29.7.17

Bwrw Golwg -Eisteddfod Ynys Drysor

Cyfres achlysurol yn edrych ‘nôl ar rai o gymeriadau a sefydliadau hanesyddol ein bro. Y tro hwn, darn gan W. Arvon Roberts.

Cafodd yr Eisteddfod ei chyflwyno i Galiffornia gan yr arloeswyr Cymreig yn ystod darganfyddiad yr aur yno.  Ymsefydlodd nifer yn ardaloedd mwyngloddio Siroedd Sierra, Nevada a Yuba.  Dynion ieuanc oeddynt yn bennaf, yn hannu o’r teuluoedd gorau ac yn dalentog mewn cerddoriaeth a llenyddiaeth.  Roedd hi’n arferiad ganddynt gyfarfod ar y Suliau mewn cabanau gwahanol i ganu emynau yr ‘Hen Wlad’.

Fe fu iddynt adeiladu tri chapel yn ddiweddarach.  Erbyn 1860, yr oedd eu teuluoedd o Gymru wedi ymuno â hwy.  Ffurfiwyd tri o gorau yng Ngogledd San Juan a Camptonville, ac ar Gorffennaf 4ydd, 1860, cynhaliwyd yr Eisteddfod Califfornia gyntaf, gyda William ap Rees yn llywydd a Thomas Gwallter Price (Cynhelyn) yn feirniad barddoniaeth.  Y mae’r ffaith i’r corau ganu campweithiau fel ‘Corws yr Haleliwia’ Handel a ‘Teyrnasoedd y Ddaear’ J. Ambrose Lloyd yn profi eu cymhwyster yn y grefft o ganu.

Yn Camptonville yr oedd teulu y Jonesiaid ... Hannah (soprano), Mary (alto), Francis (tenor) a John Owen (baswr) ... rhai oedd yn enillwyr mynych fel pedwarawd ac fel unawdwyr.  Yr oedd yna hefyd lawer o feirdd talentog a llenorion ymysg y mwynwyr Cymreig.  Talodd Morgan a Watkin Morgan, arolygwyr y mwyngloddiau, dreuliau côr unedig i gystadlu yn Eisteddfod Dydd Gŵyl Dewi San Francisco yn 1879.  Mewn blynyddoedd diweddarach, cynhaliwyd yr Eisteddfod o dan nawdd capeli Cymraeg San Francisco ac Oakland.

Yn gynnar yn 1939, ar wahoddiad yr ‘Adran Digwyddiadau Arbennig, Arddangosiad Rhyngwladol’ y Golden Gate, penodwyd pwyllgor i gynnal Eisteddfod ar yr Ynys Drysor ym Mae San Francisco, gyda David Hughes (Arfonydd) yn Llywydd.  Trefnwyd rhaglen ddeniadol o destunau cystadleuol yn agored i’r holl gystadleuwyr ac fe’i dosbarthwyd drwy’r wlad.

Cafwyd ymateb parod gan gorau ac unawdwyr yn y Taleithiau Gorllewinol. Yr oedd rhif y cystadleuwyr yn y gwahanol gystadlaethau yn 20 o gorau a thros 300 o unawdwyr – hynny’n ddigon i sicrhau y byddai’r ŵyl yn un llwyddiannus.
Llun o gasgliad yr awdur

Cynhaliwyd yr ŵyl ar un o’r ynysoedd mwyaf o wneuthuriad dyn, o fewn golwg Pont y ‘Golden Gate’ a dwy o bontydd mwya’r byd, a hynny ymysg prydferthwch ysblennydd  palasau arddangos mawr, ymysg miliynau o flodau, ffynhonnau godidog a cherfluniaeth o’r radd uchaf. Go brin i’r un Eisteddfod erioed gael ei chynnal mewn lleoliad mor ddelfrydol.

Gellid ymhelaethu rhagor am brynhawn a hwyr yr Eisteddfod, ac ychwanegu mwy am y cystadleuwyr a‘r canlyniadau ac yn y blaen.  Ond rhaid imi gael nodi cyfraniad un â chysylltiad ag ardal ‘Llafar Bro’, a ddaeth i amlygrwydd yn ‘Eisteddfod yr Ynys Drysor’.

Owen Hughes oedd y brawd hwnnw. Ei enw barddol oedd ‘Glascoed’.  Ganwyd ef yn y Glasgoed, Trawsfynydd.  Ymgartrefodd yn Vancouver, British Columbia, Canada.  Does gennyf ddim rhagor o wybodaeth amdano. Nis gwn ddyddiad ei eni, enwau ei rieni, pryd yr ymfudodd, na phryd y bu ef farw.  Efallai fod yna ddisgynyddion iddo yn Nhrawsfynydd neu’r cyffiniau heddiw?  Ef enillodd y brif wobr yng nghystadleuaeth y gerdd: ‘YNYS DRYSOR’ – dan feirniadaeth J.R. Jones, Ponoka, Alberta (‘Ap Ceiriog’).

Hyd at y flwyddyn 1940, enillodd Owen Hughes 11 o gadeiriau, 1 coron aur a nifer o wobrwyon eraill am awdlau, pryddestau, englynion a thoddeidau.  Y mae’r rhestr isod yn rhoi rhyw syniad am ei lwyddiant, ynghyd â’r testunau ac enwau’r beirniaid:


1923.    Bangor, Sask., pryddest ‘Tlysni’.  Cynonfardd.
1924.    Toronto, pryddest. ‘Pwy yw fy nghymydog?’ Pedrog.
1925.    Utica, awdl, ‘Anadl Einioes’.  Cynonfardd.
1925.    Edwardsville, PA., pryddest. ‘Sêr y Nen’.  J.M. Pritchard.
1926.    Y Wladfa, awdl-bryddest, ‘Yr Hauwr’. Gwili.
1927.    Utica, awdl, ‘Y Gwerinwr’.  Pedrog.
1928.    Wilkesbarre, PA, awdl, ‘Concwest y Gorllewin’.  Bryfdir.
1929.    Granville, NY., pryddest goffa, ‘Y Diweddar Parch J.W. Morris, Poultney’. Ioan Eryri.
1929.    Los Angeles, pryddest, ‘Prydferthwch yr Hwyr’.  Ioan Eryri
1935.    San Francisco, pryddest, ‘Rhamant yr Awyr’. Ap Ceiriog.
1936.    Los Angeles, pryddest, ‘Y Gweledydd’, Ieuan Fardd.
1936.    Los Angeles, pryddest goffa, ‘Mrs Moelwyn Wms’, Ieuan Fardd
1940.    Los Angeles, penillion coffa, ‘Moelwyn’, John M. Pritchard.

------------------------------------

[Diddorol nodi mai’r beirniad yn Eisteddfod Wilkesbarre ym 1928 oedd Bryfdir - y cyfeirir ato yn ‘Rhod y Rhigymwr’ yn y rhifyn hwn. Tybed oedd gan ‘Mrs Moelwyn Williams’ – testun y bryddest goffa yn Los Angeles (1936) gysylltiad â’n hardal ni?  Go brin mai ‘Moelwyn’ (Y Parch. J. G. Moelwyn Hughes) ... awdur ‘Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn’ a ‘Fy Nhad o’r Nef, o gwrando ‘nghri’ a goffeid yn Los Angeles ym 1940, gan mai 1944 oedd blwyddyn ei farw ef ... Gol; IM]
 -----------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2017. Dilynwch y gyfres Bwrw Golwg efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


21.7.17

Rhifyn Gorffennaf allan rwan!



Mae’n braf cael dod ‘nôl i gyfrannu at rifynnau haf Llafar Bro eto, ond a hithau’n gyfnod anodd i’r byd newyddiaduraeth, efo llai a llai o bobl yn darllen papurau, a diwedd ein ‘Papur Cenedlaethol’ Y Cymro yn hoelen arall yn arch y wasg Gymraeg, mae’n wych cael cynnig llwyth o erthyglau, newyddion, a lluniau diddorol ar eich cyfer.


Gobeithio’n wir y gwelwn Y Cymro eto yn y dyfodol, a dymunwn bob lwc i’r criw bach sy’n ymgyrchu i’w atgyfodi, ond mae eich papur bro yma o hyd, diolch i gefnogaeth selog pobl ‘Stiniog a’r cylch.









 Lluniau o'r noson blygu.











Rhifyn Medi fydd y nesaf, a’r dyddiad cau ar ddiwrnod olaf Awst. Mi fydd blas mynyddig ar rai o’r erthyglau ac eitemau bryd hynny, ac os hoffech chi gyfrannu pwt o hanes neu ddarn am yr hyn mae mynyddoedd a bryniau Bro Ffestiniog yn ei olygu i chi, byddwn yn eu croesawu.

Tan hynny, gobeithio y cewch chi haf cofiadwy.

Pôl.





19.7.17

Rhod y Rhigymwr -cofio


Yn ystod y flwyddyn 2017, byddwn yn cofio am eni sawl emynydd, llenor a bardd. Mae ambell ymdrech wedi ei gwneud eisoes i gofio’r Pêr Ganiedydd o Bantycelyn - a anwyd dri chan mlynedd union yn ôl. Yn nhyb llawer, gellid bod wedi gwneud llawer mwy, o gofio’r bri a roddwyd ar Dylan Thomas ar adeg canrif ei eni yn 2014 a’r nofelydd plant, Roald Dahl, ganrif ers ei eni yntau’r llynedd.

Ganrif a hanner yn ôl, ar yr 2il o Fai, 1867, ganwyd y bardd Eliseus Williams ym Mhorthmadog. Fe’i hadweinid yn well wrth ei enw barddol ‘Eifion Wyn’, a does dim dwywaith mai ef oedd un o feirdd telynegol mwyaf Cymru. Mae nifer o’i delynegion i’r misoedd yn rhan o’n cynhysgaeth fel cenedl, fel y gellir dweud am sawl cerdd arall o’i eiddo. Dyna ‘Ora Pro Nobis’ a ‘Cwm Pennant’. Mae’r cwestiwn yng nghwpled clo’r gerdd honno ar gof sawl un ohonom:

Pam, Arglwydd, y gwnaethost Gwm Pennant mor dlws
a bywyd hen fugail mor fyr?


Cofiwn hefyd am ei englyn enwog ‘Blodau’r Grug’ – a ddaeth i’r brig ym Mhrifwyl Caernarfon ym 1906:

Tlws eu tw, liaws tawel, - gemau teg
Gwmwd haul ac awel;
Crog glychau’r creigle uchel,
Fflur y main, ffiolau’r mêl.


Ar y 13eg o Ragfyr, 1867 y ganwyd Humphrey Jones, yng Nghwm Croesor. Treuliodd y rhan helaethaf o’i oes yma yn nhre’r Blaenau. Dysgodd elfennau barddoniaeth yn ifanc gan Glaslyn (1831-1909), a chyn ei fod yn ugain oed, cafodd ei urddo yng Ngorsedd y Beirdd. Enillodd dros drigain o gadeiriau eisteddfodol a daeth yn arweinydd eisteddfodau hynod boblogaidd. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o farddoniaeth, sef, ‘Telynau’r Wawr’ a ‘Bro fy Mebyd a Chaniadau eraill’. Bu farw ar yr 22ain o Ionawr, 1947. Fe gofiwn amdano’n y fro hon wrth ei enw barddol – ‘Bryfdir’.

Mynyddoedd Stiniog -llun Paul W

Ym Mhrifwyl Pwllheli ym 1925, anfonodd bryddest i gystadleuaeth y goron. ‘Bro fy Mebyd’ oedd y testun, a chipiwyd y wobr gan Wil Ifan – a ddaeth wedi hynny’n Archdderwydd (1947-50). Canodd Bryfdir i’r ‘... Cwm lle y’m ganed i...’

Tariaf yng nghysgod y Moelwyn a’r Foel,
Tra’r Arddu a’r Cnicht megis dwy anferth hoel
Ym mhared yr ardal, i grogi’r las nen
Groesawa y wawr mewn sidanwisg mor wen!


Cynhwysa ei ail gyfrol, a gyhoeddwyd ym 1929 amrywiaeth o ganiadau, adroddiadau a’r bryddest a grybwyllwyd.  Canodd i leoedd yn yr ardal fel ‘Bwlch Gorddinen’ a ‘Hen Ysgol Llwynygell’. Ceir ganddo hefyd nifer o englynion sicr eu crefft:

Blodau’r Eithin
Y Foel unig felynant, - tres eurog
Tros arw glawdd ddodant;
A’u mawredd pawb ymyrant,
Gyda gwên eu gwaedu gânt.


Y Pren Criafol
Egwan ei fraich, gwyn ei frig - dan olud
Yn nhalaith y goedwig;
I’r adar, bwrdd caredig
Dan wawr gwaed yn awyr gwig.


Yn ogystal â chofio am eni gwŷr llên, cofiwn hefyd am farw sawl un. Ganrif yn ôl, roedd y Rhyfel Mawr yn ei fri. Mae Vivian Parry Williams yn olrhain hanes ac effeithiadau’r cyfnod yn ei ysgrifau gafaelgar misol ar ddalennau Llafar Bro. Dichon y caf innau gyfle i sôn am Hedd Wyn ac eraill cyn diwedd y flwyddyn.

IM
---------------------------------------


Rhan o erthygl Iwan Morgan, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2017.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y we.

7.7.17

Clwb Ffermwyr Ifanc PRYSUR ac Eden

Mae CFfI Prysor ac Eden wedi cael blwyddyn ryfeddol o brysur a llwyddianus. Yn anffodus, daeth yr adroddiad yn rhy hwyr i'w gynnwys yn rhifyn Gorffennaf, felly dyma'i atgynhyrchu yn fan hyn.


Cynhaliwyd Pwyllgor Blynyddol Clwb Ffermwyr Ifanc Prysor ac Eden yn yr Y.M yn Nhrawsfynydd ar Nos Fawrth 20fed Mehefin. Dyma rannu adroddiad yr Ysgrifennydd, Casha Edwards efo darllenwyr Llafar Bro.

Braf yw gweld fod y Prysor ac Eden yn dal i fynd yn gryf gyda 43 o aelodau wedi ymaelodi y flwyddyn yma (Medi 2016) a 7 yn ymaelodi am y tro cyntaf! 

Tim Tynnu Rhaff Prysor ac Eden yn cynrychioli Meirionnydd yn Llanelwedd, Gorffennaf 2016, gyda'r hyfforddwyr Dewi (chwith) a Derwyn(dde)
Cawsom rali lwyddianus iawn yn fferm Ty’n Celyn, Dinas Mawddwy (Mai 16eg 2016) gyda Gerwyn ac Elis yn cael 1af yn y gystadleuaeth gwisgo aelod hyn i fyny wrth wisgo Gwion fel Madonna. Cawsant gyfle i gynrychioli'r Sir yn y Sioe Frenhinol. 1af hefyd i Gwion a Robat yn y treialon cwn defaid dall oedd hefyd yn rhoi y cyfle iddynt fynd lawr i gae y sioe, a chael cyntaf yno hefyd, da iawn nhw! Daeth chwaneg o lwyddiant i’r ddau yma yn y barnu stoc. 2il i Robat yn y barnu moch a 1af i Gwion yn barnu defaid Llyn. Roedd y clwb i gyd yn llawn bywyd ar ol buddugoliaeth y tim tynnu rhaff iau yn y rali a bu ymarfer brwd cyn y sioe frenhinol. Yn anffodus doedd dim llwyddiant  yno ond roedd pawb wedi mwynhau y cyfle ac yn ddiolchgar  iawn i Dewi a Derwyn am ein hyfforddi a'n gweithio'n galed!

Yn mis Medi fe wnaethom ffarwelio gyda'n ysgrifennydd Lynne Edwards a oedd wedi bod yn ysgrifennydd ers 2011. Roedd hi wedi bod yn gweithio yn galed i gadw pob dim mewn trefn. Mae yn gadael sgidiau mawr i mi ei llenwi ond dwi’n siwr roith hi help llaw i mi os dwi’n styc! 

Llongyfarchiadau i Sarah ein arweinydd ar ddod yn Nain am y trydydd tro.  Croeso i Llio Alaw.
Mae Glesni Non ein cadeirydd wedi bod yn llwyddianus iawn eto ym myd y moto beics. Dwi’n siwr i chi ei gweld ar y teledu yn rhaglen ‘Heno’ S4C ai hanes yn dod yn fuddugol yn category Merched ym Mhencampwriaeth Enduro Prydain ac ennill gwobr Personoliaeth y Flwyddyn gan y Welsh Motorcycle Fedaration. Dal ati Gles, mae'r clwb yn falch iawn o dy lwyddiant.

Bu cystadlu brwd yn Eisteddfod Ysgafn Dinas Mawddwy.  Pawb yn mwynhau'r noson yn fawr, yn enwedig criw y sgets adeiladu a ddaeth yn 1af. Hefyd yn hapus iawn y noson honno oedd Glain Williams am gael 1af gyda'i stand up a'r criw meim a ddaeth yn 2il.

Parti Adrodd Prysor ac Eden a ddaeth yn 2il yn eisteddfod Cymru 2016
Cawsom Eisteddfod Sir brysur a llwyddianus gyda Tomos Heddwyn yn 1af ar y canu emyn a'r unawd, a chyfle i gynrychioli Meirionnydd yn Abertawe. Cafodd 3ydd yn y gystadleuaeth canu emyn.  Llwyddiant hefyd i’r parti llefaru gan eu bod nhw wedi cael 1af yn y sir ac 2il yn Nghymru. Diolch i Delyth am ein hyfforddi a rhoi fyny gyda ni yn yr ymarferion! Diolch hefyd i Esyllt ac Iwan am eu cymorth ac amynedd yn yr ymarferion canu. Cafodd Glain Williams 1af yn y cwis drwy Gymru, gwych iawn. Ac roedd llawer o glwb Prysor ac Eden yn aelodau o’r cor Sir a oedd yn fuddugol eto eleni.

Mae Prysor ac Eden yn mwynhau chwaraeon yn ogystal ac eisteddfota. Cafodd y bechgyn 1af yn y peldroed yn Nhywyn a’r tim pel rwyd dan 18 yn cael 1af a’r tim dan 31 yn cael 2il. Da iawn hogia!
Mae llawer o lwyddianau hefyd wedi bod yn y barnu stoc eleni gyda Guto Huws yn cael 2il yn barnu wyn cigydd o dan 16 a Gwion Williams yn cael 2il yn beirniadu wyn cigydd. Daeth Gwion i’r brig  yn beirniadu wyn tew drwy gael 1af a hefyd fe gafodd 2il yn beirniadu gwartheg tew o dan 21.
2il hefyd i Gethin Jones  yn beirniadu gwartheg tew dan 16.  Cafodd Gwion  fynd ymlaen i feirniadu stoc yn y Ffair Aeaf ac fe ddaeth i’r brig eto yn cael 1af ac 2il. Gwych iawn Gwion!
Roedd hi yn fraint fel clwb i cael y gwahoddiad i berfformio yn yr ocsiwn addewidion a chael cyfle i fod yn rhan o ymgyrch gwerth chweil ‘prynu brics’. Roedd yn noson lwyddianus iawn a phawb wedi mwynhau.

Llyr, Heledd, a Guto yn derbyn tarian yn Siarad Cyhoeddus y Sir
Braf oedd gweld llawer o aelodau Prysor ac Eden yn cystadlu yn y siarad cyhoeddus eleni. Ymarfer a pharatoi efo Delyth a Mair yn talu ar ei  ganfed a nifer o lwyddianau eto. 1af i’r tim dan 14 a chyfle i fynd  i Lanelwedd i gynrychioli'r sir yng Nghymru. Hefyd 2il a 3ydd yn y gystadleuaeth dan 16 gyda Llyr Ellis yn mynd drwadd fel siaradwr. Roedd hi hefyd yn braf iawn cael 2 dim dan 21 eleni gyda tim yn dod i’r brig a hefyd y tim arall yn cael 2il. Yn y gystadleuaeth newydd seiat sillafu fe allwn i ddweud bod ganddom sillafwyr pen i gamp yn Prysor ac Eden gyda Gerwyn Williams yn cael 1af o dan 16 a Caryl Jones yn cael 1af o dan 31. Da iawn i bawb wnaeth gystadlu! Llongyfarchiadu i Llyr am gael y siaradwr gorau yn Llanelwedd a llongyfarchiadau i Gerwyn am gael trydydd yn y sillafu.   Mae Cystadleuaeth Aelod Iau y flwyddyn hefyd yn cael ei chynnal ar noson y Siarad Cyhoeddus.  Eleni yn dilyn cyfweliad a chyflwyniad ‘power point’ cefais y fraint o dderbyn y teitl a chael yr anrhydedd o gynrychioli Meirionnydd  yn Mhort Talbot yng nghystadleuaeth Aelod Iau Cymru.

Gerwyn, Glain ac Elan yn derbyn tarian yn y siarad cyhoeddus yn Nolgellau.
Bu nifer o aelodau yn cynrychioli Meirionnydd yn Sir Fon ar gae y Sioe yng nghystadlaethau Gwaith Maes.  

Rydym ni fel clwb yn hoff iawn o gael rhoi yn ol i’r gymuned gan ein bod yn cael llawer o gefnogaeth gan fobl yr ardal. Yn ystod yr haf roedd y clwb yn hapus iawn o gael y newyddion fod Sioe Gwn Trawsfynydd wedi ail ddechrau. Roedd y clwb yn barod iawn i gefnogi ar y diwrnod a helpu drwy baratoi a gwerthu lluniaeth ar gyfer y cystadleuwyr ar gwylwyr. Cyfle i ambell un o’r aelodau gael cymerud rhan yn y  cystadlu. Cawsom gyfle i gefnogi a gwerthu lluniaeth yn cabaret Gwyl y Lleuad Borffor.  Rydym wedi bod yn gwneud cwrs ‘It’s a Knockout’ yn Sioe Amaethyddol Trawsfynydd er mwyn cael rhoi blas o beth rydym yn ei wneud fel clwb a hefyd mae yn ffordd o ddod ar plant ifanc at ei gilydd. Rydym  wrth ein bodd yn cefnogi ein dwy eisteddfod leol. Gwneud meim a sgetsus yn Eisteddfod Llawrplwy ac chanu wythawd yn Eisteddfod Stesion.

Rydym hefyd yn plygu rhifyn Gorffennaf Llafar Bro bob blwyddyn yn y Blaenau, ac yn cynnal Gwasanaeth Dechrau’r  Flwyddyn yng Nghapel Moreia Traws bob Ionawr.

Casha yn derbyn y teitl aelod Iau y Flwyddyn  Ffermwyr Ifanc Meirionnydd yn Nolgellau.
Mae'r flwyddyn wedi mynd yn sydyn iawn ac rydym wedi cael llawer iawn o hwyl gyda tripiau i Ffarm Odro Rhiwlas, Glasfryn ac i Rydymain i rannu noson gyda chlwb Dolgellau ac ambell aelod yn cynorthwyo gyda stiwardio yn Rali GB. Rydym hefyd wedi cael llawer o ymwelwyr i’r clwb: Drive Safe, Gwenno yn siarad am ei thaith i Patagonia, Ffion Trefnydd y sir, Warden o’r Parc, a gemau gan Mari a Rhys Gors a Mair a Delyth yn gwneud noson siarad cyhoeddus.

Mae y flwyddyn yn gorffen wrth gwrs gyda'r Rali. Cynhaliwyd Rali Meirionnydd 2017 ar Fferm Dolfach Llanuwchlyn. Roedd yn Rali lwyddianus iawn ir clwb.  Ennillwyd nifer o wobrau a chwpanau.

Cwpan goffa Eilyr Wyn Parry am y Barnu Stoc dan 21ain
Tlws Cefn Uchaf – Adnabod Nodau Clustiau o dan 31ain i Robat Sion Jones
Cwpan Hedd a Sian i Gethin a Guto am greu bwrdd picnic a lle ar gyfer cadair olwyn.
Cwpan Ieuenctid I’r Clwb efo Marciau uchel o dan 21ain
Cwpan Rhys a Mair – I’r Clwb efo Marciau uchaf dan 16eg.
1af am ataliwr drws cystadleuaeth Sir – Teleri Hughes
2il am ataliwr drws cystadleuaeth Sir – Ffion Pugh
2il coginio dan 21ain Pryd o fwyd 2 gwrs iach ar gyfer 2 athletwr – Swyn Prysor ac Elain Rhys
2il Arddangosfa Ffederasiwn – Teleri, Swyn, Esyllt, Elain, Ffion.
1af Tynnu’r Gelyn Iau.
3ydd Adnabod darnau o Beiriannau – Dafydd Edwards
Roedd clwb Prysor ac Eden yn y 5ed safle allan o 8 clwb gyda chyfanswm o 84 marc.

Blwyddyn brysur a llwyddianus i Prysor ac Eden a phawb wedi mwynhau bob eiliad ohoni. Buasem ni fel clwb yn hoffi diolch i Ffion Williams am ei gwaith trefnu a'i chymorth bob amser. Diolch i bawb sydd yn ein cefnogi a’n helpu drwy y flwyddyn.
Pob lwc i bawb yn y Sioe eleni!










4.7.17

Stiniog a’r Rhyfel Mawr -'Cymry bach yn gwaedu...'

Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf.

Roedd adroddiadau wythnosol yn Y Rhedegydd dan bennawd ‘Y Rhyfel’, oedd yn dilyn hanesion brwydrau’r rhyfel mewn rhannau eraill o’r byd. Llenwid tudalen gyfan yn rheolaidd hefyd gan adroddiadau am golledigion a chlwyfedigion o ddalgylch y papur, ynghyd â llythyrau a darnau o farddoniaeth i gofio am rai a gollwyd o’r fro. ‘Ein Milwyr’ oedd testun y colofnau hynny, ac un milwr o’r ardal a enwid yn rhifyn 5 Mai 1917 oedd y Preifat John Jones, Dolau Las, Tanygrisiau, a fu farw dramor yn dilyn salwch. Cafwyd tipyn o hanes John, fel llawer o’r milwyr eraill o dro i dro. Roedd yn briod, a nifer o blant ganddo. Cyn ymuno â’r fyddin, roedd yn athro ysgol Sul yng nghapel Carmel, Tanygrisiau, ac yn uchel ei barch yno. Gadawn i’r gohebydd gwblhau’r adroddiad.
‘Cyfeiriai yn barhaus yn ei lythyrau adref at y gobaith y caffai ddychwelyd i wlad ei enedigaeth ac i’w aelwyd. Wrth anfon anrheg fechan i’w briod y Nadolig dywedai ei brofiad mewn dau bennill o’i eiddo, a dyma’r pennill olaf.

Nid i aros mi obeithiaf
Na, rwy’n dod yn ôl;
Ar fy aelwyd eto cwrddaf
 chwi eto’n ôl;
Cofiwch blant, eich cymeriadau,
Cedwch hwy yn bur,
Gwyddoch am fy holl deimladau
Sydd yn llawn o gur.


Mewn Roll of Honour arall o golledigion dalgylch Y Rhedegydd, a gyhoeddwyd yn rhifyn 5 Mai o’r papur, gwelir fod enwau 76 o golledigion y rhyfel o’r fro arni. Ac yr oedd nifer fawr o enwau i’w hychwanegu at y rhestr drist honno cyn diwedd y Rhyfel Mawr.
Eto, ar y dyddiad hwnnw, dywedodd y papur fod y tywydd sych yr wythnos honno wedi rhoi cyfle gwerthfawr i’r ‘ffermwyr a thai ddalwyr (householders) yn gyffredinol i roddi yr had yn y ddaear, yr hwn yn ol pob tebyg y byddwn mewn mawr  angen am dano yn y dyfodol agos'.    

Yn rhifyn 1 Mai 1917 o'r Herald Cymraeg, cwynion a godwyd mewn cyfarfod o'r Cyngor Dinesig oedd yn dwyn y sylw. Cwyno am brisiau cig yn yr ardal oedd y cynghorwyr, a phenderfynwyd anfon cŵyn swyddogol i'r perwyl hwnnw at Reolwr y Bwyd yn y Senedd. Roeddynt yn methu deall sut yr oedd swyddogion y fyddin yn gallu prynu cig am 9½c y pwys tra byddai trigolion 'Stiniog yn gorfod talu swllt a chwech y pwys amdano. Gorffenwyd yr adroddiad megis 'Y mae rhywun yn manteisio yn rhywle.'

Cynhaliwyd  Gŵyl Lafur y chwarelwyr ar y dydd Llun cyntaf o Fai, a chafwyd gorymdaith drwy'r dref. Fel arwydd o gefnogaeth i'r gweithwyr, penderfynodd masnachwyr y Blaenau gau'r siopau am un 'or gloch y prynhawn hwnnw. Tua'r un adeg, cafwyd gwybodaeth am ferched yn trin y tir yn Llan Ffestiniog, ac yn cael canmoliaeth am eu gwaith da. Ond roedd gohebydd yr adroddiad yn ddi-flewyn-ar-dafod yn ei feirniadaeth o'r drefn. Meddai: 'Y mae angen llawer rhagor yma trwy fod amaethyddiaeth yn y cylch bron wedi ei gwaedu yn wyn trwy waith yr awdurdodau milwrol yn galw'r gweithwyr i ffwrdd.'

‘R’oedd adroddiad Y Rhedegydd ar 12 Mai 1917 o’r Ŵyl Lafur a gynhaliwyd yn y Blaenau ar y Llungwyn yn agoriad llygaid i’r darllenwyr, yn sicr. Yn dilyn llithoedd canmoliadwy am uchel-swyddogion y lluoedd arfog, ac am wleidyddion yn gyffredinol, o ddechrau’r rhyfel, yr oedd yr adroddiad hwn yn drawiadol. Wedi blynyddoedd o ddarllen eitemau unllygeidiog rhai gohebwyr am ran ambell arweinydd yn ymwneud â’r rhyfel, yr oedd darllen hanes yr areithio radicalaidd ar lwyfan yr ŵyl lafur honno fel chwa o awyr iach. Yn amlwg, nid oedd mwyach orfodaeth ar siaradwyr cyhoeddus gadw at ganllawiau na sensoriaeth unrhyw swyddfa ryfel. Roedd gwirioneddau’n cael eu dweud yn ddi-flewyn-ar-dafod gan y siaradwyr dewr o radicaliaid y diwrnod hwnnw.

Ymysg y siaradwyr, roedd y Parch. D.F.Roberts yn datgan sylwadau miniog a dadleuol, wrth ddweud, ‘…Yr oedd dyfodol y byd yn nwylo’r werin, rhaid i wahaniaethau milwrol ddarfod’ meddai. Ac wedi i’r werin-bobl eilun addoli David Lloyd George ers cyhyd, yr oedd y Parchedig Roberts yn dweud ei ddweud o ddifri amdano. ‘Yr oedd perygl i’r Prif Weinidog feddwl mai set o beli golff oedd egwyddorion, ac fod angen set wahanol i’r bendefigaeth. Yr oedd perygl i Filitariaeth gloi gwerin am ganrif arall…

Wedi gwrando ar sylwadau rhyfelgar rhai fel y Parch. John Williams, Brynsiencyn ac eraill yn pregethu am yr angen  i fynd i ryfel, ac ar i fechgyn lleol aberthu eu bywydau dros Brydain a’i brenin, roedd geiriau’r  Parch.Roberts i’w croesawu. Un arall fu’n areithio yn yr Ŵyl Lafur honno oedd y Cynghorydd Rhys J.Davies, o Fanceinion, a oedd yn amlwg yn radical o’r iawn ryw. Dywedodd yntau eiriau teimladwy iawn, a fyddent yn groes i egwyddorion llawer o gefnogwyr Lloyd George a’r frenhiniaeth. Meddai:

Gwasga i galon y cyfarfod mai yr un oedd calon mam yr Almaenwr a’r Cymro. Nid oedd gan werin y gwledydd ddadl i’w phenderfynu, a’i ffordd i ddelio a rhyfeloedd yw rhoddi brenhinoedd ac Arglwyddi yn y First Line Trenches, a byddai darfod am ryfel ar unwaith. Ond nid felly yr oedd pethau. Cymry bach oeddynt yno yn gwaedu i farwolaeth, a’r bendefigaeth yn eu gwthio i hyny, a Chymro yn ben ar y Llywodraeth. Ofnai nad oedd y Cymro yn cynrychioli enaid Cymru…
---------------------------------------------

O.N.  Tybed a oes gan rai o ddarllenwyr Llafar Bro lun neu ddau a fyddent yn barod i’w rhannu â mi, i’w cynnwys yn fy nghyfrol arfaethedig ‘Stiniog a’r Rhyfel Mawr’. Mae’r gyfrol yn trafod hanes cyfnod rhyfel 1914-18 yn nalgych y papur hwn, a hoffwn gael lluniau perthnasol o ddigwyddiadau’r cyfnod yn yr ardal o ‘Stiniog/Trawsfynydd/Maentwrog. Cydnabyddir yn ddiolchgar pob llun a ddefnyddir yn y gyfrol. Os ydych yn barod i fenthyg llun i’w gopïo, a fyddech mor garedig â chysylltu â fi os gwelwch yn dda, drwy ffonio 831814, neu ebostio vivian.williams[AT]btinternet.com.  Gyda llawer o ddiolch o flaen llaw.   -Vivian.
---------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2017. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

1.7.17

Bwrw Golwg -'nôl i Minnesota

Cyfres achlysurol yn edrych ‘nôl ar rai o gymeriadau a sefydliadau hanesyddol ein bro. Y tro hwn, darn gan Pegi Lloyd Williams.
 
'O Faentwrog i Minnesota'. Dyna’r pennawd i erthygl  W. Arvon Roberts  yn rhifyn Mawrth, pryd mae’n cyfeirio at Nicholas Jones (1812-1899) a ymfudodd o Dŷ’r Ynys, Cwm Cynfal i Merica yn 1841. Yn eu tro aeth pedwar o blant Tŷ’r Ynys i’r Unol Daleithiau - un ferch a thri mab.

Tŷ'r Ynys, Cwm Cynfal. Cartref Evan Jones a Jane Edward ar ôl eu priodas yn 1804. Tynwyd y llun tua 1904, ac mae'n debyg mai teulu Bryn 'Rodyn sydd yn y llun.

Ganwyd Gwen yn 1818 a phriodi John P. Thomas yn 1844 ac ymfudo i Merica yn fuan wedyn.

Bu iddynt symud i wahanol ardaloedd, a bu farw yn Arena, Iowa yn 1875 yn 57 oed. Yn eu tro bu i dri o’r bechgyn adael, a’r cyntaf oedd Nicholas Jones (1812-1899) a’i wraig Margaret Ellis yn 1841,  a chawn ei hanes yn gryno gan Arvon Roberts.

Dilynodd ei frawd Evan E. Jones (1830-1896) a’i wraig Elinor yn 1852 gan sefydlu’n Judson am gyfnod.

Yr olaf i benderfynu gadael Cymru fach oedd Richard N. Jones (1831-1918) yn 1882. Cyfeirir ato fel ‘Richard N. Jones Minnesota’.


Bu i mi dreulio cyfnod hir i geisio dod o hyd i unrhyw wybodaeth am y pedwar, ac wedi sôn wrth lawer rhag ofn y down i wybod mwy. Roedd ffeil reit drwchus ar gael cyn i mi benderfynu mai ‘digon oedd digon’.   Ychydig feddyliais y cawn hanesion cryno a chywir byth, ond derbyniais alwad ffôn gan ysgrifennydd Cymdeithas Teuluoedd Gwynedd un bora Sadwrn yn egluro ei fod wedi cael cais o Merica gan y ‘Family History Emigrants from Gwynedd to the U.S.A. 1795/1931’ i ddweud ei fod wedi derbyn cais am wybodaeth, os yn bosibl, am hanes  teulu Tŷ’r Ynys.

Yn dilyn, daeth llythyr gan un o’r teuluoedd, ac ychydig wedi hynny, derbyniais lythyrau gan deuluoedd y tri brawd. Yn anffodus, gan fod Gwen wedi marw yn eithaf ifanc, mai dyna hwyrach y rheswm na ddaeth dim gair gan ei theulu, a doedd neb o ddisgynyddion y brodyr yn gwybod dim am y teulu yma.

Yn dilyn hyn oll, fe gefais y pleser mwya’ i estyn croeso i aelodau teuluoedd hogiau Tŷ’r Ynys
o dro i dro, a mynd â nhw draw at yr hen gartra -  yn wir, cafwyd caniatâd i gael picnic unwaith tu mewn i’r hen adfeilion.  Yn naturiol, rhaid fu talu ymweliad â bedd Evan a Jane Jones, Tŷ’r Ynys - sydd yn y rhan o gladdfa teulu Dolmoch, gan mai yno roedd gwreiddiau Jane.

Rhaid sôn am un ymweliad tipyn yn wahanol hwyrach - derbyn neges i ddweud y byddai un o fechgyn ‘rhen deulu’ yn dod draw yma am ryw awr neu ddwy.  Fe gyrhaeddodd mewn tacsi, a rhoi ar ddeall ei fod wedi cyrraedd Llundain y noson cynt a  gwneud trefniant i gael tacsi i’w hebrwng yma - ac felly y bu.  Roedd yn awyddus i lenwi bylchau yn hanes ei gyndeidiau, ac ymhen dim, roedd y tacsi ar ei ffordd i Bortmeirion at y bora i fynd a fo’n ôl i Heathrow, cyn ei throi hi am wythnos o golffio yn Iwerddon.  Ia!  Erbyn heddiw, tybed ai mynd i un o Glybiau Golff Donald Trump fyddai o?   Roedd gan George ei Fanc ei hun, ac yn cyflogi rhai cannoedd o staff.
Pegi Lloyd-Williams    
-------------------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2017. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y dde.