2.10.20

Stolpia -Atgofion am Greaduriaid Natur

Pennod arall o gyfres Steffan ab Owain

Yr oedd byw a thyfu i fyny yn Rhiwbryfdir yn niwedd yr 1940au a’r 1950au yn addysg am fyd natur yn ei hun. Ymhlith y pethau cynharaf yr wyf yn ei gofio am greaduriaid ein cynefin y pryd hynny yw gweld ambell lygoden fawr, un neu ddau o lwynogod ac amrywiaeth o adar bach.

Y fi a’r hen dŷ bach

Neidr ynteu llygoden?
Y cof cyntaf sydd gennyf o weld llygoden fawr oedd yn yr hen dŷ bach (toiled) ymhen draw yr ardd yn 2 Bryn Dinas pan roeddwn tua phedair, neu bum mlwydd oed. 

Sut bynnag, meddyliais yn wir mai neidr oedd hi, gan mai gweld ei chynffon yn ysgwyd yn ôl a blaen o dan sedd y toiled a wnes i ddechrau. 

Wedi mynd i’r tŷ dywedais wrth fy nhad bod neidr yn y closet, ond ar ôl iddo fynd draw yno a thynnu un pren o ochr y sedd, mi welais yr hen lygoden fawr yn ei sgrialu oddi yno am ei bywyd.

Dro arall, gwelais glamp o lygoden fawr yn dod o ochr y cwt ieir yng ngwaelod yr ardd, ac yn cario rhywbeth fel gwelltyn yn ei cheg.

Y tro hwnnw, mi es i nôl y gath o’r tŷ a’i rhoi ger y twll lle roeddwn wedi gweld y llygoden yn diflannu iddo, ond nid oedd gan yr hen gath fymryn o ddiddordeb yn y dasg o’i dal hi a cherdded yn ôl i’r tŷ a wnaeth.
 

Cefnau tai’r lein a’r ffens grawiau, tai Bryn Dinas, Glandulyn a Chapel Rhiw (MC).

 

Carchar Llwynog
Cedwid ieir gan amryw o drigolion Rhiwbryfdir yn yr 1950au ac o dro i dro byddai yr hen Sion Blewyn Coch yn cymowta ac yn prowla o gylch y lle yn ystod y nos yn y gobaith o gael tamaid blasus.Wel, un bore, ac fel yr oeddwn yn codi o’m gwely, dyma fi’n clywed coblyn o glec fawr o ymyl Cae Joni (Cae Dolawel) a thu ôl i’r tai lein (Heol Glanypwll ) tros y ffordd. Ar ôl cyrraedd y drws ffrynt roedd amryw o’n cymdogion allan yn holi beth â oedd wedi digwydd. 

Er mwyn cael gwybod mwy aeth rhai ohonom i gefnau tai lein, ac yno gwelsom yn union beth oedd y rheswm am yr ergyd. Roedd llwynog wedi mynd yn sownd rhwng dwy grawen y ffens grawiau a fyddai yno, ac yn methu’n lan a dod yn rhydd. Roedd y creadur wedi ei garcharu rhyngddynt.Yn y cyfamser, roedd rhywun wedi galw am Llew Dwyryd, Neuadd Wen, a fyddai’n hela, ac roedd yntau wedi saethu’r llwynog yn gelain. Golygfa braidd yn ddychrynllyd oedd hi i ni’r plant y bore hwnnw.

Gwennol Ddu yn yr oedfa
Dwy stori arall sy’n dod i’m cof, ond y tro hwn, y ddwy ohonynt am adar. Byddai gwenoliaid duon, jacdoeau, ac adar to yn nythu dan bondo Capel Rhiw  pob gwanwyn, neu ddechrau’r haf, pan roeddem ni’n hogiau. Cofiaf i un wennol ddu, rywdro yn yr 1960au cynnar, weithio ei hun i mewn i’r capel ar ddydd Sul a phenderfynu hedfan ogylch y lle. Ceisiwyd ei dal gan rai o’r blaenoriaid cyn i oedfa’r hwyr ddechrau, ond roedd hi allan o’u cyrraedd, ac yn rhy gyflym iddynt o beth goblyn , ac felly, bu’n hedfan uwch ein pennau trwy’r oedfa, ac yn sgrech-wichian pob hyn a hyn. 

Ceisiodd y gweinidog gystadlu ei orau glas â’r wennol ddu a’i sŵn, ond rhywfodd, ni chredaf iddo lwyddo, gan i’r wennol ollwng anrheg o’i phen ôl a glaniodd hwnnw ar ysgwydd un o’r aelodau, ac wrth gwrs, aeth rhai ohonom i biffian chwerthin am y peth. Bu honno yn noswaith bythgofiadwy yn y capel i ni’r hogiau.

Cyw Jac-do efo cof da
Cofiaf dro arall, a phan oeddem yn preswylio yn rhif 2 Dwyryd Teras yn yr 1960au - tŷ Albert heddiw-  roeddwn yn cerdded i lawr  heibio Capel Rhiw, ac o fewn dim tynnwyd fy sylw gan ddynes at gyw jac-do a oedd wedi syrthio o’i nyth yn uchel oddi ar ochr y capel. Gan ein bod ni’r hogiau yn bur dda gydag adar, ac amryw ohonom wedi cadw colomennod am sbelan go lew, gofynnwyd imi os gallwn wneud rhywbeth i helpu’r cyw druan. Gwelwn nad oedd y cyw yn ddigon tebol i hedfan yn ôl, a bron yn amhosib imi ei roi yn ôl yn y nyth gan ei fod mor uchel, daeth  jaco adref gyda mi.

Edrychais ar ei ôl am ryw dair wythnos, ei fwydo a glanhau ei gratj, a cheiso ei gadw rhag gwneud sŵn tros y lle. Daeth yn ei flaen yn bur dda, ac er mwyn gweld os yr oedd wedi cryfhau digon  cafodd ryddid i geiso hedfan yn yr atig. Bu wrthi yn hedfan am ychydig funudau yno a phenderfynais ei ollwng bore drannoeth, ac felly, mi es i a fo i ben uchaf yr ardd yng nghefn y tŷ a’i ryddhau. Chwifiodd ei adenydd a hedfan  yn weddol uchel, ond yr hyn a synnwyd fi yn fwy na dim oedd ei weld yn anelu yn syth am Gapel Rhiw. Tybed sut oedd jaco yn cofio mai yn fanno oedd ei gartref ? Mae’n rhaid ei fod a chof da, ‘doedd ?       
----------------------------------- 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf/Awst 2020.

Mae rhifynnau digidol y cyfnod clo ar gael am ddim ar wefan Bro360


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon