11.11.14

Cofeb i gofio milwyr Cymru ar bridd tramor

Darn gan Marian Roberts a ymddangosodd gynta' yn rhifyn Medi 2014. Lluniau gan Dafydd Roberts.

Yng Ngorffennaf 1917, yn ystod 3edd Brwydr Ieper, a elwir hefyd yn Passchendale, penderfynwyd bod angen i'r Cynghreiriaid gymryd ardal a alwyd yn Cefn Pilckem ger Langemark yn Fflandrys.  Y rhai a ymgymrodd â'r dasg, ymysg eraill, oedd y Gwarchodlu Cymreig.   'Roeddynt yn llwyddiannus ond collwyd bywydau lu, gan gynnwys y bardd o'r Ysgwrn, Hedd Wyn, sydd erbyn hyn yn symbol o'n cof cenedlaethol ni am bob un o'r dynion ifanc a laddwyd yn y gyflafan.


Ond, yn wahanol i genhedloedd eraill oedd â chofebau i gofio'r bechgyn a gollwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, nid oedd gan Gymru ei chofeb genedlaethol ei hun.  Felly, pnawn Sadwrn, Awst 16eg, yn heulwen gynnes Gwlad Belg, daeth cannoedd ynghyd i bentref Langemark ar gyfer dadorchuddio cofeb arbennig i gofio'r holl Gymry a gymerodd ran yn y Rhyfel Mawr.  Cafwyd gwasanaeth hynod deimladwy dan arweiniad Roy Noble, a cymerwyd rhan amlwg gan Gôr Rygbi Gogledd Cymru, Rhys Meirion, a'r telynor Dylan Cernyw, a darllenwyd y darn barddoniaeth “Rhyfel” o eiddo Hedd Wyn gan Isgoed Williams, Trawsfynydd.

     Gwae fi fy myw mewn oes mor ddreng,
     A Duw ar drai ar orwel pell;
     O'i ôl mae dyn, yn deyrn a gwreng,
     Yn codi ei awdurdod hell.



Draig goch anferth o efydd ar gromlech las yw'r gofeb.  Fe'i crewyd gan yr artist ifanc Lee Odishow, sy'n wreiddiol o Ddinbych- y- Pysgod, a rhoddwyd cerrig y gromlech gan Chwarel Craig yr Hesg ger Pontypridd.  Cafodd y ddraig ei bwrw yn Ffowndri Castle Fine Arts yn Llanrhaeadr-ym Mochnant.  Codwyd arian ar gyfer  Apêl y gofeb gan gannoedd o unigolion a mudiadau o fewn Cymru – yn eu mysg Tegid Roberts o'r Blaenau aeth ar daith gerdded noddedig.   Ymysg y rhai aeth i osod torch wrth droed y gofeb oedd Geraint Roberts o'r Manod ar ran Clwb y Ffiwsilwyr yma yn y  Blaenau, a cyflwynodd Alan Hicks, o Danygrisiau, ddarn o lechen a luniwyd yn arbennig ganddo i gofio yr ymweliad gan ffrindiau a chymdeithion Clwb y Ffiwsilwyr Cymreig oedd yn bresennol.


Gyda'r nos cafwyd cyngerdd gala yn Eglwys Langemark, a phnawn Sul gwasanaeth ym Mynwent Artillery Wood ble mae bedd Hedd Wyn.  I gloi'r penwythnos aethpwyd at wyth y nos i Borth Menin yn Ieper i seremoni'r Alwad Olaf a gynhelir yno bob nos o'r flwyddyn. Ar Awst 17eg 'roedd y naws yn Gymreigaidd gyda Rhys Meirion, Dylan Cernyw, a'r Côr yn cyfrannu.  'Roedd rhan amlwg hefyd gan Mike Jennings oedd yn cario baner Clwb y Blaenau, a Gary Williams osododd y dorch.

Penwythnos arbennig i gofio'r genhedlaeth goll o Gymru, gan gynnwys llawer o fechgyn ifanc o Fro Ffestiniog, na ddaeth yn ôl o'r Rhyfel Mawr 1914-1918.

     Ni ddaw gyda'r hafau melynion
     Byth mwy i'w ardal am dro;
     Cans mynwent sy'n nhiroedd yr estron
     Ac yntau ynghwsg yn ei gro.

(“Marw oddi Cartref” - Hedd Wyn)

4.11.14

Seindorf yn dathlu

Rhan o Newyddion Seindorf yr Oakeley o rifyn Hydref 2014, gan Glen Jones.

Bu arddangosfa i ddathlu pen-blwydd y band yn 150 oed, yng Nghanolfan Maenofferen am bum wythnos tan Hydref 24ain.


Dan arweiniad John Glyn Jones, agorwyd yr arddangosfa gyda’r band yn chwarae ‘Pen-blwydd Hapus’. Yna, soniodd yr arweinydd ychydig am hanes cynharaf y band. Esboniodd sut y cafodd y seindorf ei sefydlu ym 1864 a'u galw’n Fand Prês y Gwaenydd. Chwarter canrif ar ôl ei sefydlu, fe wnaeth y band gymryd rhan yn ei gystadleuaeth fawr gyntaf yn Llandudno a chafodd tua 1,500 o gefnogwyr eu cludo yno hefyd ar drên arbennig i’w cefnogi.

Ar ddiwedd yr 1890au, bu’r band yn Bencampwyr Cymru am dair blynedd yn olynol. Roedd y gwpan a enillwyd ganddynt yn yr arddangosfa gan iddynt gael yr hawl i’w chadw ar ôl eu trydedd fuddugoliaeth yn 1897.

Bu’r band yn fuddugoliaethus yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar sawl achlysur dros y blynyddoedd yn ogystal ag eleni yn Llanelli.

Daethpwyd â’r seremoni i ben drwy gyflwyno anrheg a thusw o flodau i’r arweinydd a’i wraig Glen (archifydd y band) i ddiolch iddynt am eu gwaith caled yn paratoi a llunio’r arddangosfa. Diolchodd yr arweinydd i Gwmni Magnox am eu cymorth ariannol i allu llunio’r arddangosfa ac i staff y Llyfrgell. Diolchodd Gwilym Price i John Glyn Jones am ei gyfraniad gwerthfawr - nid yn unig i’r band, ond hefyd i dref Blaenau Ffestiniog.