29.5.13

Tra bo hedydd



Ymddiheuriadau am y diffyg diweddaru yn ystod mis Mai, gyda lwc gallwn roi'r trwyn yn ol ar y maen efo deunydd rhifyn Mehefin. Yn y cyfamser dyma un darn arall allan o rifyn Mai. Cofiwch adael sylwadau, neu awgrymiadau am erthyglau.

Tra bo hedydd
Daeth un o ganeuon Dafydd Iwan i'r cof yn ddiweddar, wrthi’r genod a’u taid a finna fynd am dro i Fryn Castell.

“Tra bo hedydd ar y mynydd; tra bo ewyn ar y don;
tra bo glas yn nwfn dy lygaid, mi wn mae ni pia hon.”

Cytgan hyfryd. Can sydd heb gael y sylw haeddianol. 

 


Beth bynnag, mynd i chwilio am yr haul oedden ni, heibio Beddau Gwyr Ardudwy, ffordd Rufeinig Sarn Helen, a chwarel lechi'r Drum. Digon o gyfle i drosglwyddo’chydig o hanes a chwedlau'r fro i'r plant, yn union fel wnaeth eu taid i mi yn yr un lle drideg mlynedd yn ol..




Ar y ffordd o'na, mi wnaethon ni aros am gyfnod i wrando ar drydar parablus hyfryd ehedydd, yn canu nerth esgyrn ei ben, yn uchel, uchel yn yr awyr las. Yn datgan hyd a lled ei diriogaeth, fel tasa fo'n dweud 'dwi yma o hyd'.

Efallai y bydd y genod yn gwneud yr un peth dri deg mlynedd o rwan...

 








(Wedi'i seilio ar erthygl a ymddangosodd yn gyntaf ar y blogAr Asgwrn y Graig’.  Blog am dyfu a hel bwyd, a'r byd o'n cwmpas ni ym Mro Ffestiniog. Lluniau gan PW)

11.5.13

Croeso tywysogaidd

Erthygl gan VPW a ymddangosodd yn rhifyn Ebrill eleni, am gysylltiad rhwng Tanygrisiau a Phatagonia, ar ol galwad ffo^n gan ysgrifennydd Cymdeithas Cymru-Ariannin.



Cais am wybodaeth parthed teulu a ymfudodd o Danygrisiau i Batagonia ar ddechrau'r 20fed ganrif  oedd ganddo, ar ran Patricia Ramos, merch ifanc o Dir Halen yn y Wladfa, a oedd yn Aberystwyth ar brofiad gwaith, ac yn chwilio am rywbeth o hanes ei hen-daid, Griffith P.Jones, a'i deulu a ymfudodd yno o Lerpwl yn 1909. 


Wedi bod wrthi yn casglu ychydig fanylion, gyda chymorth fy nghyfaill Steffan ab Owain, dois ar draws ambell beth difyr yn ymwneud â'r teulu hwnnw. Cafwyd cofnodion am aelodau teulu taid Griffith yn trigo yn Nhalwaenydd ar ystadegau cyfrifiad 1851, gyda Robert Jones, y penteulu, neu Robin Siôn ar lafar, yn byw yno gyda'i deulu yntau. 
Roedd dau o blant yno, Laura, hen-hen nain Patricia, a'i brawd, William, 'Gwaenydd', a ddaeth yn arweinydd cyntaf seindorf enwog Gwaenydd, rhagflaenydd band enwocach, seindorf yr Oakeleys.

Ymhen deng mlynedd, roedd teulu Robert Jones wedi symud i fyw i Penllwyn, Tanygrisiau, ac erbyn 1881, preswylient yn rhif 1, Bryn Barlwyd, sydd bellach wedi ei ddymchwel. Yn y cyfamser, yr oedd William y mab, (Gwaenydd), wedi ymfudo i'r Wladfa yn 1874, rhai blynyddoedd cyn ei nai Griffith, ac yno y'i claddwyd yn 1906.  Fel y cyfeiriais ato, yn 1909 yr aeth Griffith, hen-daid Patricia i Batagonia, ac yno y claddwyd yntau yn y 1920a'u. 

B'nawn ddydd Llun, 18fed o Fawrth, pleser pur oedd cael tywys Patricia o amgylch yr ardal, i ddangos y mannau y bu ei chyn-deidiau'n troedio. Roedd hithau'n hynod falch o gael dilyn ei gwreiddiau yma, ond roedd un datganiad pwysicach i'w ddatgelu iddi. 


Tra yn ymchwilio i'w hachau, darganfyddais am fodolaeth disgynnydd o'r un teulu, a pherthynas i Patricia, yn dal i fyw nid nepell o hen gartrefi eu hynafiaid yn Nhanygrisiau. A'r perthynas hwnnw yw Kevin Evans, neu 'Prinsi' i bobl y fro, ac yn un o blygwyr rheolaidd y papur bro hwn. Felly, rhaid oedd cyflwyno y ddau i'w gilydd, gyda'r un ohonynt yn gwybod dim am fodolaeth y naill na'r llall, a da oedd profi'r croeso a gafodd Patricia Ramos, o Dir Halen, talaith Chubut, Patagonia yng nghartref ei chyfyrder, Kevin Evans, Tanygrisiau, y diwrnod hwnnw. 
 
Mae mam Kevin, Bella, a'i chwaer Mandy yn byw yn America ers rhai blynyddoedd, a deallaf fod aelodau eraill o'r teulu yn dal i fyw yn yr ardal 'Stiniog. 

(Delwedd y faner o wefan Cymraeg i Oedolion, Prifysgol Caerdydd) 

 

3.5.13

Llwyth o Bethan Gwanas

Bu'r awdures doreithiog yn cynnal sesiynau ym Mro Ffestiniog ddwywaith yn ddiweddar.
Dyma ddarn allan o rifyn Ebrill 2013 yn son am y gyntaf ohonynt, a phwt bach o newyddion am yr ail.



Llwyth o ddisgyblion yn mwynhau ymweliad Bethan Gwanas

Bu Bethan Gwanas yn prysur gynnal sesiynau gyda disgyblion Ysgol y Moelwyn yn dilyn cyhoeddi ei nofel newydd sbon i bobl ifanc, Llwyth.


Bu'n sgwrsio â chriw o flynyddoedd 8 a 9 Ysgol y Moelwyn. Mae ei nofel newydd, Llwyth yn rhan o gyfres newydd sbon o nofelau i bobl ifanc rhwng 11 ac 14 oed gan wasg y Lolfa, cyfres o’r enw Mellt

Mae Llwyth yn nofel gyffrous sy’n mynd â’r darllenydd yn ôl i amser pan oedd gwahanol lwythi’n rheoli tiroedd Cymru, ac mae’n stori llawn antur a hiwmor sy’n tynnu ar chwedloniaeth Cymru.

“Er mod i wedi blino’n lân erbyn diwedd y dydd, ges i lond trol o hwyl!” meddai Bethan Gwanas, yn dilyn ei hymweliad â’r ysgol. “Roedd hi mor braf cael ymateb y disgyblion i’r llyfr, gyda phawb wrth eu boddau bod cymaint o'r stori yn digwydd ym Meirionnydd.”

Meddai Mari Roberts, Pennaeth Adran Gymraeg Ysgol y Moelwyn, “Cafodd y disgyblion fore arbennig yng nghwmni Bethan Gwanas, ac roedd  hi’n gwbwl amlwg fod pawb wedi mwynhau trin a thrafod ei nofel newydd. Mae’r disgyblion yn edrych ymlaen yn arw i ddarllen Llwyth, ac edrychwn ymlaen hefyd i groesawu Bethan yma i’r Moelwyn eto yn y dyfodol agos!”

-------------------------------


 Roedd Bethan Gwanas yn ol yn Stiniog ddiwedd Ebrill, gan gynnal sesiwn i ddisgyblion uwchradd eto, fel rhan o weithgareddau Llên y Llechi. Rhaglen Y Lolfa Lên, gan Llenyddiaeth Cymru oedd hwn, efo sesiynau dal ofal Dewi Prysor, Mair Tomos Ifans, SIan Northey a llawer mwy, yn yr Hen Go-op. 

Petaech chi'n chwilio ar wefannau'r trefnwyr a'r noddwyr, Llenyddiaeth Cymru, Cyngor Gwynedd, Canolfan Sgwennu Ty Newydd, gallech chi daeru na ddigwyddodd y peth o gwbl. Dyma obeithio eu bod wedi gyrru newyddion ar gyfer rhifyn Mai Llafar Bro....
Dwi wedi benthyg y llun isod oddi ar gyfri' Trydar Ty Newydd.

 

 

2.5.13

Sgotwrs Stiniog

Darn allan o rifyn Ebrill 2013 gan Gymdeithas Enweiriol y Cambrian

Llyn Cwmorthin dan rew. Llun- PW




Bu’r Gymdeithas yn cynnal dosbarthiadau cawio plu eleni eto, yn ystod misoedd y gaeaf, a bu 6 o’r aelodau ifanc yn mynychu’n gyson ac yn cael cryn bleser o geisio meistroli’r hen grefft. Yr hyfforddwyr eto eleni oedd Cec Daniels a Geraint W. Williams ac mae’r Gymdeithas yn ddiolchgar iddynt am roi o’u hamser a’u hymroddiad. Yn ôl y beirniad, Mel Goch ap Meirion, roedd safon y cawio yn uchel, o ystyried beth oedd oedran aelodau’r dosbarth, ac ni fu’n hawdd ganddo benderfynu ar yr enillydd. Ond, o drwch blewyn, Callum Williams o Gellilydan a gafodd y wobr gyntaf ganddo, tra bod pob un o’r lleill hefyd yn haeddu clod uchel.
Derbyniodd  Callum gopi o ‘Plu Stiniog’ Emrys Evans, cyfrol sydd bellach yn cael ei hystyried yn llyfr prin gan na ellir prynu copi yn unman (Mae digon o’r cyfieithiad Saesneg ar gael, wrth gwrs, ond y fersiwn wreiddiol Gymraeg yw’r un i’w thrysori.)
Roedd pob un o’r chwech a fu’n mynychu’r dosbarthiadau’n gyson yn derbyn trwydded 2013 i bysgota dyfroedd y Gymdeithas.
...................
Da yw cael adrodd bod y gwaith ar y Cynllun Pysgota Gwyllt Cymru yn mynd yn ei flaen yn foddhaol er gwaethaf y tywydd echrydus a fu dros y misoedd diwethaf. Mae’r cwt cwch ar lyn Cwmorthin wedi ei gwblhau bron iawn a’r cam nesaf fydd archebu cwch ar gyfer y tymor newydd. Mae llawer o waith da’n mynd ymlaen hefyd i hwyluso pysgota i blant a physgotwyr anabl ar Lyn Ffridd y Bwlch ac, yn ddiweddar, fe gynhaliwyd sesiynau i ddysgu pysgota pluen i rai o ddisgyblion Ysgol y Moelwyn. Hefyd, o fewn y misoedd nesaf, gobeithir cychwyn ar y gwaith o godi cwt cwch newydd ar Lyn Morynion yn ogystal.
Mae’n gyfnod cyffrous yn hanes y Gymdeithas ac mae lle i ddiolch yn arbennig i’r cadeirydd Dafydd Williams a nifer o aelodau gweithgar eraill sy’n rhoi o’u hamser a’u llafur i sicrhau llwyddiant y prosiect.