31.10.14

Cymdeithasau

Newyddion o rifyn Hydref 2014


Merched y Wawr y Blaenau: 
Daeth yr aelodau ynghyd i gyfarfod cyntaf y tymor nos Lun, Medi'r 22ain yn y Ganolfan Gymdeithasol.   Cafwyd adroddiad byr o'r penwythnos preswyl yn Llanbedr Pont Steffan gan Marian, a darllenwyd rhestr testunau ar gyfer y Ffair Aeaf.
Gwraig wadd y noson oedd Geunor Roberts, Llanymawddwy - Llywydd Rhanbarth Meirion o'r Mudiad.  Bu'n garedig iawn i ddod atom ar fyr rybudd gan i'n hymweliad â “Pontio” gael ei ganslo.  'Roedd wedi paratoi cwis papur newydd ar ein cyfer, ac wedi rhannu'n dimau aethpwyd i chwilota yn y tudalennau am atebion i'r cwestiynau.

Grŵp “y pedair landeg” lwyddodd i gael y sgôr uchaf - sef Anwen, Chris, Mena a Marian.  Diolchwyd i Geunor am noson ddifyr iawn gan Megan.
Marian Roberts

Sefydliad y Merched: 
Cyfarfu'r Sefydliad nos Lun, Medi 22 dan lywyddiaeth Miss Nancy Evans. Croesawodd y llywydd yr aelodau. Penderfynwyd gwneud Llyfr Lloffion 2015 - pan  fydd y Sefydliad yn genedlaethol, yn dathlu canmlwyddiant.

Trefnwyd i’r BBC recordio  "Hawl i Holi"   Nos Lun, Hydref 6ed, yn Neuadd y Sefydliad. Croesawodd y Llywydd y wraig wadd, Catrin Elin, a rhoddodd sgwrs ddifyr ac addysgiadol iawn am deithiau cerdded a darllen map a'r difyrrwch sydd i’w gael wrth sylwi ar y tyfiant, yr adar a'r anifeiliaid gwyllt. Cawsom gyfle i flasu ei chynnyrch wedi ei wneud gyda thyfiant gwyllt. Diolchwyd iddi gan yr aelodau am noson ddifyr iawn.
Nancy Evans

Merched y Wawr Llan:
Cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf o’r tymor newydd oedd yng ngofal Helen y llywydd a Wendy yr ysgrifennydd. Mae pedair aelod wedi ymgymryd â’r gwaith, sef Helen, Nan, Alwena a Wendy ac maent am wneud y swyddi am ddwy flynedd.

Ein gwraig wadd oedd Ann Powell Williams, Penmachno, a ‘Gwau Mawr’ oedd testun Ann a buan iawn y gwelsom pam! Pellenni anferth o ddafedd bob lliw wedi eu cymysgu gyda’i gilydd a gweill anferth! Gwnaeth Ken, gŵr Ann, y gweill iddi o goes brws llawr a’u llyfnu ar gyfer y gwau a gwnaeth fotymau pren anferth iddi o hen rolbrennau i gyd-fynd a’r clustogau, bagiau, sioliau, a.y.y.b.! Cafodd yr aelodau gyfle i weu gyda’r gweill mawr ond nid oedd llawer o frwdfrydedd gan eu bod yn dipyn yn anhylaw - yn enwedig i ddwylo hŷn!

Roedd Ann wedi dod ag amrywiaeth o waith llaw i’w ddangos a’i werthu ac mae’n un o 50 o grefftwyr sy’n gwerthu eu gwaith yn siop ‘Pentre Petha’ yn Llanrwst. Noson ddifyr i gychwyn y tymor a diolchwyd i Ann gan Eurwen.

Cynion ac awyr las. llun- PW

Clwb Prysor:

Croesawyd Ken Robinson atom a chawsom bnawn difyr yn ei gwmni yn gwylio sleidiau a chael hanes y trenau oedd yn mynd o Flaenau Ffestiniog i’r Bala. Diolchwyd iddo gan Hugh Glyn.

Merched y Wawr Traws: 
Croesawodd Nans Rowlands bawb i noson gyntaf y tymor. Cafwyd noson arbennig yng nghwmni Delyth Medi, Caryl a Ceri yn adrodd hanes trip cofiadwy i wlad Belg ym mis Ebrill. Daeth yr hanes i gyd yn fyw ar y sgrin pan welwyd lluniau o’r mynwentydd o gwmpas Ieper, y goflech i Hedd Wyn ar y mur yng nghroesffordd Habegos yn Langemark a’r gofeb newydd i’r Cymry a ddadorchuddiwyd yn ddiweddar. Braf oedd gweld y llechen er cof am Hedd Wyn a ddanfonwyd gan Ferched y Wawr, Trawsfynydd, yn 1977 ar y ffenest yn Eglwys Sant Siôr yn Ieper.


27.10.14

Y Doman Sgidia

Darn gan Pegi Lloyd-Williams, o rifyn Hydref 2014. Lluniau gan Paul Williams.

Mae  bron pawb o bell ag agos wedi dod i wybod am y Doman erbyn hyn, yn enwedig ar ôl y cyhoeddusrwydd yn y Daily Post y llynedd. Roedd yn ddifyr darllen y gwahanol eglurhad oedd gan rhai dros ei bodolaeth. Yr un a’m trawodd fwya’ oedd honno yn dweud bod hogiau Stiniog mor falch eu bod wedi cael dod adref yn ddiogel ar ôl bod yn Rhyfel y Crimea (1853-1856) nes iddynt bawb dynnu eu ‘sgidia a’u llosgi wrth ddod i olwg adra. Byddai pawb yn ymfalchïo fod ganddo bâr o sgidia i roi am ei draed y dyddiau hynny.



Na, roedd tunelli o sgidiau yn dod efo’r trên i Stiniog yn ystod yr Ail Ryfel Byd o’r Swyddfa Rhyfel, a byddai rhyw ddau ddwsin neu fwy yn cael eu cyflogi yn yr Hall Bach (sef y llawr gwaelod) i geisio eu rhoi yn bâr wrth bâr, ond roedd rhai mewn cyflwr ofnadwy - ôl gwaed ac anafiadau mawr. Byddid yn cymryd darnau o’r rheini i drwsio’r rhai oedd mewn cyflwr eitha’ da, ac o hyn i hyn byddai’r tomennydd o’r darnau oedd ar ôl yn cael eu cyrchu i’r darn tir roedd perchenogion Chwarel Llechwedd wedi ei gyflwyno yn ddigost at yr achos. Roedd y cyfan yn cael ei roi a’r dân ac yn wir bu’r doman yn rhyw fud losgi am rai blynyddoedd ar ôl y Rhyfel.

Bûm yn clercio i Gwmni Akett yn yr Hall yn ystod y Rhyfel, a chofion hapus gen i o weld y genod yn gweithio yn y ‘top’ yn gwneud rhwydi cuddliw (camouflage) - fframiau mawr uchel a’r merched yn dringo’r ystolion  yn plethu’r stribedi i ffurfio patrwm. Ond yn dod yn ôl at y sgidia fe ddaeth Rhys Mwyn i wybod am y domen ac fel tywysydd tripiau byddai’n stopio ac yn dangos y doman i’r ymwelwyr heb fod yn gwybod dim, medda fynta, am ei gwir hanes.  Fel y gwyddom o’i golofn yn yr Herald Gymraeg mae Rhys Mwyn yn archeolegwr hefyd, ac erbyn hyn mae yna gloddio wedi bod odditani.

Ers tro bellach mae Rhys wedi bod draw yma i gael yr hanes yn llawn, ac wedi gwneud tâp.
Mae mwy o ddiddordeb yn y domen  gan mai sgidia’ byddin yr Americanwyr oedd y rhan helaethaf, a’r gobaith yw hwyrach y bydd gan yr ymwelwyr awydd i’w pharchu yn eu ffordd eu hunain. Er clod i berchnogion Llechwedd a ninnau bobol Stiniog  mae’r fan wedi cael llonydd a pharch.

Pegi Lloyd-Williams 
    

21.10.14

O'r Archif- Trem yn ol

Pegi Lloyd Williams yn dewis pigion o’r archif. Y tro hwn, o rifyn Gorffennaf 1978.

Eglwys Sant Madryn
‘Loes calon yw clywed am ddifrod a dinistr adeiladau o ddidordeb hanesyddol arbennig.’ Dyna un o’r sylwadau a glywyd yn dilyn y tan mawr achosodd gymaint o lanast i’r eglwys hynafol ar Fehefin 14, 1978.

Dyma grynodeb allan o ‘Hanes Bro Trawsfynydd’ i’n hatgoffa o’r glendid a fu.

Dyma’r adeilad hynaf ym mhlwyf Trawsfynydd. Yn ôl traddodiad, yr oedd Madryn ac Anhun, gwas a morwyn Ednowain (un o benaethiaid pymtheg llwyth Gwynedd) yn croesi’r mynyddoedd oddeutu’r flwyddyn 560 O.C. ar bererindod i Ynys Enlli. Penderfynodd y ddau orffwys dros nos ar y llecyn lle saif yr eglwys hediw. Drannoeth, aeth y ddau i gymharu breuddwydion a chanfod iddynt gael yr un weledigaeth i adeiladu eglwys.

Llun -hawlfraint Alan Fryer, dan Drwydded Comin Creadigol, o wefan geograph

Yn ôl y traddodiad Celtaidd, adeilad o goed a chlai oedd yr addoldy cyntaf, ac am lawer cenhedlaeth Llanednowain oedd enw’r plwyf. Cysegrwyd yr eglwys i goffadwriaeth Madryn ac Anhun.

Adeiladwyd rhan o’r adeilad presennol yn y ddeuddegfed ganrif ac helaethwyd ef yn y bymthegfed ganrif. Y mae cynllun yr eglwys yn anarferol i’r rhan yma o Feirionnydd ac yn enwedig i Gwmwd Ardudwy, gan fod cangell ddwbwl ynddi.

Yn ddiweddarach daeth yr eglwys o dan ddylanwad Pabyddiaeth ac fe’i hail-gysegrwyd i’r Forwyn Fair. Yn ystod teyrnasiad Harri’r Wythfed, torrwyd i ffwrdd oddi wrth Babyddiaeth ac fel pob eglwys blwyf yng Nghymru daeth yn rhan o Eglwys Sefydledig Lloegr. O ganlyniad, cafodd enw newydd eto, sef Holy Trinity Church. Ond ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf, cofrestrwyd yr eglwys fel Eglwys Sant Madryn, ac felly yr adwaenir hi heddiw, o dan adain Yr Eglwys yng Nghymru.

Y mae ‘porth y meirw’ yn un hynafol iawn gyda thyllau arbennig yn y wal. Cafodd ei ddefnyddio fel cyrchfan gêm bel droed rhwng dau blwyf yn yr hen amser (Cnapan? gol.).
Arferid cicio pel o borth un eglwys nes i’r bêl fynd drwy borth y meirw yn y plwyf arall. Y plwyf a gai’r bêl gyntaf trwy’r porth fyddai’n ennill y dydd.

Defnyddid y porth hefyd i osod troseddwyr yn y seddau a’u clymu yno fel esiampl. Yn ddiweddarach, aeth y seddau yn fan gorffwys i rai a gariai’r eirch o bellter i angladdau. Arferent eistedd i aros i’r offeiriad eu harwain i’r eglwys.

14.10.14

Llyfrau'r Fro

Darnau allan o rifyn Medi 2014

Mae awduron Stiniog wedi bod yn brysur yn ddiweddar ac fe daeth pedwar llyfr newydd sbon o’r gweisg. Ni fu’r ardal erioed yn brin o dalentau.

* Lansiwyd llyfr yn dwyn y teitl ‘O’r Llechi i’r Cerrig’ gan Dr. Eddie John Davies, Cae’r Ffridd gynt. Yn hwn mae’r doctor yn rhoi teyrnged i fro’r llechi ei fagwraeth ac yn mynd ymlaen i roi ei hanes fel meddyg teulu yng Ngherrig y Drudion a’r cylch – felly’r llechi a’r cerrig. Fel y gwyddom mae cefndir meddygon teulu heddiw yn dra gwahanol i’r hyn roedd pan nad oedd oriau gweithio’n cael eu cydndabod. Mae llawer ‘strach doniol’ yma ac acw yn y llyfr ymysg a’r argyfyngau. Llyfr ‘poced’ gwerthfawr a hwylus.













* Yna, yn neuadd y WI, fe lansiwyd llyfr newydd gan Vivian Parry Williams ar ‘Elis o’r Nant– Cynrychiolydd y Werin’, sydd yn cyflwyno cefndir go lawn ar hanes y newyddiadurwr Ellis Pierce (1841-1912) o Gwm Wybrnant. Geraint Vaughan Jones oedd yn arwain y noson o’r llwyfan, a Bruce Griffiths, Gwyn Thomas, a Rheinallt Llwyd yn diddanu’r neuadd lawn efo darlleniadau o’r gyfrol. Cafwyd cyflwyniad hefyd gan yr awdur ei hun, yn ogystal a’r cyhoeddwr, Myrddin ap Dafydd, o Wasg Carreg Gwalch. Roedd Elin Angharad o Siop yr Hen Bost yno ar y noson hefyd i werthu’r llyfr, a bu hen drafod a hel straeon wrth i’r prynwyr aros i gael cyfarchiad oddi mewn i’r clawr gan Vivian.

* Yn y llyfrgell lansiwyd y nofel ‘Fel yr Haul’ gan Eigra Lewis Roberts. Gweler adolygiad isod.

* Lansiwyd llyfr yn Saesneg hefyd gan Hywel Roberts (gynt o Lan Ffestinog a mab i’r prifathro ar y pryd, Emyr Roberts) yn Eglwys Sant Tudclud, Penmachno, yn dwyn y teitl ‘Uncle Tom at War – from Penmachno to Prison Camp’. Ymunodd Thomas Williams â’r Liverpool Scottish Regiment, ac mae’r llyfr yn cofnodi symudiadau’r gatrawd hyd at yr amser y cymerwyd Uncle Tom yn garcharor rhyfel.


Fel yr Haul gan Eigra Lewis Roberts
Adolygiad gan Marian Roberts.

Nofel hanesyddol yw hon sy'n portreadu chwe blynedd olaf y gyfansoddwraig ddawnus Morfydd Llwyn-Owen.  Fe'i ganed yn Nhrefforest yn yr hen Sir Forgannwg yn 1891, ac yn un-ar-hugain oed aeth i astudio cerddoriaeth yn yr Academi Frenhinol yn Llundain.   'Roedd hefyd yn gantores arbennig, a perfformiodd ei chaneuon ei hun ar lwyfan yn broffesiynol am y tro cyntaf yn 1917.
Ond er ei medr aruthrol fel cerddor a chantores ymddengys ar adegau yn ferch ifanc anaeddfed iawn.  Mae'n freuddwydiol ac oriog, ac yn ysu am sylw “cariad” yn gyson; mae'n ymddwyn fel plentyn gafodd ei difetha ar hyd ei bywyd.

Canlbwyntir yn y nofel ar fywyd cymdeithasol Morfydd ymysg Cymry Llundain – yn y Capel yn Charing Cross er enghraifft, a'i hymwneud ymylol â llenorion tra modern y cyfnod fel Ezra Pound a D.H.Lawrence.  Ceir yma hefyd ddarlun o fywyd ganrif yn ôl gyda chysgod y Rhyfel Mawr yn tarfu ar fywydau'r cymeriadau yn y nofel.






Erbyn diwedd y nofel, pan fu farw Morfydd yn drasig o ifanc, cawsom ddarlun ardderchog o'r ferch arbennig hon yn hanes cerddoriaeth yng Nghymru.
Mae'n nofel rhwydd i'w darllen a mwynheais hi'n fawr.  Anogaf eraill i'w darllen.


7.10.14

Rhod y Rhigymwr- Baled y Waled, a chwis enwau Stiniog

Rhan o golofn Iwan Morgan, o rifyn Medi.


Y mis hwn eto, cafwyd hanes am dro trwstan gan un o feirdd cocos yr ardal -  un a ddewisodd ffug-enw addas iawn. Diolch o galon i ‘Daz Cash’ am gân mor hwyliog i gofnodi profiad anffodus Bili Jôs, Bryngolau druan, ac am lwyddo i gael llun o’r ffortiwn yn sychu ar y lein ddillad:

Baled y Waled


Daeth galwad gan Bili - 'dach chi'n gwybod - gŵr Mary,
Yn gynnar, a finna' dan blanced;
Roedd mewn panic o ddifri', a llawn o dosturi -
Wedi colli ei ffortiwn, a'i waled.

Wedi ceisio'i dawelu, a finna'n fy ngwely,
Addewais fynd draw wedi codi,
Ac mi es ar i fyny, roedd yn ddeg erbyn hynny,
I Fryngola ato fo a'i wraig, Mary.

Er chwilio yn drylwyr, a'r ddau'n archeolegwyr,
Bu raid cadw'r tryweli a'r ceibia',
Er cael help gan fewnfudwyr, rhai â 'chydig o synnwyr,
Dim ond byw ar y plwy' a'u hwyneba'.

Ond wrth lwc, erbyn hyn, fe ddaeth heulwen ar fryn,
A bu datrys ar y panic ariannol;
Er ffonio y banc, i sôn am ei thranc,
Darganfyddwyd y waled ddiflannol.

Roedd Mary, y Mrs. wedi lluchio ei drwsus -
Neu'r shorts, mewn i'r periant i'w olchi,
Ac yn hollol anffodus,(mae hi'n ddigon anghofus),
Ni chwiliodd rhen dlawd y pocedi.

Wedi gorffen y golchiad, fe ddaeth yr agoriad,
A'r waled, a'i chynnwys yn socian;
A dyma ofyniad, ai Bil ga'dd y syniad,
Ynteu Mary, i ‘Laundro’ ei arian?

A wyneb y cwîn, fu'n y washing machine   
Ar ‘banknotes,’ oedd unwaith mewn waled,
Yn ‘fresh, squeaky clean’ wedi'r holl droi a thrin' -
A dyna yw diwedd y faled.

Daz Cash


***
Cwis Enwau ‘Stiniog:
Mae pump o enwau dalgylch Llafar Bro i’w cael yn y cwpledi isod. Fedrwch chi eu canfod?

1.    Bu Ioan yn y ------------,
Hoff yw o ‘marfer ei ffydd!

2.    Yn ----- ------ mi wn y caf
    Resi o’r tatws brasaf.

3.    Codaid o goncrid cadarn
    Roed is y wal ger ------ ------.

4.    Ni chais Wil o’r -------- ------
    Un dim am dail ei domen.

5.    Daeth mynach gwyn derfyn dydd 
    Dros fawnog i -------------.