29.7.17

Bwrw Golwg -Eisteddfod Ynys Drysor

Cyfres achlysurol yn edrych ‘nôl ar rai o gymeriadau a sefydliadau hanesyddol ein bro. Y tro hwn, darn gan W. Arvon Roberts.

Cafodd yr Eisteddfod ei chyflwyno i Galiffornia gan yr arloeswyr Cymreig yn ystod darganfyddiad yr aur yno.  Ymsefydlodd nifer yn ardaloedd mwyngloddio Siroedd Sierra, Nevada a Yuba.  Dynion ieuanc oeddynt yn bennaf, yn hannu o’r teuluoedd gorau ac yn dalentog mewn cerddoriaeth a llenyddiaeth.  Roedd hi’n arferiad ganddynt gyfarfod ar y Suliau mewn cabanau gwahanol i ganu emynau yr ‘Hen Wlad’.

Fe fu iddynt adeiladu tri chapel yn ddiweddarach.  Erbyn 1860, yr oedd eu teuluoedd o Gymru wedi ymuno â hwy.  Ffurfiwyd tri o gorau yng Ngogledd San Juan a Camptonville, ac ar Gorffennaf 4ydd, 1860, cynhaliwyd yr Eisteddfod Califfornia gyntaf, gyda William ap Rees yn llywydd a Thomas Gwallter Price (Cynhelyn) yn feirniad barddoniaeth.  Y mae’r ffaith i’r corau ganu campweithiau fel ‘Corws yr Haleliwia’ Handel a ‘Teyrnasoedd y Ddaear’ J. Ambrose Lloyd yn profi eu cymhwyster yn y grefft o ganu.

Yn Camptonville yr oedd teulu y Jonesiaid ... Hannah (soprano), Mary (alto), Francis (tenor) a John Owen (baswr) ... rhai oedd yn enillwyr mynych fel pedwarawd ac fel unawdwyr.  Yr oedd yna hefyd lawer o feirdd talentog a llenorion ymysg y mwynwyr Cymreig.  Talodd Morgan a Watkin Morgan, arolygwyr y mwyngloddiau, dreuliau côr unedig i gystadlu yn Eisteddfod Dydd Gŵyl Dewi San Francisco yn 1879.  Mewn blynyddoedd diweddarach, cynhaliwyd yr Eisteddfod o dan nawdd capeli Cymraeg San Francisco ac Oakland.

Yn gynnar yn 1939, ar wahoddiad yr ‘Adran Digwyddiadau Arbennig, Arddangosiad Rhyngwladol’ y Golden Gate, penodwyd pwyllgor i gynnal Eisteddfod ar yr Ynys Drysor ym Mae San Francisco, gyda David Hughes (Arfonydd) yn Llywydd.  Trefnwyd rhaglen ddeniadol o destunau cystadleuol yn agored i’r holl gystadleuwyr ac fe’i dosbarthwyd drwy’r wlad.

Cafwyd ymateb parod gan gorau ac unawdwyr yn y Taleithiau Gorllewinol. Yr oedd rhif y cystadleuwyr yn y gwahanol gystadlaethau yn 20 o gorau a thros 300 o unawdwyr – hynny’n ddigon i sicrhau y byddai’r ŵyl yn un llwyddiannus.
Llun o gasgliad yr awdur

Cynhaliwyd yr ŵyl ar un o’r ynysoedd mwyaf o wneuthuriad dyn, o fewn golwg Pont y ‘Golden Gate’ a dwy o bontydd mwya’r byd, a hynny ymysg prydferthwch ysblennydd  palasau arddangos mawr, ymysg miliynau o flodau, ffynhonnau godidog a cherfluniaeth o’r radd uchaf. Go brin i’r un Eisteddfod erioed gael ei chynnal mewn lleoliad mor ddelfrydol.

Gellid ymhelaethu rhagor am brynhawn a hwyr yr Eisteddfod, ac ychwanegu mwy am y cystadleuwyr a‘r canlyniadau ac yn y blaen.  Ond rhaid imi gael nodi cyfraniad un â chysylltiad ag ardal ‘Llafar Bro’, a ddaeth i amlygrwydd yn ‘Eisteddfod yr Ynys Drysor’.

Owen Hughes oedd y brawd hwnnw. Ei enw barddol oedd ‘Glascoed’.  Ganwyd ef yn y Glasgoed, Trawsfynydd.  Ymgartrefodd yn Vancouver, British Columbia, Canada.  Does gennyf ddim rhagor o wybodaeth amdano. Nis gwn ddyddiad ei eni, enwau ei rieni, pryd yr ymfudodd, na phryd y bu ef farw.  Efallai fod yna ddisgynyddion iddo yn Nhrawsfynydd neu’r cyffiniau heddiw?  Ef enillodd y brif wobr yng nghystadleuaeth y gerdd: ‘YNYS DRYSOR’ – dan feirniadaeth J.R. Jones, Ponoka, Alberta (‘Ap Ceiriog’).

Hyd at y flwyddyn 1940, enillodd Owen Hughes 11 o gadeiriau, 1 coron aur a nifer o wobrwyon eraill am awdlau, pryddestau, englynion a thoddeidau.  Y mae’r rhestr isod yn rhoi rhyw syniad am ei lwyddiant, ynghyd â’r testunau ac enwau’r beirniaid:


1923.    Bangor, Sask., pryddest ‘Tlysni’.  Cynonfardd.
1924.    Toronto, pryddest. ‘Pwy yw fy nghymydog?’ Pedrog.
1925.    Utica, awdl, ‘Anadl Einioes’.  Cynonfardd.
1925.    Edwardsville, PA., pryddest. ‘Sêr y Nen’.  J.M. Pritchard.
1926.    Y Wladfa, awdl-bryddest, ‘Yr Hauwr’. Gwili.
1927.    Utica, awdl, ‘Y Gwerinwr’.  Pedrog.
1928.    Wilkesbarre, PA, awdl, ‘Concwest y Gorllewin’.  Bryfdir.
1929.    Granville, NY., pryddest goffa, ‘Y Diweddar Parch J.W. Morris, Poultney’. Ioan Eryri.
1929.    Los Angeles, pryddest, ‘Prydferthwch yr Hwyr’.  Ioan Eryri
1935.    San Francisco, pryddest, ‘Rhamant yr Awyr’. Ap Ceiriog.
1936.    Los Angeles, pryddest, ‘Y Gweledydd’, Ieuan Fardd.
1936.    Los Angeles, pryddest goffa, ‘Mrs Moelwyn Wms’, Ieuan Fardd
1940.    Los Angeles, penillion coffa, ‘Moelwyn’, John M. Pritchard.

------------------------------------

[Diddorol nodi mai’r beirniad yn Eisteddfod Wilkesbarre ym 1928 oedd Bryfdir - y cyfeirir ato yn ‘Rhod y Rhigymwr’ yn y rhifyn hwn. Tybed oedd gan ‘Mrs Moelwyn Williams’ – testun y bryddest goffa yn Los Angeles (1936) gysylltiad â’n hardal ni?  Go brin mai ‘Moelwyn’ (Y Parch. J. G. Moelwyn Hughes) ... awdur ‘Pwy a’m dwg i’r ddinas gadarn’ a ‘Fy Nhad o’r Nef, o gwrando ‘nghri’ a goffeid yn Los Angeles ym 1940, gan mai 1944 oedd blwyddyn ei farw ef ... Gol; IM]
 -----------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 2017. Dilynwch y gyfres Bwrw Golwg efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon