Yn ystod y flwyddyn 2017, byddwn yn cofio am eni sawl emynydd, llenor a bardd. Mae ambell ymdrech wedi ei gwneud eisoes i gofio’r Pêr Ganiedydd o Bantycelyn - a anwyd dri chan mlynedd union yn ôl. Yn nhyb llawer, gellid bod wedi gwneud llawer mwy, o gofio’r bri a roddwyd ar Dylan Thomas ar adeg canrif ei eni yn 2014 a’r nofelydd plant, Roald Dahl, ganrif ers ei eni yntau’r llynedd.
Ganrif a hanner yn ôl, ar yr 2il o Fai, 1867, ganwyd y bardd Eliseus Williams ym Mhorthmadog. Fe’i hadweinid yn well wrth ei enw barddol ‘Eifion Wyn’, a does dim dwywaith mai ef oedd un o feirdd telynegol mwyaf Cymru. Mae nifer o’i delynegion i’r misoedd yn rhan o’n cynhysgaeth fel cenedl, fel y gellir dweud am sawl cerdd arall o’i eiddo. Dyna ‘Ora Pro Nobis’ a ‘Cwm Pennant’. Mae’r cwestiwn yng nghwpled clo’r gerdd honno ar gof sawl un ohonom:
‘Pam, Arglwydd, y gwnaethost Gwm Pennant mor dlws
a bywyd hen fugail mor fyr?’
Cofiwn hefyd am ei englyn enwog ‘Blodau’r Grug’ – a ddaeth i’r brig ym Mhrifwyl Caernarfon ym 1906:
‘Tlws eu tw, liaws tawel, - gemau teg
Gwmwd haul ac awel;
Crog glychau’r creigle uchel,
Fflur y main, ffiolau’r mêl.’
Ar y 13eg o Ragfyr, 1867 y ganwyd Humphrey Jones, yng Nghwm Croesor. Treuliodd y rhan helaethaf o’i oes yma yn nhre’r Blaenau. Dysgodd elfennau barddoniaeth yn ifanc gan Glaslyn (1831-1909), a chyn ei fod yn ugain oed, cafodd ei urddo yng Ngorsedd y Beirdd. Enillodd dros drigain o gadeiriau eisteddfodol a daeth yn arweinydd eisteddfodau hynod boblogaidd. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o farddoniaeth, sef, ‘Telynau’r Wawr’ a ‘Bro fy Mebyd a Chaniadau eraill’. Bu farw ar yr 22ain o Ionawr, 1947. Fe gofiwn amdano’n y fro hon wrth ei enw barddol – ‘Bryfdir’.
Mynyddoedd Stiniog -llun Paul W |
Ym Mhrifwyl Pwllheli ym 1925, anfonodd bryddest i gystadleuaeth y goron. ‘Bro fy Mebyd’ oedd y testun, a chipiwyd y wobr gan Wil Ifan – a ddaeth wedi hynny’n Archdderwydd (1947-50). Canodd Bryfdir i’r ‘... Cwm lle y’m ganed i...’
‘Tariaf yng nghysgod y Moelwyn a’r Foel,
Tra’r Arddu a’r Cnicht megis dwy anferth hoel
Ym mhared yr ardal, i grogi’r las nen
Groesawa y wawr mewn sidanwisg mor wen!’
Cynhwysa ei ail gyfrol, a gyhoeddwyd ym 1929 amrywiaeth o ganiadau, adroddiadau a’r bryddest a grybwyllwyd. Canodd i leoedd yn yr ardal fel ‘Bwlch Gorddinen’ a ‘Hen Ysgol Llwynygell’. Ceir ganddo hefyd nifer o englynion sicr eu crefft:
Blodau’r Eithin
Y Foel unig felynant, - tres eurog
Tros arw glawdd ddodant;
A’u mawredd pawb ymyrant,
Gyda gwên eu gwaedu gânt.
Y Pren Criafol
Egwan ei fraich, gwyn ei frig - dan olud
Yn nhalaith y goedwig;
I’r adar, bwrdd caredig
Dan wawr gwaed yn awyr gwig.
Yn ogystal â chofio am eni gwŷr llên, cofiwn hefyd am farw sawl un. Ganrif yn ôl, roedd y Rhyfel Mawr yn ei fri. Mae Vivian Parry Williams yn olrhain hanes ac effeithiadau’r cyfnod yn ei ysgrifau gafaelgar misol ar ddalennau Llafar Bro. Dichon y caf innau gyfle i sôn am Hedd Wyn ac eraill cyn diwedd y flwyddyn.
IM
---------------------------------------
Rhan o erthygl Iwan Morgan, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2017.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y cwmwl geiriau ar y we.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon