Rhifynnau 2023 |
Os nad oes dosbarthwr lleol yn danfon o ddrws i ddrws yn eich stryd/ardal, dyma restr o'r siopau lle gallwch brynu Llafar Bro:
Siop Lyfrau'r Hen Bost, Blaenau
Londis, Blaenau
Co-op, Blaenau
Morrisons, Blaenau
Caffi Antur Stiniog, Blaenau
Siop Penybryn, Llan
Siop Glyndŵr, Trawsfynydd
Grapes, Maentwrog
Oakeley Arms, Maentwrog
Bryn Arms, Gellilydan
Siop Eifionydd a Siop Pikes, Porthmadog
Siop Spar, Penrhyndeudraeth
TANYSGRIFIO:
I'r rhai sydd ddim yn byw o fewn cyrraedd i'r siopau sy'n gwerthu Llafar Bro, gallwch ei dderbyn trwy'r post, neu trwy e-bost.
Mae tanysgrifiad blynyddol yn rhedeg o Ionawr tan Rhagfyr (ond cofiwch nad oes rhifyn ym mis Awst).
Prisiau derbyn 11 rhifyn papur trwy'r post (o Ionawr 2022):
Cymru a gwledydd Prydain: £30
Gweddill Ewrop: £53
Gweddill y byd: Holwch am bris.
Pris derbyn 11 rhifyn pdf trwy e-bost (o Ionawr 2022):
£11 -i bedwar ban y byd!
Gyrrwch siec, yn daladwy i LLAFAR BRO, at ein trysorydd:
[MANYLION DROS DRO: Paul Williams, Neigwl, Ffordd Wynne, Blaenau Ffestiniog, LL41 3UH]
Nid oes modd trefnu taliad BACS ar hyn o bryd (Mehefin 2025) ond cysylltwch trwy e-bost llafarbro@btinternet.com os hoffech drafod.
Os ydych am danysgrifio yn ystod y flwyddyn, cysyllwch er mwyn holi'r pris o'r rhifyn nesaf (neu'r rhifyn cyfredol os ydyw ar gael) hyd at rifyn Rhagfyr
------
Diolch i chi am barhau i’n cefnogi, a mwynhewch y papur.