29.7.12

Colofn Werdd


Rhan o’r GOLOFN WERDD, o rifyn Gorffennaf 2012

PENHWYAID PRYSOR gan Rhys Llywelyn, Llawrplwyf Traws
Rwan fod y tymor wedi cyrraedd mae’r rhai hynny ohonom sy’n bysgotwyr wedi dadorchuddio’r gwialenni a’r tacl a fu dan glo dros y gaeaf. Falle bod rhai hefyd wedi bod wrthi’n cawio neu glymu plu drwy nosweithiau hir y gaeaf ac yn frwd i weld os yw’r creadigaethau newydd am ddenu dalfa dda'r tymor hwn.
Mae Meirionnydd yn ardal gyfoethog i’r pysgotwr, mae’n hafonydd yn cael eu poblogi gan yr eog a’r sewin sy’n dod i’n llednentydd i fwrw’i had a’r llynnoedd yn gartre parhaol i’r brithyll.
Datblygiad cyffrous yn Llyn Trawsfynydd yw’r twf diweddar yn nifer a maint y penhwyad neu’r peic (Esox lucius) sy’n byw yn y llyn. Mae rhai yn dweud fod hwn wedi ei gyflwyno i’r llyn yn ddiweddar tra bod eraill yn credu ei fod wedi bod yno erioed, ond fod y gwresogi o’r pwerdy wedi effeithio’n andwyol ar eu niferodd tan yn ddiweddar. Beth bynnag yw tras y pysgodyn hwn mae’n sicr ei fod yn cynnig sialens newydd i bysgotwyr lleol neu’r rheiny sy’n ymweld â’r ardal.

GARDDIO
Cyflwynwyd gwobrwyon BLAENAU YN EI BLODAU ddydd Sul, Gorffennaf 15fed yn Swyddfeydd Cymunedau’n Gyntaf / Y Dref Werdd, Yr Hen Co-op, 49, Stryd Fawr.
Dyma rai o’r enillwyr:
Pen-gardd 2012- Barbara Hayes
Gardd lysiau- cydradd: Dafydd a Marian Roberts; Patrick Murphy
Gardd fechan- Martin Couture
Gardd Natur- Peta, John a Wilfred
Ysgol Manod

Rhandir llwyddianus Patrick
Rhandiroedd -Mae’n braf gweld y mwyafrif o’r rhandiroedd wedi cael eu trin erbyn hyn. Mae o’n waith caled, gyda’r safle yn wlyb iawn a charegog yr un pryd! Ond be mae rhywun yn ddisgwyl ar gors, sydd wedi ei llenwi efo llechi yn ‘de?! Yn ara’ deg mae mynd ymhell medden nhw, felly cawn weld sut fydd y safle’n datblygu dros y blynyddoedd nesa’. Diolch i griw’r Dref Werdd am eu gwaith yn sefydlu’r lle. I’r rhai sydd eisiau dilyn y datblygiadau yno, mae dau o’r garddwyr yn blogio am eu profiadau yn weddol reolaidd:
Ar Asgwrn y Graig  yn Gymraeg, a
Gardd Organic Lynda yn Saesneg.

27.7.12

Gwobr Miss Brymer


Mae'r newyddion am enwau buddugol 2012 newydd ein cyrraedd.
Llongyfarchiadau i bob un ohonynt.


Ysgol Bro Cynfal: Dyfan Glyn Morris

Ysgol Maenofferen: Shelby Roberts

Ysgol Manod: Sion Dafydd Williams

Ysgol Tanygrisiau: Leah Williams

 

Cyhoeddir enillydd y wobr ar gyfer Ysgol y Moelwyn yn noson wobrwyo'r ysgol yn ystod tymor yr hydref 2012. 






23.7.12

Gollwng Stêm


Colofn reolaidd y Pigwr, o rifyn Gorffennaf 2012:

Pan oedd cenhedlaeth hen gojars fel y Pigwr yn cael rhyw lun o addysg, yn y dyddiau pell, pell yn ôl rheiny, a llyfrau hanes Cymru yn eitemau prin iawn, cael ein trwytho yn hanes cenedl y Saeson fyddem ni. Roeddwn ar delerau agos iawn â gwragedd Harri'r wythfed, (nid yn llythrennol, cofiwch), ac yn gyfarwydd â hanes Alfred a'i gacennau, a William y Concwerwr a 1066, a Wil Shakespeare, wrth gwrs. Ond ni chawsom yr un wers am Llywelyn Fawr a Llywelyn ein llyw olaf, na theuluoedd tywysogion Gwynedd o gwbl, na Hywel Dda a'i gyfreithiau, nac Owain Glyndŵr, nac yr un gair am y chwedlau Cymreig byd-enwog rheiny, y Mabinogi; ond roedd Chwedlau Aesop yn gyfarwydd i bob un disgybl, fel hanes Dic Whittington a'i daith i Lundain. Cawsom drip neu ddau i ymweld â chestyll ein concwerwyr yng Nghaernarfon a Chonwy, ond nid i gestyll y Cymry yng Nghricieth a Do'ddelan. Mae llawer o'r farn mai rhan o'r seicoleg oedd y cyfan, i geisio claddu unrhyw gyfeiriad at y genedl fechan hon, a oedd yn bodoli ymhell cyn dyfodiad y Sais i Ynysoedd Prydain. Onid oeddem, a'n hiaith wedi bod yn bigyn yn ochr y Sefydliad Eingl-Seisnig- Brydeinig ers canrifoedd? Ac onid oes lle i gredu bod anwybyddu hanes Cymru yn yr ysgolion yn rhan o dacteg awdurdodau addysg y blynyddoedd hynny? Ond, yn amlwg, mae'r meddylfryd hwnnw'n dal i fodoli i raddau yn y system addysg bresennol, ym marn y Pigwr, ac mae'r awdurdodau addysg ledled Cymru, ac athrawon a phrifathrawon heddiw, yn anymwybodol, yn cyfrannu tuag at y drefn o anwybyddu hanes Cymru i raddau helaeth. Cymerwch y cwricwlwm cenedlaethol bondigrybwyll, er enghraifft- a ‘chenedlaethol’ yn nhermau Prydeinig dwi'n ei feddwl. Tra'n cydnabod bod hanes Cymru yn cael mwy o le heddiw nag yn ein cyfnod ni, yn sicr, mae lle i gwestiynu pwrpas dysgu ambell bwnc hanes gwledydd eraill yn ein hysgolion uwchradd y dyddiau hyn. Enghraifft o hyn yw'r ymweliad a wnaed gan ddisgyblion lleol yn ddiweddar ag America. Tra bo'r daith, yn ddi-os, yn brofiad gwefreiddiol a chyffrous i'r plant, fedra'i yn fy myw ddirnad pa les oedd i blant ymweld â gwlad mor llwgr a threisgar â'r U.D.A. Onid yw'n bosib' cael hanes y wlad honno o'r digonedd o werslyfrau sydd ar gael amdani? 

Tybed a fu'r garfan honno ar ymweliad â Senedd-dŷ Owain Glyndŵr, Cilmeri, neu Sycharth gyda'u hathrawon? A drefnwyd taith i geudyllau Llechwedd 'sgwn i, i weld sut y bu i gyndeidiau nifer o'r plant lleol grafu bywoliaeth dan amgylchiadau anodd y dyddiau fu? A fu gwersi am y drefn addysg, a chrefyddol 'Stiniog yn y gorffennol, neu am hanes diwylliant cyfoethog yr ardal? Mae arddangosfa ardderchog ar hanes ein bro wedi cael ei chynnal yn y Blaenau dros fisoedd yr haf ers tair blynedd, a nifer o ymwelwyr, a thrigolion lleol wedi ymweld â hi, ac wedi mwynhau'r arlwy. Ond hyd yma, ni chafwyd cais gan yr un o ysgolion yr ardal i gael mynediad, (am ddim) ar gyfer y disgyblion, gwaetha'r modd. Byddai gwersi ar hanes lleol yn llawer mwy gwerthfawr nac ymweliad i ddysgu am ychydig o hanes y wlad gyfalafol honno dros yr Iwerydd, yn sicr. A byddai gwersi o'r fath yn cyfrannu tuag at barch tuag at gymuned a chymdeithas Gymreig, werinol fel Blaenau Ffestiniog, a hynny heb wario ceiniog ar deithiau tramor.
Pigwr

22.7.12

CHWARAE CRICED


Rhan o golofn reolaidd TROEDIO’N OL gyda John Norman, o rifyn Gorffennaf:


Sgwennaf y darn yma yn sgil y gemau criced diweddar ar y teledu. Gwyliais yn arbennig sgiliau’r bowliwrs yn troelli’r bel neu’n gwneud iddi neidio dros ben y batwyr. Yn fy arddegau gwelais bethau felly ar gae criced y Cownti yn Blaenau yn y gemau rhwng Ysgol y Bala ag Ysgol Blaenau. ‘Roedd y cae yn greigiog ac yn anwastad ac yn beryg bywyd i’r cricedwyr oedd yn chwarae yno. Gosodwyd carped (coconut matting) fel sgwâr i’r gêm griced a byddai’r bel yn strancio ac yn neidio’n uchel dros ben y batiwr neu’n llithro’n frwnt at droed neu benglin diniwed. Ni fyddai’r sgôr yn uchel a dewr fyddai’r batiwr a safai ei dir.
Nid oedd llawer o chwarae criced yn Traws yn fy nyddiau ifanc. ‘Roedd yna brinder llefydd gwastad a diffyg cyfarpar tebyg i’r bel a’r bat arbennig. Byddem yn gwneud bat ein hunain o ddarn o bren a chwilio am bel rwber caled cyn gwneud y gorau gyda hen bel tennis. Byddai tun olew gwag yn wiced a’i swn yn barnu yr ‘owt’ gyda chlec uchel. Byddai tri ohonom yn medru cynnal gêm, un yn fatiwr, un yn fowliwr ac un tu ôl i’r wiced. Ein triawd ni oedd myfi o’r Stesion, Elwyn Jones a Meirion Foulkes. Roedd Meirion yn fowliwr da ag Elwyn yn gricedwr gwych yn batio ac yn bowlio gyda’i law chwith. Roedd y ddau ohonynt yn llechu yn Traws oddiwrth y bomio ar Lerpwl. 

Stesion Newydd
Wrth chwilio am le gwastad i chwarae yn Traws byddem yn ffeindio rhai mannau digon od. Ar draws y clawdd o Dynypistyll oedd olion hen ffordd Rufeinig a redai at y Pandy. Yno oedd un tamaid bach i’n criced a hon byddai ein ‘Oval’ ni.
Ond ein ‘Lords’ oedd iard y Stesion Newydd a ddenai hogiau’r stesion a’r dynion yno ar nosweithiau’r haf. Dyma’r dynion fyddai’n mwynhau’r gemau - fy nhad Jac Dafis, Dei Dafis Ffiarman, Robin Tyllwyd, Maldwyn Davies. Amser cau ac agor y Cross Foxes oedd yn dyfarnu’r amser chwarae. 

Ymysg y bechgyn ‘roedd Gwilym Vaughan yn fowliwr ffyrnig tal. Eraill o’r hogiau yno byddai Frank fy mrawd, Ernie Roberts, Elfed Hughes, Norman Williams, Bobby Huw, Billy a Les Pritchard, Raymond Cartwright ac yn aml byddai Eurwyn Owen ar y cyrion yn breuddwydio am ddrygioni. Nid oedd yn gêm tîm - pawb yn ei dro yn batio a bowlio a chadw sgôr ei hun, ac nid oedd yn gêm fonheddig o gwbl.
 
 Mae’n draddodiad ym mysg ysgolion bonedd Lloegr i ddatgan bod cymeriad yn datblygu ar gae chwarae tebyg i ‘Eton’. Yma, meddan nhw, enillwyd tir a rhyfel. Dwn i ddim am hynny nag am wir elfen boneddig gêm griced. Ond tystiaf i’r ffaith bod chwarae criced ar gae Ysgol Blaenau yn hyrwyddo cymeriad. Roedd angen dewrder i wynebu’r belen wyllt a neidiai o law Gwilym Vaughan neu Edwin Gawr ar y wiced creiglyd hon. Ffolineb oedd ceisio ymosod yn ôl- y dasg annodd oedd ceisio osgoi anafiad. Efallai bod deall am ofn personol yn rhan o datblygu cymeriad a chyfaddef mae hawdd yw bod yn gachgi. Cuddio ofn oedd y sgil i’w ddysgu ar gae criced y Cownti. 
Cae Stesion -llun JN



18.7.12

Ar dy feic


Rhan o brif stori rhifyn Gorffennaf 2012:

“Y cynllun beicio mwyaf cyffrous…
Dyna ddywed cylchgrawn beicio Mountain Bike UK yn ddiweddar.
Sefydlwyd Antur Stiniog fel menter gymdeithasol yn 2007 gyda dwy fil o addewidion o gefnogaeth gan y gymuned leol. Yr amcan oedd; ‘datblygu’r sector awyr agored er budd yr economi a thrigolion lleol’. I wireddu gweledigaeth Antur ‘Stiniog bu’n rhaid i’r cwmni ganolbwyntio ar nifer o agweddau a datblygiadau o fewn y sector awyr agored. Sector sydd ‘werth dros £150miliwn i economi gogledd orllewin Cymru ac sydd yn cefnogi dros 7000 o swyddi. Yn ôl astudiaeth yn 2007 dim ond 5% o bobl leol sydd yn gweithio yn y sector yma.
Bydd y rhan gyntaf o ddatblygiadau Antur Stiniog yn dwyn ffrwyth ar fis Gorffennaf  gydag agoriad rhan o lwybrau lawr-allt Llechwedd.
Dywedodd Adrian Bradley, y beiciwr mynydd llwyddianus, lleol sydd wedi ei benodi yn rheolwr y safle:
Mae’r byd beicio mynydd wedi bod yn disgwyl yn eiddgar am y cynllun yma ers 4 mlynedd ac mae’r cynnwrf yn aruthrol. Rydym eisoes yn dal trafodaethau i gynnal pencampwriaeth fawr yma yn 2013. Mae hi’n mynd i fod yn haf prysur i ni gyd!”
Dim ond 3 llwybr fydd yn cael eu hagor i ddechrau gyda phedwerydd i ddilyn yn Awst. Bydd safle neidio a chanolfan ymwelwyr yn dilyn yn yr hydref a bydd Llwybr Llyn Tanygrisiau yn cael ei gwblhau yn fuan yn 2013.
Mae Antur ‘Stiniog yn credu’n gryf y gall beicio mynydd a gweithgareddau awyr agored ddod yn bwynt ffocws a balchder ymysg trigolion, a phobl ifanc yr ardal yn enwedig. Hanfod Antur Stiniog yw’r gymuned ac rydym yn credu’n gryf drwy weithio mewn partneriaeth bod yma gyfle gwirioneddol i adfywio Bro.
Antur Stiniog- 01766 832 214.

17.7.12

O'r Neuadd i'r Gell




Iona, Steffan, a Vivian, yn arwain taith Cymdeithas Edward Llwyd ym Mro Ffestiniog ar y 7fed o Orffennaf.

 

 


Gwelir olion dau ddiwydiant yn y llun cyntaf; yr hen a'r newydd. Saif yr arweinwyr ar dir chwarel lechi Llechwedd, a'r tu ol iddynt, gallwch weld y llwybrau beicio newydd ar lethrau'r Cribau.


Daeth tua deugain o aelodau i Stiniog i gael hanes Neuadd y Farchnad a'r diwydiant llechi, a chael cyfle i ymweld a Chapel y Rhiw, i weld cerfluniau David Nash.
Gorffenwyd y daith yn y Gell, er mwyn gwylio'r ffilm 'Y Chwarelwr'.




Lluniau gan Seiriol a Beti.

16.7.12

YSGOL Y MOELWYN

Darn o erthygl yn rhifyn Gorffennaf 2012:

Llwyddiant yn athletau Meirion Dwyfor

Bu nifer o dimau blwyddyn 7, 8 9 a 10, yn fechgyn a merched  yn cystadlu yn yr athletau yn Nhreborth yn ddiweddar.
Bu`r timau wrthi yn ymlafnio yn erbyn ysgolion Porthmadog, Dolgellau, Bala, Pwllheli, Botwnnog ac Ardudwy ar y trac athletau ym Mangor.  
Daeth tîm blwyddyn 7 genethod yn gyntaf, tîm bechgyn blwyddyn 7 yn ail, a thîm bechgyn blwyddyn 9+10 yn ail eto  – da iawn nhw!!
Llongyfarchiadau hefyd i Gwydion Jones ddaeth yn gyntaf allan o holl ysgolion, Môn, Conwy a Meirion Dwyfor yn y gystadleuaeth Disgen, ac Aron Hughes yn ail yn y pwysau. Llongyfarchiadau arbennig i`r ddau!
Roedd hwn yn ddiwrnod o lwyddiant i`r ysgol gyda disgyblion blwyddyn 7 yn serennu. Llongyfarchiadau arbennig i Awen Jones o flwyddyn 7 ar ennill y wobr gyntaf  mewn tair cystadleuaeth, rhedeg 100 medr, clwydi a’r ras gyfnewid! Da iawn nhw!

11.7.12

Dirgelwch Ffens Blaen Ddôl


Apêl am wybodaeth gan Dewi Prysor, yn rhifyn Mehefin 2012:

Mi roddwyd llun o gerdyn post i fyny ar dudalen Blaenau Ffestiniog ar Facebook yn ddiweddar. Ar y cerdyn, mae golygfa o Benybryn, Llan Ffestiniog ... draw dros y caeau lle mae stâd Bryn Coed yn sefyll heddiw.
Ym mhen draw’r llun, o flaen y coed sy’n sefyll o amgylch Plas Blaen Ddôl, mae yna ffens bren uchel wedi ei chodi i guddio rhyw waith adeiladu, neu rywbeth tebyg, oedd yn mynd ymlaen. Mae yno ddwy garafan i’w gweld yno hefyd.

Mi ydw i wedi cael copi o’r llun wedi ei chwyddo, trwy garedigrwydd Mici Plwm. Mae ganddo gopi o’r cerdyn post, sydd wedi ei bostio yn 1907, felly, mae’r llun yn dyddio o ddechrau’r 20ed ganrif.
O edrych yn fanwl ar y llun, yn ogystal â mynd draw i’r cae i gymharu (dwi’n byw ym Mryn Coed), mi allaf gadarnhau fod y ffens yn sefyll yng ngwaelod y cae sydd rhwng stâd Bryn Coed a choed y Plas heddiw, o flaen y wal sy’n rhedeg o’r Lodge at fuarth fferm Blaen Ddôl (sydd i’r chwith, ac yn bellach yn ôl, o’r llun).
Mae’r llun wedi achosi cryn ddyfalu i mi, i Mici, ac i eraill fu’n ei drafod ar y dudalen Facebook, ond hyd yn hyn, nid oes unrhyw un wedi gallu datrys y dirgelwch.
Tybed oes rhywun o blith drallenwyr ‘Llafar Bro’ yn gwybod, neu yn cofio cael hanes, be oedd pwrpas y ffens hon, a be oedd yn mynd ymlaen y tu ôl iddi? Diddorol fyddai cael gwybod.
Yn gywir,
Dewi Prysor

9.7.12

Hogia Stiniog yn Senghennydd


Darn o lythyr gan Myrddin ap Dafydd yn rhifyn Mehefin 2012: 

Wrth ymweld â mynwent Pen-yr-Heol ger Senghennydd yn ddiweddar, deuthum ar draws carreg fedd ac enwau tri brawd o Flaenau Ffestiniog arni. Dyma’r arysgrif ar y llechfaen:

Mewn cof anwyl am
William Griffith Hughes
Diolch i Aled Ellis am gopi o'r llun
23 mlwydd oed
Hugh Hughes
22 mlwydd oed
Humphrey Hughes
19 mlwydd oed
Tri o feibion Francis a Winifred Hughes
“Cemlyn” Blaenau Ffestiniog
fuont feirw yn Nhanchwa alaethus
Senghennydd, Hydref 14, 1913.
“Dygi hwynt ymaith megis â llifeiriant,
y maent fel hun y bore, y maent
fel llysieuyn a newidir.”

Wrth chwilio am hanes y danchwa yng nghyfnodolion Cymraeg Hydref 1913, daethom ar draws y dyfyniad hwn:
Yn hanu o Ffestiniog - John Owen Jones a’i fab Evan Jones. Dywedodd  Evan wrth ohebydd Banerau ac Amserau Cymru: 

“Ni [bum] yn gweithio ond pedwar mis ar ddeg dan y ddaear. Pan ddigwyddodd y ffrwydrad, clyw[som] drwst ofnadwy, ac yna swn cwympiad. Yr oedd yna awyr yn ysgubo drwy y pwll, ond yr oedd yn llawn o lwch a mwg. Yr oedd[em] yn awr ac eilwaith yn gwlychu gwefusau [ein] gilydd â dwfr oedd [gennym] mewn potel, a diau i hyny [ein] cadw yn fyw nes i’r parti o waredwyr gyrhaedd.”

Rydym yn ceisio casglu mwy o wybodaeth am y teuluoedd hyn a byddem yn ddiolchgar iawn o glywed gair gan unrhyw un yn yr ardal fedr fod o gymorth inni wrth gofio am drychineb a ysgydwodd Cymru gyfan yn Hydref 1913.
Yn gywir,
 Myrddin ap Dafydd
Gwasg Carreg Gwalch, Llanrwst LL26 0EH [01492] 642031 (myrddin[at]carreg-gwalch.com)

6.7.12

SEINDORF YR OAKELEY


Llongyfarchiadau i Cedron Sion 
ar gael ei enwebu fel aelod ifanc 
y flwyddyn. 
Dyma lun ohono'n dal ei wobr 
-Cwpan Robin Gwynant.






Yn y llun arall mae Catrin Moelwyn yn cyflwyno rhodd i John Glyn a Glen, fel arwydd o ddiolch am 21 mlynedd o wasanaeth i'r band. 
Mwy o fanylion yn rhifyn Mehefin 2012. 


3.7.12

Newyddion o'r Moelwyn


Pytiau allan o golofn newydd yr ysgol uwchradd, o rifyn Mehefin 2012


Eisteddfod Yr Urdd  2012 ... Cystadlaethau Celf a Chrefft
Bu nifer o  ddisgyblion blwyddyn 7, 8 a 9  yn cystadlu ar gystadlaethau Celf yr Urdd eleni. Aed ati hefo brwdfrydedd ac egni i gwblhau cystadlaethau 2 dimensiwn a 3 dimensiwn o bob math. 
Llongyfarchiadau didwyll i Cadi Dafydd (ail ar waith lluniadu), Cadi Williams (ail ar ffotograffeg a gwaith cyfrifiadurol) a grŵp Glesni Jones a Cadi Williams (1af am waith creadigol 2D bl. 9).

Ysgoloriaeth John Tudor
Llongyfarchiadau i Eurgain Gwilym am ennill ysgoloriaeth John Tudor [Coleg Meirion Dwyfor]. Caiff y wobr, sy’n werth £400, ei chyflwyno i un disgybl sydd wedi dangos gallu academaidd eithriadol ymhob ysgol yn nalgylch Coleg Meirion Dwyfor. Bwriad y wobr yw cefnogi`r buddugwr i barhau ag addysg yn yr ardal.