Cynhaliwyd Pwyllgor Blynyddol Clwb Ffermwyr Ifanc Prysor ac Eden yn yr Y.M yn Nhrawsfynydd ar Nos Fawrth 20fed Mehefin. Dyma rannu adroddiad yr Ysgrifennydd, Casha Edwards efo darllenwyr Llafar Bro.
Braf yw gweld fod y Prysor ac Eden yn dal i fynd yn gryf gyda 43 o aelodau wedi ymaelodi y flwyddyn yma (Medi 2016) a 7 yn ymaelodi am y tro cyntaf!
Tim Tynnu Rhaff Prysor ac Eden yn cynrychioli Meirionnydd yn Llanelwedd, Gorffennaf 2016, gyda'r hyfforddwyr Dewi (chwith) a Derwyn(dde) |
Yn mis Medi fe wnaethom ffarwelio gyda'n ysgrifennydd Lynne Edwards a oedd wedi bod yn ysgrifennydd ers 2011. Roedd hi wedi bod yn gweithio yn galed i gadw pob dim mewn trefn. Mae yn gadael sgidiau mawr i mi ei llenwi ond dwi’n siwr roith hi help llaw i mi os dwi’n styc!
Llongyfarchiadau i Sarah ein arweinydd ar ddod yn Nain am y trydydd tro. Croeso i Llio Alaw.
Mae Glesni Non ein cadeirydd wedi bod yn llwyddianus iawn eto ym myd y moto beics. Dwi’n siwr i chi ei gweld ar y teledu yn rhaglen ‘Heno’ S4C ai hanes yn dod yn fuddugol yn category Merched ym Mhencampwriaeth Enduro Prydain ac ennill gwobr Personoliaeth y Flwyddyn gan y Welsh Motorcycle Fedaration. Dal ati Gles, mae'r clwb yn falch iawn o dy lwyddiant.
Bu cystadlu brwd yn Eisteddfod Ysgafn Dinas Mawddwy. Pawb yn mwynhau'r noson yn fawr, yn enwedig criw y sgets adeiladu a ddaeth yn 1af. Hefyd yn hapus iawn y noson honno oedd Glain Williams am gael 1af gyda'i stand up a'r criw meim a ddaeth yn 2il.
Parti Adrodd Prysor ac Eden a ddaeth yn 2il yn eisteddfod Cymru 2016 |
Mae Prysor ac Eden yn mwynhau chwaraeon yn ogystal ac eisteddfota. Cafodd y bechgyn 1af yn y peldroed yn Nhywyn a’r tim pel rwyd dan 18 yn cael 1af a’r tim dan 31 yn cael 2il. Da iawn hogia!
Mae llawer o lwyddianau hefyd wedi bod yn y barnu stoc eleni gyda Guto Huws yn cael 2il yn barnu wyn cigydd o dan 16 a Gwion Williams yn cael 2il yn beirniadu wyn cigydd. Daeth Gwion i’r brig yn beirniadu wyn tew drwy gael 1af a hefyd fe gafodd 2il yn beirniadu gwartheg tew o dan 21.
2il hefyd i Gethin Jones yn beirniadu gwartheg tew dan 16. Cafodd Gwion fynd ymlaen i feirniadu stoc yn y Ffair Aeaf ac fe ddaeth i’r brig eto yn cael 1af ac 2il. Gwych iawn Gwion!
Roedd hi yn fraint fel clwb i cael y gwahoddiad i berfformio yn yr ocsiwn addewidion a chael cyfle i fod yn rhan o ymgyrch gwerth chweil ‘prynu brics’. Roedd yn noson lwyddianus iawn a phawb wedi mwynhau.
Llyr, Heledd, a Guto yn derbyn tarian yn Siarad Cyhoeddus y Sir |
Gerwyn, Glain ac Elan yn derbyn tarian yn y siarad cyhoeddus yn Nolgellau. |
Rydym ni fel clwb yn hoff iawn o gael rhoi yn ol i’r gymuned gan ein bod yn cael llawer o gefnogaeth gan fobl yr ardal. Yn ystod yr haf roedd y clwb yn hapus iawn o gael y newyddion fod Sioe Gwn Trawsfynydd wedi ail ddechrau. Roedd y clwb yn barod iawn i gefnogi ar y diwrnod a helpu drwy baratoi a gwerthu lluniaeth ar gyfer y cystadleuwyr ar gwylwyr. Cyfle i ambell un o’r aelodau gael cymerud rhan yn y cystadlu. Cawsom gyfle i gefnogi a gwerthu lluniaeth yn cabaret Gwyl y Lleuad Borffor. Rydym wedi bod yn gwneud cwrs ‘It’s a Knockout’ yn Sioe Amaethyddol Trawsfynydd er mwyn cael rhoi blas o beth rydym yn ei wneud fel clwb a hefyd mae yn ffordd o ddod ar plant ifanc at ei gilydd. Rydym wrth ein bodd yn cefnogi ein dwy eisteddfod leol. Gwneud meim a sgetsus yn Eisteddfod Llawrplwy ac chanu wythawd yn Eisteddfod Stesion.
Rydym hefyd yn plygu rhifyn Gorffennaf Llafar Bro bob blwyddyn yn y Blaenau, ac yn cynnal Gwasanaeth Dechrau’r Flwyddyn yng Nghapel Moreia Traws bob Ionawr.
Casha yn derbyn y teitl aelod Iau y Flwyddyn Ffermwyr Ifanc Meirionnydd yn Nolgellau. |
Mae y flwyddyn yn gorffen wrth gwrs gyda'r Rali. Cynhaliwyd Rali Meirionnydd 2017 ar Fferm Dolfach Llanuwchlyn. Roedd yn Rali lwyddianus iawn ir clwb. Ennillwyd nifer o wobrau a chwpanau.
Cwpan goffa Eilyr Wyn Parry am y Barnu Stoc dan 21ain
Tlws Cefn Uchaf – Adnabod Nodau Clustiau o dan 31ain i Robat Sion Jones
Cwpan Hedd a Sian i Gethin a Guto am greu bwrdd picnic a lle ar gyfer cadair olwyn.
Cwpan Ieuenctid I’r Clwb efo Marciau uchel o dan 21ain
Cwpan Rhys a Mair – I’r Clwb efo Marciau uchaf dan 16eg.
1af am ataliwr drws cystadleuaeth Sir – Teleri Hughes
2il am ataliwr drws cystadleuaeth Sir – Ffion Pugh
2il coginio dan 21ain Pryd o fwyd 2 gwrs iach ar gyfer 2 athletwr – Swyn Prysor ac Elain Rhys
2il Arddangosfa Ffederasiwn – Teleri, Swyn, Esyllt, Elain, Ffion.
1af Tynnu’r Gelyn Iau.
3ydd Adnabod darnau o Beiriannau – Dafydd Edwards
Roedd clwb Prysor ac Eden yn y 5ed safle allan o 8 clwb gyda chyfanswm o 84 marc.
Blwyddyn brysur a llwyddianus i Prysor ac Eden a phawb wedi mwynhau bob eiliad ohoni. Buasem ni fel clwb yn hoffi diolch i Ffion Williams am ei gwaith trefnu a'i chymorth bob amser. Diolch i bawb sydd yn ein cefnogi a’n helpu drwy y flwyddyn.
Pob lwc i bawb yn y Sioe eleni!
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon