’w weld yn clodfori’r rhyfel ar dudalennau’r Rhedegydd ychydig wedi dechrau’r brwydro yn Awst 1914. Byddai ei alwad ar fechgyn Stiniog i ymuno yn fyw yng nghof y darllenwyr, yn sicr, gyda’i eiriau teyrngarol Saesneg, 'England for ever, Britons to the fore' yn ceisio codi ysbryd y darpar-filwyr rheiny. Ond yr oedd Wil Jôs Penny wedi gweld effaith y rhyfel yn bersonol, ac wedi gwasanaethu yn y ffosydd ers tro. Fel y dywed gohebydd y papur, yn sillafiadau ac ieithwedd y cyfnod:
'Da genym gael croesawu William Jones Penny adref, wedi bod ohono yn Ffrainc am amser maith; ac wedi gweld bethau anrhaethadwy…ond feallai y daw amser pan y ceir rhoi trafod iddynt oll.'
Ond er iddo edrych yn eitha’ da, roedd golwg ‘syn ac yn drist ei wedd i fesur, a phwy na fyddai felly, wedi bod yn y fath gethern ofnadwy’, chwedl gohebydd y papur. Oedd, roedd realiti’r sefyllfa ddychrynllyd y brwydro wedi dod â’r rhyfel yn fyw iawn i Penny. Byddai darllen hefyd am hanes y nifer fawr o golledigion Stiniog y Rhyfel Mawr ar dudalennau’r Rhedegydd wedi newid ei farn am yr ymladd, yn sicr. Cofnodwyd am y colledigion rheiny yn wythnosol yn y papur lleol hwn, a gweddill y wasg Gymreig.

Daeth adroddiad yn y North Wales Chronicle ar 26 Ionawr 1917 â gwybodaeth am sut yr oedd apeliadau gan ambell un am esgusodiad rhag cael ei alw i'r fyddin yn cael eu trin gan aelodau Tribiwnlys Apêl Dyffryn Conwy. Roedd gŵr gweddw o Gwm Penmachno yn weithiwr yn chwarel Bwlch Slatars, sydd wedi'i lleoli tua thair milltir serth o daith rhwng y Cwm a safle’r gwaith. Dyfynnir o'r adroddiad isod, yn yr iaith y'i cofnodwyd:
'David Williams, Dyfnant Terrace, Cwm Penmachno, quarryman (35) a widower with two children, applied for conditional exemption. He said he worked at Manod Quarry, Festiniog, and walked all the way home every night. The Military Represenatative: "Just the man for the Army, a good marcher" (laughter). Appeal refused. Not to be called up until February 28th.'
----------------------------
Ymddangosodd yn rhifyn Ionawr 2017. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


14.2.17

Apêl Gŵyl Cerdd Dant Blaenau Ffestiniog a'r Fro 2018

Fel y gŵyr holl ddarllenwyr Llafar Bro bellach, fe fydd Gŵyl Cerdd Dant Genedlaethol Cymru yn ymweld â’r dref am y tro cyntaf yn Nhachwedd 2018. Mae’r cynllunio ar y gweill eisoes, a chafwyd cyfarfodydd cyntaf y ‘Pwyllgor Gwaith’ a rhai o'r is-bwyllgorau, yn Ysgol y Moelwyn.

Mae nifer o garedigion wedi ymuno, a does dim dwywaith fod yna ddigonedd o frwdfrydedd yn yr ardal.  Etholwyd Iwan Morgan yn Gadeirydd y Pwyllgor, gyda Gwyn Roberts, Dolwyddelan yn Is-Gadeirydd. Bethan Haf Jones ydy’r ysgrifenyddes ac Anthony Evans ydy’r trysorydd.

Dewi Lake ydy Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid a Chyhoeddusrwydd. Mae’r pwyllgor testunau hefyd wedi cael eu sefydlu, gyda chynullwyr wedi eu dewis ar gyfer pob un.

Rhai o aelodau'r pwyllgor cyhoeddusrwydd a chyllid.

Mae sawl sefydliad ac unigolyn eisoes wedi addo cyfrannu at wobrau’r Ŵyl, ac estynnir gwahoddiad i’r rhai ohonoch, sy’n awyddus i wneud, i gysylltu â’r swyddogion gynted â phosib os gwelwch yn dda.

Byddwn yn cofnodi’r rhoddion ac yn cydnabod pob un yn Rhaglen y Dydd. Felly, chi ddarllenwyr Llafar Bro ymhell ac agos, apeliwn yn daer a charedig arnoch am eich cefnogaeth yn hyn o beth. Y targed a osodwyd inni ydy £40,000.

Mae gweithgareddau codi arian wedi digwydd ac mae eraill eisoes yn yr arfaeth. Yn sicr, bydd angen trefnu llawer mwy!

Hyfrydwch fyddai cael croesawu pob un ohonoch sydd â syniadau am godi arian i’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Gwaith am 7.30 ar nos Fawrth, Chwefror yr 28ain yn Ysgol y Moelwyn. Cadwch olwg am fanylion cyfarfodydd yr is-bwyllgorau hefyd:
cerdd dant;
canu gwerin;
dawns werin;
telyn;
llefaru;
cyllid a chyhoeddusrwydd.

Llawer o ddiolch,
Swyddogion Pwyllgor Gwaith Gŵyl Cerdd Dant 2018
-------------------------------------------

Addaswyd o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Ionawr 2018.
Llun PaulW.
#GCD2018 


5.2.17

Y Telynor Dall yn dangos y ffordd

Erthygl gan Gwynant Hughes, Castellnedd, a ymddangosodd yn rhifyn Rhagfyr 2016.

Llun -Paul W
Wedi darllen cyflwyniad Iwan Morgan, a draddododd yng Nghyngerdd yr Wŷl Cerdd Dant*, yn sôn am gyfraniad Dafydd Francis,  Llechwedd, i achos Cerdd Dant yn yr ardal, daeth hanesyn bach diddorol i’m côf.

Byddai fy nhad, Cadfan Hughes (37 Heol Jones gynt), fel eraill o’r teulu yn cael eu hyfforddi yn y grefft. Un diwrnod aeth o a’i chwaer Dilys i lawr i Gwmbowydd at Ioan Dwyryd i gael dysgu gosodiad ar gyfer eisteddfod (Pentrefoelas os cofiaf). Treuliasant rhai oriau yn dysgu’r darn. Fodd bynnag, nid oedd Ioan Dwyryd yn canu na phiano na thelyn ac o’r herwydd nid oedd modd iddynt ymarfer canu’r gosodiad ar y gainc a ddewisiwyd. Ond doedd hynny ddim yn broblem o gwbl! Y trefniant oedd iddynt ill dau ei heglu hi am y Llechwedd i fwthyn Dafydd Francis, Y Telynor Dall, canu y gosodiad iddo gan ddweud mai Llwyn Onn oedd y gainc a gadael i Ddafydd Francis wedyn ei gosod yn y lle priodol ar y gainc.

Ta waeth, y tro hwn,  buont wrthi yn hir eto cyn cael trefn ar bethau. Wedi i bawb gael eu bodloni fod popeth yn ei le roedd wedi dechrau nosi. Ffarweliodd y ddau â Dafydd Francis a chychwyn ar draws y gro agored oedd o flaen y tŷ i geisio pen y llwybr sydd yn arwain i lawr at y ffordd fawr. Ond och, nid yn unig roedd hi’n dywyll, ond roedd hi’n niwl dopyn. Penderfynodd y ddau droi yn ôl tra gallent weld golau ffenest y bwthyn. Dyna gnocio’r drws a dweud wrth Dafydd Francis am eu picil.

Eiliad,” meddai, “ i mi daro ‘nghôt” ac allan o fo a bowndio ar hyd y gwastad fel na allai’r ddau arall prin gadw efo fo. “Dyna chi,”  meddai, gan roi ei droed ar ben y llwybr. Y dall yn arwain y ....?

Magwyd mam (Eta Hughes) yn y Baltic, Rhiwbryfdir, a chofiaf hi yn sôn bod criw bach yn arfer cymryd stafell gefn i ddifyrru eu hunain yn canu gyda’r tannau. Crybwyllodd i Hedd Wyn alw ar adegau. Plentyn wrth gwrs fuasai hi bryd hynny.



Siom a thristwch i mi oedd deall nad yw bwthyn Dafydd Francis bellach ar agor i’r cyhoedd. Mae wedi ei lyncu gan ddatblygiad newydd y weiren wîb. Gresyn na fyddai modd i’r newydd a’r hen fod wedi gallu cynnal breichiau ei gilydd!

Mae diddordeb mewn cerdd dant yn parhau yn y teulu rwy’n falch o ddweud, ac mi rydw i wrth fy modd fod yr Ŵyl yn dod i Stiniog yn 2018. Pob hwyl ar y paratoi!
-----------------------------------

*Cyflwyniad Iwan