Lle i Goed, Natur a Chymuned
Darn a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2025
Ar safle tawel ym Mro Ffestiniog mae rhywbeth arbennig yn tyfu - ac nid coed yn unig. Mae meithrinfa goed gymunedol, perllan aml-gnwd, a gardd fywyd gwyllt bach yn helpu’r gymuned i fynd i’r afael â heriau natur a hinsawdd mewn ffordd leol a chadarnhaol.
Cafodd y feithrinfa ei sefydlu’r gaeaf diwethaf ac erbyn hyn gallwn dyfu 1,500 o goed brodorol – llawer ohonynt o hadau a gasglwyd yn lleol gydag ysgolion a gwirfoddolwyr. Mae’r coed hyn wedi’u haddasu’n well i hinsawdd ac amodau'r ardal, ac maen nhw’n cefnogi’r amgylchedd lleol yn fwy effeithiol na choed a fewn-forwyd. Bydd y coed yn cael eu plannu'n lleol, neu'n cael eu rhoi i unrhyw un sydd eisiau plannu coeden eu hunain.
Diolch i grant gan Bartneriaeth Natur Eryri, mae cynhwysydd cludo wedi’i drawsnewid yn ddiweddar yn sied botio ac yn lloches i staff a gwirfoddolwyr — gan ein galluogi i fod yn bresennol ar y safle drwy’r flwyddyn ac i gynnal gweithgareddau beth bynnag y tywydd.
Gerllaw mae perllan sy’n wahanol iawn i randir traddodiadol - dim rhesi taclus na lleiniau unigol yma. Yn hytrach, mae’r lle’n tyfu mewn ffordd anffurfiol ac adfywiol, gan gyfuno coed ffrwythau, perlysiau, ffrwythau meddal, llysiau lluosflwydd a phlanhigion a pherlysiau meddygol, mewn patrwm naturiol sy’n efelychu natur. Mae’n brosiect tymor hir, ond dros amser bydd y berllan yn dod yn fwy hunangynhaliol, gan gefnogi bioamrywiaeth a darparu bwyd, cysgod a harddwch i’r gymuned.
Mae’r ardal fywyd gwyllt sy’n cysylltu’r lleoedd hyn eisoes yn llawn adar, gwenyn, gloÿnnod byw, gweision neidr a llyffantod - yn fan lloches i natur ac yn le heddychlon i bobl ddod i fwynhau. Mae’r ddôl flodau gwyllt ar ei gorau ym misoedd Mehefin a Gorffennaf, yn llawn blodau brodorol fel carpiog y gors, llygad llo mawr, crib y pannwr, milddail, cribell felen a llawer mwy.
Mae’r prosiect yn dangos sut gall cymunedau gymryd camau syml a chynaliadwy i adfer natur, diogelu rhywogaethau brodorol a byw mewn modd mwy ysgafn ar y tir.
Mae’r ardd wedi’i lleoli tu ôl i res Cambrian, Tanygrisiau, LL41 3RT, gyda ddigon o le i barcio os ydych chi'n teithio mewn car. Mae ar agor trwy’r flwyddyn ac mae croeso i bawb — naill ai i gymryd rhan neu i fwynhau tawelwch.
Hoffech chi weld y feithrinfa? Byddem wrth ein bodd dangos y lle i chi– cysylltwch â ni! meg@drefwerdd.cymru 01766 830 082
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon