26.10.20

Hwylfa

Man gwyn, man draw. Gorau Cymro, Cymro oddi-cartref... idiomau cyfarwydd. Ac mae HIRAETH yn fwy na gair i ni Gymry.  Gair sydd ddim yn cyfieithu; sy'n cyfleu cymaint. 

Mae pob un ohonom dwi'n siwr -ryw ben yn ein bywydau- yn gyfarwydd â'r teimlad o fod isio torri'n rhydd: gadael cynefin i weld y byd. Meddwl bod rhywbeth gwell dros y gorwel; nad ydi'n milltir sgwâr ni yn ddigon. Rhy fach, rhy gul, diflas efallai. A sylwi'n aml iawn ar ôl troi cefn, 'Os nad yw hi'n fawr mae hi'n ddigon'. Pan rydym yn sylweddoli yr hyn sy'n llithro o'n gafael ni, dyna pryd mae ei werth yn dod yn amlwg.

Dyma gerdd hyfryd gan Vivian Parry Williams, a gyhoeddwyd gyntaf yn rhifyn Medi 2020, sy'n cyfleu hyn i'r dim. Mae'r Hwylfa yn leoliad sy'n arbennig i'r bardd wrth gwrs, ond mae gan bob un ohonom ein Hwylfa ein hunain.



Hwylfa

Rhyw dro yn ôl, a hithau’n oer,
Mewn niwl ar ben yr Hwylfa,
Daeth awydd bod mewn gwlad sydd bell
Dan awyr ddi-gymyla’.

Mi fynnais fynd i deithio byd
Ymhell o oerni gaea’,
Ymhell o’r gwynt sy’n fferu corff,
A’r niwl ar ben yr Hwylfa.

Rhyw dro yn ôl, mewn gwlad sydd bell,
Dan awyr ddi-gymyla’
Hiraethais am gael teimlo ias
Y niwl ar ben yr Hwylfa.

Er imi fynd a theithio byd
A chyffwrdd gwres cynhaea’
Rhyw hudol reddf a’m geilw ‘nôl
Drwy’r niwl i ben yr Hwylfa.


Vivian Parry Williams

(Llun -Cwmorthin dan niwl, gan Helen McAteer)



19.10.20

Sôn am dywydd 2

Ail hanner erthygl Bruce Griffiths, o'i gyfres Iaith 'Stiniog


Eira: dywedem bwrw eira, wrth gwrs, ond i mi mae pluo eira yn cyfleu’r peth yn dlws iawn. Cofiaf glywed eira mân, eira mawr: [Yn ôl Owen John Jones, yn ei Dywediadau Cefn Gwlad, mae ail linell: pluo’n fras, ond cynfas] tybed a ddywedid hyn cyn heth ddiddiwedd 1947? (Gair yn tarddu o’r Saesneg, mae’n debyg.) Bu’r ysgolion ynghau am chwe wythnos, os iawn y cofiaf. Cliriwyd Stryd Fawr y Blaenau ar gyfer cerbydau, ond golygodd hynny godi cloddiau o eira, uwch na’ch pen, ar hyd y pafin o bob ochr i’r stryd, gan adael felly lwybr cul fel twnnel, rhwng y mur eira a thu blaen y siopau. Gwasgfa fyddai trio pasio rhywun. Ym mhobman arall ceid lluwchfeydd anferth: dyn a ŵyr sut yr eid at ffermydd a thyddynnod cefn gwlad. Ni redai trenau na bysus am wythnosau, onid am fisoedd. 

Ond o’r diwedd oer i rewi, oerach i feirioli. ‘Dyna air tlws,’ meddai dysgwraig wrth Ann fy ngwraig yr wythnos o’r blaen. Cytuno! Dadmer a ddywedir ym Môn ac Arfon, a dadlaith/ dadleth yn y De. Y meiriol y galwem y cyfnod. Byddai Meirioli ym Meirionnydd yn enw tlws ar alaw, mi greda’ i. Holodd Ann am esgyrn eira, ymadrodd da ar gyfer gweddillion eira yn gorwedd mewn pantiau ar y mynydd, y byddai rhai yn dweud yn aros am ragor. Mae’n enw llyfr gan Robin Williams, ond ni wn i ddim ai fo a’i fathodd ai peidio. Ni chlywais mohono erioed yn y Blaenau.



Ar ôl glaw trwm, mi sylwasoch, mae’n siŵr, ar glytiau o ddaear ar y llethrau, yn loyw gan law. A oes neu a oedd gennym enw arnynt? Mi glywais yr enw clytiau Marsli gan bobl o ochrau Llŷn ac Eifionydd. Holais y Dr Trefor M. Owen, (gynt pennaeth Sain Ffagan) perthynas imi trwy briodas, ac un o’r ardal, a eglurodd mai enw merch oedd Marsli, ffurf ar Marjorie, a geid yn ei deulu ers cenedlaethau.

 Ar ôl glaw, siawns na welem enfys: dyna’r gair a gofiaf i, ond mi wn fod pont y glaw - enw tlws, addas - i’w glywed trwy rannau helaeth o Sir Feirionnydd a Sir Ddinbych, ac fe glywir yr enw yn y chwarae plant, (tebyg i Oranges and Lemons yn Lloegr) lle byddai dau blentyn, tan ganu ‘pwy ddaw, pwy ddaw dan bont y glaw?’yn cydio dwylo ei gilydd i ffurfio bwa y byddai’r plantos eraill yn rhedeg oddi tani nes y delid un trwy ollwng y ‘bont’ amdano/amdani! Clywir, neu fe glywid, hyn ym Mhenmachno, ond ni alla’i ddweud imi fod yn gyfarwydd â’r chwarae yn y Blaenau. Trueni, ynte? Buasai’n ffordd dda o ddathlu diwedd arni’n tresio glaw. (Gyda llaw: chi enweirwyr: nid ‘brithyll enfys’ mo rainbow trout, ond brithyll seithliw!) Gelwid diwrnod o law a heulwen bob yn ail yn ddiwrnod priodas llwynog.


Dyma ambell dric tywydd arall a gofiaf. A welsoch yr awyr yn heulog ac yn las, ond yn frith o gannoedd o gymylau bychain gwynion - nid arwydd o law er hynny. Cofiaf fy nghyfyrder Gwyn Thomas, pan oeddem yn crwydro o gwmpas Dolwen, yn dysgu imi mai traeth awyr, neu awyr draeth, oedd hynny (mackerel sky, a ddywed y Sais, am ei debygrwydd i gefn macrell). Rhyfeddod prinnach ydy’ cŵn haul: sef yr haul a heuliau eraill yn gylch trefnus o’i gwmpas, ond heb fod mor loyw a thanbaid. Cofiaf weld yr haul a thri chi o’i gylch, ar lan y môr yn Llanfair ger Harlech, yn 1976. 

Weithiau gellir gweld rhyw ddwsin o heuliau, yn ôl tystion geirwir. Arwydd o beth, ni wn i ddim. Sawl tro gwelais byst haul, sef pelydrau cryfion yn torri trwy gymylau trwchus [bysedd haul medd rhai –gol]. 

Bysedd haul, 'ta pyst haul ydi'r rhain i chi?

A beth am y nos? Ceir nosweithiau gweddol olau, wrth gwrs, megis noson olau leuad neu (efallai) noson loergan, ond mi fetia’i fod noson dywyll fel bol buwch neu fel y fagddu yn fwy cyfarwydd. Cyn imi anghofio: yn ei lyfr Blas ar Iaith Llŷn ac Eifionydd, nododd fy hen gyfaill, Bedwyr Lewis Jones, y sylw am Foel y Gest: ‘Pan fydd y Foel yn gwisgo’i chap/ Ni cheir fawr hap ar dywydd’, a’r un sylw am Garn Fadrun a’r Rhiw. Cofiaf yn iawn sôn am rybudd ‘y Moelwyn yn gwisgo’i gap’, ond ni chofiaf unrhyw ail linell fel’na. A gofiwch chi?



Oes arnoch awydd gwybod rhagor am y tywydd? Ewch i siop yr Hen Bost a holi am Am y Tywydd: Dywediadau, Rhigymau ac Ofergoelion, gan Twm Elias. Gwasg Carreg Gwalch, 2008 a Dywediadau Cefn Gwlad Owen John Jones (Gwasg Gee, 1977).  Byddai llyfr Bedwyr wrth eich bodd, o ran hynny (Gwasg Carreg Gwalch, 1987) a llyfr Trefor Owen, Welsh Folk Customs.
Bruce Griffiths.
-----------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2020, fel rhan o erthygl hirach.

Gwthiwch ar y ddolen IAITH STINIOG i weld gweddill y gyfres.

(Lluniau- Paul W)

15.10.20

Sôn am Dywydd ’Stiniog!

Pennod arall yng nghyfres Iaith 'Stiniog gan Bruce Griffiths


Ar ôl sôn am iaith ein chwareli, addewais y soniwn am beth arall y mae ’Stiniog yn enwog amdano, sef ei dywydd. Mae glaw ‘Stiniog yn ddiarhebol. 

Cofiaf yn blentyn glywed gan ein hathro daearyddiaeth ein bod yn cael cant a deugain modfedd o law bob blwyddyn. Ni wn ba faint ydy’ hynny yn ôl y system fetrig newydd. Soniem amdani’n tatsian y glaw, yn pistyllio glaw, yn piso glaw (wrth gwrs), yn stido ac yn ‘stilio ac yn tresio bwrw glaw, ac yn bwrw fel o grwc.  

 

Cofiaf y byddai fy nain yn adrodd, gydag afiaith,

‘Bobol! ’Roedd hi’n bwrw
Y diwrnod hwnnw!
’Roedd hi’n bwrw fel o grwc,
Ond ‘roedd Noa yn yr arch, wrth lwc!’
(Ai gwaith un o’n beirdd lleol?) Cofiaf ddysgu ‘bwrw hen wragedd a ffyn’ yn yr ysgol, ond ni alla’i daeru imi ei glywed ar lafar. 


Ceid amryw fathau o law, wrth gwrs. Sonnid am law mân, smwclaw, smwcan, smitlaw, glaw smwc a glaw mynydd (glaw ysgafn); yr oedd curlaw, trymlaw a glaw t’rana yn drymach. O ba air y daeth smwc, tybed? Ni ddywed Geiriadur y Brifysgol. Sŵn Seisnig sydd iddo: tybed ai o smog neu o smoke? Mwrllwch fyddai’n gair ni am hynny: gair da, a sŵn sinistr iddo, a tawch, tarth, hefyd, am niwlen yn codi o ddŵr. (Ar hyd glannau’r Fenai, sonnir am rwd sychdwr, sef tarth a welir ar y Fenai ar ôl gwres mawr.) Cyn storm, byddem yn ei chael hi’n drymaidd, yn fwll, yn glòs, yn teimlo closrwydd, closni, trymder, myllni; yn Arfon clywir weithiau mae hi’n wygil neu’n fwygil (o’r gair mwygl). Efallai y clywir mwyglo a mwygledd yno o hyd.

'Wir i chi mae hi'n braf o hyd ym Mlaenau Ffestiniog..!' Y Garreg Ddu dan gawod drom


Caem law trwm iawn pan geid storm o fellt a tharanau, a hynny’n bur aml, a byddai mam yn beio’r Traws, ‘o achos yr holl haearn sydd yn y ddaear yno’! Yn aml, cyn storm, gwelem ddreigiau mellt yn dreigio ar draws y nen, heb sŵn yr un daran (enw’r Sais yw sheet lightning). Ers talwm, pan geid rhyw glefyd (ffliw, y frech goch, brech yr ieir neu’r clwy pennau) yn gwibio trwy’r ardal, clywid dweud ‘mae ’na ryw luchedan yn mynd o gwmpas’ (nid ‘rhyw fyg’). Dyna air hollol ddieithr i bob ardal arall yn y Gogledd, hyd y gwn. O ble y daeth? Ateb: yn y De ni sonnir am fellt a tharanau, ond am luched a thyrfe (lluosog y gair twrw/twrf). Peth sy’n mynd fel mellten ydy’ ein lluchedan ni. Ond sut y daeth atom o’r De, a chydio yma? Clywais mai glaw gochel ydy’ enw pobl Penmachno ar law trwm (y mae’n rhaid ’mochal rhagddo).  Credid -gynt, o leiaf- bod glaw mis Mai yn beth da i’r llygaid a hefyd yn lladd llau ar wartheg.


Yn yr ysgol mae brith gof gennyf o glywed, darllen ac efallai dysgu chwedl Morus y gwynt ac Ifan y glaw, y ddau am y gorau i beri i deithiwr dynnu ei gôt; yn ofer - yr haul a lwyddodd, wrth gwrs. A oedd yna wers inni yn ’Stiniog? (Nid bod gennym fawr o ddewis.) A fyddai gennym ni enwau ar y gwahanol wyntoedd? Cofiaf wynt traed y meirw, am mai o’r dwyrain y chwythai: cleddid y meirw â’u traed tua’r dwyrain, crud Cristnogaeth a’r Atgyfodiad. Clywais gwynt o’r hen Bengwern gan bobl o Sir Drefaldwyn: enw i ennyn parch o ddifrif, achos mae’n rhaid ei fod yn dra hynafol: Pengwern oedd enw gwreiddiol y Cymry ar Amwythig. Enw arall: gwynt o dwll y glaw / yn nhwll y glaw (sef y De, am a wn i).


Mae cofio am eirlaw (ac eirlawio efallai) yn dwyn i gof ein gair ni am y peli eira a daflem at ein gilydd, sef mopan (lluosog mopins) - hwyl hen ffasiwn, ynte? Ceid gwahanol fathau: gwgid ar daflu mopins rhew a gwaeth fyth mopins cerrig, gan y gallai’r rheiny eich brifo’n arw. Clywir mopan (a mopio?) mewn ambell ardal arall, e.e. yn y Port, ond o ble y daeth y gair? A oes wnelo â’r mop sychu llawr? Nac oes! Tebyg iddo ddod o’r gair Saesneg to mob, sef pledu rhywun (a daw pledu o’r S. pellet, pelt). Wrth gwrs, fel ym mhobman arall, caseg eira y galwem belen fawr iawn, nid i bledu neb ond i’w phowlio i lawr allt neu le fel Cae Ochor. (Gyda llaw; yn ardal y Bala bathodd ffermwyr caseg wair yn enw ar yr hyn a eilw’r Sais yn big bale. Da yntê!

 ----------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2020, fel rhan o erthygl birach. Yr ail yn fan hyn.

(Lluniau- Paul W)


11.10.20

Y Dref Werdd yn cyflwyno prosiect Sgwrs...

Erthygl arbennig i'r we, gan Non Roberts


Rydym wedi bod yn brysur iawn yn yr Hwb Cymunedol dros y misoedd diwethaf yn siarad â phobl ein cymunedau er mwyn adnabod yr heriau sydd wedi eu hwynebu drwy gyfnod y pandemig.
Un o’r pethau mwyaf trawiadol y gwnaethom ganfod yn hyn, oedd yr holl unigolion sydd wedi bod yn teimlo’n unig ac ynysig dros y cyfnod, ac yn parhau i deimlo fel yma.
 

Felly, rydym wedi bod wrthi’n sefydlu cynllun newydd cyfeillio dros y ffôn er mwyn ymateb i’r her hon ac yn gobeithio y gwelwn fywyd yn gwella rhywfaint i lawer un.
Rydym yn chwilio am Gyfeillwyr caredig fydd yn rhoi galwad ffôn bob wythnos am hyd at un awr i Ffrind er mwyn cael sgwrs gyfeillgar a chodi calon.
 

Dyma rai o’r manteision y gall cefnogaeth gyfeillio ei roi i ffrindiau -

•    Lleihau iselder
•    Cynyddu sgiliau cymdeithasol
•    Gostwng arwahanrwydd cymdeithasol
•    Cynyddu hunan reolaeth
•    Cynyddu hunan-barch a hyder
•    Gostwng y risg o fod yn fregus a chael camdriniaeth
•    Codi ymdeimlad o bwrpas

Felly fel y gwelwch, mae llawer iawn o fudd i’w gael o’r cynllun i Ffrindiau ond yn ogystal, gall Cyfeillwyr gael budd mawr drwy fod yn rhan hefyd a drwy wybod eu bod yn helpu eraill, gan dderbyn cefnogaeth a phrofiad, i fod yn rhan o gymuned, i wneud rhywbeth newydd ac i wneud rhywbeth gwerthfawr i eraill.
 

Byddwn yn diogelu pawb drwy roi Cyfeillwyr newydd drwy wiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ac yn ei arfogi â phecyn hyfforddiant ac adnoddau ar gynnal sgyrsiau iach a buddiol.
Os oes ganddoch ddiddordeb bod yn rhan o gynllun Sgwrs, mi fyddwn yn falch iawn o glywed gennych drwy’r dulliau isod.
Yn yr un modd - os ydych chi’n adnabod rhywun fyddai’n gallu elwa o gynllun Sgwrs, gadewch i ni wybod ac mi wnawn fynd ati i drefnu galwad cyson i godi eu hwyliau.
 

Cysylltwch â:
Non Roberts, Cydlynydd Gwirfoddolwyr Cymunedol
Rhif ffôn - 07385 783340
E-bost - non@drefwerdd.cymru

Dilynwch ar:

Facebook - @HwbCefnogiCymuned
Twitter - @hwb_cymunedol


10.10.20

Cymuned a Chorona

85% o bobl Bro Ffestiniog yn teimlo bod y gymuned yn gwneud mwy i helpu pobl yn ystod yr argyfwng. Yn ogystal, roeddynt yn amlwg yn poeni am yr effaith ehangach ar y bobl sy'n byw yno a’r amgylchedd yn hytrach na'r effaith ar yr economi."

Nid yw’n syndod erbyn hyn fod y firws corona wedi cael effaith seismig ar ein bywydau ac wrth i’r cyfnod clo ddechrau lleddfu, mae hi’n bwysig dechrau meddwl am yr adferiad.  Sut mae ceisio am newid er gwell?  Er bod y cyfnod clo wedi bod yn gyfnod dyrys a chaled i nifer, oes canlyniadau positif, annisgwyl y gallwn barhau?  Mae cymuned Bro Ffestiniog wedi bod yn gofyn rhai o’r cwestiynau hyn yn ogystal â cheisio darganfod sut mae’r trigolion wedi ymateb i’r argyfwng a pa effaith mae’r newid hwn wedi cael ar eu bywydau. 


Fel rhan o brosiect ymchwil cymunedol Cwmni Bro Ffestiniog, gofynnwyd i aelodau'r gymuned lenwi arolwg ar-lein am eu profiadau o'r firws.  Bu’n gyfle i holi am eu pryderon ac am yr effaith y byddai'r newidiadau yn ei gael ar eu cymuned, yr economi a'u cymdogion. 

 

Mae'r ymchwil yn ymdrech gydweithredol rhwng sawl unigolyn a sefydliad sy'n gwasanaethu'r gymuned, wedi'i gydlynu gan yr Athro Julie Froud a'r Athro Karel Williams, Ysgol Fusnes Prifysgol Manceinion. Maent yn arweinwyr ym maes astudio’r economi sylfaenol ac wedi bod yn allweddol wrth ddylanwadu ar academyddion, llunwyr polisi a’r llywodraeth yng Nghymru. Aelodau eraill o'r tîm cydweithredol yw Dr Lowri Cunnington, Prifysgol Aberystwyth, tîm ymchwil a dadansoddeg Cyngor Gwynedd, Arloesi Gwynedd Wledig, Cyngor Tref Ffestiniog, a gweithwyr datblygu yng nghwmni Bro Ffestiniog. Ac, yn bwysicaf oll, pobl Bro Ffestiniog.


Hyd yn hyn, cafwyd oddeutu 250 o ymatebion i'r arolwg ac mae rhai o'r data cychwynnol wedi darparu mewnwelediad diddorol. Roedd cyfran sylweddol, tua 85% o'r cyfranogwyr yn teimlo bod cymuned Bro Ffestiniog yn gwneud mwy i helpu pobl yn ystod yr argyfwng.  
 

Yn ogystal, roeddynt yn amlwg yn poeni am yr effaith ehangach ar y bobl sy'n byw yno. Ond o adfyd mae yna wytnwch amlwg gan y gymuned i gefnogi ei gilydd ac i sicrhau bod Bro Ffestiniog yn parhau i allu meithrin datblygiad economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac addysgol yr unigolion a’r ardal.

Mae gan yr ymchwil hefyd arwyddocâd ehangach oherwydd ei fod yn darparu gwersi, yn enwedig ar yr economi sylfaenol, a fydd yn berthnasol i ddeall a datblygu cymunedau eraill yng Ngwynedd ac ar draws Cymru.
 

Darllenwch yr adroddiad yn llawn.
Os ydych chi'n byw ym Mro Ffestiniog ac os nad ydych chi eisoes wedi llenwi'r arolwg, ystyriwch wneud hynny os gwelwch yn dda, trwy ddilyn dolen o FB/Twitter.
Mae eich barn chi’n bwysig iawn i ni. Diolch.
Ceri Cunnington
-----------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2020, y rhifyn papur cyntaf i ni gyhoeddi ar ôl haf o rifynnau digidol (sy'n dal ar gael am ddim ar wefan Bro360)



6.10.20

‘Stiniog o’r Wasg Erstalwm (3)

Pennod arall o gyfres Vivian Parry Williams

Tybed ai wedi cael gormod o gwrw cryf y Pengwern Arms oedd dau ŵr o Benmachno, a gollodd eu bywydau ar y ffordd adref o 'Stiniog, wrth iddynt ddisgyn i mewn i dwll Chwarel Ffridd Blaen-y-cwm, a boddi mewn pwll o ddŵr ddeg llath yn y gwaelod. Cafwyd adroddiad o farwolaeth trist David Evans, gof, a Hugh Hughes, mab gweinidog y Wesleaid ym Mhenmachno, dau ŵr priod, yn y North Wales Chronicle (NWC) ar 8 Rhagfyr 1834.   


Hysbysebion a ymddangosent yn rheolaidd oedd rhai oedd yn sôn am ocsiwns i osod tollbyrth ar ffyrdd tyrpeg yr ardal. Un o’r rhai cynharaf yn y wasg sy’n cyfeirio at yr ardal hon yw’r un yn y NWC ar 3 Chwefror 1835, yn dweud bod ocsiwn i’w gynnal ar bedair tollborth o fewn, neu’n agos at y cyffiniau hyn. Roedd hynny’n digwydd yn y Maentwrog Inn ar y 4 Mawrth 1835, rhwng dau a phump o’r gloch y p’nawn. Enwir pedair tollborth, Maentwrog, a gasglodd swm o £431 o dollau y flwyddyn cynt, Ffestiniog, (£80) Carreg pen gyflin (£36) a Thalsarnau (£32). Cyfeirir hefyd at ddwy dollborth ar y ffordd breifat, yr adeg hynny, o Dan-y-bwlch i Dremadog, sef Caevalley a Caegwyn oedd yn cael eu gosod ar ocsiwn am y pris uchaf. Byddai'r hysbysebion hyn yn ymddangos yn flynyddol, ac am wythnosau ar y tro, ym mhapurau newyddion y 19eg ganrif.

Achlysur pwysig iawn yn hanes 'Stiniog oedd agoriad swyddogol y Lein Fach, gan oruchwiliwr y cynllun, James Spooner, ar yr 20fed o Ebrill 1836, a chafwyd adroddiad llawn o'r achlysur yn y NWC ar 26 Ebrill 1836. Yn ôl pob golwg, roedd yn ddiwrnod cyffrous iawn, wrth i wagenni o lechi chwarel Holland gael eu llwytho, a'u hanfon bob cam i'r cei ym Mhorthmadog. Yn gwmni i'r llechi roedd sawl coets yn cario pwysigion y dydd, gyda chanans yn cael eu tanio ar hyd y siwrnai i'r Port. Wedi cyrraedd pen y daith, yr oedd cwmni'r rheilffordd wedi trefnu gwledd a 'chwrw da' ar gyfer y gwesteion a'r gweithwyr ar lawnt Morfa Lodge, cartref Spooner. Roedd seindorf o Gaernarfon wedi ei hurio i gyflenwi adloniant i'r dyrfa a oedd wedi dod yno i fwynhau'r achlysur hanesyddol hwnnw. 

Gan ein bod yn trafod y lein fach, diddorol oedd darllen hanes achos cyfreithiol yn erbyn cwmni Rheilffordd Ffestiniog yn y Manchester Times and Gazette 19 Mawrth 1837, llai na blwyddyn wedi'r agoriad swyddogol uchod. Achos a ddygwyd gan weddw un John Smith, a benodwyd ar y dechrau i osod rhai o gledrau'r lein fach o'r Blaenau i Borthmadog. Wedi gwneud peth o'r gwaith, bu anghytundeb rhwng y contractor a'r cwmni, ac fe ddiswyddwyd Smith, a phenodi James Spooner i gwblhau'r gwaith. Canlyniad yr achos yn erbyn Rheilffordd Ffestiniog oedd i'r cwmni orfod talu iawndal o £5000 i weddw Smith, swm anferthol y cyfnod hwnnw. Diddorol hefyd oedd darllen rhan o'r adroddiad, sy'n cyfleu naws iaith y cyfnod yn glir.

The plaintiff's counsel were about to call witnesses, most of whom were stated to be wholly unable to speak the English language...
Cynhwysid adroddiadau o'r achos hwn mewn nifer o bapurau newyddion wythnosol y cyfnod, sydd yn profi pa mor ddylanwadol oedd y lein fach mor gynnar â 1837.

Ceir sôn am y North and South Wales Bank am y tro cyntaf mewn hysbyseb yn y NWC ar 29 Awst 1837, sydd yn brawf bod arian yn cylchdroi yn y plwyf yr adeg honno. Trafod talu allan difidend ar gyfranddaliadau yn y banc mae'r hysbyseb. Yn anffodus, ni enwir lleoliad y banc cynnar hwnnw, ond tybir mae yn y fan lle saif bwyty’r Chwarelwr heddiw (hen fanc y Midland/HSBC) oedd y safle. 

Ymddiheuraf am adael trefn gronolegol yr ysgrif hon, gan neidio saith mlynedd, i gyfeirio at ddigwyddiad a ellir ei ysytyried fel yr ymdrech o ladrad banc cyntaf 'Stiniog, cyn belled yn ôl â 18fed o Fai 1844. Adroddwyd yn y NWC 28 Mai 1844 am rywrai yn torri ffenest yn y banc a enwir uchod, ond yn cael eu styrbio ac yn gorfod dianc rhag eu dal, gan adael ysgol yn gorwedd yn erbyn wal y banc. “They evidently were experienced thieves”  meddai'r gohebydd ar ddiwedd ei lith.
----------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf/Awst 2020.

Mae rhifynnau digidol y cyfnod clo ar gael am ddim ar wefan Bro360


2.10.20

Stolpia -Atgofion am Greaduriaid Natur

Pennod arall o gyfres Steffan ab Owain

Yr oedd byw a thyfu i fyny yn Rhiwbryfdir yn niwedd yr 1940au a’r 1950au yn addysg am fyd natur yn ei hun. Ymhlith y pethau cynharaf yr wyf yn ei gofio am greaduriaid ein cynefin y pryd hynny yw gweld ambell lygoden fawr, un neu ddau o lwynogod ac amrywiaeth o adar bach.

Y fi a’r hen dŷ bach

Neidr ynteu llygoden?
Y cof cyntaf sydd gennyf o weld llygoden fawr oedd yn yr hen dŷ bach (toiled) ymhen draw yr ardd yn 2 Bryn Dinas pan roeddwn tua phedair, neu bum mlwydd oed. 

Sut bynnag, meddyliais yn wir mai neidr oedd hi, gan mai gweld ei chynffon yn ysgwyd yn ôl a blaen o dan sedd y toiled a wnes i ddechrau. 

Wedi mynd i’r tŷ dywedais wrth fy nhad bod neidr yn y closet, ond ar ôl iddo fynd draw yno a thynnu un pren o ochr y sedd, mi welais yr hen lygoden fawr yn ei sgrialu oddi yno am ei bywyd.

Dro arall, gwelais glamp o lygoden fawr yn dod o ochr y cwt ieir yng ngwaelod yr ardd, ac yn cario rhywbeth fel gwelltyn yn ei cheg.

Y tro hwnnw, mi es i nôl y gath o’r tŷ a’i rhoi ger y twll lle roeddwn wedi gweld y llygoden yn diflannu iddo, ond nid oedd gan yr hen gath fymryn o ddiddordeb yn y dasg o’i dal hi a cherdded yn ôl i’r tŷ a wnaeth.
 

Cefnau tai’r lein a’r ffens grawiau, tai Bryn Dinas, Glandulyn a Chapel Rhiw (MC).

 

Carchar Llwynog
Cedwid ieir gan amryw o drigolion Rhiwbryfdir yn yr 1950au ac o dro i dro byddai yr hen Sion Blewyn Coch yn cymowta ac yn prowla o gylch y lle yn ystod y nos yn y gobaith o gael tamaid blasus.Wel, un bore, ac fel yr oeddwn yn codi o’m gwely, dyma fi’n clywed coblyn o glec fawr o ymyl Cae Joni (Cae Dolawel) a thu ôl i’r tai lein (Heol Glanypwll ) tros y ffordd. Ar ôl cyrraedd y drws ffrynt roedd amryw o’n cymdogion allan yn holi beth â oedd wedi digwydd. 

Er mwyn cael gwybod mwy aeth rhai ohonom i gefnau tai lein, ac yno gwelsom yn union beth oedd y rheswm am yr ergyd. Roedd llwynog wedi mynd yn sownd rhwng dwy grawen y ffens grawiau a fyddai yno, ac yn methu’n lan a dod yn rhydd. Roedd y creadur wedi ei garcharu rhyngddynt.Yn y cyfamser, roedd rhywun wedi galw am Llew Dwyryd, Neuadd Wen, a fyddai’n hela, ac roedd yntau wedi saethu’r llwynog yn gelain. Golygfa braidd yn ddychrynllyd oedd hi i ni’r plant y bore hwnnw.

Gwennol Ddu yn yr oedfa
Dwy stori arall sy’n dod i’m cof, ond y tro hwn, y ddwy ohonynt am adar. Byddai gwenoliaid duon, jacdoeau, ac adar to yn nythu dan bondo Capel Rhiw  pob gwanwyn, neu ddechrau’r haf, pan roeddem ni’n hogiau. Cofiaf i un wennol ddu, rywdro yn yr 1960au cynnar, weithio ei hun i mewn i’r capel ar ddydd Sul a phenderfynu hedfan ogylch y lle. Ceisiwyd ei dal gan rai o’r blaenoriaid cyn i oedfa’r hwyr ddechrau, ond roedd hi allan o’u cyrraedd, ac yn rhy gyflym iddynt o beth goblyn , ac felly, bu’n hedfan uwch ein pennau trwy’r oedfa, ac yn sgrech-wichian pob hyn a hyn. 

Ceisiodd y gweinidog gystadlu ei orau glas â’r wennol ddu a’i sŵn, ond rhywfodd, ni chredaf iddo lwyddo, gan i’r wennol ollwng anrheg o’i phen ôl a glaniodd hwnnw ar ysgwydd un o’r aelodau, ac wrth gwrs, aeth rhai ohonom i biffian chwerthin am y peth. Bu honno yn noswaith bythgofiadwy yn y capel i ni’r hogiau.

Cyw Jac-do efo cof da
Cofiaf dro arall, a phan oeddem yn preswylio yn rhif 2 Dwyryd Teras yn yr 1960au - tŷ Albert heddiw-  roeddwn yn cerdded i lawr  heibio Capel Rhiw, ac o fewn dim tynnwyd fy sylw gan ddynes at gyw jac-do a oedd wedi syrthio o’i nyth yn uchel oddi ar ochr y capel. Gan ein bod ni’r hogiau yn bur dda gydag adar, ac amryw ohonom wedi cadw colomennod am sbelan go lew, gofynnwyd imi os gallwn wneud rhywbeth i helpu’r cyw druan. Gwelwn nad oedd y cyw yn ddigon tebol i hedfan yn ôl, a bron yn amhosib imi ei roi yn ôl yn y nyth gan ei fod mor uchel, daeth  jaco adref gyda mi.

Edrychais ar ei ôl am ryw dair wythnos, ei fwydo a glanhau ei gratj, a cheiso ei gadw rhag gwneud sŵn tros y lle. Daeth yn ei flaen yn bur dda, ac er mwyn gweld os yr oedd wedi cryfhau digon  cafodd ryddid i geiso hedfan yn yr atig. Bu wrthi yn hedfan am ychydig funudau yno a phenderfynais ei ollwng bore drannoeth, ac felly, mi es i a fo i ben uchaf yr ardd yng nghefn y tŷ a’i ryddhau. Chwifiodd ei adenydd a hedfan  yn weddol uchel, ond yr hyn a synnwyd fi yn fwy na dim oedd ei weld yn anelu yn syth am Gapel Rhiw. Tybed sut oedd jaco yn cofio mai yn fanno oedd ei gartref ? Mae’n rhaid ei fod a chof da, ‘doedd ?       
----------------------------------- 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf/Awst 2020.

Mae rhifynnau digidol y cyfnod clo ar gael am ddim ar wefan Bro360