11.7.12

Dirgelwch Ffens Blaen Ddôl


Apêl am wybodaeth gan Dewi Prysor, yn rhifyn Mehefin 2012:

Mi roddwyd llun o gerdyn post i fyny ar dudalen Blaenau Ffestiniog ar Facebook yn ddiweddar. Ar y cerdyn, mae golygfa o Benybryn, Llan Ffestiniog ... draw dros y caeau lle mae stâd Bryn Coed yn sefyll heddiw.
Ym mhen draw’r llun, o flaen y coed sy’n sefyll o amgylch Plas Blaen Ddôl, mae yna ffens bren uchel wedi ei chodi i guddio rhyw waith adeiladu, neu rywbeth tebyg, oedd yn mynd ymlaen. Mae yno ddwy garafan i’w gweld yno hefyd.

Mi ydw i wedi cael copi o’r llun wedi ei chwyddo, trwy garedigrwydd Mici Plwm. Mae ganddo gopi o’r cerdyn post, sydd wedi ei bostio yn 1907, felly, mae’r llun yn dyddio o ddechrau’r 20ed ganrif.
O edrych yn fanwl ar y llun, yn ogystal â mynd draw i’r cae i gymharu (dwi’n byw ym Mryn Coed), mi allaf gadarnhau fod y ffens yn sefyll yng ngwaelod y cae sydd rhwng stâd Bryn Coed a choed y Plas heddiw, o flaen y wal sy’n rhedeg o’r Lodge at fuarth fferm Blaen Ddôl (sydd i’r chwith, ac yn bellach yn ôl, o’r llun).
Mae’r llun wedi achosi cryn ddyfalu i mi, i Mici, ac i eraill fu’n ei drafod ar y dudalen Facebook, ond hyd yn hyn, nid oes unrhyw un wedi gallu datrys y dirgelwch.
Tybed oes rhywun o blith drallenwyr ‘Llafar Bro’ yn gwybod, neu yn cofio cael hanes, be oedd pwrpas y ffens hon, a be oedd yn mynd ymlaen y tu ôl iddi? Diddorol fyddai cael gwybod.
Yn gywir,
Dewi Prysor

1 comment:

  1. Wyrach mai cae o datws ydi cae Bryn Coed ar y pryd a bocses tatws yn disgwyl eu llenwi ydi'r fens. J. Valentine Dundee biau'r cerdyn post ac mae'n sicr fod cliw yn y rhif gwaelod dde i helpu archwilio eu archive i gael y flwyddyn gywir.

    ReplyDelete

Diolch am eich negeseuon