30.5.12

"AIL I GYFAREDD TELYN"

DYDD SADWRN MEHEFIN 9fed.
  
Tri phlwy', dau gwm, un hanes
 



Taith gerdded o Lan Ffestiniog i Gastell Prysor yng nghwmni Dewi Prysor.

Rhan o gyfres CYNEFIN a CHYMUNED




·        Pulpud Huw Llwyd
·        Cynfal Fawr, cartra Huw Llwyd a Morgan Llwyd
·        Tomen y Mur
·        Ffordd Rufeinig Sarn Helen
·        Gwersylloedd Ymarfer Rhufeinig
·        Gwaith Aur Bwlch y Llu
·        Cytiau crynion
·        Dolau
·        Crash Wellington bomar Moel Croesau
·        Llyn Rhuthlun, a mwy o wersylloedd.
·        Castell Prysor
·        .......a llu o straeon ac olion eraill

Byddwn yn cychwyn o Dafarn Y Pengwern am 10yb ac yn gorffen oddeutu 4yh.
 
Archebwch eich lle er mwyn i mi gael sortio trafnidiaeth.
Ceri Cunnington
Swyddog Prosiect Antur Stiniog.
Yr Hen Co-op, 49 Stryd Fawr, Blaenau Ffestiniog, Gwynedd LL41 3AG
01766 832 214
ceri.c@gwynedd.gov.uk

28.5.12

Stori Stiniog



Mae ffilm fer Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog wedi cael 390 hit yn Gymraeg, ac mae'r fersiwn Saesneg wedi ei wylio 918 o weithiau, yn ystod y mis a aeth heibio.

Mae campwaith Gareth Jones i'w weld hefyd - ynghyd â llawer mwy - yn yr arddangosfa a gynhelir yn flynyddol yn Sgwâr Diffwys, Blaenau Ffestiniog dros fisoedd yr haf.
Diolch i wirfoddolwyr y Gymdeithas weithgar hon, am ddarparu atyniad mor werthfawr ar Stryd Fawr y dref.

18.5.12

Stolpia


Tân yn un o dai Dolrhedyn:

Tybed pwy all ein helpu ni i ddyddio’r llun diddorol hwn a anfonwyd atom gan y Bnr Aled Ellis, Minffordd. Pe bae ni’n cael  dyddiad y digwyddiad, efallai y gallwn gael hyd  i adroddiad amdano yn un o’r hen  bapurau newydd i gael cefndir y  stori. Efallai y bydd un ohonoch chi ddarllenwyr yn cofio’r tân,  neu o leiaf wedi clywed amdano gan rywun. Diolch am y llun Aled.


Mae STOLPIA yn un o golofnau rheolaidd Llafar Bro, gan Steffan ab Owain.

15.5.12

Llinell goll...



Tri  un  a  dau,  tri  naw  a  deg…
Mewn cyfarfod o Gymdeithas Hanes Bro Ffestiniog dro yn ôl, disgrifiodd Allan Tudor sut y bu iddo ganfod englyn rhyfedd iawn wedi’i naddu ar wal mewn cwt pren ar un o lefelydd chwarel y Lord, dros hanner canrif yn ôl. “Biti fod llinell a hanner wedi mynd o'r cof” meddai, “ond mae amser hir ers 1947!”. 

Oes unrhywun a fedr lenwi’r bylchau? Gadewch inni wybod. Os nad oes neb yn cofio, beth am gynnig llinellau newydd?


111  a 2, 999 a 10 - 20   20   20
…………..  15  15  15
……………….
1  2  9,  18  a 10



[Ymddangosodd yr uchod yn Llafar Bro Gorffennaf 2009]

Bwyd!

Un o amryw o weithgareddau a drefnir gan Y Dref Werdd yn Stiniog, dan nawdd Cymunedau'n Gyntaf.



11.5.12

Y Rhandir


Rhan o erthygl gan Jane Battye, yn rhifyn Mai.
Rwyf yn byw ym Mlaenau Ffestiniog ers dros bedair blynedd.  Mi symudais yno efo fy ngŵr, Chris.  Mae o wedi ymddeol.  Rwyf yn dysgu Cymraeg ers bron i bedair blynedd.
Rwy’n hoff iawn o arddio.   Rwyf wedi trio tyfu llysiau mewn potiau yn yr ardd cyn i ni chwilio am randir.
 Ym mis Medi 2010 roedden ni’n cymryd rhan o gae i wneud rhandir. Mae o yng Nghwm Teigl, o dan y Manod Mawr.

Pan oedden ni’n palu gwely llysiau, mi gawsom ni sioc.  Roedd y pridd yn garegog.  Hefyd, roedd 'na gerrig anferth.  Bu rhaid i ni ddefnyddio caib a nerth bôn braich.  Mi wnaeth Chris y rhan fwyaf o’r gwaith.  Mi wnes i symud y cerrig i’r llwybrau.  Roedd 'na ddigon ohonyn nhw i lenwi’r llwybrau i gyd.  Mi wnaethon i roi'r cerrig mwyaf wrth ymyl y cynllun.
Llun P.W.
Roedd y rhan ffrwythau’n waeth, felly, mi benderfynom blannu ar gynllun ‘raised beds.’  Mi wnaethon ni eu gwneud nhw o goed paletau.

Roedd y drydedd ran yn gymysg  garegog a chorsiog.  Mi ddefnyddion ni lechi concrit i wneud lle i ffrâm oer, ac mi wnaethon ni roi bocsys compost yno.  Mi godon ni ‘raised beds’ i’r riwbob a’r merllys - tua dwy droedfedd o uchel.  Hefyd, mi wnaethon ni welyau i’r mafon haf a hydref.

Roedd y bedwaredd rhan yn gorsiog.  Mi wnaethon ni balu allan dri gwely ym mis Mai llynedd.  Erbyn mis Gorffennaf, roedden nhw wedi llenwi efo dŵr ac roedd llyffantod wedi symud i mewn.

Y mis diwethaf, mi ddarganfyddom ni rifft llyffant yno.  Da ni wedi palu allan i uno’r tri gwely ac wedi gwneud pwll dŵr mawr efo ochrau troellog.  Mae 'na lethr i mewn i’r pwll ar gyfer llyffantod. Da ni’n bwriadu plannu planhigion cors o gwmpas y pwll fel gardd wyllt.  Mi fydda i’n edrych ar wyddoniadur planhigion yn fuan iawn.

Llongyfarchiadau i Jane - nid yn unig am ei llwyddiant yn y rhandir, ond hefyd am feistrioli’r Gymraeg i’r lefel hon mewn cyn lleied o amser.   -I.M.
Gallwch ddarllen yr erthygl yn llawn yn rhifyn Mai Llafar Bro. 
 

10.5.12

Pwy faga blant?


 Blas o un o erthyglau'r mis:

Mae Ysgol y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog yn arwain y ffordd mewn ‘gofal bugeiliol.’ 
Mae’n cynnal gweithdai arloesol,  sy’n cael eu hariannu ar y cyd gan Gymunedau’n Gyntaf Bowydd a Rhiw a Chyngor Gwynedd. Eu diben ydy dysgu rhieni ynglŷn â ‘bywyd yn yr arddegau’ yn yr oes sydd ohoni.

Er bod y rhan fwyaf o bobl yn ystyried eu harddegau diniwed fel ‘dyddiau gorau eu bywyd’, mae’r byd wedi newid cryn dipyn yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf, a bellach, nid yw goroesi blynyddoedd arddegau heb ffỳs na ffwdan yn dasg hawdd o bell ffordd.

Rhwng y cymdeithasu a’r cweryla a’r poeni cyson am waith ysgol ac arholiadau, mae bywyd yr arddegau yn anodd. Er hyn, gall bod yn rhiant yn ystod y cyfnod yma ym mywyd eich plant fod hyd yn oed yn anoddach. Tydi hi ddim yn anghyffredin i rieni deimlo eu bod nhw’n colli cysylltiad wrth i’r plantos gyrraedd eu glasoed a dechrau arbrofi hefo rhyw, alcohol, a chyffuriau, gan arwain at bob math o wahanol broblemau.

Dyma’r union reswm y mae Ysgol y Moelwyn wedi lansio cyfres newydd o weithdai gyda’r nod o ailgysylltu rhieni â’r hyn mae eu plant, sy’n eu harddegau, yn ei wneud yn eu bywydau pob dydd, gan roi cyfle i rieni reoli’r sefyllfaoedd a’r peryglon allai eu plant wynebu. 

Mae’r gweithdai wythnosol yn sesiynau trafod byr, rhyngweithiol rhwng rhieni a siaradwr gwadd gwahanol bob wythnos.
Mamau lleol gyda’r Swyddog Cyswllt Ysgolion.
Bethan Evans, PC Sue Davies, Gwenith Roberts, Michelle Williams a Debbie Woolway.

Dywedodd y Swyddog Cyswllt Ysgolion, PC Sue Davies, sydd wedi bod yn siaradwr gwadd yn y gweithdai ddwywaith,  “Roedd y sesiwn gynta’ wnes i yn canolbwyntio ar ddiogelwch y we a safleoedd fel Facebook ac ati, ac roedd y rhieni wedi’u synnu cyn lleied roeddynt yn ei wybod.”

Yn siarad ar ôl un o’r gweithdai, dywedodd Debbie Woolway, sy’n fam leol,   “Yn bersonol, dwi wedi elwa’n fawr o fynychu’r gweithdai yn Ysgol y Moelwyn. Mae’n gyfle i fynd i mewn i fyd eich plant a’u deall nhw’n well. Dwi’n teimlo bod gen i fwy o reolaeth dros bethau rwan gan fod gen i fwy o wybodaeth.”

Ychwanegodd Gwenith Roberts, sy’n mynychu’r gweithdai’n gyson,  “Mae hi’n braf cael cyfle i rannu profiadau, a gwybod fod rheini eraill wedi cael profiadau tebyg i’ch rhai chi.”
 Am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r gweithdai cysylltwch â Swyddog Lles Ysgol y Moelwyn, Dewi Lewis ar [01766] 830435 neu swyddoglles[at]moelwyn.gwynedd.sch.uk