Pytiau allan o golofn newydd yr ysgol uwchradd, o rifyn Mehefin
2012
Eisteddfod Yr Urdd 
2012 ... Cystadlaethau Celf a Chrefft 
Bu nifer o 
ddisgyblion blwyddyn 7, 8 a 9  yn
cystadlu ar gystadlaethau Celf yr Urdd eleni. Aed ati hefo brwdfrydedd ac egni
i gwblhau cystadlaethau 2 dimensiwn a 3 dimensiwn o bob math.  
Llongyfarchiadau didwyll i Cadi Dafydd (ail ar waith
lluniadu), Cadi Williams (ail ar ffotograffeg a gwaith cyfrifiadurol) a grŵp
Glesni Jones a Cadi Williams (1af am waith creadigol 2D bl. 9).
Ysgoloriaeth John Tudor
Llongyfarchiadau i Eurgain Gwilym am ennill ysgoloriaeth
John Tudor [Coleg Meirion Dwyfor]. Caiff y wobr, sy’n werth £400, ei chyflwyno
i un disgybl sydd wedi dangos gallu academaidd eithriadol ymhob ysgol yn
nalgylch Coleg Meirion Dwyfor. Bwriad y wobr yw cefnogi`r buddugwr i barhau ag
addysg yn yr ardal. 

No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon