6.10.20

‘Stiniog o’r Wasg Erstalwm (3)

Pennod arall o gyfres Vivian Parry Williams

Tybed ai wedi cael gormod o gwrw cryf y Pengwern Arms oedd dau ŵr o Benmachno, a gollodd eu bywydau ar y ffordd adref o 'Stiniog, wrth iddynt ddisgyn i mewn i dwll Chwarel Ffridd Blaen-y-cwm, a boddi mewn pwll o ddŵr ddeg llath yn y gwaelod. Cafwyd adroddiad o farwolaeth trist David Evans, gof, a Hugh Hughes, mab gweinidog y Wesleaid ym Mhenmachno, dau ŵr priod, yn y North Wales Chronicle (NWC) ar 8 Rhagfyr 1834.   


Hysbysebion a ymddangosent yn rheolaidd oedd rhai oedd yn sôn am ocsiwns i osod tollbyrth ar ffyrdd tyrpeg yr ardal. Un o’r rhai cynharaf yn y wasg sy’n cyfeirio at yr ardal hon yw’r un yn y NWC ar 3 Chwefror 1835, yn dweud bod ocsiwn i’w gynnal ar bedair tollborth o fewn, neu’n agos at y cyffiniau hyn. Roedd hynny’n digwydd yn y Maentwrog Inn ar y 4 Mawrth 1835, rhwng dau a phump o’r gloch y p’nawn. Enwir pedair tollborth, Maentwrog, a gasglodd swm o £431 o dollau y flwyddyn cynt, Ffestiniog, (£80) Carreg pen gyflin (£36) a Thalsarnau (£32). Cyfeirir hefyd at ddwy dollborth ar y ffordd breifat, yr adeg hynny, o Dan-y-bwlch i Dremadog, sef Caevalley a Caegwyn oedd yn cael eu gosod ar ocsiwn am y pris uchaf. Byddai'r hysbysebion hyn yn ymddangos yn flynyddol, ac am wythnosau ar y tro, ym mhapurau newyddion y 19eg ganrif.

Achlysur pwysig iawn yn hanes 'Stiniog oedd agoriad swyddogol y Lein Fach, gan oruchwiliwr y cynllun, James Spooner, ar yr 20fed o Ebrill 1836, a chafwyd adroddiad llawn o'r achlysur yn y NWC ar 26 Ebrill 1836. Yn ôl pob golwg, roedd yn ddiwrnod cyffrous iawn, wrth i wagenni o lechi chwarel Holland gael eu llwytho, a'u hanfon bob cam i'r cei ym Mhorthmadog. Yn gwmni i'r llechi roedd sawl coets yn cario pwysigion y dydd, gyda chanans yn cael eu tanio ar hyd y siwrnai i'r Port. Wedi cyrraedd pen y daith, yr oedd cwmni'r rheilffordd wedi trefnu gwledd a 'chwrw da' ar gyfer y gwesteion a'r gweithwyr ar lawnt Morfa Lodge, cartref Spooner. Roedd seindorf o Gaernarfon wedi ei hurio i gyflenwi adloniant i'r dyrfa a oedd wedi dod yno i fwynhau'r achlysur hanesyddol hwnnw. 

Gan ein bod yn trafod y lein fach, diddorol oedd darllen hanes achos cyfreithiol yn erbyn cwmni Rheilffordd Ffestiniog yn y Manchester Times and Gazette 19 Mawrth 1837, llai na blwyddyn wedi'r agoriad swyddogol uchod. Achos a ddygwyd gan weddw un John Smith, a benodwyd ar y dechrau i osod rhai o gledrau'r lein fach o'r Blaenau i Borthmadog. Wedi gwneud peth o'r gwaith, bu anghytundeb rhwng y contractor a'r cwmni, ac fe ddiswyddwyd Smith, a phenodi James Spooner i gwblhau'r gwaith. Canlyniad yr achos yn erbyn Rheilffordd Ffestiniog oedd i'r cwmni orfod talu iawndal o £5000 i weddw Smith, swm anferthol y cyfnod hwnnw. Diddorol hefyd oedd darllen rhan o'r adroddiad, sy'n cyfleu naws iaith y cyfnod yn glir.

The plaintiff's counsel were about to call witnesses, most of whom were stated to be wholly unable to speak the English language...
Cynhwysid adroddiadau o'r achos hwn mewn nifer o bapurau newyddion wythnosol y cyfnod, sydd yn profi pa mor ddylanwadol oedd y lein fach mor gynnar â 1837.

Ceir sôn am y North and South Wales Bank am y tro cyntaf mewn hysbyseb yn y NWC ar 29 Awst 1837, sydd yn brawf bod arian yn cylchdroi yn y plwyf yr adeg honno. Trafod talu allan difidend ar gyfranddaliadau yn y banc mae'r hysbyseb. Yn anffodus, ni enwir lleoliad y banc cynnar hwnnw, ond tybir mae yn y fan lle saif bwyty’r Chwarelwr heddiw (hen fanc y Midland/HSBC) oedd y safle. 

Ymddiheuraf am adael trefn gronolegol yr ysgrif hon, gan neidio saith mlynedd, i gyfeirio at ddigwyddiad a ellir ei ysytyried fel yr ymdrech o ladrad banc cyntaf 'Stiniog, cyn belled yn ôl â 18fed o Fai 1844. Adroddwyd yn y NWC 28 Mai 1844 am rywrai yn torri ffenest yn y banc a enwir uchod, ond yn cael eu styrbio ac yn gorfod dianc rhag eu dal, gan adael ysgol yn gorwedd yn erbyn wal y banc. “They evidently were experienced thieves”  meddai'r gohebydd ar ddiwedd ei lith.
----------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf/Awst 2020.

Mae rhifynnau digidol y cyfnod clo ar gael am ddim ar wefan Bro360


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon