31.12.23

Senedd Stiniog -cynghorwyr a chynlluniau

Pytiau o adroddiadau David Meirion Jones, o gyfarfodydd Cyngor Tref Ffestiniog

Dymunwn ddiolch o galon i’r Cynghorydd Rory Francis am ysgrifennu’r golofn hon dros y cyfnod diweddar.  

Aelodau Newydd o’r Cyngor: Braf cael dweud, yn dilyn apêl Rory, fod dau aelod newydd wedi ymuno â’r Cyngor.  Wedi i’r Cyngor gytuno i’w cyfethol, rhoddwyd croeso swyddogol i Gareth Glynne Davies a Troy McLean.  

Siom enfawr oedd y datganiad fod Y Cyng. Glyn Daniels wedi ymddiswyddo.  Colled enfawr i’r Cyngor Tref ac i’r ardal.  Prysurdeb gwaith a bywyd oedd rhesymau Glyn am roi’r gorau iddi, job ei dal hi’n bob man tydi?!  Mae am barhau yn ei swydd fel Cynghorydd Sir.

Yn y cyfarfod dilynol cyfetholwyd tri ymgeisydd newydd arall i’r Cyngor. Peter Alan Jones (Pete Boys) a minnau, David Meirion Jones (Dei Mur) dros Rhiw a Bowydd a Dewi Prysor Williams dros Diffwys a Maenofferen. Golygai hyn fod pum aelod newydd wedi ymuno â’r Cyngor dros y ddau fis diwethaf.  

Mae seddi Rhiw a Bowydd bellach yn llawn, ond mae seddau gweigion yn dal i fod, ac os oes gennych ddiddordeb, yna cysylltwch â’r Clerc yn y swyddfa yn y Ganolfan am fwy o fanylion os gwelwch yn dda.

Cwmni Bro: Siaradodd Ceri Cunnington, a oedd yn bresennol fel cynrychiolydd Cwmni Bro, am rôl y cwmni yn yr ardal.  Rhoddodd gyflwyniad o’u hanes a’u bwriad.  Pwysleisiodd eu bod yn annibynnol ond ei fod yn bwysig i gael y Cyngor yn gefn ac i gael pawb yn cyd-dynnu fel petai.  Eglurodd eu bod yn cydlynu pymtheg menter, a bod cydweithio’n hollbwysig wrth rwydweithio a chydweithio am grantiau.  Un elfen o’r gwaith yw twristiaeth, a’u bod hefyd yn cynhyrchu pethau gan ail-fuddsoddi unrhyw elw yn ôl i’r gymuned.  Cylchdroi a datblygu’n lleol ydi’r nod a dywedodd fod Antur Stiniog bellach yn rhedeg Eifion Stores a bod cynlluniau ar gyfer yr hen Siop Effraim ar y gweill.  Diolchodd y Cyngor iddo am ei gyflwyniad a dywedodd y Cyng. Rory Francis yr hoffai weld y Cyngor yn gweithio’n agosach gyda’r mentrau ac y dylai fod gwell cyfathrebiaeth rhyngddynt.  Cytunwyd yn unfrydol ar hyn gan obeithio y bydd y Cyngor yn derbyn cofnodion gan y mentrau gwahanol o hyn ymlaen.

Tŷ’r Wern: Os ydych yn darllen y golofn hon yn rheolaidd gwyddoch fod y Cyngor, yn ddadleuol iawn, wedi pleidleisio yn erbyn cais i ddatblygu hen Eglwys San Mihangel yn Llan Ffestiniog, neu Tŷ’r Wern fel y'i gelwir heddiw.  Y rheswm a roddwyd oedd tybio y byddai adeilad cymunedol arall o’r fath yn mynd yn groes i ddidordebau Neuadd y Pentref a’r Pengwern.  

Mae’n debyg fod y penderfyniad yma, a dweud y lleiaf, wedi codi gwrychyn pentrefwyr Llan, a daeth ambell aelod o bwyllgorau’r Pengwern a’r Neuadd a'r Wern i’r cyfarfod i egluro’r sefyllfa i’r Cyngor.  

Soniodd Andrew Williams (Crym), un sy’n weithgar yn y Wern, ychydig am gefndir y datblygiad.  Dywedodd mai arian dyn o’r enw Nigel Morris, sydd a’i wreiddiau yn yr ardal, sydd tu cefn i’r fenter a’i fwriad yw defnyddio ei bres er lles yr ardal.  Prynodd yr Eglwys, gyda phres ei hun, pan yn wag a doedd gan Cadw na’r Eglwys ddim diddordeb mewn gofalu am yr adeilad a doedd dim cymorth ariannol i’w gael ganddynt.  Aiff ymlaen i egluro mae’r bwriad o’r cychwyn oedd cydweithio gyda’r Pengwern a’r Neuadd er lles y pentref.

Eglurodd fod y fenter yn fwrlwm o syniadau cyffrous fel cynnal cyrsiau i bobl ifanc ar sut i ddatblygu busnesau a dysgu rheoli arian ac yn y blaen. Hefyd cynnig gwasanaeth gosod blodau ar feddi’r fynwent i bobl sy’n byw i ffwrdd a methu dod adref ar ddyddiadau arbennig, a gwneud hyn drwy brynu blodau gan Seren, fyddai eto’n rhannu’r arian yn yr ardal.  Gobeithir cael caffi bach yno a marchnad fach bob hyn a hyn fyddai’n gwerthu nwyddau a chynnyrch lleol yn ogystal â chynnal ambell i gyngerdd. A go brin, meddai, fysa rhywun sy’n mynd i gyngerdd ddim yn piciad i’r Pengwern am beint bach yn gyntaf!

Dywedodd Meic Halliday a Dyfed Jones-Roberts, oedd yno ar ran pwyllgor Y Pengwern, eu bod yn llwyr gefnogi’r fenter, a’i fod yn ddatblygiad cyffrous fydd yn sicr o fod o les i’r pentref ac y byddai Llan yn elwa o’r herwydd.

Cynhaliwyd Cyfarfod Arbennig yn ddiweddarach a phledleiswyd o blaid y cynlluniau ar gyfer Tŷ’r Wern. Bydd llythyr arall yn cael ei yrru at bwyllgor cynllunio'r Parc Cenedlaethol yn mynegi hyn.

Mwy o wybodaeth am Dŷ'r Wern.

Iechyd: Mynegodd aelod o’r Cyngor fod pryder ymysg rhai o drigolion y dref am brinder a chysondeb meddygon teulu ym mhractis Blaenau Ffestiniog. Eiliwyd cynnig i ddanfon llythyr at y Rheolwr Practis yn gofyn iddi faint o feddygon teulu parhaol/rheolaidd sydd yn gysylltiedig â’r practis ar hyn o bryd a beth yw cynlluniau’r practis at y dyfodol.

Materion eraill ar yr agenda sydd o bwys i’r cyhoedd efallai yw bod y dref am dderbyn cyfrifoldeb dros gynnal a chadw hysbysfyrddau UNESCO yn y dref.  Bydd y rhain wedi eu lleoli yn Diffwys, ger Caffi Antur.  I’w trafod yn y dyfodol agos fydd cyflwr toiledau Diffwys a’r cyfrifoldeb amdanynt sydd rhwng y Cynghorau Tref a Sir yn bresennol, a’r posibilrwydd o gael maes parcio ychwanegol yng Nghongl y Wal.

Cynllun Hydro: Trafodwyd cynllun hydro newydd ar gyfer Cwm Cynfal. Bwriad teulu o ffermwyr lleol ydi gosod tyrbin, a all gynhyrchu trydan i oddeutu 400 o dai, yn y Cwm. Bu sôn am brosiect o’r fath yn y gorffennol ond fe'i wrthwynebwyd am resymau gwahanol ac oherwydd hyn, penderfynwyd gael nifer o adroddiadau oedd yn ymwneud â’r pryderon hynny, megis yr effaith amgylcheddol ayyb. Cafwyd cyflwyniad gan frodyr y teulu, ble’r eglurwyd y byddai cyfnod ymgynghori cyn cyflwyno’r cais cynllunio’n ffurfiol. Eglurwyd y gall trigolion lleol elwa o’r cynllun hefyd, drwy dderbyn trydan rhatach wrth ymuno mewn rhyw fath o Glwb Ynni. Byddai rhaid adeiladu cored, neu ‘weir’, i arall-gyfeirio rhywfaint o’r afon, adeiladu cwt olwyn fesur a ballu. 

Cytunodd y Cyngor ei fod yn gynllun uchelgeisiol ond fod nifer o gwestiynau dal angen cael eu hateb. Y bwriad yw trefnu ymweliad â’r safle i gael gwell golwg ar y lleoliad a thrafod mwy am y mater. (Er gwybodaeth, i unrhyw un sy’n dioddef o ddiffyg cwsg, mae’r ddogfen gais a’r cynlluniau arfaethedig i’w gweld yn eu cyfanrwydd – dros fil o dudalennau - yn Llyfrgell y Blaenau- ac mae croeso i bawb sydd â diddordeb fynd yno i bori drostynt).

Theatr Bara Caws: Cytunwyd ar gais gan Theatr Bara Caws am gymorth ariannol i berfformio yn yr ardal. Dywedwyd nad oedd hyn yn beth newydd a phwysleiswyd ar bwysigrwydd ymweliadau’r Theatr i’r ardal a chael pharhâd diwylliant Cymraeg cyfoes yma.

CCTV: Mae’r ddadl ynglyn â’r system CCTV yn y Stryd Fawr yn parhau. Mae’n bwnc llawer rhy gymhleth i’r gohebydd hwn ar hyn o bryd, ond yn frâs, fel hyn ma’i, y bwriad ar hyn o bryd yw ailosod rhyw 5 neu 6 camera cylch cyfyng. Cyn mynd ymlaen fodd bynnag, mae’r Cyngor yn awyddus i glywed beth yw’r farn am hyn yn lleol. Penderfynwyd mae’r ffordd orau o wneud hyn fyddai rhoi papur yn y siopau lleol i holi barn. 


Cynhelir y cyfarfodydd llawn ar ail ddydd Mawrth pob mis, am saith o’r gloch, yn y Ganolfan.

- - - - - - - - - - - - 


Addasiad o ddarnau hirach a ymddangosodd yn rhifynnau Tachwedd a Rhagfyr


28.12.23

Hanes Rygbi Bro- Tymor 1986-87

Tymor 1986-87 o ddyddiadur rygbi Gwynne Williams

Mehefin
3ydd- Cyfarfod rhwng y Clwb a Bwrdd Datblygu ynghlŷn â chynlluniau’r Clwb
Aelodaeth Chwarae £5 / Cyffredin / Cymdeithasol £ 6 / Pensiynwyr £ 3/ Pwyllgor Tŷ   Cad Glyn C   /   Ysg   Raymond C  / Cae Raymond Foel. 25ain- Gwaith sand slitting yn mynd yn ei flaen ond rhaid codi cerrig o’r cae; 80 tunnell  o dywod yn cyrraedd  penwythnos yma; Hadu a torri gan Raymond a gwasgaru dŵr ar y caeau. Ffens o gwmpas y cae – Geraint angen sment a phaent. Gwrthododd y Cyngor Chwaraeon ein cais am grant at y sand slitting er eu bod wedi gaddo ar lafar – gwneud cais flwyddyn nesaf am hanner arall y cae; Prynu bwrdd pŵl £150. 28ain-BBQ yn y Clwb.

 

Gorffennaf
7 bob Ochr yn Traws; 29ain- Pwyllgor: Gofyn am ganiatad i ddod i’r Clwb a’r Sadwrnau gêm adref Clwb Peldroed Amaturiad y Blaenau – Fel Clwb am £10 neu £6 fel uniglion; Cyngor Chwaraeon – cynnig 12.5% o gost  sand slitting ar y cae am y flwyddyn yma    Gobeithio codi golau yn y maes parcio.

 

 

Awst
15fed- Ocsiwn yn y Clwb (Elw £455 ); 6ed- Sioe Blaenau & District Terrier & Lurcher Club (Y Ddôl); 22ain- Ocsiwn yn y clwb; 27ain- Pwyllgor: 6 allan o 8 wedi derbyn gwahoddiad i Traws 21.

Medi
Pwyllgor: Bro  yn talu am y dyfarnwr a’r bwyd i Traws 21; 30ain- Theatr Bara Caws yn y Clwb (£2)

Hydref
1af- Cystadleuaeth Llifoleuadau Traws 21: Bro 22   v  Bala   8 (50c)
8fed- Traws 21  Porthmadog 13 v Machynlleth  3; 29ain- Traws 21  Nant Conwy 21  v  Dolgellau 12.

Tachwedd
5ed- Traws 21  Harlech 26  v  Tywyn  4  ( 50c ); 12fed Traws 21  Bro  7  v  Porthmadog 3  (50c); 19eg- Traws 21  Nant Conwy  3  v Harlech  12; 15fed-Pwyllgor: Taith Sieclofacia – 52 o enwau; 18fed- Rep Whitbread yn cyfarfod a’r Pwyllgor– cynnig 20 galwyn o lager i Sparta Prague; Gwydrau gan Whitbread i Traws 21 Sparta Prague – Dydd Iau Atomfa Traws / Llechwedd / gêm yn y nos; 23ain- Gwynedd v Canolbarth (Bro); 27ain- Bro  12  v  Sparta Praha  13

Rhagfyr
6ed- Gwynedd   v   Rhondda (Bethesda)     Mike (C), Gwilym, Dafydd James ac Alun Jones; 10fed- gêm Derfynol TRAWS 21: Bro  10   v   Harlech   0. Bro wedi ENNILL Cwpan Traws 21 am y tro CYNTAF.  Rheolwr  Mr D K Doo. Gwerthiant Rhaglenni-  £ 100 i gronfa Sganer Gwynedd.
Tîm: Bryan / Barry Pugh Jones / Ken R / Dewi Williams / Malcolm Atherton / Mike S (C) /Rob Atherton / Gwilym J / Glyn Jarrett / Graham Thomas / Dafydd James /John Jones /  Dick James / Elfed Roberts / Alun Jones  Eilyddion- Michael a Bryn Jones; 13eg-Cinio Nadolig (Mochras); 17eg- pwyllgor: Cae mewn cyflwr da iawn o feddwl faint o gemau sydd wedi bod arno; prynu 12 crys i’r tîm 1af.

Ionawr 1987
28ain- Pwyllgor: Cafwyd Grant gan y Bwrdd Datblygu o £1,5K at y gwaith ar y cae /Cael £360 gan C.D.M gwaith haf 1986 (Mae hyn yn golygu oriau gweithio gwirfoddol o 970 awr  = £ 1,5K !); Drws cefn newydd / difrod rhew –sawl byrst  11 !! Trefnu Disgo – pres at y Daith  Elw £283/Prynu Disgo am £600 (gwerth £300 o records) + Trailer /  Wedi cael twymydd gan Raymond Foel / Teis a swmperi  wedi archebu i’r Daith.

Chwefror
25ain- Pwyllgor: Archebu 200 tunnell o dywod; Chwarae i Wynedd: Mike Smith, Gwilym James, Alun Jones, Eilyddion- John Jones, Rob Atherton a Ken Roberts; Gwilym James Cap Cyntaf v Sri Lanka/ Sweden / Belgium  Gogledd  Cymru 1987 tan 1989
Llywydd Anrhydeddus- Dafydd Elis Tomos 1979 i 1987

Mawrth
5ain- Pwyllgor;     Colli i Landudno II yn rownd cyn–derfynnol Cwpan Gwynedd; Bydd rhaid meddwl talu TAW / Disgos elw o £497 i dalu am y bws i’r Daith.

Ebrill
1af- 7  Bob Ochr ar Y Ddôl, ar yr un patrwm a Traws 21 / Gêm Derfynnol am 10.30! Plat Tlws Regina- Tom  Parry Coaches. 18fed-Taith i Siecoslafacia (Ar y Daith 46 );
Sparta Parha II   28   v   Bro II  0
Sparta Parha   19   v   Bro  12   -Cais  Gwil James /Rob Atherton ( Ken Roberts Trosiad )
Zbrojovka II  49   v   Bro II  0
Zbrojouka  38   v   Bro  19   -( Ceisiau  Danny Mc Cormick 2 / Gwil James )

Mai
9fed-Cinio Blynyddol (Mochras)100 yn mynd
26ain-Cyfarfod Blynyddol (Presennol 28)
Tîm 1af (Mike Smith Capt)     Ch 29   E 2   C7   Cyf 2  O blaid 454 /Erbyn 220
2ail dîm Cynghrair Gwynedd (Bryn Jones Capt)   Ch 17   E 4   C13   O blaid 169 / Erbyn 350
Tîm Gwynedd- Mike, Gwilym, Alun, Eillyddion- John Jones, Rob A, Ken Roberts
Chwaraewr y Flwyddyn: Malcolm Atherton; Chwaraewyr Mwyaf Addawol: Adrian Dutton, Christopher Evans; Clwbddyn: Elfed Roberts ( Cigydd ). Aelodaeth (74). Chwarae 38 Chwarae £ 5 /  Cyffredin   £ 6   / Is Lywyddion  £ 10
Ethol. LLYW Gwilym Price / Cad Dr Boyns / Ysg Dylan / Try Osian / Gwasg Bryn/ Gemau Michael / Aelod Caradog Edwards / Cae Raymond /Tŷ Glyn / Hyff Glyn J / Capt 1af Mike / Capt 2ail Bryn /Eraill  Bryan / Tony Coleman / Elfed Williams / Geraint Roberts

- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn rhifyn Hydref 2023


24.12.23

Cynllun Gweithredu Hinsawdd Gymunedol

Pobl Ifanc ein Bro yn Arwain y Ffordd ar yr Hinsawdd!

Gyda’r hinsawdd yn y newyddion bob dydd erbyn hyn mae’n anodd anwybyddu’r angen i wneud rhywbeth amdano. Yr hyn all deimlo’n anoddach yw gwybod beth i’w wneud amdano a sut i fynd ati. 

Ond, na phoener, yma ym Mro Ffestiniog mae proses pwysig a chyffrous wedi bod ar y gweill gyda phobl o bob cwr o’r gymuned yn dod at ei gilydd i drafod a phenderfynu ar Gynllun Gweithredu Hinsawdd Gymunedol. Sef cynllun sy’n gosod allan sut rydym ninnau yma ym Mro Ffestiniog am gydweithio er mwyn ymateb i newid hinsawdd a chreu dyfodol cynaliadwy a gwydn i ni’n hunain. 

Cwmni Bro Ffestiniog a GwyrddNi sydd wedi bod yn hwyluso’r broses hynny a siawns eich bod chi wedi sylwi ar ambell i ddiweddariad ar dudalennau Llafar Bro dros y ddwy flynedd diwethaf.

Newyddion da! Mae partneriaeth GwyrddNi wedi sicrhau arian ar gyfer parhau’r gwaith a gweithredu’r cynlluniau dros y 5 mlynedd nesaf. Os hoffwch fod yn rhan o’r datrys cysylltwch â Nina Bentley, Hwylusydd Cymunedol GwyrddNi ym Mro Ffestiniog drwy e-bost nina@cwmnibro.cymru, ar 07950414401, neu piciwch i mewn i swyddfa Cwmni Bro ar y stryd fawr (adeilad y cyngor tref gynt).

Ond heddiw, yn bennaf, hoffwn dynnu eich sylw at blant a phobl ifanc ein bro. Maent yn ysbrydoliaeth i ni gyd. Dros y ddwy flynedd diwethaf maent wedi bod yn dysgu am yr hinsawdd, ymweld â datrysiadau hinsawdd leol, trin a thrafod er mwyn datrys rhai o’r heriau sydd o’n blaenau ac wedi creu syniadau gwych a phendant ar gyfer gweithredu, ac maent wedi bod wrthi yn cychwyn rhoi peth o’r gweithredu hwnnw yna ar waith. 

Dyma i chi gipolwg o’u gweithgarwch.

Plant a phobl ifanc Ysgol y Moelwyn, Ysgol Bro Hedd Wyn, ac Ysgolion Edmwnd Prys a Bro Cynfal yn ymweld â rhai o’r datrysiadau hinsawdd sydd eisoes ar y gweill yma yn ein bro.

Trin a thrafod a phenderfynu beth yn fwy dylem fod yn ei wneud yma i ymateb i newid hinsawdd.
Cyflwyno dyheadau am y dyfodol a syniadau ynglŷn â sut i gyrraedd yna i’r cynulliad cymunedol.
Plant Ysgol Bro Hedd Wyn yn hel sbwriel a gwnïo nadroedd atal drafft i’w rhannu yn y gymuned.
Pobl ifanc Ysgol Y Moelwyn yn adeiladu melin wynt allan o ddeunyddiau wedi eu hailgylchu..
..rheoli rhywogaethau ymledol ...a gwnïo nadroedd atal drafft i’w rhannu yn y gymuned!

Mae’ wedi bod yn ddwy flynedd brysur! Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu i’r daith hyd yn hyn. Ond nid yw’r daith ar ben, wrth gwrs! Dros y pum mlynedd nesaf fydd llawer mwy o ddysgu, trafod a gweithredu. Mae plant a phobl ifanc ein bro yn barod amdani! Byddwch chithau yn rhan o hyn yn ogystal!

Efallai eich bod chi wedi gwneud rhywbeth dros ein cymuned fel ymateb i newid hinsawdd yn barod ac eisiau gwneud mwy? Efallai nad ydych wedi gwneud dim eto? Mae hynny’n iawn, mae yna gyfle i wneud rŵan! I gyfrannu at ein hymateb ni fel cymuned i newid hinsawdd cysylltwch â Nina, Hwylusydd Cymunedol GwyrddNi, manylion uchod. Mae gan bawb gyfraniad pwysig i’w wneud ac mae angen sgiliau o bob math wrth inni weithio tuag at ddyfodol llesol i’n cymuned. Felly na oedwch, cysylltwch heddiw! 

Os hoffech weld gopi o Gynllun Gweithredu Hinsawdd Bro Ffestiniog ewch i wefan GwyrddNi a sgroliwch i lawr at y darn Darganfod Mwy: Cynlluniau Gweithredu.

Fel mae pobl ifanc ein bro wedi ei ddangos inni, mae ein dyfodol fel cymuned yn ein dwylo ni, awn ati i’w siapio!
- - - - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2023


21.12.23

Stolpia -Doliau Glandŵr

Hen Ddiwydiannau Rhiw a Glan-y-Pwll, gan Steffan ab Owain

Fel y crybwyllwyd yn y rhifyn diwethaf, credaf mai yn yr 1960au y trowyd Ysgoldy Glandŵr a berthynai i’r Methodistaidd Calfinaidd yn ffatri ar gyfer gwneud cofroddion a doliau Cymreig. 

Drychfeddwl John E. Williams, Heulfryn, neu ‘Jake’ fel yr adnabyddid ef yn ein hardal, sef tad Davina, y ddiweddar Jayne, Jacqueline a Julianne, oedd sefydlu ffatri o’r fath yno. Un enedigol o Feddgelert ydoedd yn wreiddiol ac roedd wedi bod yn gysylltiedig â’r math hwn o fusnes ers yr 1950au. Enw’r busnes yn yr ysgoldy oedd Glandŵr Industries a chyflogid nifer o ferched yno dros y blynyddoedd. 

Bu Gwen Williams, Dolrhedyn, Diane Stone, Manod ac Ann Williams (?Tanygrisiau) yn gweithio yno yn ystod yr 1970au yn gwneud doliau mewn gwisg Gymreig, teganau, a chofroddion eraill. Dyma lun o Diane ac Ann wrth eu gwaith yn y ffatri yn Glandŵr yn paratoi’r doliau ar gyfer eu gwerthu yn y siopau lleol a’r Siop Anrhegion oedd gan y cwmni gerllaw gorsaf Betws-y-coed.

Roedd y doliau Cymreig hyn yn boblogaidd iawn gan dwristiaid o bedwar ban byd, yn ogystal â Chymry o bell ac agos. Fel y gwelir yn y lluniau gwisgid y ddol gyda het ffelt ddu, les gwyn o’i hamgylch, a ruban gwyn i’w chlymu o dan yr ên. Gwisgid ei chorff gyda blows wen llewys hir a chỳffs o les gwyn, a throsto siôl goch, sgert ddu a gwyn siecrog a ffedog les wen. Roedd ei dillad isaf hefyd yn wyn, a sanau gwynion am ei choesau a’i thraed, ac esgidiau duon.

Ceid amrywiaeth o enwau Cymraeg ar y doliau hyn megis Crugwen, Eirwen ac Anwen, ac yn ddiau, rhai enwau eraill. Ceid enwau Saesneg i gydfynd ag enwau Cymraeg y ddwy gyntaf sef Snowhite a White Heather. 

Tybed pwy sydd efo un o’r doliau hyn a wnaethpwyd yn y ffatri yng Nglandŵr? Yn dilyn marwolaeth Mr Williams yn 1976, daeth Davina ei ferch, a’i fab yng nghyfraith, i redeg y busnes a bu ganddynt siop yn y Blaenau am beth amser. 

Onid yn yr adeilad lle mae Caffi Antur heddiw oedd y siop, ynteu a ydwyf yn cyfeiliorni? Er nad wyf yn sicr, credaf i’r busnes ddod i ben yn y ffatri yn ystod yr 1980au, serch hynny, y gallwch brynu rhai o ddoliau Glandŵr ar amryw o wefannau’r rhyngrwyd. Rhyw daflu golwg sydyn ar y busnes yr wyf wedi ei wneud yma. Yn ddiau, gall Davina ddweud llawer mwy amdano nag y medraf i ei wneud.

- - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn rhifyn Hydref 2023



17.12.23

Y Gymdeithas Hanes yn Crwydro

Ddiwedd Medi cafwyd y cyfarfod cyntaf yn nhymor newydd y Gymdeithas. Roedd diwedd yr wythnos honno yn Gyhydnos i rai ac Alban Arthan neu yn Fabon i eraill, roedd cyfarfod am 5.30yh yn sicrhau digon o oleuni am o leiaf dwy awr arall i wneud taith iawn o gwmpas Rhiwbryfdir. 


Cafwyd amser arbennig yng nghwmni Steffan ab Owain a drefnodd y noson a daethom eto i sylweddoli pwysigrwydd y Rhiw yn natblygiad y Blaenau. 

Cychwynwyd y daith gyferbyn â’r hen Ysbyty Oakeley ac yna ar hyd Ffordd Fach ac anelu am Ffordd Dinas, a draw dros y rheilffordd fawr at waelod y Llwybr Cam. Wedyn ymlwybro yn ôl at Benygroes a heibio hen Gapel y Rhiw (Tai Dwyryd) a gorffen wrth y tro sy’n arwain i Gae Baltic. 

- - - - - - - -

Ymddangosodd yn rhifyn Hydref 2023

Bu dwy ddarlith hyd yma yn y gyfres sgyrsiau poblogaidd. Y nesaf ydi HEN FURDDUNOD Y PLWYF gan Steffan ab Owain ar Ionawr 17.

Mae crynodeb o sgwrs Charles Roberts -effaith pandemig 1918- ar gael yn rhifyn Rhagfyr, sydd yn y siopau rwan.

Isod mae hanes darlith Peredur Huws (darn allan o rifyn Tachwedd 2023):

Y Gymdeithas Hanes. Cyfarfod Hydref 18fed
Cawsom wledd o luniau a phrofiadau unigryw'r teithiwr dan ddaear amlwg sef Peredur (Pred) Hughes o Bentrefelin, Cricieth. Dechreuodd ei yrfa fel saer cychod a llongau yn Falmouth, Cernyw, a thro wedyn yn gweithio ar adeiladu Gorsaf Bŵer Hydro Dinorwig yn Llanberis ac yna cyfnod yn gweithio mewn chwareli llechi yn y Blaenau a Dyffryn Nantlle. Erbyn hyn mae wedi ymddeol ac yn tywys ymwelwyr dan ddaear (rhan amser) gyda Go Below Underground Adventures yng Nghwmorthin a Rhiw-bach. Mae wrth ei fodd yn fforio hen weithfeydd ac mae’n cyfaddef fod hyn yn obsesiwn ganddo. 

Mae ganddo archif sylweddol o lunia hynod ac unigryw dan ddaear yn y gweithfeydd hyn a’r modd y mae ef a’i ffrindiau yn cerdded ac yn dringo drwyddynt. Disgrifiodd ei deithiau mewn nifer o leoedd ar hyd a lled Prydain gan ddangos lluniau mewn hen chwareli llechi, gweithfeydd plwm, aur, copr, calch ac mae ganddo luniau o’i dro yn hen waith mango (manganîs) y Moelwyn. 

Weithiau mae’n arwain ymwelwyr ond gan amlaf ef a’i ffrindiau sy’n fforio, yn ymchwilio a dilyn eu trwynau. Mae'r llunia'n dangos hen offer a ddefnyddid i weithio dan ddaer, a’r chwareli hyn bellach wedi troi’n fynwent i’r holl beiriannau hyn. Dangosodd luniau lliwgar o blanhigion a dyfai ymhell dan ddaear a hyd yn oed llyffantod a genau coeg oeddynt yn byw mewn tywyllwch parhaol cannoedd o droedfeddi o dan y ddaear. 

Roedd y sgwrs yn agoriad llygaid a deud y lleiaf! Cyhoeddodd y Cadeirydd, Dafydd Roberts fod y Gymdeithas wedi derbyn arian gan yr elusen Freeman Evans ac o’r herwydd yn medru cadw y tâl aelodaeth yn ddim on £6 dros y tymor. 

TVJ



15.12.23

Gerddi Ar y Gorwel

Diweddariad Cynllun Skyline Ffestiniog

Prif amcan ein prosiect Skyline yw dod a bwyd, tanwydd a'r wybodaeth am gynnal ein hunain yn ôl i'r gymuned leol. Fel rhan o’r gwaith, mae cynllun i ddechrau gardd fasnachol gymunedol a fydd yn weithredol ac effeithiol. Mae’r cynllun hefyd yn gweithio i hybu bioamrywiaeth yn yr ardd, a chynnig cyfleoedd gwirfoddoli a dysgu. Wrth edrych ar ymchwil newydd a thynnu o hen draddodiad amaethyddol, mae nifer o brosesau diddorol ar y gweill yno.

Dechreuwyd y gwaith ym Manod bron i flwyddyn yn ôl, ac erbyn hyn mae'r safle wedi newid yn llwyr. O dir gwastraff i ardd brydferth, mae’r safle heddiw yn adlewyrchu gwaith caled Wil Gritten a’i dîm yno dros y misoedd diwethaf.

Mae’r gwaith adeiladu mawr wedi gorffen: Mae tŷ gwydr, cwt barbeciw, a phaneli solar wedi eu codi, yn ogystal â digon o welyau plannu. Mae’r twnnel polythen 5m x 20m wedi’i godi erbyn hyn hefyd, ac wedi cael ei lenwi gyda phridd. Er mwyn cynyddu'r tymor tyfu a pharatoi ar gyfer y gwanwyn, mae pibellau cynnes wedi’u pweru o dyrbin gwynt bach yn rhedeg drwyddo.

Mae dipyn o lysiau wedi eu tyfu’n llwyddiannus yn barod, gan gynnwys pwmpenni, brocoli, perlysiau, a llysiau dail gwyrdd, ond y cam nesaf yn y prosiect bydd dechrau tyfu llysiau a ffrwythau o ddifri. Mae’n amser agor y lle i’r cyhoedd! Y gobaith yw i’r ardd gael ei gweithredu gyda chymorth pobl leol, a fydd yna’n gallu manteisio ar y cynnyrch. Yn ogystal, bydd yn bosib hefyd gwerthu’r cynhyrchion i fusnesau a sefydliadau lleol er mwyn i’r ardd allu cynnal ei hun yn ariannol yn hirdymor. Yna, gall y prosiect ehangu’n ymhellach wrth i fwy a mwy o bobl ddysgu’r broses o dyfu bwyd.

Roedd safle Maes y Plas yn ofod nad oedd yn cael ei defnyddio heblaw am ambell i berson yn mynd a’u ci am dro, felly, trwy drafod gyda swyddogion Cyngor Gwynedd, cytunwyd i’r Dref Werdd gael les rhad am 25 mlynedd i ddatblygu’r safle. Gyda’r rhan fwyaf o’r gwaith caled wedi ei gwblhau, bydd y gerddi yn rhan o brosiect newydd Y Dref Werdd sydd wedi ei ariannu gan gronfa Camau Cynaliadwy Cymru gyda’r Loteri Genedlaethol. Prif nod y cynllun fydd i ddatblygu prosiectau sydd yn grymuso’r gymuned i chwarae rhan bositif gyda newid hinsawdd, yn ogystal â chynaladwyedd. Syniadau eraill fydd yn cael eu datblygu fydd meithrinfa goed fechan, plannu hyd at 3000 o goed brodorol, datblygu beics trydan ar gyfer aelodau'r gymuned, datblygu ymhellach ein gofod creu a thrwsio a rhaglen gynhwysfawr addysg gydag ysgolion a grwpiau'r Fro.

Dywedodd Gwydion, Rheolwr Prosiect Y Dref Werdd 

“Buom yn ffodus iawn o gael bod yn rhan o brosiect Skyline am y ddwy flynedd diwethaf. Mae sawl cynllun cyffrous wedi dod ohono, heb son am yr holl adnoddau gwerthfawr gaiff eu defnyddio gennym a’r gymuned. Ein bwriad a'n gobaith gyda’r ardd farchnad yw, nid yn unig darparu ffrwythau a llysiau wedi ei dyfu ym Mro Ffestiniog i’r gymuned, ond sefydlu'r gerddi fel menter yn ei hun, gyda’r gobaith y bydd yn sefyll ar draed ei hun yn y dyfodol agos wrth gynhyrchu incwm a swyddi. Fy mreuddwyd ers y cychwyn yw i efallai gallu cyflenwi ysgolion y fro gyda ffrwythau a llysiau iach sydd wedi eu tyfu ar yr un tir maent yn tyfu fyny arno, sydd am chwarae rhan fawr i’r hinsawdd. Diolch i bawb sydd wedi helpu datblygu’r safle”!

Bydd cyfle yn fuan i wirfoddolwyr gyda diddordeb mewn dysgu garddio, neu ddim ond eisiau helpu, i ddod i helpu cynnal yr ardd. Rydym eisiau clywed eich syniadau! 

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â wil@drefwerdd.cymru
- - - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn rhifyn Hydref 2023



13.12.23

Mwy o Adloniant; Diwylliant; Chwyldro!

Cafwyd dwy noson o ganu a sgwrsio eto yng Nghaffi Antur Stiniog, dan ofal cangen leol yr ymgyrch dros annibyniaeth i Gymru. 

Cynhelir Cyfres Caban er mwyn cynnig adloniant a diwylliant a chyfle i drafod a chodi ymwybyddiaeth am yr hyn y medrwn ni wneud dros ein hunain fel cymuned a chenedl.

Ar nos Wener olaf mis Medi cafwyd caneuon a straeon difyr a digri gan Mair Tomos Ifans, a cherddi gan Sian Northey. Noson hwyliog iawn mewn awyrgylch braf. 


Ar nos Wener olaf Hydref, Geraint Løvgreen a Gwil John fu’n diddanu efo rhai o’u ffefrynnau ac ambell gân newydd hefyd, a Bethan Gwanas yn son am y broses o greu ei nofel ddiweddaraf Gladiatrix, ynghyd â hanesion doniol ei theithiau.

Diolch i bawb ddaeth i gefnogi eto, roedd criw da wedi troi allan i noson Caban Hydref, yn ogystal a llawer o wynebau newydd, wedi ymuno o bell ac agos. Gwyliwch y gofod am fanylion rhan nesa’r gyfres*.

Posteri gan Gai Toms a Cadi Dafydd

- - - - - - - - -

Ymddangosodd yn rhifyn Tachwedd 2023

* Bydd y gyfres yn ail-ddechrau ar nos Wener olaf Ionawr (26ain), ac wedyn ar Chwefror 23ain ac Ebrill y 5ed. Gallwn ddatgelu y bydd Tecwyn Ifan, a Meinir Gwilym ymysg yr artistiaid! Rhowch y dyddiadau ar eich calendrau rwan!

Hanes nosweithiau cyntaf Cyfres Caban


10.12.23

Gwaith Di-flino Glyn

Erthygl gan y Cynghorydd Glyn Daniels, o rifyn Hydref 2023

Gaf i ddechrau drwy ddiolch i Llafar Bro am fy ngwahodd i ysgrifennu ychydig am yr hyn rwyf wedi bod yn ei wneud dros y misoedd diwethaf yn fy rôl fel cynghorydd sir lleol dros ward Diffwys a Maenofferen. Felly dyma grynodeb byr o'r hyn rydw i wedi bod yn ei wneud. 

Fel llywodraethwr yn Ysgol Maenofferen, rwyf i a’r corff llywodraethu wedi bod yn ceisio cael mynediad i’r ysgol dros y trac rheilffordd o’r orsaf drenau, oherwydd y problemau traffig difrifol o gwmpas yr ysgol.

Hefyd fel aelod o bwyllgor y Ganolfan Gymdeithasol rydym wedi bod yn gweithio'n galed dros y mis diwethaf yn ceisio cael grant o hyd at £200,000 i osod ffenestri a bwyler newydd yn yr adeilad. O lwyddo i gael grant byddwn yn diogelu'r adeilad pwysig hwn i'r dyfodol. 

Rwyf  wedi bod yn mynychu nifer o gyfarfodydd yr wyf yn aelod ohonynt, sef Cyngor Gwynedd, Cyngor Tref Ffestiniog, Pwyllgor Craffu Cymunedau Cyngor Gwynedd, Ynni Cymunedol Twrog, Llywodraethwyr Ysgol Maenofferen, Pwyllgor Rhanddeiliaid Trawsfynydd, Pwyllgor y Ganolfan Gymdeithasol ac wrth gwrs Pwyllgor Llafar Bro. Hefyd, yn ddiweddar, cefais yr anrhydedd fel cyn chwaraewr Clwb Rygbi Bro Ffestiniog o gael fy ethol yn gadeirydd y clwb. 

Rwyf hefyd wedi bod yn gweithio gyda’r Cynghorydd Elfed ap Elwyn a Network Rail i gael glanhau’r trac rheilffordd o’r gordyfiant. Rydym hefyd wedi bod yn edrych i mewn i drio helpu’r Gymdeithas Hanes i sefydlu amgueddfa yn ein tref hanesyddol ac yn y rhan hon o Wynedd. 

Yna, rydych chi'n dod at y rhan bwysicaf o fod yn Gynghorydd Sir, sef ceisio helpu fy etholwyr, boed hynny yn broblemau parcio, cŵn yn baeddu, problemau tai cymdeithasol, mae’r rhestr yn ddiddiwedd. Weithiau mae pobl eisiau sgwrs gan nad ydyn nhw'n gwybod ble i droi nesaf.

Felly dyna ni, ychydig o waith misol Cynghorydd Sir.
Bu bron imi anghofio fy rôl fwyaf pwysig, sef swyddog hysbysebion i Llafar Bro
!
Felly parhewch i gefnogi ein papur lleol i sicrhau ei ddyfodol.

Os ydych angen cysylltu â fi ynglŷn ag unrhyw fater, cysylltwch â fi ar  07731605557 neu, cynghorydd.glyndaniels@gwynedd.llyw.cymru
Cofion gorau i chi gyd,
Cynghorydd Glyn Daniels
Ward Diffwys a Maenofferen

- - - - - - - - - - 

Erthygl am y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn