Rhan o erthygl gan Jane
Battye, yn rhifyn Mai.
Rwyf yn
byw ym Mlaenau Ffestiniog ers dros bedair blynedd.  Mi symudais yno efo fy ngŵr, Chris.  Mae o wedi ymddeol.  Rwyf yn dysgu Cymraeg ers bron i bedair
blynedd.
Rwy’n
hoff iawn o arddio.   Rwyf wedi trio tyfu
llysiau mewn potiau yn yr ardd cyn i ni chwilio am randir.
 Ym mis
Medi 2010 roedden ni’n cymryd rhan o gae i wneud rhandir. Mae o yng Nghwm
Teigl, o dan y Manod Mawr.
Pan
oedden ni’n palu gwely llysiau, mi gawsom ni sioc.  Roedd y pridd yn garegog.  Hefyd, roedd 'na gerrig anferth.  Bu rhaid i ni ddefnyddio caib a nerth bôn
braich.  Mi wnaeth Chris y rhan fwyaf o’r
gwaith.  Mi wnes i symud y cerrig i’r
llwybrau.  Roedd 'na ddigon ohonyn nhw i
lenwi’r llwybrau i gyd.  Mi wnaethon i
roi'r cerrig mwyaf wrth ymyl y cynllun.
![]()  | 
| Llun P.W. | 
Roedd y
drydedd ran yn gymysg  garegog a
chorsiog.  Mi ddefnyddion ni lechi
concrit i wneud lle i ffrâm oer, ac mi wnaethon ni roi bocsys compost yno.  Mi godon ni ‘raised beds’ i’r riwbob
a’r merllys - tua dwy droedfedd o uchel. 
Hefyd, mi wnaethon ni welyau i’r mafon haf a hydref.
Roedd y
bedwaredd rhan yn gorsiog.  Mi wnaethon
ni balu allan dri gwely ym mis Mai llynedd. 
Erbyn mis Gorffennaf, roedden nhw wedi llenwi efo dŵr ac roedd
llyffantod wedi symud i mewn. 
Y mis
diwethaf, mi ddarganfyddom ni rifft llyffant yno.  Da ni wedi palu allan i uno’r tri gwely ac
wedi gwneud pwll dŵr mawr efo ochrau troellog. 
Mae 'na lethr i mewn i’r pwll ar gyfer llyffantod. Da ni’n bwriadu
plannu planhigion cors o gwmpas y pwll fel gardd wyllt.  Mi fydda i’n edrych ar wyddoniadur planhigion
yn fuan iawn.
Llongyfarchiadau
i Jane - nid yn unig am ei llwyddiant yn y rhandir, ond hefyd am feistrioli’r
Gymraeg i’r lefel hon mewn cyn lleied o amser.   -I.M.
Gallwch ddarllen yr erthygl yn llawn yn rhifyn Mai Llafar Bro.
 
Gallwch ddarllen yr erthygl yn llawn yn rhifyn Mai Llafar Bro.

No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon